Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
--'-'-'_.. Y COR MAWR.
Y COR MAWR. BIT llawer o siarad am weithrediadau a gorchestion a gyflawnodd y Cor lYIawr yn Llundain; ond er cymaint o sylw a gafodd ar y pryd, a'r clod a roddwyd ar benau y rhai oedd yn cyfansoddi y cyf- ryw, eto, erbyn hyn y mae y cyfan wedi marw, a dinpd gyda'r Cymry yw adgofio am y gweithrediadau. Yn ol fy marn i, nid wyf yn meddwl fod cenedl y Cymry yn ddigon gwladgarol, neu buasai gan- ddynt rywbeth yn adgofio am orchestion y tadau, oblegyd teimlad anwyl a gwlad- garol a beri i'r galon fynwesu ac i ad- gofio am y gorchestion a gyflawnwyd. I rY Crwelir ceucdloedd ereill yn cadw eu gwyliauyn flynyddol ac yn ganflynyddql. Jifawr ydyw trwst y Gwyddelod am ei gwyl hwy, a phawb yn ei chadw fel pe byddai yn fater bywyd pe gwneir yn amgen. America eto yr un fath. Cy- maint yw en trwst yn bresenol am en gwyl gimftynyddol, a bernir y bydd hon yn un o'r gwyliau mwyaf a fu erioed, ac yn glod i'r Americaniaid am en chwaebh rhyddfrydol, gan mai adgoffa am en han- nibyniaeth ydyw amcan yr wyl. Hefyd mwy na thebyg ybyddy Cor Mawr, neu o leiaf ran o hono, yn myned drosodd, yr hyn fydd yn gyfle da i berthynasau gael cyfarfod a'u gilydd. Gall y plant sydd yn America anfon am eu rhieni, a rhieni a phlant sydd Y110 anfon am frodyr a chwiorydd, y rhai a garent yn fawr fyned drosodd, and yn bresenol yn rhy dylawd. Gan hyny, fobl, dalier ar y cyfle, gan mai dyma, fe ddicbon, yr olaf. Heblaw hyn, byddant yn cael dwfr y mor a chyf- newidiad awyr gogoueddus, a bron mor rhated ag y cawn hwynt yn Nghymru. gan yn ddiamheuol y ceir y cludiad yn 01 a blaen am oddeutu tri gini. Bum yn siarad yr wytlmos ddiweddaf a'r arweinydd mawr, sef Caradoc, a mawr mor frwd ydoedd ei deimlad a'i eiddigedd at y Cymry am na fuasai ganddynt eu gwyl, fel rhyw genedl arall. Caanmolai Gvmry ein Senedd i'r neb el- ion am en dewrder yn gwisgo y geninen ar ddydd Gwyl Dewi diweddaf, ac yr oeddwn yn hollol gydolygu ag ef; o herwydd paham nad allwn ni ymffrostio yn yr wyl hon fel y gwna ereill yn eu gwyliau? Gallwn, meddaf; gan hyny, ati, fobl, ar unwaith, a dyna gyfle da i'w chael ar y laf o fis nesaf yn hen Gastell Caerffili, a chael y Cor Mawr i wasanaethu ar yr achlysur. Bydd hyn yn dreat campus ac adloniant meddyliol, yn nghyd a dangos i'r byd ein bod yn rhywbeth mwy na chaethweision. YSTRADFAD.
