Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Y NOFEL: Helyntion y Bachgen…
Y NOFEL: Helyntion y Bachgen Amddifad NEU EINION HYWEL, BRYNARSWYD. (Buddugol yn Eisteddfod ddiweddar Aberdar.) PENOD I. 0 FYD cynhyrfus. Y mae yr olwg arnat yn dorcalonus, yn enwedig wrth edrych arnat oddiar glogwyn byehan prydferth boreu oes. Y fath gyfnew- idiau, y fath lwybrau ceimion sydd o flaen llawer un. Pan y byddo yr heulwen yn ei gogoniant, ie, yn taflu ei belydrau byw i fynwes anian, dyna yr adeg yn ami y cyfyd tymhestl ofnadwy! dyna yr adeg y flachia y fellden, y rhua y daran, y rhuthra y corwynt nes tafiu y cread bron i lewyg barlysol. Llawer o gyfoethogion a g7y wyd yn gwawdio y tlawd, yn dir- mygu y cardotyn, yn hwtio yr amddi- fad, ac yn barod i waeddu, Pwy fel y ni mewn eyfoeth ac anrhydedd," a syrthiasant fel dail dan effeithiau awelon Hydref. Pryd arall canfyddir y tlawd yn dringo, a dringo nes enill safle uchel mewn masnach. Dynion a'u eymeriadau yn dysgleirio mewn rhinwedd a daioni, a'u holl lwybrau fel cadwyni arian, pob gweithred yn ymddolenu yn y Hall nes cyfansoddi un gadwen ardderchog, a hono yn ddigon cref i dynu hyd yn nod yr amddifad o ddyffryn dwfn dinodedd, i fryn uchel a mawreddog anrhydedd. Dynion nad yw gwrthwynebiadau yn ddim amgen iddynt na chymellion i c;1 anturio yn mlaen ie. yn creu mwy o wroldeb ynddynt i wrthwynebu croesni, ac i enill llawryf buddugoliaeth. 0 Amddifad, y mae seiniad yr enw yn codi gwrid i rnddiau miloedd, ac fel y lloer yn suglo y m6r, ac yn ysgwyd y teimlad nes beri i donau o ddagrau chwalu. ar draethellau y llygaid. Y mae ei hanes bron yn rhy resynus i edrych arno. Weithiau pan byddo y cymylau duaf yn crogi uwch ei ben, a'n coluddion Uwythog yn dryllio, ym- saethu angel ysblenydd megys o fynwes Rhagluniaeth, ac a'i adenydd dysglaer chwala y eymylau, ffrwyna y curwlaw, ac a'i lygaid fflamllyd amneidia ar newyn i ffoi, ac mewn amrantiad dyna ei wybren yn glir, a boneddiges eysur mewn dillad gwynion yn myned i'w gyfarfod, ac a chadach boced dysgleir- iach na'r golenni, yn sychu ei ddagran, ac mewn llais dystaw, ond hynod swynol, yn dweyd wrtho am ymwroli a myned yn mlaen yn galonog, ac yna yn tynu o'i mynwes Fctp bychan bryd- ferth, gan ei agor o'i flaen, a dangos iddo daith hir ac hynod o ddyryslyd. Rhwng y bryniau, dros y moroedd, yn ol ac yn mlaen, i fyny ac i lawr. Ond cyn cael amser i graffu ar y manylion amgylchynir ef drachefn gan ofidiau ac heloulon fel tonau y m6r, ac adgofion am ei fam a dodda ei galon, a boddir ei lygaid mewn dagrau, a chlndir ef i blith dyeithriaid, i'w fradychu gan falais a chenfigen. Ond gyda ei fod yn sibrwd wrtho ei hunain, Onid Duw yw Tad yr amddifad," ym- saetha cenad arall megys oddiwrth orsedd Hollalluawgrwydd, ac a threm- iad ei lygaid gwasgara bob gofid, a dywed, Dal ati, y mae Tad yr am- ddifad yn fyw, ac Efe sydd ynllywod- laefchn pob petb yn y nef ac ar y ddaear, a chai brofi hyny yn bur fynych ar dy daith drwy y byd."
