Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. Y PAB A LLYWODRAETH PRYDAIN. YN Nhy y Cyffredin, nos Iau yr 8 Cyfisol, gofynodcl Mr. DILLWYN, aelod dros Abertawe, gwestiwn tra hynod i Mr. DISRAELI, y Prif Weimdog. Go- fynodd iddo a oedd efe wedi sylwi ar eiriau Lord Chief Justice yr Iwerddon, yn mis Chwefror diweddaf, gyda golwg ar y Pab. Dywedodd fod yr Arglwydd PrifYnad wedi dadgan ei farn fod Cardinal CULLEX wedi cael ufydd- dod i archiadeb (rescript) y Pab, gan Ddirprwywr Addysg y Llywodraeth Prydeinig yn yr Iwerddon, a bod caplanau Pabyddol, er en bod yn cael eu hapwyntio i'w gwaith mewn cysyllt- iad ag addysg, ac yn cael eu talu gan Lywodraeth Prydain, yn dal eu Ueoedd wrth ewyllys y Pab, yn annibynol ar unrhyw awdurdod Ileol neu esgobaeth- ol. Gan hyny, y mae yr awdurdod uwchaf yn y mater hwn, nid yn llaw y Frenines, na neb a apwyntia bi, ond yn llaw y Pab." Yn ngwyneb dywed- iadau fel hyn, gan brif farnwr yr Iwerddon, gofynai Mr. DILLWYN pa fodd yr oedd y llywodraeth yn myned i amddiffyn hawliau personau mewn lleoedd cyhoeddus, a gweinyddiad llyw- odraeth y wlad, rhag rhwystrau oddi- wrth ymyraeth y Pab, nac tinrhyw awdurdod tram or arall. WMr. Disraeli, wrth geisio ateb, a ddywedodd, nad oedd y treial, yn mha lin y defnyddiwyd y geiriau uchod gan y Prif Farnwr, wedi dibenu ato. Dy- wedodd hefyd os ceffid digon o brawf fod unrhyw awdurdod tramor yn ymyr- aeth a gweinyddiad llywodraeth y wlad hon, bydded y Pab neu rywun arall, y teilyngai ystyriaeth fwyaf pwysig. Ond nid yw ateb Mr. Disraeli yn un boddhaol ar y fath mater. Y mae pawb yn gwybod hyny—hyny yw, pawb y mae eu gwybod aeth am Babyddiaeth yn werth sylw—yn gwybod yn berffaith am gynlluniau llecbwrus Pabyddion i gyrhaedd aw- durdod ar y wlad hon. Eu holl am can yw cymeryd gafael yn holl awenao llywodraeth Prydain. Hyny oedd eu hamcnn wrth dwyllo Rhyddfrydwyr y wlad hon haner can mlynedd yn ol i gredu y byddent yn ddeiliaid ffyddlawn i orsedd Prydain, beih bynag a ddy- wedai y Pab. Cymcrodd esgobion Pabyddol lwon difrifol o flaen pwyllgor seneddol, i'r perwyl hwn, cyn cael rhyddid i fod yn aelod au Ty y CyftYed- in, fel y dengys Mr. Gladstone yn ei waith ar Faticaniaeth. Dengys efe fod yr esgobion hyny wedi twyllo seneddwyr a llywodraeth Prydain Fawr, oblegyd y maent wedi hyny, wedi dad- gan mai ufydd-dod i'r. Pab yw eu dyled- swydd cyutaf, hyd y nod pe bai y Pab yn cyhoeddi rhyfel yn erbyn ein brenhinesni. Dywedodd llawery pryd hwnw y caffai pobl y wlad hou eu twyllo yn yr esgobion Pabyddol, or eu llwon. Yn ngwyneb fteithiau Mr. Gladstone ar y mater hwn, y mae Dr. Newman, prif amddifrynycld Pabydd- iaeth, mewn atebiad iddo, yndwtyd na ddylasai pobl Prydain gredu yr esgob- ion Pabyddol, nad