Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
CYMANFA DDIllWESTOL ACI ATALIADOL…
CYMANFA DDIllWESTOL AC ATALIADOL DEIIEUDIR CYMRU. CYFABTODTPD ELYNYDDOL. CYNALIIVYD cyfarfodydd hlynyddol y Gymanfa eleni yn nhref bobiog Aberdar, ar y dyddiau Mercher a Ian, v 14eg a'r 15fed o'r mis hwn. Yr oedd hwn y ddegfed cyfarfod ar hugain o'r natur yma a gynaliwyd yn nglyn a'r Gymanfa hon. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol o'r dechren i'r diwedd. Yr oedd cynrych- iolwyr a gweinidogion yn bresenol o wahanol barthau y rhan ddehenol o'r Dywysogaeth, pa rai ydynt yn rhy luosog i'w henwi yn y fan hon. Y siaradwyr a wasanaethasant yn fwyaf neilldnol yn y cyfarfodydd oeddynt:—Parchedigion J. Thomas, L'erpwl; D. Rowlands, M.A., Bangor: N. Thomas, Caerdydd; Joseph Evans, Caerfyrddin M. Morgan. Aber- dar; Mri. J. H. Raper, Manchester; D. Jones (Cynlywydd); T. Williams, J "P., (Trysorydd); W. L. Daniel (Ysg. Myg- edol); a John Bowen (Ysgrifenydd).
CYFAIIFOD GWEDDI.
CYFAIIFOD GWEDDI. Dechreuwyd y Gymanfa drwy gael cyfarfod gweddi am naw o'r gloch boreu dydd Mercher, yn ISTghapel Soar. Yr oedd hwn a dan lywyddiaeth y Parch. D. Price, Siloa. Yr oedd hwn yn gyf- arfod da, ac yr oedd yn amlwg fod Dnw wedi rhoddi ei bresenoldeb ynddo.
CYXADIEDDAXJ.
CYXADIEDDAXJ. Cynaliwyd yr holl gynadleddau yn ITghapel LNasai-eth. Cynaliwyd y cyntaf am 10 o'r gloch, o dan lywyddiaeth Mr. D. Jones, Llywydd y Gymanfa.' Dechreu- wyd drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. John Lewis, Risca, Sir Fynwy yna cafwyd adroddiadau gan gynrych- iolwyr, yn mhlifch ereillo Ferthyr, Cefn, Aberdar, Hirwain, Caerfyrddin, Gastell- nedd, Cwmayon, &c. Ynagalwyd aryr Ysgrifenydd i ddarllen
YR ADRODDIAD BLYXXDDOL.
YR ADRODDIAD BLYXXDDOL. Yr oedd hwn yn un maith a dyddorol. Ar ol diolch i Dad y trugareddau am ei ddaioni, dywedai yr adroddiad fod y symudiad dirwestol yn myned i bod ad- ran o gymdeithas, ac felly fod y tafarn- wyr yn cael eu cynhyrfu, ac fod y frwydr yn dyfod ynnes rhwng y ddwy blaid yn barhaus. Yr oedd y Gymanfa wedi cynal nifer llnosog o gyfarfodydd cyhoeddus poblogaidd, a chynadleddau yn ystod y flwyddyn. Anfonwyd allan 376 ocldeis- ebau ysgrifenedig, yn nghyd a 3,630 o sheets, gyda digon o le i 116,256 i arwyddo eu henwau o blaid Permissive Bill Syr Wilfrid Lawson. Yr oedd nifer y traeth- odau a wasgarwyd yn agos i gan mil. 1=1 I.D z;1 Cyfeirioddyr adrodd'ad at fesuranereill, megys cau y tafamau ar y Sabbath; yr oedd dau fesur wedi eu dwyn i'r Senedd eleni ar hyn, sef mesur Dr. Smyth drosyn Iwerddon, amesur Mr. Wilson drosLoegr a Chymru. Yr oedd dirprwyaeth gref o'r Iwerddon wedi yinweled a Mr. Dis- raeli o blaid y mesur blaenaf, a chyflwyn- asant gofeb iddo yn cynwys enwau 1,413 0 heddynadon, 2,484 o weinidogion, 1,990 o warcheidwaid