PENOD II.
PENOD II. Ddarllenydd! os mynet gael taith bleserus ac ymddigrifo mewn arsvllu ar geinion anian, dringa i'r cerbyd ac eistedd yn fy ymyl; oblegyd yr wyf yn meddwl talu ymweliad a Dyffryu Eifion. Y mae yn foreu teg a thawel, a'r hen ddaear fel Hogen wen ugain oed," yn llawn prydferthion. Olygfa ys- blenydd Y bryniau fel ymherawd- wyr oesol ar eu seddau sefydlog, a es- gynant i'r nen, a mil-myrdd o flodau amryliw fel boglynau arian yn dys- gleirio ar eu gwisgoedd gwyrddion, a'r Haul gwynias yn nghol gwiwnef" yn taflu ei belydrau byw ar bob llan- erch, nes llanw pob bryn a phant a swyn neillduol. Dyma ni yn awr uwch ben y dyffryn. Ac O! Ie prydferth. Gorweddai fel baban yn nghol y bryn- iau, a chyrhaedda ei wastadedd i lawr hyd at y weilgi, yr hwn sydd o'n blaenau megys tryloew wydr, ac ambell don fechan yn eyfodi, gan chwalu ar y traeth fel pe byddai yn difyru ei hun wrth chwareu a'r cregyu ac a'r tywod. Trwy y gwastadedd eang ymddolenai hen afon Eifion ac 0! fel y mae ei murmur yn llanw y dyffryn a rhyw swyn nefolaidd. Y mae ei dyfroedd fel y grisial: ie, yn ddigon gloew i hndo dyn i'w yfed, a hyny heb deimlo syched. Nid oes yr un arwydd o gy- nhwrf ar ei gwyneb. Dim ond ambell i don fechan hafaidd yn yswilian weithiau ar y gTO, fel pe byddai am gusanu y ceryg wrth fyned heibio, neu dalu ymweliad ag ambell i flodeuyn a dyfai ar y lan. Y mae yr adar yn canu yn union fel pe byddai diwygiad wedi tori allan yn eu temlau deiliog. Yr aderyn du ar un o frigau uchaf y goedwig yn canu ei solo soniarus, nes peri i ni haner feddwl ei fod wedi meddwi ar fiwsig, ac nad oedd yn teimlo beth oedd yn ei wneud. Y derw drachefn, yn nghanol y meusydd meillionog, fel hen gewri cryfion, a ledant eu breichiau preiffion, gan nofio yn yr awelon balmaidd, a'u dail yn dawnsio mewn llawenydd. Ni welaist erioed y fath balasau prydain. Y maent yn ardderchog. Gwel yr hen gastell acw yn cael ei amgylchu a choedydd talfrigog. Dyna Gastell Hywel. Dywedir ei fod wedi ei adeiladu gan un o'r enw Awstin Hywel, a bu yn meddiant y teulu am gyfnod maith ie, nes i'r Yswain Ifan ei gymeryd, yr hwn trwy ddichell a hudodd yr hen Awstin i Lundain, er mwyn cael golwg ar y ddinas freninol," meddai ef. Ac yno, ar un noson, yn nghanol cwmni lluosog, cyfododd Yswain Ifan ar ei draed, a dywedodd y mentrai efe ei ystad y byddai iddo dori unrhyw lestr pridd am y manaf a neb yn y gwmniaeth, ac wrth ei glywed yn herio fel hyny, neidiodd Awstin ar ei draed, a dywed- odd y byddai iddo gystadlu ag ef, ac os collai, y byddai ei holl ystad a'r castell yn myned i feddiant Yswain Ifan, Plas-y-Coed. Wedi selio y cyt- undeb, aethpwyd at y gorchwyl, a'r llestri a gymerasant oeddynt ddwy ddysgl de, ac i ddechreu tarawodd Awstin ei lestr yn erbyn y Uawr