Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Gobeb/aethau.
Gobeb/aethau. [Nid ydym yn gyfriM an) syniadau a jrolyijiadau ein gohebwyr, ond yr ydym am adael rhyddid barn i bob dyn, a rhyddid y>grif-biu hsfyd caD belled ag y goddei' terfynau eyiraith a UlOell- oldeb.—Goii.l
ADOLPlilJS A'I FEIENIAD.
ADOLPlilJS A'I FEIENIAD. No. 11.. Yn awr„ ebe y siardwr, megys pe byddai yn myned i daro y pwnc yn ei dalcen. Y wers—" I daraw sydd gywir. Cof- iwch o hyn allan." Hum. Nid wyf yn siwr y medral gofio rhyw hurtwch fel yna, ond byddaf yn debyg iawn o gadw mewn cof mai dau air cyfystyr yw taro a taraw-yn cyfleu yr un syniad, ac yn gwasanaethu yr un swydd..Rhyfedd i'r fath eithafio'Tt y rheda ein gwyr dysgedig f mbel' i dro Dyma y boneddwr dysgedig kvn yn 0 Z, ce'ia-o genym ddweyd taraw, g( dra.w, brwydraw, darniaw, cornia-w, &c., yn lie taro, godro, brwydro, damio, a comio. Mawrydyw dyfg a gwyboda. th. fy meirniad hwn. Wei, yr wyf yn dra sicr fod dilyn rhyw frawl a lEregawd fel yma yn dipyn o dreth ar amyncdd dyn, yn neillduol dyn bach swta megys Ill) ti. Gwelaf fod ei Nos. 12, 14, arhan o'i 15 yn cynwys yr un wers, ac felly caiff y tri rhifnod eu lwmpio i fyny yn y lie priodol. I No. 13. Y wers-" Eto, y gair gwneyci yn anmhriodol. lawn fel hyn Grvvneud, ac ond i chwi dreiglo y gair i gwneuthur, cewch ei weled yn amlwg." Very well, Syr. Wel, yn awr, ynte. Gwneud, gwneuthur. Yr wyf yn gweled. D wedi treiglo i tlmv. Dyna y fusnes bellach wedi myned i'r clawdd, Y mae hwn yn sicr o fod yn ddargan- fyddiad newydd spon. Nid oes neb Wedi cael golwg arno o ddyddiau Adda Jones hyd amser y darganfyddwr mawr, Mr. Southman y "Tyst a'r Dydd." Bellach, bloeddied yr holl bobloedd, t "Mawr ydyw dysga gwybodaeth y beirn- iad rhyfeddol hwn. Y mae efe wedi llyncuyr "holl wybodau, ac yn alluog i gyfrif tywod y mor a gwlith y wawr." Wel, yn awr, Mr Peiroiad, yr wyf am i chwi ddeall a chofio, a hyny dipyn yn gyfrinachol rhyngoch chwi a minau, na feddyliodd neb, o greadigaeth y byd hyd yr awr hon, am dreiglo gwneyd i gwneuthur, ond rhyw greadur nen greaduriaidoedd yn sefyll ar drothwy drws rhyw wallgofdy neu gilydd. Hefyd, nad oes mwy o berthynas rhwng gwneyd a gwneuthur, nag sydd rhwng twrch daear a hen ddyn y lleuad. Trueni eich bod yn gwastraffin eich amser gyda rhyw lol wirion fel yma. No. 14. Mawr ydyw dysg a gwybod- aeth y pregethwyr. Y wers-" Brawddeg fynegol yw hona, gan hyny yw sydd i fod ynddi. Diolch yn fawr i chwi. Yn eich No. 12, yr oeddech yn fy nghynghori i edrych i'r Gramadegau am leoedd priodol y ddwy ferf yw ac ydyw. Hum. Wel, o ran hyny, yr wyf wedi ufyddhau i'ch gynghor caredig, a hyny er ys blynydd- oedd lawer, ac wedi cael fod yw ac ydyw yn hollol gyfystyr, hyd y nod mewn brawddegau yn cael ei llefaruyny modd mynegol, ys dywedwch. Gadewch i ni droi ac edrych i un o'r Gramadegau. Cymerwn y nesaf