Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. Y SENEDD. MESUR Y MEISTR A'R GWEITH- IWR. RHODDASOM ddesgrifiad o'r mesur hwn o'r blaen, fel y gosodwyd ef ger bron Ty y Cyffredin gan Mr. Cross, pan y darllenwyd ef y waith gyntaf. Dar- llenwyd ef yr ail waith yn y Ty yr wythnos ddiweddaf, pryd y bu dadl go eglnrhaol ar ei natur a'i duedd. Siaradodd Arglwydd Montagu fel y gallesid dysgwyl i Babydd Ultramon- tanaidd wneud. Ceisiodd ddangos mai amcan y mesur yw dyfetha undeb- au gweitbwyr. Nid oes dim yn fwy twyllodrus na siarad Pabyddion yn nghylch hawliau gweithwyr. Y mae gwadiad "right of private judgment" yn hanfodol i Babyddiaeth; ac nid oes neb wedi gormesu gweithwyr yn holl oesau amser yn fwy na'r Pabyddion. Nid oes braidd un ffurf o ormes, mewn arfer na deddf, trwy holl Ewrop yn bresenol nas gellir ei olrhain i ffynon- ell Pabyddiaeth. Y mae y Pab ei hun wedi melldithio pobl Rhufain filoedd o weithiau am gymeryd y rhyddid i ddewis llywodraeth Victor Emmanuel o flaen ei lywodraeth ef; ac y mae yn gwneud ei oreu y 'mynyd hwn i osod cadwynau tynion am gydwybodau gweithwyr a phawb yn Spain. Y mae wedi gwneud ei oreu i ddyfetha gwerin- lywodraeth ryddfrydig Spain, yr hwn a weinyddid am amser gan un o wleid- iadwyr goleuaf Ewrop. Y mae yn ymdeimlo a'r ymgeisiwr mwyaf gor- mesol yn Ewrop yn ei ymdrech i osod ei hun ar orsedd Ffrainc ac ymladda a'i holl egniynerbyn pobrhithianto ryddid gwladol a chrefyddol yn Itali, Awstria, a Germani; ac yn wir, yn mhob gwlad lie y gall efe ddylanwadu. Y mae offeiriaid Pabyddol yn y deyrnas hon ar y School Boards," acyn mhob cysylltiad, yn cydweitbio yn egniol a Thoriaid gormesol yn mhob peth. Y mae, gan hyny, yn dan ar gnawd un dyn sydd a llygad yn ei ben, i sylwi ar ragrith Jesuitaidd Pabyddion, fel Ar- glwydd Montagu a Cardinal Manning, pan y proffesant gydymdeimlad a gweithwyr a'u hundeb. Digon tebyg y byddai yn dda ganddynt hwy ber- swadio gweithwyr i fod yn Babyddion, er mwyn eu cynhyrfu fel y Gwyddelod i wrthryfela yn erbyn llywodraeth Prydain, tra y byd do y llywodraeth yn un Brotestanaidd, fel y ceisia y Pab a'i blaid ryfela yn erbyn Ymherawdwr Germani, am ei fod yn Brotestant. Arfer y Pab a'i blaid yn mhob oes, yw cefnogi gwrthryfel yn mhob gwlad, os nabydd efe yn dalawenau llywodraeth ywladhono. Felly y gwna yn awr yn Spain. Felly hefyd y. gwna yn awr yn Ffrainc hyd y gallo. Er fod Mr. Lowe yn cymeradwyo mesurau y llywodraeth gyda golwg ar feistri a gweithwyr mewn llawer o bethau, dangosodd fod diffygion yn- ddynt. Dywedodd efe," Y mae rhoddi i lys gwladol awdurdod i orfodi dyn i weithio i feistr am flwyddyn, yn egwyddor caethwasiaetli, cwbl groes i ysbrydiaeth ein deddfau a'n sefydliadau ni. Y mae y llywodrath yn dileu yr egwyddor hon o'r gyfraith. Eto, fel j mae y mesur yn sefyll, os gwneir ef yn gyfraith, bydd yn bosibl cafcliaru gweithiwr fel am ddyled, os na cheidw efe at ei gytundeb, os bydd yn methn talu i gwrdda cholled y meistr yn ei waith. Yr oedd efe, Mr. Lowe, am ddileu y gosp o garcharu yn hollol mewn cysylltiad a'r gweithiwr na byddai yn cadw at ei gytundeb. Gwrthwynebai efe gyfreithiau a ffafr- iant un dosbarth o ddynion yn fwy na'r Hall. Dywedodd ei fod yn erbyn picketing, sef gorfodaeth gweithwyr ar eu gilydd i'w cadw allan o waith* Dangosodd fod y fath ymddygiad yn ormes ar ryddid dyn i weithredu yn ol ei gydwybod ei hun." Dywedodd Arglwydd Elcho mewn atebiad i Arglwydd Montagu, nad oedd gweithwyr yn y wlad hon yn credu yn anffaeledigrwydd Trades Unions mwy nag yn anffaeledigrwydd y Pab. Mr. Macdonald a ganmolai y llyw- odraeth am y mesurau a ddygodd i mewn yn nghylch y meistri a'r gweith- wyr. Cwynai fod y gyfraith fel yr oedd o'r blaen yn arwain y gweithiwr, a dorai ei gytundeb a'i feistr, i gar- char. Gobeithiai efe y byddai y llyw- odraeth yn gofalu i wneud cyfraith a ataliai weithwyr a meistri i rwystro dynion i weithio os ewyllysient. Mr. Cross, awdwr y mesurau, a ddy- wedodd, pe gallai efe ddwyn meistri a gweithwyr i ystyried a chredu fod elw y naill yn elw i'r llall, y byddai rhyw ddaioni yn cael ei gyflawni. Ystyriai efe fod yr hyn a ddywedodd Arglwydd Montagu yn anwireddus, anghyfiawn, a chrintachlyd a cbafodcl uchel gymer- adwyaeth y Ty pan y dywedodd hyn. Ei farn ef oedd fod gweithwyr yn dy- oddef yn anghyfiawn trwy y gyfraith sydd yn gwneud eu cytundeb hwy a'u meistri yn wahanol i gytundebau ereill. Yr oedd efe yn erbyn "criminal con- tracts," sef cytundebau ymae cospper- sonol am eu tori. Yr oedd efe am edrych arnynt fel civil contracts yn unig. Ymddangosai y ddwy blaid yn y Ty yn llawen fod y mesurau wedi cael eu cynyg. Pasiwyd hwynt yr ail waith yn unfrydol. Diau y byddant yn gyf- reithiau yn luan. Byddai yn fuddiol i weithwyr Cymru i ddeall y mesurau hyn yn eu hiaith eu hunain. Ymdrechwn iddynt gael y fantais hon. +

CYFARFOD CYNRYCHIOLWYR Y GLOWYR…

PRIF YSGOL CYMRU.

SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.

TREISIO MENYW AR FYNYDD ABERDAR.

COED-DUON.—WEDI EI GAEL YN…

DAMWAIN OFNADWY MEWN GLOFA…

CYFARFOD 0 LOWYR YN Y "BRISTOL…

YM WE LI AD MR. EDWIN ROBERTS,…

TRI 0 DDYNION WEDI EU LLADD…