nes oedd yn deilchion, a'r Yswain a'i taraw- odd yn erbyn y mur, fel y byddai i'r darnau gael ail ddryllio wrth ddisgyn ar y llawr. Wedi i'r ddau derfyma, rhifwyd y darnau, a chafwyd fod dysgl yr Yswain yn llawer manach nag un yr hen Awstin; ac felly, gorfu i'r hen ffrynd fyned adref o Lundain wedi colli ei holl ystad. Ac 0 deimlad y teulu wrth adael yr hen gastell anwyl. Edrychent yn ol ac wylent yn resynus, a rhwygai y boneddwr ei ddillad mewn edifeirwch am ei ffolineb. Ond wedi y cyfan, rhaid oedd myned a chyflwyno y cwbl i'r Yswain Ifan. Ar y ffordd cyfarfuasant a'r hen wr penllwyd, yr hwn a elvvid Shon y Proffwyd; ac wedi eu cyfarch, dywed- odd wrthynt am beidio wylo, er na chaent byth ail feddianu y castell. Eto, meddai, "Can wired a'ch bod yn fyw y gwelir dydd pan y bydd hiliog- aeth Awstin Hywel yn berchen y castell a'r ystad ond nid oedd neb yn ei goelio; canys ni chyfrifid yr hen Shon yn ei synwyr; ac er i ugeiniau o flynyddoedd fyned heibio, a'r hero Yswain a'i blant gael eu claddu yn mynwent dawel Glyn Addewid, bu y broffwydoliaeth yn huno heb yr un arwydd am ei chyflawniad, a theulu Plas y Coed yn byw o hyd yn y castell, ac enw ei berchenog yn bresenol ydyw Albert Ifan, Yswain. Ust! dacw ef yn dyfod yn ei gerbyd i'n cyfarfod, ac yn ei ymyl eistedda genethig fechan hynod o dlos, a'r awelon megys yn chwareu yn ei gwallt cyrliog. Yn wir, y mae fel y lili yn mysg blodau yr ardd. Drachefn, dacw hen Graig Adgof. Er nad yw yn uchel, y mae amser wedi bod a'i fysedd ewinog yn crafu ei gruddiau llwydion nes ydynt yn rbychiau dyfnion. 0! y fath ys- motyn glas prydferth sydd ar ei bron anwastad, yr hwn a adnabyddir wrth yr enw "Cerlan Cysur." Yn ei gwaelod eilwaith dacw Ogof Ymdrech- fa, yr hon a fu yn noddfa glyd i'r hen Gymry lawer tro, pan y byddai y gelynion yn rhuthro arnynt. Unwaith yr oedd y gelyn, trwy ryw fodd neu gilydd wedi dyfod i wybod -am y lloches. Ond trwy drugaredd daeth • llywydd yr ogof i ddeall hyny, a gorch- mynodd i bawb fyned tu cefn i'r graig, ac ar yr ysmotyn glas y gosododd filwyr i wylio, ac yn y nos clywyd y gelynion yn dyfod, ac mewn bwriad i lwyr ddi- fetha yr hen Frythoniaid, rhuthrasant i'r ogof, ond buasai yn well iddynt beidio, o herwydd amgylchwyd hwy ar darawiad gan y dewinion Cymreig, a lladdwyd hwy bob un ac i gofio am y fuddugoliaeth y galwyd yr hen graig yn "Graig Adgof," a'r Ogof yn "Ogof Ymdrechfa," a'r Ysmotyn Glas, yn Gorlan Cysur." Yn uweh i fyny eilwaith, dacw Brynarswyd, y bwthyn harddaf yn yr holl froydd ac oni bae y creigiau erchyll a amgylchant odrau y bryn, gellid yn eithaf priodol ei alw yn Baradwys Dyffryn Eifion. O'r hyn leiaf ni welsom erioed lanerch dlysach na'r fan y mae y bwthyn yn sefyll. Ac 0 gwel y tri plentyn acw yn chwareu yn yr ymyl.