at law. Yn Ngra- madeg Tegai, tudalen 157, trydydd ar- graffiad, cawn olwg ar linell fel yma, "Fe wasanaetha ydyw yn lie yw yn mhob man mewn rhyddiaith," &c. Na wna meddwch ebwi, ond gwna meddai y Cymreigydd anfarwol Tegai. Yn tu- dalen 63 o'r un llyfr, canfyddir dwy frawddeg, a'r ddwy wedi cael eu llefaru yn y modd mynegol, feI yma, Berf wrthrychol yw un y byddo iddi wrth- rych i gyfeirio ato," &c. Eto, Berf ddiwrtbrychol ydywun heb le i ailofyn- iad," &c. Pa beth am dani yn awr, Mr. Beirniad. Dyna Tegai wedi troseddi ar eich rheol, yr un fath a minai, dyn help. Dyna efe wedi gosod yw ac ydyw yn gywir yn yr un sefyllfaoedd, a hyny mewn brawddegau yn y modd mynegoJ. Yrwyf wedi ateb eich No. 15, 16, a'ch 17 yn barod; ac felly, dichon y byddwch mor garedig a maddeu i mi am beidio myned drostynt eto. Gorchwyl caled, syr, ydyw ymatal rhag tori y llechau. No. 18. Y wers-" Mae yn nechreu y benod hon y gair canodd, ac wedi ei gam-silliadu, trwyroddi dwy n ynddp. Nid yw yn ganiataol dybluy cydsyniaid mewn geiriau tarddedig; ond y mae yn bur debyg i'r awdwr feddwl fod y llythyr- en a yn niwedd y cant yn cyfnewid i n, ond gwel y craffius mai diflanu a wnaeth. Os oes rhyw reswm tros ddyblu y cyd- seiniaid yn y gair canodd, gwnailf yr un rheswn y tro dros ea dyblu yn y geiriau pumllyfr, canwriad, eneinio," &c. Dyna i ti, ddarllenydd, engraifft go glyfer o allu beirniadol fy meirniad. Nid wyf yn honi fod y pedair dalen," fel y geilw y boneddwr dysgedig y pam phI etyn bychan, yn bur adiwallau; ond yr wyf yn barod i wneud fy llw ar gefn no nad oesynddynt gynifer owall- au a dilfygion ag a welir yn yr ymadrodd uchod yn unig, heb son am gawdelau ereill yr awdwr parchedig. Goddefer i mi sylwi ar rai o bodynt- dim ond rhai, cofier. Yn laf,'Nid oes y fath air a canodd, gyda dwy n ynddo yn t, y pedair dalen," o'u dechreu i'w diwedd. Yn 2ail, Nid yw yn bur debyg i'r awdwr feddwl fod y llythyren a yn niwedd cant, wedi cyfnewid i n. 3ydd, Nis gall y cralfus ganfod yr un a yn niwedd y cant i ddiflanu. 4ydd, Nid oes yr un t yn perthyn i'r gair canodd i gyfnewid na diflauu. 5ed, Nid gair tarddedig yw canodd, ond cyfansawdd, a'i ystyr yn amlwg. 6ed, Nid wyf yn canfod yr un rheswm tros ddyblu y cyd- syniaid, pa bethau bynag ydynt, yn can- odd na pumllyfr, &c. 7fed, Yr wyf yn gwybod fod llawer rheswm dros, ond dim un rbeswm tros. 8fed, Mae rheswm dros ddyblu y cydseiniaid yn y geiriau pum- llyfr, canwriad, eneinio, &c., ond dim lledrith rheswm dros eu dyblu yn y gair canodd. Gwew.—Dyma feirniad wedi myned i ryw benbleth ofnadwy; ond rhag i'r bwgan a welodd yn nechreu yr ail benod ei yru yn wyllt a gwallgof, cyfodaf y llen oddiarno yn fy llith nesaf, a dangos- C, af ef iddo yn ei liw a'i lun priodol. Yn y cyfamser, ymdreched yntau gyfodi ei gyflog, oblegyd gweithia yn rhagorol. ADOLrnus. (Fw bwhau-)
Y WLADFA GYMREIG.