y tlodion, 744 o feddygon, 5,960 o aelodau cynghorau trefol, a 454 o feistri gwethiau yn, rhoddi gwaith i 60,000. Llawenychai fod y gwahanol enwadau crefyddol yn cy- meryd y symudiad dirwestol mor egniol i fyny yn ddiweddar, a dywedai fod ych- wansgiad pwysig wedi ei wneud at len- yddiaeth ddirwestol yn ystod y flwyddyn, yn enwedig yn y traethawd galluog hwnw o eiddo y Parch. James Smith, A.C., a enillodd y wobr o £ 250. Yr oedd Dr. W. B. Richardson, F.R.S., wedi tra- ddodi darlithiau bynod werthfawr ar wedd anianyddol y pwnc, ac wedi en cy- hoeddi. Diolchwyd yn wresog i'r wasg, yn enwedig y wasg Gymreig, am eu caredigrwydd bob amser tuag at y symudiad, ac yna daeth yr adroddiad i derfyniad drwy alw ar ddiwygwyr dir- westol i ddyblu eu hymdrechion, ac os y gwnaent hyny, byddent yn sicr o orch- fygu. Cynygiodd y Parch. W. James, ac eiliodd y Parch. W. Edwards :— Fod yr Adroddiad blynyddol a ddar- llenwyd i gael ei fabwysiadu, ei argraflru, a'i gylchdaenu, yn ol cyfarwyddyd y Pwyllgor Gweithiol." Cynaliwyd yr ail gynadledd am ddau o'r gloch. Wedi dechreu drwy weddi, daeth pwylJgor a benodwyd i ystyried y priodoldeb o gael cyfarfod o holl wein- idogionDeheudir Cymrnmewn lie canol- og i ymdrin ar bwnc y fasnach feddwol, a'Li hadroddiad i fewn. Yr oedd adrodd- iad y Pwyllgor o blaid cael cyfarfod felly, a phendci'fynwyd ar frodyr cym- hwys i gurio hyu allan. Cynygiodd. y Parch. M. Morgan, ac oil- iodd Mr. AV". L. Daniel, a chefnogodcl y Parch. J. Thomas, mewn areithiau Lyawdl :— "Fed y gynadledd lion yn diolch yn wresog i Syr Wilfrid Lawson, Mr. Hen- adur Carter, Mr. A. M. Sullivan, a Mr. Thomas Bun, am ea hareifchiaa gall nog o blaid y Pill yn Shy y Cylfr- eain nr yr loeg o Fekefin, ac i'r holl 94 aelodau ableidioddy mesur, yn enwedig yraelodau anrhydeddus hyny a bleidieis- iasant drosto o Ddehendir Cymru." Darlienodd trysorydd parchus y Gy- manfa ei adroddiad arianol. Ymddengys fed s'.vm da o arianwedi eutaluiDdepu- tarious. Areithwyr. &c., axngynal cyfar- fodydd cyhoeddus, ac yr oedd dros £188 yn ngweddill. Hyderwn y bydd i'r n cyfeillion a'r cymdeitbasan nad ydynt wedi tanysgrifio tuag at y drysorfa i fod morgaredig a gwneud hyny, fel y gellir Z, "I cario y gwaith yn mlaen yn fwy by wiog a grymus nag erioed. Cynygiodd M-\ L. Griffiths, Aberdar, ac eilioddMr. Lewis, Cwmafon :— Fod diolchgarwch gwresocaf y Gyn- adledd yn cael ei dalu i Mr. W. L. Daniel, Ysgrifenydd Mygedol y Gyman- fa, am ei weithgarwch, ac i Mr. T. Williams, y Trysorydd, am ei adroddiad arianol eglur a boddhaol, a'i fod i gael ei argraffu, a'n bod yn taer erfyn ar y gyfeillion i wneuthur eu goreu yn ystod y flwyddyn ddyfodol mewn cyfranu tuag at drysorfa y Gymanfa." Penodwyd Mri. W. D. Jeremy. a D. Davies. Merthyr, yn archilwyr y cyfrifon am y flwyddyn.
