Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. MESUR Y MEISTR A'R GWEITIIIWR. YR oedd y mesur hwn yn cael ei ystyr- ied yn y Ty, sef Ty y Cyffrcdm, yn ei sefyllfa fel pwyllgor, ddydd LInn, 12 fed cyfisol. Dywedodd Mr. Hopwood ef fod ef yn erbyn y gwabaniaeth a wneir, trwy yr holl fesur, rhwng prentisiaid a gweith- wyr. Gadewir prentisiaid i fod yn agored i gael en careharu am dori cy- tundeb. Methodd Mr. Hopwood a chael ei ffordd yn hyn, gan i Mr. Cross dros y Llywodraeth ei wrthwynebu. Dywedocld Mr. Mundella y gellid rhoddi gweithiwr yn y carehar am fis, yn ol adran H, yn y mesur. Cynygiodd efe newid yr adran yn hyn, fel ag i wneud y gosp yn ddirwy arianol. Gwrth wynebwyd ei gynygiad yntau gan Mr. Cross. Parodd hyn ofid i Mr. Forster. Cymerodd Mr. Harcourt yr un olwg ar yr adran. Felly hefyd Mr. Lowe, ac ereill, y rhai y ddywedasant, fod y mesur yn proffesu dileu carchar- iad am dori cf tundeb ar ran gweithiwr, ond yn ei gadw, er y cwbl, mewn ffordd gylchol. Rhanwyd y Ty ar yr adran, pryd y cafwyd 182 o blaid y llywodr- aeth, a 162 yn ei herbyn. Mwyafrif o 20 o blaid y carchariad. Coiied gweith- wyr mai Toriaid oedd y mwyafrif, a bod Rhyddfrydwyr y Ty wedi gwneud en goreu dros y gweithwyr yn erbyn y Toriaid. Serjeant Simon a gynygiodd fod y carchariad am wythnos yn lie am ns. Dywedodd Mr. Cross fod yn ddrwg ganddo ef fod y ddndl wedi cymeryd y llwybrnchod, a daetli yn foddlon i osod amser y carchariad yn 14 o ddiwrnodau yn lie mi.s. Amlwg yw. ei fod wedi teimlo nad oedd ei fwyafrif yn fawr, a bod aelodau galluocaf y Ty yn ei wrth- wynebu. JHalnvysiadwyd y 14 diwrnod, ond dywedodd Mr. Harcourt y gwrth- wynebai efe yr adran, pan y deuai y mesur drachefn ger bron y Ty. Yr oedd y Toriaid, bach a mawr, o blaid a car- chariad. Ar adran 6, cynygiod Mr. Burt well- iant, i'r prwyl, tod y meistri yn gystal aphrentisiaid yn ddarostyngedig i gar- chariad am dori cytundeb. Gwrthwyn- ebodd Mr. Cross y gwelliant, dan bro- ffesu mai dysgyblaeth y prentis oedd mewn golwg, ac y byddai y meistri yn ddarostyngedig i garehariad os parhaent 1 9 i dori y cytundeb. Ond cadwodd efe, fel gwir Dory, y gwahaniaeth rhwng y meistr a'r gweithiwr yn ngolwg y gyf- raith. Wedi pasio adranau y mesur hwn, daeth mesliry I codspiracy' gerbrou. Y. mae hwn hefyd yn perthyn i'r gweith- iwr. Cynygiodd Mr. Lowe fod nnrhyw berson yn ddarostyngedig i garchariad os byddai iddo beryglu bywyd neu feddianau trwy beidio cadw at eu cytun- deb. Mr Cross yn ei fesur a enwa gweith- iwr' fel yr unig un i gael ei gospi am ei drosedd." Mr. Lowe, fel rhyddfrydwr, a ddywedodd, y dylai y gyfraith fod yr un tuag at gyfoethog a, thlawd, meistr I a gweithiwr. Cynygiodd efe fod per- son "yn lie "workman," yn cael ei roddi yn y gyfraith er mwyn gosod pawb yn gydradd. Gwrthwynebodd Mr Cross, sef y gweinidog Toriaidd, ef, a ehyiaddefodd ef fod ef am arbed y