Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

V NOFEL: EINION HYWEL, BRYtfARSWYD.

News
Cite
Share

V NOFEL: EINION HYWEL, BRYtfARSWYD. '{Bsddugol yn Einteddfod dÂiwediar Akeriar.) PEKTOD VI. DILARLLENTDD, beth am Einioit yn awr ? Y mae wedi dysgwyl yR hir; ond o'r diwedd,dynayr hen foneddwr yn dyfod, a'i olwg yn ddarlun o sarugrwydd. Gofynodd iddo mewn llais craslyd, Beth yw dy neges ? Mewn dull bon- eddigaidd, dywedodd yntau ei hanes. Ond braidd cyn iddo derfynu, dyna yr hen foneddwr yn gorchymyn am iddo fyned allan o'i dy ef mewn eiliad, onite y byddai yn ei roddi yn ngafael yr heddgeidwad. "Rhoi gwaithi ti! rhoi gwaith i ti, y creadur drwg Xa, na, byddai yn well genyf fod heb arddwr yn fy myw na rhoi gwaith i ti. Cefaist ,-Fyned o'r Castell oherwydd dy felldith, a pha fodd, atolwg, yr wyt wedi meddwl y gallaf fi dy gymeryd; mewn gair, yn ngafael y gyfraith y dylet ti a Wily Bwch fod! Y ddau ddyhiryn anonest." Erbyn hyn, yr oedd Einion drnan yn fwy gofidus nag erioed. Trodd ymaith a'i fynwes fel y mor mewn terfysg. Yr oedd sarugrwydd y bon- eddwr wedi Iladd ei ysbryd, a methai ddirnad pabam yr oedd yn ei gyfuno ef a Wil y Bwch; ac yr oedd y geiriau, "mai o achos ei felldith yr oedd wedi gorfod ymadael o'r Castell," felpicellau tanllyd yn gwaedu ei galon. Cerdd- odd yn araf oddiwrth y palas, ac yn ei gyfyngder aeth i I wyn o goed a dyfai gerllaw, ac ymgrymodd ar ei li niau, a dyna ef yn deehreu gweddio. Ie, y mae ei holl enaid yn tynu wrth raffau addewidion y nefoedd. Ust! daew eneth ieuanc yn dynesu at y llwyn, ac wrth glywed y siarad, 0 fel y mae yn gwrandaw. Mewn ychydig, trodd yn ei hoi, a chyfeiriodd i'r palas. Y mae ei hymdaith fel Rhagluniaeth yn ddrych o dlysineb neillduol. Agora y drws fel un ag awdurdod ganddi, ac mewn llais crynedig dyna hi yn gofyn, A oedd ei thad yn y ty ?" Mewn am- rantiad dyna yr hen foneddwr yn ei hateb, ac yn gofyn, Pa beth oedd yn bod ?" prydydywedoddyfun wrtho" am ddyfod allan ar frys." Yna cydiodd yn ei het, a dacw ef o flaen y palas, a hithau fel angyles yn cyfeirio ei bys at y llwyn, ac mewn enyd yn sibrwd fod rhyw aderyn hynodrhwngei ganghenau yn rhywle. Aethpwydyn agosach ato, a'r brawddegau cyntaf a ddisgynodd ar eu clustiau oeddynt a ganlyn:—" 0 Dduw, cymer drugaredd arnaf, o her- wydd yr wyt wedi addaw bod yn Dad i'r amddifad. Cofia hefyd am yr hen foneddwr sydd yn byw yn y palas yma 0 Arglwydd, maddeu iddo, yn haeddiant Iesu Grist; ac os yw ei galon heddyw fel yr adament, y mae yn dy allu di i'w throi yn ffynon lawn o bob rhinweddau." Wrth wrandaw y fath daerineb, yr oedd dagrau yr eneth fel perlau gloewon yn treiglo dros ei gruddiau, a'r hen foneddwr wedi ei lyncu mewn syndod; ac yn ei ddwys fyfyrdod, canfyddai y nefoedd a'r ddaear yn duo o'i amgylch, a mellt Sinai yn fflachio o gwmpas ei ben, a'r geiriau Gan farw ti a fyddi farw fel taranau cryfion yn dychrynu