CYJ'AEROD PHEGETHU.
CYJ'AEROD PHEGETHU. Cynaliwyd cyfarfod pregethu yn nghapel Bethania, am saith o'r gloch. Dechreuwyd gan y Parch. T. Lewis, Risca (gynt Caerfyrddin). Pregethwyd yn gyntaf gan y Parch. D. Rowlands, oddiar Dent. xvi. 26. Yn ail, gan y Parch. J. Thomas, oddiar 2 Chren. xxxi. 1. Yr oedd y pregethau hyn yn rhai hynod gymhwys, nerthol, ac effeithiol. Bwriedir eu hargraifu er lies y cyhoedd. Am haner awr wedi wyth boreu dydd laa, cynaliwyd y drydedd gynadledd i ddewis y swyddogion am y flwyddyn ddyfodol, ac i ymdrin a phethau ereill. Ethol wyd y Parch. D. Young, Merthyr, yn Llywydd. Yrun trysorydd a'r ysgrif- enydd mygedol, gyda nifer o is-lywydd- ion, a nifer gref o weithwyr grymus ar y pwyllgor gweithiol. Penderfynwyd tod lie cynaliad y Gymanfa nesaf i gael ei adael i'r Pwyllgor Gweithiol. Cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus am 10, yn Seion, o dan lywyddiaeth llywydd y Gymanfa, yr hwn ar ol dechreu drwy weddi gan y Parch. Jonah Morgan, Cwm- bacb, adraddododdei AKAETH RIIAGAR- WEINIOL, yr hon a gynwysai amryw o gyfeiriadau rhagorol. Cynygioddy Parch. J. Thomas, ac eil- iodd Mr. J. H. Raper "Fod diolchgarwch mwyaf diffuant y cyfarfod yn cael ei gyil wyno i'r Llywydd, am ei araeth rhagarweiniol rhagorol, a'u bod yn gofyn iddo i'w throsglwyddo i'r Pwyllgor Gweitbiol i'w chyhoeddiyn yr adroddiad blynyddol." Cyflwynwyd y Parch. D. Young i sylw y cyfarfod fel y llywydd etholedig am y flwyddyn ddyfodol, a chafwyd anercdiad gandclo. Cyflwynodd y Parchn. M. Morgan, T. Rees, D. Rowlands, M.A., a Mr. O. N. Jones anerchiad cynhes, yn llawn o deimlad brawdol, ar ran Uwch Demi Cymreig Cymru a chyflwynwyd un cy- ffelyb gan y Parch. D. Young, Mr. Delta R. Davies, ac ereill, ar ran Dosbarth Demi Merthyr ac Aberclar. i Yna darlienodd y Parch. Joseph Evans, Caerfyrddin, bapyr rhagorol iawn ar y testyn—" Paham y dylai Cristionogion ymffurfio yn G-ymdeithas Ddirwestol? Onid ydyw eu proffes Gristionogol yn ddigon ? Cynygiodd y Parch. T. Rees, Merthyr, ac eiliodd. y Parch. J. Thomas- Fod diolchgarwch mwyaf gwresog y cyfarfod yn cael ei gyflwyno i'r Parch. Joseph Evans, am ei Bapyr galluog a dy- ddorol; a'i fod yn cael ei ofyn i dros- glwyddo y Papyr i'r Pwyllgor Gweith- iol." Am haner awr wedi un o'r gloch, ym- gynullodd nifer fawr o gyfeillion dirwest yn Commercial-square, gyda'r bwriad, yn ol y rhagdrefniad, o ymffurfio yn c;1 ORYMDAITH FAWREDDOG, a gorymdeithio trwy y dref, a chynal cyfarfod yn yr awyr agored; ond oher- wydd fod yr hin yn hynod wlyb, ni chariwyd y cynllun allan mor drefmis a phe buasai yr hin yn ffafriol. Gorym- deithiwyd trwy ran o'r dref, a'r seindorf bres yn arwain, ac aed i'r N euadd Ddir- westol i gynal y cyfarfod, yr hwn oedd o dan lywyddiaeth y Parch. Morris Mor- gan a chafwyd areithiau gwefreiddiol gan Mr. Raper, y Parchn. Joseph Evans, T. Lewis, X. Thomas, T. Rees, J. Tho- mas, D. Rowlands, M.A., a diweddwyd trwy weddi gan y Parch. J. Rees. Am haner avrr wedi chwech yn yr hwyr, cynaliwyd
CYFAm-OD ::,a ",.n. CYFLOEDDUS.