Y WLADFA GYMREIG. DERBYNIWYD y llythyr canlynol gan David Williams, Mary-street, Dowlais, oddiwrth ei frawd John Williams, yr hwn a. aeth i'r Wladfa yr haf diweddaf, yr un amser a D. LI. Jones ac Evans, Jwmaman. Patagonia, Ebrill 5ed, 1875. Anwyl Frawd,—Os penderfynwch ddyfod yma, deuwch ag ychydig 0 bob peth a ellwch feddwl fydd 0 wasanaeth i chwi yma. Bydd yn well i chwi brynu nwyddau na dyfod ag arian. Os na fyddwch yn hoffi yma, gellwch werthu y cyfan, a chael cymaint arall ag a dal- asoch am danynt. Deuwch a chynifer ag a alloch o grysau gwlenyn a throw- seri rib neu fwstian, a nifer o gapau, a llawer o barau o hosanau, a swm da 0 edafedd, ac amryw barau o esgidiau (heb hoelion, a phar neu ddau o Wellington Boots uchel hyd y penliniau. Brethyn llwyd sydd oreu i wisgo yma. Deuwch a phob math o lestri ty ag a ellwch feddwl am danynt, (nid celfi wyf yn fedd- wl,) ond llestri bwyd. Deuwch a dill ad gwelyau a phob peth goreu a ellwch gael. Pe gallech brynu oifer ceffylau mewn arwerthiant yn sir Aberteifi, byddai hyny yn dda iawn. Os na ellwch, byddai yn well i chwi eu prynu yn yn Nghaerfyrddin neu Gastellnewydd na Liverpool. Gofelwch eu bod ych- ydig yn llai na'r rhai cyffredin a ddefn- yddir yn sir Aberteifi. Os na fedrwch gael dryll, shots, a rifle, prynwch yr olaf a chynifer ag a. fedrwch o cartridges. Mae yma ddigon o gai)te; ond nis gallwn 11 fyned yn agos iawn atynt. Prynwch revolver mawr cryf, os bydd eich Ilogell yn caniatau ac amryw ddwseni o gyll- yll o bob math—mawrion yn fwyaf neillduol. Cyllyll butchers gorou a mwy- af hardd a ellwch gael. Gwnewch fas- nach dda gyda'r Indiaid a'r rhai hyn. Hefyd, y mae arian yn fwy masnachol gyda'r Indiaid nag aur. Deuwch a phar neu ddau o olwynion cert ac echelau. Dewiswch rai bychain ysgafn, tebyg i rai o'r cars sir Aberteifi. Hefyd, mynwch ,aradr ac oged haiarn mor yagafn ag y byddo modd. Prynwch boxes cryfion: byddant o wasanaeth i chwi yma. Pas- iwch eich holl gludiad (luggage) yn ofalus. Deuwch a phladur a chadair a phob peth a berthyn iddi. "Gyda phleser ac byfrydwch yr wyf yn eich hysbysu fy mod yn iach a chy- surus, ac yn iachach na pban adewais flwyddyn yn ol. Mae blwyddyn bron er pan ymadewais, ac ni chlywais air o'ch banes wedi hyny ac nis gwn pa un ai byw ai marw ydych. Derbyniais lytbyr Qddiwrtb fy nhad, dyddiedig Gor. 20, 1874, a dyna'r cwbl. Nis gwn a ydych yn meddwl dyfod yma ai peidio, fel yr oeddech yn dyweyd cyn i mi gycbwyn. Nid wyf yn eich anog i ddyfod yn groes i'ch hewyllys. Ond y mae yn dda genyf fi fy mod wedi dyfod, er nad wyf wedi gwneud yn dda iawn eleni, a hyny am fy mod wedi gwneud cytundeb tyn, ac yn anghyfarwydd advfrhauy tir. Nisgwn yn iawn faint o wenith sydd genyf am fy mod heb ei ddyrnu. Nid wyf yn di- galoni dim, or nad wyf wedi llwyddo yn fawr. "Yr wyf wedi enill profiad sydd yn werth llawer. Mae