ei holl enaid. Syrthiodd yn farw ar y ddaear; ond mewn enyd dyna ef yn gwaeddi, Pa beth a wnaf ? pa beth a wnaf ? Darfu am danaf! darfu am danaf!" O fel yr oedd yr eneth yn gwaeddi am help oblegyd yr oedd yn credu fod ei tbad yn marw. Yn y cyfwng, dyna y bachgen yn dyfod allan o'r I llwyn, a'i ruddiau yn wlybyrog, ac yn cydio yn yr hen foneddwr, gan ei gy- -fodi oddiar y ddaear; ac O mor dda ganyfoneddiges ei weled, er nad ydoedd yn ei adwaen. Gwaeddodd y bonedd- -wr eilwaitb, Pa beth a wnaf?" Yna atebodd Einion ef, gan ddywedyd, Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig a fyddi," yr hyn a barodd i'r dagrau darddu yn ffrydiau o'i lygaid, a dyna ef yn dechreu gweddio. Wedi ei dywys i'r palas, cychwynodd Einion i ffwrdd, ond gyda ei fod yn gadael y drws, dyna Bronwen yn ei alw yn ol, ac yn ei hysbysu fod ei thad am ei weled. Felly trodd yn ol, ac aeth i'r ty drachefn; ac O! fel yr oedd yr hen foneddwr yn wylo. Ie, a'i holl sarugrwydd y boreu hwnw wedi ffoi, neu wedi ei gladdu yn hytrach yn mynwent edifeirweh. Dywedodd wrth Einion am eistedd i lawr, a bod lIe yn Plas yr Afon iddo cyhyd ag y mynai. "O,'fachgen anwyl," meddai, "ymae dy ymddygiadau a'tb weddi daer wedi fy llwyr-orddiwes. Maddeu i mi am fod mor gas wrthyt y boreu heddyw." Pryd hyn, dywedodd Einion, 11 0, Syr Watkia, nid ottsgenyf w&ith madden i chwi, ahyay oherwyddnadwyfya rhoi He i ddigter byth yn fy mynwes ond bydd yn dda genyf. oe csf ares yn deb gwasanacth." Felly, trwy ei rinweddau, caf- odd fyned yn arddwr, a buan y dangosodd ei fod yn gampwr yn ei orchwyl; ac heblaw hyny, yr oedd pawb o amgylch y Castell yn ei hoffi, ond y goruchwyliwr, yr hwn, o herwydd ei fod yn enill cymaint o serch y bonedd- wr, a deimlai yn hynod ddigofus wrtho. Un boreu dyna lythyr yn cael ei estyn i kinion, a'i amlen ddu yn profi fod rhyw berthynas wedi marw. 0 newydd drist! Y mae bron llewygu: Pan welodd fod ei unig chwaer wedi huno yn yr angeu, dechreuodd wylo ac ocheneidio yn ddwys. Yn yr adeg, dyna Bronwen yn dyfod yn mlaen, ac yn gofyn, paham yr oedd yn wylo, ac yntau, yn lie ei hateb a estynodd y llythyr iddi; ac yr oedd ei hagwedd wrth ei ddarllen yn tystio ei bod yn medru cydymdeimlo a'r galarus i'r pendraw. Cyn ymadael, dywedodd y byddai iddi ddyfod gydag ef i'r angladd dranoeth, ac y byddai yn gofyn i'w thad am y cerbyd. Yn y boreu, dacw hwy yn cychwyn, ac yn ngwaelod y cae islaw y palas, yn pasio yr hen oruchwyliwr, a hyny heb dalu yr un sylw iddo, yr hyn a'i cynhyrfodd yn anghyffredin, a thystiodd ynddo ei hutian y mynai ddarostwng y gwalch Einion heb fod yn hir. Cyrhaeddasant Lletyrbuarth yn y man. Ac O! yr oedd difrifwch yn argraffedig ar bob grudd, a Myfanwy yn gorwedd yn yr ystafell yn hollol fud. 0 fel y mae Einion yn wylo, a Bronwen fel pe byddai yn ei gysuro, trwy sychu ei ddagrau yn awr ac eilwaith! lIeb fod yn hir, daeth Ellen Troedyraur