CYFAm-OD :a "n. CYFLOEDDUS. yn y jSTeuadd Ddirwestol, o dan lywydd- iaeth Trysorydd. y Gymanfa, Mr. T. Williams, Y.H., Goitre, Merthyr. Cyiiygiwyd, eiliwyd, a chefuogwyd, mewn areithiau gwir hyawdl, gan Mri. J. B. Raper, W. L. Daniel, y Parchn. N. Thomas, J. Thomas, a D. Rowlands, M.A.— Fod y cyfarfod hwn yn datgan ei ddiolchgarwch i'r 94 Aelodau Seneddol a bleidiodd Pvy-n.is$ive PHI Syr Wilfred Lawson, ar yr 16eg o Febetin diweddaf, ac yn llawennau i wybod fod mwyafrif o'r aelodau Cymreig a gymerodd ran yn yr ymraniad, wedi cefnogi y Mesur; yn mhlith pa nifer y saif, o Ddeheudir Cymru, enwau Mr. Henry Richard, Mil- wriad Stuart, Mri. C. R. M. Talbot, D. Davies, ac E. J. Reed; ac yn cyfbvyno iddynt hwy ddiolchgarwch neillduol y cyfarfod mawr yma, am gefnogi y Mesur cyfiawn ac airgenrheidioi hwnw a allaoga pob cymydogaeth i symud o boni y prif achos o droseddau a ihlodi, a'i ganlyn- iadau naturiol." Cynygiodd Mr. D. Jones, ac eiliodd Mr..J. Bowen, ar ran y Gymanfa,— "Fod diolchgarwch mwyaf calonog y Gymanfa yn cael ei gyflwyno i Uwch Deml Gymreig Cymru a Dosbarth Deml Merthyr ac Aberdar, am eu hanerch- iadau caredig a galluog, a'u bod yn cael eu hargraffu yn Adroddiad Blynyddol y Gymanfa." Cynygiodd Mr. D. E. Williams, Y.H., Hirwaun, ac eiliodd y Parch. W. J. Williams o'r un 11e- Fod diolchgarwch cynhesaf y cyfar- fod hwn i gael ei roddi i gyfeillion Aberdar am eu caredigrwydd i'r dyeithr- I iaid, ac am wneud trefniadau mor rha- gorol ar gyfer y cyfarfodydd, ac i'r eg- hvysi am roddi benthyg eu capelau." Ar ol tain diolchgarwch i'r Cadeirydd a'r siaradwyr, ymwahanodd y dorf en- fawr a pharchus. Nis gallwn derfynu heb grybwyll fod y cyfeillion lleol wedi gweithio yn rha- gorol, er gwneud pob trefniadau mor hwylus ac yr oedd modd. Yr oeddynt wedi darparu ciniaw a the rhad gogyfer a'r holl gynrychiolwyr a'r cyfeillion oedd wedi dyfod yn nghyd. Nid oes amheuaeth ynom na fydd i'r fath gyf- arfodydd a gafwyd yn y Gymanfa hon, adael argraff dda ar ol; a hyderwn y gwelir ffrwyth mawr yn y dyfodol. J OIIN BOVJEN, Ysg.
AT EOS WYN.