modd dyfod yn mlaen yma yn rhwyddach nag yna. Pe ffurfiai tri neu bedwar yn gwmpeini, gallent hau 80 neu 100 o erwan o wenith yr un fiwyddyn, os byddai ganddynt bedwar o geffylau gwaith ac aradr, ogod, a pheiriant medi. Yr wyf wedi dewis i fi fy hun fferm ychydig i fyny, oddeutji 20 milldir o'r mor. Credwyf fod gwell tir yno nag i lawr yma. Os deuwch chwi yma, nnaf a chwi, os ewyllysiwch. Hefyd, y mae ceryg da at adeiladu yno. Deuwch a tools masiwn gyda chwi, a dwy neu dair o rawiau, fel rhai sir Aberteifi, a haner dwsin o offer ceffylau a chloion neu ysgriw arnynt- rhai byrion, fel y gellwch eu rhoddi ar draed blaen ceffylau. Gwerthwch fy watch, a deuwch ag ychydig o grysau, hosanau, dillad gwaith, a throwseri rhib. Y maent yn llawer rhatach yna nag yma. Goreu oil pe deuech a digon 0 de, siwgr, a sebon am flwyddyn. 0 Pythefnos yn ol daeth llong newydd yma, eiddo Mr. J. M. Thomas, brawd Mrs. Mathews, yr hon fydd yn rhedeg yn gyson yma. Cododd pris y gwenitb bunt y ffenega neu 225 pwys, neu £ 9 y dynell. Gwertha bob peth lawer yn rhatach na Rook a Parry. Derbyniais lythyr oddiwrthych o'r diwedd, ac yn synu eich bod wedi anfon mor IIeiedonewyddion. Dylasech gofio fod hen banesion yn rhai newyddion i mi. Buasai yn dda genyf pe derbynias- ech y Beirniad a'r Dysgedt/dd, a deuwch a hwy gyda chwi yma, os deuwch hefyd. Yr wyf yn dra hyderus eich bod yn der- byh Geriadur Hughes, Tredegar, i mi, Os ydyw wedi gorphen dyfod allan. rhwymwch ef yn y modd goreu, a thalaf am y cwbl pan ddeuaf yna, neu pan ddeu- wch chwi yma. Mae yn ofidus genyf fod Thomas Thomas yn myned i New England. Yr wyf o'r gred yn awr fel cynt mai ymfudiaeth a ddaw a Chymru i'w lie; ond gresyn na ddeuai cynifer ag a allo 0 Gymry i Batagonia. Byddai yn dda genyf weled J. Morris, J. Wil- liams, a David Thomas (peirianydd.) a chwithau, a llawer ereill o Ddowlais wedi glanio yma. Mae rhagolygon am Wladfa Gymr- eig lewyrchus yma., Mae cynlluniau wedi eu tynu, a rhai o honynt wedi gweithio yn gampus. Cawsom gynhauaf toroithiog eleni. Yr oeddwn yn cael traii'erth i beidio defnyddio geiriau Caledfryn yn llythyrenol yn ei awdl aniitrwol ar yr Adgyfodiad:" Aranethydd a fydd, a'i fawl A'i floedd yn orfoleodawl, Wrth wel'd ei addfed ffrwyth-haf, Yn niwedd ei gynhauaf. Os bydd rhyw un heb arian ond prin digon i gyrhaedd yma, gallant fentro dyfod-y mae digon 0 waith yma. Byddis yn debyg 0 hau 0 fil a haner i ddwy fil o erwau 0 wenith yma y fiwyddyn hon. Paham na ddeuai Enoch, Hannah, Mar- garet, a chwithau yma. Gallasi fy nhad a mam ddyfod hefvd; ond nid wyf yn hoffi cymhell hen bobl i ddyfod yma, am fod y mor rhyngom. Ond daeth eu hen- ach hwy yma gyda'r fintai American- uidd, ac y maent yn byw yn gysurus.. Byddai yn dda genym glywed banes crefydd yn y Gwernllwyn a'r cwrdd nps Sadwrn. Byddwch wych a gwrol fel eich brawd, JOHN WiLMAMS.