oedd neb ond y Pab mewn awdurdod i ddweyd am natur a thuedd Pabyddiaeth, a rhwymedigaeth aelodau eglwys Babjddol. Y mae llawer trychfilyn rhyddfrydol we ii dirnad fod yr Eglwys Babaidd fel eglwysi ereill, yn newid gyda'r oesau, ac yn cael ei gwareiddio gyda'r oesau. Ni wvr y rheiny ddim am hanes nac egwyddoiron Pabyddiaeth fel y gosodir hwynt allan gan Pascil yr athronydd anfarwol, a chan Mr. Gladstone. Anghyfnevndiolcleb yw un o briodoleddau hanfodol Eglwys Rhufain yn ol ei honiadau hi eu hun. Newidia ei ffurf o dwyllo dynion i fod yn ddysgyblion iddi, i ateb i'r amgylch- iadau, fel y dywedodd Dr. Duff amser yn ol, fod offeiriad Pabaidd wedi twyllo esgob yn Eglwys Loegr i gredu ei fod yn Brotestant; ac wedi iddo felldithio y Pab er mwyn twyllo, cafwyd allan ei fod wedi cael pardwn gan y Pab am wnend hyny, fel modd- ion i arwain Eglwyswyr yn y diwedd i'r Eglwys Babaidd. Yn amser D. O'Connell, yr oedd Rhyddfrydwyr y deyrnas yn siarad yd uchel am Babyddion, am eu bod y pryn hwnw yn proffesu Rhyddfrydiaeth. Gwnaethant hyny pan y dadsefydlwyd Eglwys yr Iwerddon, gan fod hyny yn ateb eu pwrpas hwy. Y mae P. Hen- nessy, M.P. wedi ysgrifenu erthygl, yr hon a ymddengys y mis hwn yn y Contemporary Ilevieio, i geisio dangos fod y Pabyddion a"r Toriaid i fod yn frodyr, a'u bod felly er ys oesoecld. Pabydd yw Hennessy. Ond pe bai Rhyddfrydiaeth eto yn y Senedd, a mwyafrif y grant tucefn iddo, bvddai y Pabydd yn eithaf cyson ag ef ei hun i ddweyd mai Rhyddfrydwyr yw ei blaid ef. Y maeefe yn bob peth yn mhob gwlad mewn ymddangosiad, i ateb ei bwrpas ei hun. Aiff i addoii yr eilun dduw yn China, yn Brahmin yn India, yn bleidiwr i addysg ac i bob math o ljfrau mewn gwlad rydd, ond pregetba lie y caiff y mybl yn ei law ei hun "mai mamaeth duwioldeb yw anwybodaeth." Frofir byn yn y fiaith yn ol y census yn I tali, fod oddeutu 16,000,000 allan o 22,000,000 trigolion Itali, heb fedru darllen, er fod addysg y wlad hono wedi bod dros ddeuddeg cant o flynyddau yn Haw Eglwys Rhufnin, a phrofwyd yn ddiweddar yn Nhy y Cyffredin, fod addysg yn yr Iwerddon, yr hon sydd gan mwyaf yn llaw y Pabyddion, yn us nag mewn un rhan o'r gyfunol deyrnas. Y mae yn eithaf eglur os caiff y Pabyddion ei fiordd i dwyllo pobl y glad hon, nes cael yr boll awdurdod i'w llaw eu hunain, y byfld terfyn arryddid cydwybod, a sicrheir teyrnasiad nos paganiaeth.

Y GYNADLEDD YN LEEDS.

Advertising

SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.

MASNACH HAIARN CLEVE-LAND.

DAU DDYN WEDI EU LLADD YN…

Y COLLEDIG AR Y WYDDFA.

DAMWAIN ANGEUOL GYDA CHERBYD.

PRIF YSGOL CYMRU.

[No title]

CYNDDEIRIOGRWYDD.

CWMAMAN, SIR GAER.

CYSTADLtjUAETH SAETHU.

PEMBREY.

PENMAIN—GWYL IFORAIDP.

MYNYDD Y GARTH.