AT EOS WYN. vVEL, ddarllenydd, y mae yn myned yn boeth arnaf yn awr. Ar un ochr y mae y Mab Ieuengaf yn gollwng ei saeth- au brwyn ataf, a cheisia genyt gredu mai y dur goreu ydynt, ac y byddant yn sier o falurio fy nghorpws, ond brwyn ydynt; ac o'r ochr arall, y mae y cvs- tuddiedig (nid o galon) yn chwythu bubbles ataf, gan waeddi nerth ei geg mai bombshells ydynt, ac y bydd i'w hymddangosiad ddychrynu pawb—dan- fon fy holl gyfeillion i'r convulsion-fits, a chwythu Tawenfryn, o ran y corff, i'r lloer; ond bubbles oeddynt, a phan y tarawsant yn erbyn y DARIAN aethant yn ddyferynau o ddwfr oer, a'r unig effaith a gawsant ydoedd adloni ychydig arnaf, trwy beri i mi chwerthin nes oedd fy ochrau ar hollti. Yn awr, gadewch i mi dynu fy esgid- iau oddi am fy nhraed, a dal fy het yn fy llaw, a bod yn, foneddigaidd am un- waith (er fod hyny yn anhawdd iawn i fodyn fel fi), a cheisio gwneud sylwadan ysgrif Eos Wyn yn yr un ysbryd nine, ie hynod o nice, ac y darfu iddo ef ddan- fon ataf fi. Dywedwch, syr, y dichon y bydd yn chwith genyf ddarllen eich bod 71 clbivi yn fy nghyfrif yn fyrbwyll, rhyfyg- us, ac ystyfnig. Dim o'r fath beth, yr oedd hyn yn hollol naturiol i chwi. Y rheol yw fod dynion yn mesur ereill yn ol yr hyn ydynt hwy eu hunain. Pur," medd yr Apostol, "yn ddiau yw pob peth i'r rhai pur; eithr i'r halogedig nid pur dim." Cynghorwch fi hefyd i ystyried y pwys o gyhoeddi pethau sy'n cynwys libel. Beg pardon, syr, nid oeddwn yn gwybod eich bod chwi mor hyddysg mewn per- tbynas i'r hyn sydd yn cyfansoddi libel. Cyhuddwch fi o fod yn ystyfnig trwy beidio talu un sylw i'ch ,apeliadau. Mae yn wir i berson gael ei ddanfon ataf o Ystafèllll Cystuddiedig ar y Sabboth, ie, ar y Sabboth, i geisio geuyf ddyfod ar y dydd hwntv i Ystafell y Cystuddiedig i wneud apology am ryw bethau nad oeddwn yn gwybod dim am danynt, a darfu i minau fod mor ystyfnig agwrthod myned. Wel, ddarllenydd, dyma ni yn dyfod at y darn mwyaf pwysig o ysgrif Eos Wyn, yn ol ei farn ef. Dal dy anadl, a phaid a phesychu, nes i ni gael gweled ai pysgodyn wedi ei ffrio neu heb ei ddal sydd gan bysgotwr mawr yr A'lt- wen. Yn awr am eich ateb. laf. Naddo. Dywedais fod Nhw yn I dweyd hyny, a phwy sydd yn gwybod yu well na Nhw. 2il. Naddoeto; ond dywedais wrthyeh fod person wedi dweyd hyny wrthyf, ond dywedodd amryw ereill wrthyf fodmwy o allu yn Mr. Jones, nac sydd mewn llonaicl eich rhwyd o fath y Mab Ieu- engaf." 3ydd. Galwaf yr holl hersonan ag oedd yn bresenol ar y noswaith y cyfeiriwch ati, o'r cadeirydd dysgedig hyd at y mwyaf dinod, yn dystion na ddarfu i mi ddweyd y fath beth, ond buoch chwi mor ffol a gwisgo y cap, ac ar yr un pryd floeddio nad oedd yn ffitio, ae wedi rhoddi y cap am eich pen, aethoch gymaint allan o'ch cof, fel y darfu i chwi, yr hwn oeddech wedi cael eich penodi i gadw y cyfarfod mewn trefn, ei yru i'r annhrefn mwyaf, a bu gorfod i mi ac ereill redeg allan rhag ofn nerthocdd yr Ystafell GvstuddieAin. Yn awr. svr. chwiliwch eich trapiau a'ch rhwydau, a chewch eu bod yn wag, ac nad oes genych yr un pysgodyn wedi ei ddal, heb son am ei ffrio. Cynghoraf chwi yn garedig i beidio ymorchestu gOlmod i ysgrifenu, rhag ofn y bydd i chwi niweidio eich iechyd. Yr eiddoch yn frawdol, • TAWEXFRYN.