LLITHIATJ HAMDDENOL Y DRYW…
LLITHIATJ HAMDDENOL Y DRYW FACH. SIARAD YN GYHOEDDUS. WEDI gwrando yn ddiweddar ar ddau siaradwr cyboeddus yn pregethu, taraw- odd i fy meddwl roddi llith i'r DARIAN ar y penawd uchod, gan fod cymaint o wahauiaeth rhwng dyn a dyn yn tra- ddodi. Cymerwn, er engraifft, A. Yr oedd yn siarad ar y geiriau Ydwyf yr hwn ydwyf." Yr oedd ei bregeth yn fratiog a digynllun—y traddodiad yn oeraidd, marw, anafaelgar, ac mor ddi- nerth ag y gallasai fod: mor annhebyg i ddyn yn pregethu er enill y dorf ag ydyw darllen penod i ddarlith fywiog- pob gair yn gyru ygynulleidfa igysgad- rwydd trymaidd; tra yr oedd B. yn fyw- iog, grymus, a gafaelgar, a pbob brawdd- eg megys wedi ei ffitio yn ei lie, a phob gair yn gyru rhyw deimlad nefolaidd drwy y fynwes, nes ein codi o'r materol i'r nefol, ac o'r daearol i' ysbrydol. Felly, cymaint yw y gwahaniaeth rhwng y naill a'r llall yn traddodi, fel y cred- wyf fod eisieu mwy o sylw i'r peth hwn gan bob dosbarth. Dysgwylir cymaint ydyw y pwys, y sylw, a'r egni sydd wedi ei roddi i gynaniaeth neu draddodiad gyda'r areithwyr mwyaf grymus a by- awdl. Demosthenes sydd yn ymddangos yn neillduol ac arbenigol yn hyn. Mewn brawddeg o'i eiddo mewn cysylltiad a Cicero a Quintilian, pan ofynwyd iddo pa beth oedd y nod neu y ris gyntaf mewn areithyddiaeth, atebodd yn syml ond penderfynol, mai traddodiad ydoedd ac felly gofynwyd am yr ail a'r trydydd nod, pryd y parhaodd i ateb yr un peth, gan osod y pwys yn fwy-fwy ar yr un gair, sef traddodiad. Nid rhyfedd felly ei fod wedi gosod y nod yma mor neillduol o'i flaen, gan gyfrif y ris mor ucbel yn ei feddwl, fel ag i wneud yr ymdrech fawr a wnaeth, yn nghyda'r egni mwyaf,J i godi a chynyddu yn y wyddor orwych hon i ymgymeryd at yr astudrwydd a'r drafferth hyny, y rhai yr oedd yr hynaf- iaidyn talu cymaint o sylw ac uwchlaw pob amheuaeth, nid oes dim o fwy pwys na darllen neu siarad yn gyhoeddus Nid ydyw llywodraethiad y llais a'r ar- ddull mewn siarad cyhoeddus ond yn unig ychydig o addurniant, neu un o'r gwyddorau isafol, er dal a cbyfEwrdd teimlad y gwrandawyr, Eithr hyn sydd bell 0 fod yr hyn ydyw; canys y mao yn dal cysylltiad arbenigol a'r hyn sydd, neu o leiaf a ddylai fod diwedd pob siarad cyhoeddus—perswadiaeth—ac felly yn hawlio astudrwydd fanylaf a dyfnaf pob difrifol siaradwr, yr un fath a'r rhai hyny nad ydyw eu hymdrech a'u hegni yn ddim am gen na boddloni neu oglais y gynulleidfa. Dylai pob siaradwr cy- hoedddus