T WILLIAM TAWENFRYN" WILLIAMS…
T WILLIAM TAWENFRYN" WIL- LIAMS A MAB IEUANGAF YR "HEN WR O'R CWM." YR HEN BAB YN FYW 0 HYD MAE rhyw ysbryd gwagoneddgar, hunan- ol ac uchelgeisiol yn greddfweithio mewn rhif luosog o breswylyddion ein planed ni drwy bob oes, gwlad, cenedl, a sefyllfa. Ymhyfryda'r ysbryd mewn anghyfiawn- der, crechwena ar waed, a gwna loddest argelaneddaudynion. Pe bnasem ddim ond olrhain achosion yr holl rhyfeloedd a'r tywallt gwaed sydd wedi bod o foreu oes y byd hyd yn awr, caem olion gwag- ZD ogonedd, hunanoldeb, ac uchelgais yn eu hagweddau oil. Eto y rhyfeloedd newyddiadurol yma (pa rai sydd yn eu hangherddoldeb y dyddiau rhain) maent yn gwbl dan ddylanwadau yr ysbryd uchod. Ceir gweled yn y newyddiadur hwn ryw Golia anferth yn cyniwair dan guro'r awyr mewn modd herfeiddiol, ac yn herio holl gewri'r byd i ryfel ag ef. Yn y naill, y mae un o fechgyn hoew athrylith yn ymgodymu a'i gyfoedion er dangos i'r byd ei ragoroldeb arnynt oil, ac yn y Hall mae'r broga bach a'i ffrae wyllt ac enllibaidd, yn ymegnio hyd ei ben a'i glustiau am y fuddugoliaeth, sef gwagogonedd, hunanoldeb, ac uchelgais. Rhyfedd y fath ffyrdd, onide, sydd i enogrwydd; ond eto, mae'r enwogrwydcl' uchod fel glaswellt pen tai yn gwyw cyn y tyner ef ymaith, pydra a difoda gyda'i feddianwyr. Nid oes y gydmar- iaeth leiaf ynddo i'r enw da y sonia y Pregethwr am dano; mae hwnw mewn bri, ac yn peraroglu am oeeau ar ol i'w feddianydd falurio yn y graean. Nid peth amserol ydyw gwir enwogrwydd, na, canys y mae tragywyddoldeb rwydd yn perthyn iddo. Ond rhaid gadael y cy- feiriad yna y waith hon, a myned gyda'r Chief Gangs i'r maes rhyf el bapyr, gydag ystyried fy hun yn eithaf hero, ac yn cyfateb y byd enwog Tawenfryn Williams a'i alluoedd. Yn awr, gewri llenyddiaeth, bechgyn hoyw athrylith, a'r brogaed bach, cynghorem chwi i droi o'r maes, a gwneud brys i chwilio am noddfau yn nhyllau'r ddaear ac ogfau'r creigiau, tra fyddo gwahanol off.jryaau dinystr y ddau hero yn cael eu ¡ perfEormio; canys bydd v y cleddyfau yn liniog, y pieellau yn llymion, a'r gwahanol offerynau tan yn gwasgar yn j anithrol yn mhcb cyfeiriad yn mhoeth- ¡ der y frwydr, yr hon ni ba ei hail o'r blaen, a diau ni bydd chwaith. Mae fy mdjxafops yn fy hysbysn fod gan fy j ngelyn fores cedyrn rhyfeddol I'm gwi'th- I sefyil, y rhai ydynt chwech mewn nifer, heblaw rhyw gloddiau by chain a dibwys ereill. Dyma'u henwau—En- llib, Ymresymiad, Gwall-iaith, Xad-a'r- ¡ Mab, Ymneillduaeth, ac Enw Priodol. Ond gall fod yn sicr nad ydynt oil yn peri fawr arswyd i mi, ac ni wnaf sylw o honynt chwaith, oblegyd nid