----CASTELLNEWYDD EMLYN.
CASTELLNEWYDD EMLYN. NosFawrth, Gorphenaf 13eg, cynaliodd y Temlwyr Da eu cyfarfod cyhoeddus yma, pryd y bu amryw o'r brodyr yn siarad, ac yn eu plith yr oedd Leumas, Glan-Aracl, a Mr. T. T. Elias, (head, master of the Emlyn Grammar School.) Yr ydym yn enwi y rhai byn, oherwydd fod y ddau flaenaf yn ddynion sydd wedi bod yn ffosydd dyfnaf meddwdod, ac wedi ea codi, fel y maent erbyn hedd- yw yn addurn i "Emlyn Lodge" ac i'r dref. Rhoddodd Leumas fyr banes o'r tafarnwyr, fel y maent yn ymddwyn tuag at ffyliaid fel ag oedd ef pan yn cyrclvi atynt. Siaradodd Glan-Arad fel dyn ag oedd yn brofiadol o ddylanwad a drygedd meddwdod yn bersonol, teulu- aidd, a chyffredinol. Y mae llawer yn mhell ac ag08 yn gwybod am enw Glan- Arad, fel bardd, llenor, ac areithiwr; ondni chlywyd ef yn ei ogoniant hyd y tro hwn. Yr oedd yn llefaru ynddoeth ac yn ddylanwadol, a phrofodd ei hun yn feistr ar ei waith. Felly yr ydym yn beiddio dyweyd y byddai o werth i'r Temlmyr Da yn mhell ac agos anfon am dano. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr. Elias, yr hwn yn ddiweddar a ddewiswyd yn District Deputy dros ddosbarth isaf Ceredigion. Nid rhaid iddo ef wrth lythyr canmoliaeth, oblegyd y mae rhai a fuont yn derbyn addysg dan ei ofal ef yn ddynion dylanwadol fel pregethwyr gyda'r gwahanol enwadau crefyddol braidd yn mhob parth or byd, yn brawf digonol o'i gymhwysderau. Profwyd ei allu yn ddigonol fel trosglwyddwr addysg r, z;1 i ereill yn arholiad diweddaf Coleg Henadurol Caerfyrddin, gan i dri o'i fy- fyrwyr i basio yn mlaenaf o ddau ar bymtheg, a rhai hyny ond megys yn ieu- ainc mewn oedran. Deallwyf hefyd fod un o'ifyfyTwyr,sefMr. J. D. Thomas, wedi bod ar daith bregethwrol yn ddiw- eddar trwy Oogledd Cymru, ac wedi derbyn cymeradwyaeth uchel fel dyn a phregethwr. Y mae Mr. Thomas yn ysgolaig da yn y Gymraeg a Saesneg, ac fel y cyfryw y mae ci gydfyfyrwyr yn edrych arno ac ni phetruswn ddweyd yn y man hwn,yn ol ein gwybodaeth a'n profiad o hono, y gall llawer o weinidog- ion Cymru edrych i fyny arno fel ys- grytbyrwr a Duwinydd, a chyfrifem yr 0 eglwys a'i dewiso i'wbugeilio ynddoeth, 1 -1 oblegyd y mae yn wir alluog a chymhwrys yn mhob ystyr. Fel yr ydym wedi ei glywed yn dywedyd lawer gwaith, y mae hyn i'w briodoli i allu a medr ei athraw talentog, yr hwn, fel dyn, athraw, a Christion, y mae pawb yn ei adwaen, yn ei garu, ac yn ei barchu. Dyma ydyw dymuniad ein calon,— Yn uwch, uwch yr el, Dringed (Elias) i gadair engyl." EJIIG GLAN TmFY.
PENYGRAK4, RHONDDA.