ystyried pan fyddo yn anerch neu gyflwyno ei hun mewn geiriau i ereill, mai ei unig amcan ddylai fod gwasgu, dylanwadu, ac argraffu ar fedd- yliau y rhai y bydd efe yn siarad a hwy, y meddwl fydd yn ymdroi yn ei enaid ef, yn ngbyda thaflu iddynt hwy y teimlad. au bywiog a chynbyrfiol fyddont yn ei feddianu ar y pryd oblegyd nid ydyw pwys y llais,yr edrychiad, yn ngbyd ag arddull y siaradwr yn cyfleu llai o'r meddwl a'r teimlad nagy mae y geiriau yn eu gwneud. 0, na, y mae yr argrafl: a gant hwy yn ami iawn yn llawer cryf-j ach a mwy effeithiol nag y gall geiriau ei gael. Yn ami gwelwn yr olwg dreidd- gar, neu y gri isel, doddedig, a threidd^ iol, yn annibynol ar y geiriau, yn cyfleu ij ereill feddyliau mwy cedyrn a grymus,: ac yn codi o'u mewn deimladau mwy rhwygol, gwasgedig, tanbeidiol, a chy-j ffrous, nag a allesid wneud gyda'r ym-i ddyddan mwyaf hyawdl ac arucheL Mae gan yr arwydd a roddwn drwyJ bwyslais, arddull neu ysgogiad o'ri meddyliau, fantais fawreddog ar yr hyn; allwn ddweyd mewn geiriau ao ymi adrodd, gan mai hon ydyw iaith y galon; y natur, a'r enaid: ie, dyma yr unig gyfrwng y gallwn drosglwyddo ein holl feddwl-y cyfrwng y mae natur wedi ei neillduo i bawb, a'r hwn y mae pob dyn yn ei ddeall, tra nad ydyw geiriau ond yn unig rhyw gyfrwng treisiol i gym- deithasu, arwyddo, neu gyfleu y meddyl- iau, ac o ganlyniad, rhaid yw fod eu dylanwad yn llai, a'u hargraff yn ys- gafnach. Mor eglur a gwirioneddol y Y. gwelwn bob amser, er ein galluogi i daflu yr iaith neu'r ymadrodd i'r nod eithafol, fod yn rhaid i ni gael rhyw nerth tucefnol—pwyslais neu y dull tra- ddodiadol, agweddol, ac edrychol, a'r hwn fydd yn siarad lawer tro, nis gwna ond prin anadlu y geiriau gyda'r es- mwythder, y tawelwch, a'r dystawrwydd mwyaf. Yn lie eu gollwng allan yneu, sain a'u hacen briodol, cyrhaeddant ni megys rhyw ddyeithriol swn trymaidd marwol, nes bydd pob gwrandawr fel dan orfod yn ymollwng i brudd-lewyg galarus; weithiau yn bryderus mewn dirnadaeth amheus, bryd arall yn rymus,. croch, a threiddiol; ond mor agos fydd, cysylltiadau pob brawddeg a meddwl a'u gilydd, fel bydd yn rhaid cael yr agwedd, y llais, a holl ddullweddau y corff megys i'r mymryn er eu rhoddi allan yn y ffordd briodol; ac os na wna y siaradwr eu rhoddi allan, felly, nis gall byth ber- swadio ei wrandawyr ei fod yn credn ac yn teimlo yr hyn fydd yn siarad ei hun. Felly, bydd pob brawddeg yn syrthio i'r ddaear yn farw a difudd. DRYW FACH.
L'ERPWL.