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. [Nid ydym yn gyfrifol am syniadau a golygiadau ein gohebwyr, ondyr vdym am adael rhyddid barn i bob dyn, a rhyddid ypgrif-bin hefydcnn belled ag y goddef terfynau cyfraith a moes- aldeb.-GoL.l
Y PABYDDION A GWAIIARDD-IAD…
Y PABYDDION A GWAIIARDD- IAD YR YSGRYTHYRAU. MAE yn syn, medd ef yn y DARIAN am Mehefin 4ydd, fy mod yn haeru yn groes i dduwinyddion y byd, ac haneswyr yr oesoedd, &c. Nid haeru yr wyf, ond pi-ofi eu bod yn dweyd anwiredd. Diamheu y cyfrifir Adam Clark, LI. D., F.A.S., M.R.I.A., &c., &c., &c., yn un o brif dduwinyddion y byd, oblegyd y mae cynffon hir iawn ar ol ei enw, ac y mae ei esboniad ar y Beibl yn cael ei ystyried yn un o'r goreuon, ac y mae wedi cael cylchrediad eang yn Lloegr, ac wedi ei gyfieithu gan Idrisyn i'r Gymraeg, ac wedi cael cylchrediad mawr yn mhlith y Cymry hefyd. Wel, y mae digon o wroldeb moesol ynwyf i ddweyd fod y duwinyddion enwog hyn wedi cyhoeddi anwiredd gwarthus a ffiaidd am y Pabyddion. Dyna fy ngosodiad William Jones. Yn nesaf profaf ef, a heriaf chwi a phawb ereill i wrthbrofi a ganlyn:— Yn Esboniad Beirniadol Idrisyn, ceir y sylw hwn ar Exodus xx. 4. "I gynal ei delw-addoliad darfu i'r Eglwys Babaidd adael yr oil o'r ail orchymyn hwn allan o'r deg gair, ac fel hyn golli un gorchymyn allan o'r deg; ond i gadw i fyny y rhif, rhanasant y cldegfed yn cldan. Y mae hyn yn hollol groes i ffydd etboledigion Duw, ac i'r cydnabyddi&d o'r gwirionedd hwnw ag sydd yn ol duwioldeb. Y mae yr adnod i'w chael yn mhob ysgrif o'r Pumllyfr Hebreig ag sydd erioed eto wedi ei datguddio. Y mae yn yr holl hen gyfieitliiadau, a Samaritanaidd, y Calde- aidd, y Syriaidd, y Deg-a-thriugain, y Vulgate, y Coptaidd, a'r Arabaidd: hefyd yn y Persiaidd, ac yn yr holl gyf- ieithiadau diweddar. Nid oes un gair o'r holl adnod ynngholl yn yr amrai ganoedd o ysgrifau a gasglwyd gan Kennicott a De Bossi. Y mae y llygriad hwn ar Air Duw gan yr Eglwys Babaidd, yn ei nodi hi, fel eglwys gyfeilitynvus a heretdcaidd, a'r nod dyfnaf o warthusrwydd bythol." -Clarke. Dyna fe, ac os yw yr esboniad dan sylw yn dy feddiant ddarllenydd, edrych os ydwyf wedi dyfynu yn gywir. Di- amheu fod miloedd wedi credu yr hear- iad uchod, a gallesid tybied mai nid anwybodaeth' Dr. Adam Clarke barodd iddo ysgrifenu y sylw. Eto gwell genyf goleddu y syniad hwn am dano na dim arall, er Ileihau ei gyfrifoldeb oblegyd os oedd yn gwneud hyn, ac yntau yn gwybod yn wahanol, yr oedd ei gyfrif- oldeb yn fawr ofnadwy. Y mae ei fod yn nodi y Yulgate, sef prif Feibl y Pab- yddion, fel un yn cynwys yr ail orch- ymyn, ac eto yn haeru fod y Pabyddion yn ei adael allan o'r deg gair, yn myned yn mhell iawn i brofi ei anwybodaeth. Pa. fodd bynag y mae yr haeriad yn hollol groes i wirionedd. Dyma'r gorch- ymyn fel y mae yn y Douay Bible — Thou shalt not make to thyself a graven thing, nor the likeness of any thing that is in heaven above, or in the earth beneath, nor of those things that are in the waters under the earth. Thou shalt not adore