PENYGRAK4, RHONDDA. Nos Lun, 12fed cyfisol, yn Nghapel y Methodistiaid Calftnaidd, yn y lIe uchod, tradclodwyd un o'r anerchiadau mwyaf difrifol a glwsom erioed, ar ddrygedd y fasnach feddwol, gan y Parch. Morris Morgan, Aberdar, T.U.B.D. Cymru. Llywyddwyd y cyfarfod gan Moses Row- land, Ysw., Penpisgah House. Hefyd, cafwyd anerchiad byr, ond pwrpasol, gan Rowland Rowlands, Ysw., yr hwn er ei fod yn ein cyfarfod yn ami, sydd bob amser yn dderbyniol. Wedi talu y diolchgarwch arferol, terfynwyd y cyf- arfod, mewn gobaith cael ei gyffelyb eto yn fuan. TEMLYDD.
[No title]
Y MAE Y Cardinal Cullen wedi rhoddi cyhoeddiad allaD, yn galw ar y bobl i offrymu i fyny weddiau am dywydd teg. YN Fairfield, ger Liverpool, bu farw bachgenyn, pedair oed, o gynddeiriog- C, n rwydd, yr hwn a achoswyd gan gnoad ci ar yr 28ain o Mai diweddaf.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Cyfeiried ein cyfeillion y Beirdd eu hoi Gyfansoddiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol;- M ii. D. W. JONES. (Dafydd Morganwg) Hirwain.
ENGLYNION C^TARCllIADOL^
ENGLYNION C^TARCllIADOL^ Cyfltvj'nedig i'r Paroli. N. MarJais Thomas, Pont«rdawe, ar gylnf ei lwyddiant yu enill Cadair Llanbedr. AIIEILUS fowl i Murhus f'o,—harddweh Byd urddawl fund iddo Nwyf eurddawn brid prif-fardd ein bro, Naw cau miliwn a'i cantnolo. Awdwr diwyd, pwy fedr dewi ?—godwyd I gadair uchelfri Athraw brawf, a ddaeth er bri, Yu brif-fardd wedi'i brofi. Caingc cywrain ein congcwerydd—bia'r A bri yr awenydd [rwysg A'i lifeiriol leferydd, Fwynwas hoff, fel aton sydd. Un gwvcb yw ef, teg o chwaeth,—ac arwyn Fel cerub barddoniaeth A thriniwr gwyrth athroniaetb, Asiwr cerdd y wesur caetb. Drwy ymgyrch ddidramgwyiid-enillodd ef Allwedd aur enwogrwy^d Mwyn olrhain menn manvlrwydd, Angel lion ar binagt IIwydd. Marlais drwy ddidrai-> dd..dryd,-ll w di wall Dewi Wyn dysgleirbryd; Doethaf wr, daeth i fawryd, Cawr y beirdd enwoca'r byd. Pentre diwvd Pontardawe,—rho'wch barch I bor o'r fath safle Hwn yw'ch gobaith chweg, ebe Enillwyr lion llawer lie. Dewrion gwlad, rho'wch byd adref,-am un- liym enaid mewn dolef; [waith Er clod ^larlnis, llais a lief, Pavvb unllais mewn pob bonllef. Pob Hef a bonllef, heb unJIais,—rhy wan Yn coroni Alarlai-, A chlod difwlch hwyl dyfais, Hydr a lion, y pedwar llais. Adleisiwoh gin yn dloswech i gyd-i'w giod, Yn glir a tharanllyd, Yn hyferth ar dan befyd, Enwch ef yn uch o hyd. Uch beiau ani«]wch bywyd,—uch hesg A chyfgod dialfyd, Ac uch odhn ewch adfyd, Uwchlaw'r beirdd uchela'r byd. Bellaoh raid i mi bwyllo,— einioes hir 0 naws haf a gaffo Canwyll dyi>g, enilled o Naw drutach gadair eto. Un daionus fel duwinyod-ydyw, Ac odwych byHbrddydd; Gwiw ndda.. gudeg ddysgedydd, A'i hanes oil yn uniawn sydd. o ben ei daith, pryd ben a' del,—dringed Drwy angau yn dawel; I'w wychr bynt yn uch yr êl, Hyd oror gwynfyd Uriel. Eos WYN.
ETO.