L'ERPWL. [ODDIWRTH EIN GOHEBYDD ACHLYSUROL.] LLEXORIAETH OMERAIDD. Y MAE rhyw 80,000 o Gymry yn arcs yn L'erpwl a phan ystyriom eu Iluos- ogrwydd a'u hangherddolrwydd cen- edlaethol, yr ydym yn rhyfeddu na fabwysiadent ryw gynllnn er mwynym- gydnabyddu achyfoethegrwydd llenor- iaeth uchelryw plant Gomer. Gwir fod yma bwyllgor Eisteddfod y Gor- dofigion, ond nid rhyw lawer a all hwnw wneud er mwyn creu chwildroad ieithadurol yn mynwesau rhydlyd ein cydgenedl yn nghanol meibion aillt; ac er fod genym bob parch i'r Gordo- figion a'n rhagoriaethau clodfawr, yr ydym yn dweyd yn eon fod an gen rhyw allu eangacb, grymusach, mwy Cymro- aidd, nodweddiadol, ac o fwy o chwil- frydedd, ac o awdurdod i ddwyn rhagor- olrwydd ein llenoriaeth i sylw yn mysg cened'oedd ereill, ac y mae yn rhaid cael rhyw gyrchfan mwy hudoliaethus ZD. a phwysig nag sydd yn perthyn i'r Gordofigion yn awr, cyn y gall en hymgynulliadau anami a chynysgeith- awl fod o un synibyliad i Omerwyr di- wylliedig i gymeryd y dyddordeb lleiaf yn eu cyfundraeth. Y mae yr ysgrif- enydd yn un o etholedigion y pwyllgor Gordofigaidd, fel na fyddo neb yn meddwl mai am na chefais wahoddiad i deml eu cyfrinion yr wyf yn dewis mabwysiadu y dull hwn. Hen arferiad bawlyd ambell un yw ymosod ar un arall, am nad yw efe yn cael digon o barch a sylw gan y llall; ond er mwyn "tynupen ami," y gwir yw am bwyll- gor y Gordofigion, gwneud masnach, mewn dull anrhydcddus wrth gwrs, yw ei Alpha a'i Omega. Y mae gormod o I- C, ddelweddau estronol yn gorlwytho vm- y I ddiddanion ac ysgogiadau y rhan luos- ZD ocaf a ddaliant berthynas a'r cynghor, ac i'm tyb i, haerllugrwydd a dreleidd- iwch wedi ymberffeithio ydyw i ddos- barth o ddynion i awgrymu eu bod am gadw at ryw nod, tra y maent am eu bywydau yn ymbellhau oddiwrth y cyfryw nod. I ba ddyben y dywedir am gynal pwyllgor ac Eisteddfod Gy- mreig, pan mewn gwirionedd nad yw'r hysbysiadaetb ond p set' c lo -prodam a tion yn ystyr helaethaf y meddwl, o herwydd cyfoetli y didalent a rhwysg- fawredd yr eulonusiaid diarawd a gant yr holl fawl a'r gogoniant gan y Sais- addolwyr blonenog yma thraw yn nglyn a'r pwyllgorau eisteddfodol. Pe'r ym- tfurfiai cor o genedlgarwyr yn bwyll- gor, er mwyn gwneud daioni i lenorwyr a llenyddiaeth, byddai rhyw le i ddys- gwyl ffawd a rhagorolrwydd yn nglyn a'r yaadrafodaeth; ond tra y dygir gweithrediadau yr eisteddfod yn mlaen er mwyn budr-elw a gwag ymffrost crebachlyd a chyhoedd-arddangosiad- aeth, nid yw ond gorphwylldra ysgy- mun i neb roddi nawddogaeth i'r cyfryw.
GWYL YR EUHAFALWRR.
GWYL YR EUHAFALWRR. Yn y tlwyddyn 1795 sefydlodd Wil- liam in. gyfundraeth yr Eurafalwyr yn yr Iwerddon er cynal i fyny Brotestan- iaeth, a defnyddio pob gweinidogaeth gyfreithlawn er dadymchwelyd Pabydd- iaeth yn Mhrydain Fawr, IwerddoD, Cymru, a Chaledonia; ac oddiar hyny hyd yn awr y mae'r gorfforiaeth am- ddiffynol wedi yml-add brwydrau gwrol- frydig a'r rhengoedd gwrth-Brotestan- aidd. Y mae llawer Eurafalwr union- gred wedi colli ei fywyd pan yn ym- godymu a deilgorffogion y Pab; ac o'r tu arall, mae llawer canlynwri deyrnach. v Vatican wedi rhoddi ei einioes