ydynt ond gwegi yn fy ngolwg, er y gallai wagla dipyn oddeutu yr Enw. Ond am ei YiKTieillda^^t-hj ca siomiant y fan hon. oblegyd nid Tarian Ymneillduaeth" yw, ond TABIAN Y GWEITHIWR. Ond heb fyned yn mhellach, ni waith i mi ddweyd y gwir na'i gelu; hyny yw, y mae arnaf chwant beddwch; canys pan wyf yn defnyddio fy ngalluoedd ystyriol ac hunanymholiadol, yr wyf yn eu cael yn ymdrabaeddu gyda'r anifail direswm yn lie gyda'r bodau hyny sydd yn ymegnio at adael y byd mewn gwell ¡ sefyllfa nag eu cawsant ef. Felly, yn hytrach na gwneud gwastraff ar y trysor gwerthfawrocach nag aur pur, sef amser, deisyfaf amodau heddwch tra ar y ffordd gyda'm gwrthwynebydd; canys nid oes dim i'w enill wrth godi crach ac ymgecran, ond gelynion llidiog a chalon arthes a phe baech chwi ddim ond cymeryd fy nghyngor, gyfaill, chwi a ymosodech ar y pwnc ac nid ar y person yn y dyfodol, os byddech yn can- fod galw am hyny mewn rhyw gyfeiriad. ¡ Gallaf eich sicrhau nad oedd yr Hen Wr yn ymosod ar y pwnc gyda'r medd- -L 0 I wl lleiaf o godi gwaed y Dyffrynwyr idd eu hwynebau: ei unig amcan oedd gwellhau ychydig ar hen arferiadau di- alw a gwrthun sydd eto yn fyw yn y Dyffryn, a ddylasent fod wedi eu claddu mewn anghofus dir er ys blwyddi Jawer bellach. Gwelaf fy ysgrif wedi myned yn faith, gan hyny, rhaid tynu pig y waith hon gydag addaw bod yn barod i ymgomio a Tawenfryn unrhyw bryd ar nnrhyw bwnc a fo o fewn ein cyrhaedd, os yw fy nghyfaill yn addaw bod yn foesgar a boneddigaidd, yr hyn nid yw bob amser. Hyderwyf y gwnewch faddeu fy hyfdra arnoch y wa-ith hon. Bydd fy llith nesaf ar wylnosau ac angladdau y DySryn, os yn dderbyniol gan y Gol., canys ni wnaeth fy nhad ddim ond eu coglais. Diau y bydd ych- ydig ymdriniad arnynt yn fuddiol ac adeiladol i lawer o ddyffrynwyr heblaw Ddyffrynwyr Tawe. Yr eiddoch yn foesgar, MAB lEUANGAFYR HEN WR O'R CWM. O.Y.E.—Yr enw priodol. Diau y gwna fy ffugenw priodol inau y tro; oblegyd y mae iddo fwy o boblogrwydd nag eiddo Tawenfryn, a hyny am y rhes- ymau canynol:—Yn flaenaf, dim ond un ffugenw fu, ag sydd, genyf fi, tra mae gan T- dri yn adnabyddus i mi, sef "William Morganwg," Gwilym o'r Bont," a W. Tawenfryn Williams." Yn ail, mae fy fiugenw yn adnabyddus yn y byd llenorol a'r cerddorol, ac yn nghylch eglwysig ac ymneillduol. Yn drydydd, fe'm hadwaenir mewn cyfar- fodydd ysgolion gan blant y swn a'r sylwedd, a hyny pan fyddo fy mherson yn absenol. A oes nodyn nen linell o eiddo Tawenfryn yn y cylch uchod ? Credwyf nad oes, ac eto, nis gallaf honi fod dim yn amgen na chleren-lenor, bardd, a cherddor. Yr eiddoch yn gy- wir,-TELoR TAWE.