dosbeirth ereill mewn cymdeithas, a gadael i bwys y gyfraith yn ei chosp i ddisgyn ar y gweithiwr. Ei ble ef oedd, fod hyn yn lleihau tiriogaeth cosp. Ys- tyriai hyny yn rhinwedd! Ond os oedd, paham nad yw yn iawn ysgubo y gosp oddiar y gweithiwr gystal a rhyw un arall ? Mr. Harcourt a ddywedodd fod y Llywodraeth yn delio yn anghyfiawn a gweithiwr, trwy gynyg ei garcharu am dori ei gytundeb i weithio nwy i oleuo tref, ac eto yn arbed gwerthwr a dorai ei gytundeb i roddi glo iddo at ei waith. Yn y diwedd, ildiodd Mr. Cross i roddi person yn lie workman. Ni raid diolch i'r Toryaid. Gwelsant fod ymenyddiau Rhyddfrydwyr yn drecli na h-wynt. Er y cwbl, mynodd y Toryaid gadw ystyr y gyfraith i fod yn gymhwysiadol at y gweithiwr, yn fwy neillduol ha neb arall. Ac wedi rhanu y Ty ar y mater, a chael mwy- afrif o 19, gorfoleddodd yr holl Dory- aid eu bod wedi cario y dydd i wneud un gyfraith i'r tlawd, sef y gweithiwr; ac un mwy ffafriol i'r cyfoethog, sef i'r meistr. Mewn rhan arall o'r mesur oeisiodd Mr. Lowe i'r meistr gael yr un gosp a'r gweithiwr am dori cytundeb. Ond gwrthwynebwyd ef gan y Toryaid ar hyn, a chawsant 25 o fwyafrif. Ar adran 5, cynygiodd Mr. Mac- donald dynu all an y geiriau an em- ployer or workman," a rhoddi any person" yn eu lie. Cytunodd Mr. Cross a'r cynygiad, am nad oedd yn gwneud dim gwahaniaeth yn ystyr a chymhwysiad y geiriau. Bob yn dipyn argyhoeddir gweith- wyr a phawb, mai cyfeillion gormes ar weithwyr a chydwybodau yw y Toryaid. Nos Wener, ystyriwyd y mesurau uchod yn mhellach yn y Ty. Dywed- odd Mr; Cross, ei fod wedi deall trwy yr ymddyddan rhyngddo ef a'r meistri a'r gweithwyr, fod y ddwy blaid am setlo eu dadl i foddlonrwydd pawb. A chynygiodd fod cyfraith 1871 i gospi gweithiwr am dori ei gytundeb yn cael ei dileu. Ond cynygiodd fod gweith- iwr yn cael ei gospi a charchariad am dri mis, os byddai iddo rwystro rhyw un arall i weithio. Gwrthwynebwyd y cynygiad hwn gan Byddfrydwyr. Ond dywedodd Mr. Macdonald ei fod yn meddwl fod Mr. Cross yn amcanu gwneud tegwch. Pasiwyd y cynygiad. Y styriodcl Hhyddfrydwyr fod y cynyg hwn, yr hwn a basiwyd, yn waeth na chyfraith 1871, yr bon a ddilewydgan Mr. Cross. Amcan y Rhyddfrydwyr yn y ddadl, oedd peidio gwneud un gyfraith i gospi gweithiwr, a chyfraith arall i arbed y meistr am yr un trosedd. Ac er fod cosp i fod am rwystro dynion i weithio, fel yn neddf 1871, eto nid yw y gwahaniaeth rhwng meistr a gweithiwr yn cael ei gadw fel yn y ddeddf hono. Ilyn yw y fantais. Ond yn ngweithrediad y gyfraith, diau mai y gweithiwr yn unig a gospir am y trosedd. Dyma un o ffrwythau llyw- odraeth Doryaidd.

SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.

♦ .DYRCHAFIAD I GYMRO.

>1—— Y FASNACH HAIARN.

Y GWLAWOGYDD DIWEDDAR, A'R…

. DAU DDYN WEDI EU LLADD AR…

DAMWEINIAU ANGEUOL AC r HUNANLADDIADAU.

. CAERDYDD.

. AT LOWYR GWAUNCAEGUR-WEN,…