yno, a phan welodd Bronwen, Plas yr Afon, yn sefyll ynymyl Einion, aeth i syndod eto, teimlodd ddigon o gyfemgarwch yn ei mynwes i fyned i ysgwyd Raw ag ef. Yn wir, yr oedd hiraeth y bachgen yn fawr o'r blaen, ond wedi canfod Elen yno, dyna ddigon o adgofion, fel ysbrydion byw, yn cyfodi drachefn yn ei feddwl, nes oedd bron syrthio i lewyg; ac oni bai fod Bronwen yn cydio ynddo, digon tebyg y buasai wedi ymollwng; oblegyd yr oedd ei deimlad OY wedi dryllio yn ddarnau. Mewn enyd, daeth ato ei hunan eilwaith; ac wrth wel'd bachgen ieuanc, o ymddangosiad boneddigaidd, bron o hyd yn sefyll yn syn uwchben y drancedig, gofynodd i Elen pwy ydoedd, pryd yr atebodd hono, "Dyna Caradog Lewis, Bwlch- crwys, a chariad Myfanwy." Aeth Einion ato, a chyfarchodd ef. O fel y mae yn wylo ar ol ei anwylyd; ac mewn modd bloesg yn dweyd, Ni feddyliais erioed y buasem yn cyfarfod ar y fath amgylchiad chwerw Ie, wedi iddi gael gwella o'r Frech Wen, dyna fi yn gorfod ffanvelio a hi am byth, O ffarwel." Do, claddwyd un o'r merched duwiolaf yn Nyffryn Eifion; ac yr oedd yn àmJ wg yn yr ardal fod un o'r anwyliaid wedi marw. 0! ddarllenydd, edrych ar Einion uwchben bedd ei rieni! Clyw ei och'rieidiau trwm- lwythog Dacw bawb yn ymadael, ac amryw o'r perthynasau yn ysgwyd dwylaw. Yn eu plith dacw Einion a Bronwen yn myned i'r cerbyd, ac yn cychwyn yn ol, ac erbyn chwech o'r gloch cyrhaeddasant y palas; eto mewn galar dwys Boreu dranoeth dyna Syr Watkin yn dyfod i'r gegin, ac yn gofyn mewn llais pur awdurdodol, "A welodd un o honOch fy oriawr i?" Mewn mynyd dyna y morwynion yn ateb, "Naddo." "VV eI, y mae rhywun yn sicr o fod wedi ei ladrata," ebai yntau drachefn, ac yn 01 ag ef i'w ystafell. Bron yn yr adeg. dyna y goruchwyliwr yn dyfod i'r ty, ac erbyn ei fod yn eistedd, gwaeddodd Syr Watkin, Y mae yn rhaid fod lladron yn fy nby, ac y maent wedi dwyn fy oriawr." Dwyn eich oriawr," ebai Arthur. "Yr oedd yn eich hystafell neithiwr." Wei. oedd, oedd," meddai yntau, end y mae wedi myned erbyn hyn." Parodd y dygwyddiad gyffro gwyllt yn yr holl breswylfa, ac yr oedd pawb yn gwadu na wyddent ddim am dani. Cynghorodd Arthur yr hen foneddwr i yru am yr heddgeidwad; oblegyd, meddai, gallwch fod" yn sier nad ydyw yn mhell. Felly y bu, a dacw y swyddog yn dyfod, ac yn chwilio yr holl ystafellodd, a blychau y gweision a'r morwynion, gyda'r eithriad o flwch Einion. Gadawodd hwn ar gais Bronwen. Ar ol terfynu, aeth at Arthur, a dywedodd, Yr wyf wedi methuei cbael." A chwylias- och chwi bob mas ?M meddai yntaH. eilwaith. Yr heddgeidwad gan ateby a ddywedodd, "Do, Mwch Kinion, blwch Einion, blwcb Einion!" Yn ol a chwi drachefn. Paham: yr ydych yn ga,dael hwnw ? Aethpwvd yn ol yn union, ac er mawr syndod i bawb, dyna lie yr oedd oriawr wedi ei Japio mewn hen gadach poced

LLUEST Y MYNYDD.

.. YSTAFE2X Y MYFYRDOD..

—-' CYWYDD ACTHAU'E, CYBYDD.

LLYFRGELL. Y BWTIIYK