GAIR AT Y PARCH. MR. THOMAS…
GAIR AT Y PARCH. MR. THOMAS TREHAFOD, A MR. J. DANIELS' BRYNHYFRYD. YR wyf yn cysylltu y personau uchod a'm hysgrif am mai hwy yn fwyaf neillduol a'm cyhuddant o fod yn awdwr yr ysgrif a ymddangosodd ar du- dalenau eich newyddiadur ychydig wyth- nosau yn ol, o barthed i Eisteddfod y Gyfeillion. Nid wyf, ac ni fum erioed yn cymeradwyo ysgrifau o'r cyffelyb natur. Y mae fy mharch i gysegredig- rwydd tj/eimlad yn rhy angherddol i hoffi nodiadau o'r fath a wnawd yri yr ysgrif dan sylw, ac fel y cyfryw, nis gall- af ddyoddef cael fy nghamgyhuddo, a'm galw yn ddyn drwg, sly, a bradwrus. Wedi cael adnabyddiaeth o honof, fe allai y teimlant yn ofidus ddarfod gwneud y fath remarks. Buasai yn relief mawr i'm meddwl pe buasai yr awdwr mor foneddigaidd a chysylltu ei enw priodol wrth ei ysgrif, yn hytrach na chuddio ei hun dan gochl ffugenw. Ond er mai felly ymae, annhegweh ydyw defnyddio enwau neb heb ryw awdurdod dros hyny. Mae cyfiawnder yn galw arnaf i ym- ryddhau oddiwrth y cyhuddiad. Nis gallaf wneud hyny heb fod yn llym, am fod anwireddau wedi ymlusgo i'r dra- fodaeth. Ar y cyntaf, delid Meton yn gyfrifol am dani, ond ymryddhaodd yn llwyr oddiwrthi; yna cyhuddid Mr. Morgan Morgan o fod ei hawdwr. Aeth yntau trwy yr un seremoni a Meton, a chyhoeddwyd ef yn ddieuog. Erbyn hyn, ysgydwir y fflangell uwch 0 fy mhen inau. Ni raid cael sylwedydd llygadgraff i ganfod fod priodoli yr un ysgrif yn gynyrcb tri pherson ar wahan yn bradychu medr beirniadol. Mae methu ar y cyntaf a'r ail yn profi y posibl- rwydd o fethu ar y trydydd. Cyn sylwi ar y prawfton ddygir yn fy erbyn, erfyn- iaf yr un tegwch ag a ga y criminal gan yr a.wdurdoda.u gwladol, sef cael fy ys- tyried yn ddienog nes y profir fi yn euog. Prawf laf.Fy mod wedi dweyd nad Meton ydoedd yr awdwr. Y mae y dy- wediad hwn yn bobpeth ond gwirionedd. Ni ddywedais erioed y fath beth. Mae anwiredd wedi ei gysylltu a'u prawf cyntaf. Gwyr Mr. Daniels yn eithaf yr ymddyddan fu rhyngom am Meton. Ond a chaniatau i mi ddweyd nad allaswn ganfod arddull Meton ar yr ysgrif, a brofai hyny mai myfi ydoedd ei awdwr ? Os felly, rhaid mai Meton ydoedd yr awdwr; canys sicrha ef nad myfi a'i hysgrifenodd. Sicr y dylai darllenwyr y DAMAN ymfalchio am enghraifft o'r fath curiosity rhesymegol. Prawf 2il.—"Am i mi awgrymu mai Mr. Morgan Morgan ydoedd yr awdwr." Erbyn hyn, y mae yr argument cyntaf wedi cymeryd ei aden. Mae dweyd mai Morgan ac nad Meton yn profi yr un peth. Pro and con yn esgor ar yr un conclusion! Rhaid mai conjurors ydynt fy nghyhuddwyr!! Gallant wneud dim o bob peth, a phob peth o ddim ond er y cyfan, y mae gonestrwydd yn fy ngor- fodi i ameu dilysrwydd y dywediad hwn eto. Mae y ddau osodiad yn cynwys an- wireddau noethion. Prawf 3ydd.