i lawr dros ei gredo a'i wrthwynebrwydd i vandalism a rhuthr-ymosodiadau y rhai a ddangosant arwyddluniau gwa- haniaethol iddo ef. Nid yw yr awdurdodau corfforiaethol yn L'er- pwl yn caniataa i orymdeithian Eurafalaidd na Phabyddol i dramwyo yr heolydd ar y 12fed 0 Orphenaf, o herwydd y difrod mawr a wnaed gan y cyfryw flynyddau yn ol ar fywydal1 dynol a meddianau y preswylyddion; felly y mae yr Eurafalwyr yn cadw y tu allan i hawlfraint senedclol f dref. Gorymdeithiodd yr Eurafalwyr ar y 12ted cyfisol o Sheil-road, West Derby, i Knowsley Park, yr hwn le a roddwyd at eu gwasanaeth gan larll Derby, a bernir eu bod yu rhifo 50,000 o eneid,-
LLYFRGELL. Y BWTIIYK
j 5 pleserus hwn." meddai, "rhoddoddfy meistr i mi fwy o amser na'r byn a allaswn yn rhesymol ei ddysgwyl, a mynycli y cydiai yn y ffnst dyrmi o'm llaw, a gweithio ei hunan, tra. y fbuaswn ninau yn eistedd wrtk <ei ochr yn yr ysgubor yn ddiwyd gyda'ra. eonapodau, ruler, a'r ysgrifbin." Wedi gorphen y map, aeth Furguson ag ef i Mr. Gilchrist, ac yno y cyferfyddodd a Mr. Grant, o Achoynamey, yrhwn a gynyg- iodd ei gymeryd i'w dy. ac y gwnelai i'w ddrnliiad roddi gwersi iddo.. Dy- wedais wrth Yswain Grant," meddai, y llawenychwn fod yh ei dy tCYll gyn- ted ag y bnasai yr aiuiser ar ben, dros ba un yr oeddwn yn rhwymedig gyda'm meistr presenol. Cynygiodd yn fon- eddigaidd i osod mi yn fy 11c, ond ihyny a wrthodais." Pan ddaeth yr amser dan sylw i ben, aeth at Mr. Crraiit. Yr oedd yn awryn ei ugeinfed fiwydd- yn. Cafodd yma gyfaillda a dymtra nodedig yn Cantley, y trallydd, yr hwn a dynodd ei sylw gyntaf pan yn paentio I Y ar ys(yoldy i, pentref heulorblad ar ail ymweliad Furguson a Gilchrist. Nid oedd awrbladaetb, modd bynag, ond un o'r lluaws cymhwysderau y truHydd dysgedig hwn, yr hwn y mae Furguson* yn ein sicrhau ei fod yn dra hyddysg mewn rhifyddiaeth a gwyddoniaeth. Chwareuai ar bob offeryn cerdd ad- nabyddus oddieithr y delyn. Deallai Lladin, Ffrengaeg, a Groeg, a gallai hefyd roddi cyfarwyddiadau meddygol mewn clefydau. Yr oedd yn ddyledns yn hollol am y doniau amryfath hyn i'w hunan HC i Dduw natnr. Oddi- wrth y person hwn y derbyniodd Fur- guson gyfarwyddiadau mewn decimal w.fractions ac algebra. Yr oedd eisoes "wedi meistroii y rifyddiaeth gyffredin ei hun, trwy gynorthwy llyfrau; a phan yn dechreu astudio mesureg, ym- adawodd Cantley a'i le am un arall o dan Iarll File. Ar hyn, pendertynodd ei ddysgybl ddychwelyd gartref at ei dad. Cantley, ar ei ymadawiad ag ef, a'i anrhegodd a chopi o Ramadeg Daearyddol Gordon. Y mae y llytr yn cynwys desgrifiad o artificial globe," ond nad yw ddim yn cael ei egluro gan unrhyw ddarlun. Er hyny, "oddiwrth y deserifiad hwn," medd Fnrguson, gwnaethum ddaearen mewn tair wythnos yn nhy fy nhad wedigwneudybelen fel hyny ailano ddarn o bren, yr hon belen a orchudd- iais a phapyr, arluniais arno ddar- lunlen o'r byd, gwnaethum y cylch haner dydd a'r terfyngylch o goed, a graddolais hwynt; ac yr oedd yn llawen genyf ganfod mai trwy fy naear- en, yr hon oedd y cyntaf i mi erioed weled, y gallaswn egluro y dyfn -bynciau. Am gryn amser wedi hyn, bu yn hynod anffortunus.