ETO. Ilwre y De bia y dyn,-dan licydd Enwogrwydd yn ddigryn O'i doethawr hoff dneth yr hyn 0 afiaeth fu'n ei ofyn. Hwr61 ie, i wir flwen-Dyfed A da fudd i'w pherchen Er llongyfarch ei pharcha'i pben,-unweh. Hyd heno treuliwcb, eich doniau trylen. Eto hwre fel taran,—yw tuedd Cwmtawe o bobnian; Amryw feirdd dd'wed, "dyma'r fan Cafwyd anrhydedd cyfan." Oes hir i'n parch us wron,-a mwyniant, Am enill y gnron Pontardawe yn lie lion, — Gwiriodd o'i deg ragorion. Ei destyn boed iddo'n dysteb,-geidw 'I gadarn ragoroldeb, A chael 'n ei oes,—mvchlaw neb, 0 fri i wel'd anfarwoldeb. A ffyniant annrphenol —drwy y byd l'i- bardd mawr cadeiriol I dilyfoilol-g-nwd digymysg, Er moes Ilawn addysg o'r maes llenyddoU Marlais fo'r adlais hyfrydlon,—swyno Bob synwyr a cbalon O'i gaeth iaith a'i goeth weithion Bvw i'r sereli bo o'r oes hon. Alltwen. Ap LLEWELYN.
MARWOLAETH MR. S. JAMES -(GWYLLT…
MARWOLAETH MR. S. JAMES (GWYLLT WALIWR.) Am Wyllt Waliwr mellt dilon,-hiraethus, Sy'n brathu fy nghalon Gywir sant, gwae, gwae o'r son Ei fwrw ef at feirwon. Am Wyllt Waliwr ymbyllt dolef-biraeth Ein goror ddidangnef; Wrdiddan, mae'n rhaid addef, A mawr ing rnarw yw ef. Am Wyllt IValiwr maplladdpulu,-a'r rhai'p- A u bronau ar lethu, Yn ysig ddwyn y wisg ddu, Ar lawr yn oer alaru. Am Wyllt Waliwr mae ballt wylo,—i'r gan,. A rhwyg hir am dano Tra 'i blaenor cun yn buno, Ei chof ddeil uwch ei fedd o. GLASLWYN.
BWTHYN FY NHAD. \
BWTHYN FY NHAD. Mor anwyl yw bwthyn fy nhad gan fy nghalon,, Lie miloedd o ddyddiau a dreuliais cyn hyn; Mor anwyl f'ai genyf gltel golwg hyfrydlon Ar furiau y bwthyn wrth odreu y bryn Yn ymyl y bwthyn mae derwen yn tyfu, Yr bon sydd yn wastad a'i breichiau yn mhletl, Ac ar ei changenau mae adar yn canu, Nes peri dynolion i wneud )r un peth. O dacw'r hen fwthyn gwyngalchog, 0 dl\cw'r hen aelwyd ddinam, Lie ceiain fy IUngu yn serchog Dan ofal fy nhad a fy mam. f A pban oeddwn eto yn mhell o fy ngwlad, Yn mhllth hiliogaethau gormesol eu gwedd MeddyJiais na chawswn byth weled fy nhad, Na'r hen fwthyu anwyl cyn myned i'r bedd; 0 amgylch y bwthyn mae coedydd flrwythloms^ A blodau amryliw—bob math yn y byd, A llestri o wenyn lluosog, llafurus, Ilyw ail i baradwys yw'r hen fwthyn clyd. 0 dacw'r hen fwtbyn gwyngalchog, O dacw'r hen aelwyd ddinam, Lie cefais fy magu yn serchog Dan ofal fy nhad a fy mam. Llanilitjd Fardref. LLONRB.
SIOMEDIGAETII.
SIOMEDIGAETII. Ar y traeth canfyddai'n chwareu Hogyn bychan chwe' wlwydd oed Codi castell a'i hardd furiau Wnai a r tywod a'i bal goed. Ond yn "ydyn trodd ei wyneb, Gwelai'r llanw yn don ar don Yn dynesu at ei gastell, /tj Torodd hyn ei galon bron. 'v' Felly dyn wrth ddechreu'i fywyd, Cyfyd gestyll heirdd, ond brau; Tonau geirwon mor o amser Ddengys siomedigaeth glau. Hirwaun. ELlZASrH,