—Fod Morgan, wedi gweled yr ysgrif yn y swyddfa, yn satis- fiedmai myfi a'i hysgrifenodd." Amheu- af y posibilrwydd i Mr. Morgan, neu un- rhyw expert arall i roddi barn o awdur- dod ddiamheuol ar y mater o dan yr am- gy]chiadau; oblegyd yn laf, nad oedd y cyfaill wedi gweled fy llawysgrif am am- ser maith yn flaenorol i hyny. Yn 2il, -Ei fod yn rhoddi barn ar yr ysgrifau yn absenoldeb copy o'r naill i'w cymharu a'r 11 all, yr hyn feddyliwyf a gydnebydd pob meddwl ystyriol a goleubwyll yn hanfod beirniadaeth gywir. Yn 3ydd,— Ei fod yn gwneud y cyfan o dan duedd- iad rhagfarnllyd tuag ataf. Aeth i fyny i'r swyddfa yn gwbl argyhoeddedig mai myfi oedd yr awdwr, a dychwelodd yn gyson lag ef ei hnn; ond paham? Am iddo gael ei arwain i gredu hyny trwy ddylanwad annheg, a hyny yn gwbl an- ymwybodol iddo ei hun. Dyna eiriau Mr. Morgan. Yn ngwyneb y dystiolaeth hon cynygiais lythyr i Mr. Daniels, fel y gall- ai ei gymharu a'r vsgrif wreiddiol; ond gwrthododd hi, gan ddyweyd na chred- odd ac na choelia byth fy mod yn euog o'r cyhuddiad, a dyma yr unig reswm na chydymffurfiais a'r 4ydd prawf, ac ym- ryddhau drwy yr un dull a'm cyfeillion ereill. Derbyniais air Mr. Daniel fel sier- wydd ei feddwl, ond ymddengys fod eithriadau i hyny, fel llawer o bethau ereill. Wrth sylwi ar y fath anwireddau a ddywedir yn nghyda'r hwyrfrydigrwydd deimla i gredu yr hyn a alwn i yn wirion- edd, tueddir fi i ofyn yn ngeiriau Pilat, Pa beth yw gwirionedd ?" Gallaf sicr- hau trigolion Trehafod fy mod yn hollol rydd o'r cyhuddiad, a beiddiaf alw yr Hollwybodol yn dyst o'm diniweidrwydd Rhondda. DANIEL TIIOMAS. [Y mae yn ddrwg genymi'r ysgrif erioed gael ymddangos; ond yr ydym yn sicr nad ysgrifenodd y Mr. Thomas hwn erioed o'r blaen i'r DARIAN, ond go- beithiwn y gwna o hyn alIan.-GoL. ]
MAE NHW YN DWEYD.
MAE NHW YN DWEYD. MAE nhw yn dweyd fod y Cor Mawr yn myned tuag America cyn hir os y cant ddigon o gefnogaeth. Mae nhw yn dweyd fod R. Fother- gill, Ysw., A.S., yn bwriadu cadw ei swydd yn St. Stephan am dymhor eto. Mae nhw yn dweyd fod rhyw ysgol- feistr fu yn ma-rchogaeth y Dandy Horse, wedi ei droi o'r neilldu er mwyn marchogaeth Dandy Mare. Mae nhw yn dweyd fod afon Cledd an, sir Benfro, i redeg y ffordd hyn cyn dechreu y gauaf, ac y bydd digon o bysg fres i'w cael yn nghymydogaeth yr Ynys am dymhor maith i ddyfod. Mae nhw yn dweyd, gan fod cyflogau y gweithwyr wedi eu gostwng, y dylai nwyddau cynaliaeth y gweithiwr gael eu gostwng hefyd. Mae nhw yn dweyd y dylai y rhai hyny a alwanteu hunain yn flaenoriaid y bobl gael gostyngiad yn eu cyflogau. UN A'U CLYWODD NHW.
BRYNFAB A PHWYLLGOR EISTEDDFOD…
BRYNFAB A PHWYLLGOR EISTEDDFOD TREHERBERT. "A newid yr Ethiop ei groen a'r Ilewpart,ei frychni ?" Ymddengys i mi fod amddiffynwr y wrypwyligor hwn felyn tynu ei gynffon ato yn ei lythyr diweddaf; felly byddai yn annynol ei daro ar y llawr. Gan hyny, ni a dynwn y ffrwgwd i ben, os caniata i mi wneud ychydig sylwadau fel diwedd- glo. 1. Hysbys y dengys y dyn 0 ba radd y bo'i wreiddyn." Ie, prawf llythyrau D. M. Jpnes. 2. Nid oes un creadur newynog a ddaw a mi i drefn." 3. Nid yw rheswm a gwirionedd wedi cael eu defnyddio i geisio fy nghael i "drefn." 4. Barned y darllenydd pa un o honom sydd ar dir rheswm. 5. Yr wyf wedi profi fy nghyhuddiad- au. 6. Y mae D. M. Jones yn dweud na. 7. Pwy sydd yn difrio ?" 8. Y mae D. M. J. wedi fy nghyhuddo o ddweyd anwiredd. 9. Y mae wedi methu profi hyny. 10. Ymae D. M. J. wedi ei ddal yn an- wireddus yn ei "rwyd ei hun." 11. Pwy wyr faint yn ychwaneg o an- wiredd y mae wedi ei lunio. 12. Nid wyf yn myned i ateb gofyniad- au sydd wedi eu hateb genyf lawfer gwaith. 13. Neb ond D. M. J. a wnelai hyny. 14. Rho'wch y lie uchaf i reswm." Satan yn ceryddu pechod. 15. Pa faint duach yw cymeriad y pwyllgor hwn ar ol i D. M. J. fod yn ei wyngalchu? 16. Pa faint ffolach y cyfrifa y wiad D. M. J. ar ol ei ddewrder dihafal yn amddiffyn ei "frodyr yn y ffydd p" 17. Pwy a wyddai o'r blaen fod D. M. J. y fath Hercwlf llenyddol ? 18. D. M.J. wedi gwerthuy dyfyniad- au Seisnig. 19. Yr enw priodol dan sel. 20. Dichon y deillia peth lles o'r ffrw- gwd hon. Yn awr, Mr. Jones, gan eich bod wedi cecran digon yn ddifudd," a fy mod inau wedi cael digon o'ch pethau difudd chwi a'ch brodyr, yr wyfyn gostyngedig gyflwyno i chwi brogramme eich heistedd- fod nesaf, gan eich bod wedi deisyf arnaf wneud hyny.
EISTEDDFOD Y NEWYN.
EISTEDDFOD Y NEWYN. Bydded hysbys y cynelir yr eisteddfod uchod y Groglith nesaf, pryd yr atelir y wobr am y testynau caulynol:— Traethawd—" Y priodoldeb i deiliwr i beidio cael ei dalu am job am fod cysgod gwybedyn arni." Barddoniaeth-Arwrgeldd, Snip," heb fod dan 300 o linellau. Pryddest—" Y Newyn." Can Ddigrif "Y geiriau wedi eu registro." Englyn-" Ariangarwch." Can o glod i D. M. Jones, Ysw.; gwobr, £ 2 2s. Caned y beirdd yn hyderus ar y testyn hwn, gan na atelir y wobr hon am ei bod mewn llaw. Araeth — Swindleriaeth Eisteddfod- ol." Caniadaeth-I'r cor a gano yn oreu Y Danchwa," gan Gwilym Gwent. Y geir- iau i'w cael gan I. Jones, Treherbert, a'r miwsig gan bwyllgor Eisteddfod Tony- pandy. I'r naw teiliwr a ganont yn oreu y solo, "Pop goes the Whistle." I'r tri a ganont yn oreu The Swind- ling Catch." Amodau.—Yr enw prioldeb dan sel i'r ysgrifenydd. Dysgwylir i'r ymgeiswyr i beidio cydymffurfio a'r rheol er mwyn cyfleusdra i'r pwyllgor. Y feirniad- aeth i fodyn agored i gael ei throi i ateb dyben y Sanhedrim a gyferfydd y noson 0 flaen yr Eisteddfod. Gan obeithio, Mr. Jones, y gwna yr uchod ryw ddefnydd i chwi, yr wyf yn gofidio na fuasai genyf hamdden i dynu programme helaethach. Yr wyf yn go- beithio y maddeuwch i mi am beidio dyfod i'ch heisteddfod nesaf. Fy unig rheswm dros beidio dyfod yw fyjmod wedi cael digon o fy newynu." Y mae yn ddrwg genyf fod fy nghyfaill Mr. Jones yn bygwtl| encilio o'r maes. Yr oeddwn yn mwynhau fy hun cystal wrth ei fon- clusto yn ol a'i fenyg ei hun; ond os y caria ei fygythiad i weithrediad, dymunaf iddo bob llwyddiant i ymddysgleirio fwy- fwy yn y gangen ag y mae wedi profi ei hun mor enwog, BRYNEAB. O.Y.-Os dygwydd i chwi gynal eis- teddfod eto, ac i minau gael fy nhemtio i ddyfod iddi, gobeithio na fydd yno yr un saer maen du, barfog i neidio fel llew- partynngafael a fy ngwddfipe dygwyddai i mi amcanu esgyn i'r esgynlawr i dder- byn dim.-B. [Byddwn yn ddiolchgar am yr hyn a addawsoch.—GOL.]
PRIF YSGOL CYMRU.
PRIF YSGOL CYMRU. Dydd Mawrth, yr wythnosddiweddafj rhoddodd Arglwydd Aberdar anerchiad yn y Brif Ysgol yn Aberystwyth, pryd y rhoddodd hanes a chynydd yr ysgol o'i dechreuadyn 1872. Ymaeeibod- olaeth, meddai ei Arglwyddiaeth, i'w briodoli yn hollol i ychydig o Gymry twymgalon, y rhai sydd wedi glynu yn eu hameanion yn ngwyneb pob gwrth- wynebiadau. Wrth anerch y myfyrwyr, cynghorodd hwynt i efelychu Mr, Disraeli, yr hwn, pan ofynwyd iddo gan un o'i etholwyr ar ba beth y safai arno, ar fy mhen," meddai, yn golygu ei fod yn ymddibynu mwy ar ei allu meddylipl nag ar ddim arall. Penod- wyd y Parch J. B. Buckley, Curad Castellnedd, i fod yn ddeon ac yn athraw awdurol. Penderfynwyd fod y gofres o athrawon i gael eu hail drefnu, ac athraw Cymreig i gael ei benodi.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Cyfeiried ein cyfeillion y Beirdd eu hoi Gyfansoddiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol:— MR. W., JONES. (Dafydd Morganwg) Hirwain. Derbyniadau.—' Deigryn Hiraeth ar oIl Mr. John Roberts, Aberamam,' 'Dei- gryn Hiraeth ar ol anwyl blant Mr. William a Catherine Williams,' Tri Phenill i Tomi loan Thomas.' Yr unig wrthwynebiad i'r rhai hyn ymddangos yw annyddordeb y testynau i'r lluaws. Byddai yn fwy gweddus pe argreffid y llinellau ar leni priodol i'w fframio. Ni fyddai y draul o wneud hyn ond ychydig i berthynasau y gwrthddrych- au y cyfeirir atynt yn y penillion. Byddai yn dda genym glywed oddiwrth yr awdwr ar destynau poblogaidd. Marwolaeth J. R., Dincis.—Nid yw yr englyn olaf yn hollol gywir, sef Ar ei ol mae gwraig eiriau-a gwylar Angyles bert anian. Yn annibynol ar hyn, mwy priodol fuasai cyhoeddi y rhai hyngydag hanes y farwolaeth nag yn y golofn farddol. A ganlyn i ymddangos yn eu tro:—Y Meddyg, Y Meddwyn, Y Tafarn, Y Beibl, Cyfarchiad i Marlais, Yr Ar- eithfa, ac Adgof am Eurglawdd. Cofied yr awdwr, pa fodd bynag, mae hen. linell yw'r flaenaf ganddo i'r Areithfa, a bod twyll odl yn y trydydd englyn i Eurglawdd.
Y BLODEUYN.
Y BLODEUYN. Ar foreu teg yn ngbanul haf, Dan wenan haul pelydrog, Mewn gardd mi welais ffod'yn braf, 0 liwiau gwir ardderchog Rhyw ardeb bycban oedd ei bryd 0 ostyugeiddrwjdd nefol, A safai fel i ddweyd wrth fyd Beth oedd y tlws a'r swynol. Llawenydd pur a lenwai'm bron Wrth wel'd ei ragorolion, Ni fedrai celfwyr daear gron Wneud un inor llawn o swynion Datllenir ar ei ruddiau mad Brydferthwch a doethineb Yn wir rhyw nefoedd o fwynhad Oedd syllu yn ei wyneb. Ond awel oer y gauaf du A ddeifiodd ei dlysineb, A'r hwn oedd gynt yn swyno'r llu Sy'n awr dan law rnarwoldeb Er hardded ydyw'r blodau gwiw Ar fynwes haf dymunol, Hen elyn eu prydferth wch y w Y gauafllwm aruthrol. Blodeuyn byehan ydwyf fi Yn mysg y blodau ceinbryd, A'm dail yn ymbelydru sy' Dan wenau gwanwyn bywyd Awelon henaint ddaw cyn hir, A gwywaf inau'u raddol, O! am gael ail flodeuo'n bur Dau belydr heulwen nefol. PERLLANOG.
Y PRYF COPYN.
Y PRYF COPYN. Araf a hwylus ddewr filyn-y ceir Y cywrain Pryf Copyn, Arswydol giogwr sydyn, Wna ei dasg nes synu dyn. PERLLANOG.
Y FELLTEN.
Y FELLTEN. Bywiog fflaohiad buan,-rydd hyf wylltdaith s- Y rhwydd fellten seirian Odywyllwch rhed allan, A nef Duw wna'n fyw o dân. PERLLANOG.
./ i Y LLWYNOG.
i Y LLWYNOG. ir w Rhyw leidr ffals yn twyllo'r wlad—y w llwyn- Llanwa'i dy a lladrad; log,. Ei holl fri yw ei hyll frad, Bawb a'i wylia bob eiliad. IOAN AP PHILLIP.
- DYFOD YN BRYDLAWN I'R ADDOLIAD.
DYFOD YN BRYDLAWN I'R ADDOLIAD. JBuddugol yn Eisteddfod Gefncoedcymer y Nadolig diweddaf. Di ddylet dd'od i addoli—'n brydlon, Heb ryw edlaes oedi; Daw'r mawr haul, daw'r mor heli, Mewn pryd i'w lie,dere di. ABRAM YARDD.
ENGLYN WNAWD
ENGLYN WNAWD Ar ddydd Angladd y Parch. T. E. Bow- lands (Enrglawdd), Caerffili, Ehrill 2,7am, 1875. Dydd blwng, Ow! *eiswng, ias ingawl,-i'r glyn Aeth Eurglawdd goeth, swynawl; Ei syw glodydd dysgeidiawl-Iewyrohant O'i ol a gwynant yn wawl ogonawl. ABRAM VARDD. *Gruddfan, ochain. Gwel G. C. C. Cynddelw.
Y GRAIG DDU,
Y GRAIG DDU, Sefcratg hynod yn Mynyddau y Betws, sir ty Ga&rfprddin. Y Graig Ddu, garw yw gwedd hon,-brenhines, Bryn hynod uwch eigion lach wylia yr uchelion, Gorenwog le uwch Grenig Ion: DEWI GRENIG.
AELWYD LAN.
AELWYD LAN. Un o brif hanfodion cysur Ydyw aelwyd 19.n mewn ty, Tery tant y natur ddynol Arni mewu,gorfoledd cry'; Dyma'r cyfrwng atdyniadol, 7 Gylch pa un yr hofran serch, Mewn awyrgylch bur, ddymunol, Cartref dylanwadau merch. Aelwyd lan a tMn eysurus Welaf yn y bwthyn bach Sydd yn nghosail glyd y mynydd, Fyth yn swn awelon iach Chwery gwrid fel chwaon porphor, Ar heirdd ruddiau'r teulu man, I Tra mae'r tad a'r fain yn dysgu Iddynt rodio llwybrau glâu.