them, nor serve them: I am the Lord thy God, mighty, jealous, visiting the iniquities of the fathers upon the children, unto the third and fourth generation of them that hate me: And showing mercy unto thousands of them that love me and keep my com- mandments." Dyna fe, fel y mae yn Exodus xx. yn y Beibl Pabyddol: a cheisia rhai o dduwinyddion y byd" ein darbwyllo i gredu ei fod wedi ei adael allan! Cyhudda y dosbarth hwn y Pabyddion yn fynych o fod yn euog o gadw y werin mewn tywyllwch, pan mewn gwirionedd, hwy eu hunain, set yr esbonwyr, &c., sydd yn euog o hyn trwy wthio celwyddau ar y bobl. Beth all fod yn fwy ffiaidd a gwarthus na cham gyhuddo dynion o'r pechod o "Dpnu oddi wrth" yr Ysgrythyrau, a cheisio gan y byd gredu hyn mewn ffurf o esboniad ar y Beibl! Dylai y dynion sydd yn ceisio dallu y werin trwy eu darbwyllo i gredu yr anwireddau ofn- adwy byn, guddio eu penau mewn cy- wilydd bythol. A ydyw W. Jones o'r Rock yn tybied y dylwn gymeryd pethau for granted am fod duwinyddion ac haneswyr yr oesoedd yn eu dweyd. Dim o'r fath beth-yr wyf yn dewis chwilio drosof fy hun, ac wrth wneud hyny, yr wyf yn cael gelyn- ion. Pabyddiaeth yn haeru yr anwireddau duaf. Beth gwell yw W. Jones o guro'r awyr yn mhob cyfeiriad yn lie ceisio profi y pwnc ? Ond dyna, i ba beth y gofynaf hyn, oblegyd nis gall ef na'r pregethwyr,na'r esbonwyr, naduwinydd- ion ac haneswyr yr oesau droi yn ol fy ngosodiad, am y rheswm ei fod yn wir- wirionedd. Gallai dyn feddwl wrth ddarllen ys- grifen W. Jones y carai ef weled y dyddiau yn gwawrio eto yn Mhrydain, y gorfodid dynion i osod No Popery ar ddrysai eu tai er dyogelwch eu bywydau. Bu hyn yma gynt, a gorfu ar luaws o'r Pabyddion adael y wlad, er mwyn cael rhyddid i addoli yn unol ag argyhoeddiad eu cydwybodau. Trinid Pabyddion yn amser y Frenines Elizabeth yn llawn mor greulawn ag y trinid y Protestan- iaid yn amser Mary. A oedd un yn well na'r Hall ? Yn awr tyma fi yn terfynu gan ofyn a fedr W. Jones brofi mai nid y Beibl oedd y llyfr a argraffwyd gyntaf; ac os felly, a'i nid yw hyn yn profi fed y Pabyddion am ei ledaenu, gan mai hwy a'i argraffodd ? Yn ail, a fedr ef brofi nad yw y Douay Beibl" ar werth i bawb sydd yn ewyllysio ei brynu ? Yn drydydd, a fedr ef profi mai gwir yw sylw Adam Clark, yn ngwyneb y ffaith fod y gorchymyn yn y Douay Beibl ? Hyd nes y troio hyn yn ol, callach iddo osod ei offer o'r neilldu, neu eu defnyddio at well gorchwyl na cham- gyhuddo pobl. DAFYDD MORGANWG.
L'ERPWL.
L'ERPWL. [ODDIWRTH EIN GOHEBYDD ACHLYSUROL.] GORLAWNDER Y DOSBARTH GWEITHIOL Y MAE poblogrwydd cynyddol y dos- barth defnyddiol a dirwasgol hwn yn sicr o gyrhaedd rhyw brif-bwynt mewn byr amser yn y dref fawreddog hon. Gwyr y cyfarfwydd yn helyntion mas- nachol ein tref fod yma filoedd lawer yn gorfod byw ar haner digon o waith, ac felly o angenrheidrwydd yn gorfod byw ar haner digon o fwyd-a gadael dillad trwsiadus, ac ymarferiadau dydd- orol yn y pellder draw; a thra yr all- forir y fath niferoedd anhysbydd o Wyddelod, Almaeniaid, Italiaid, yn nghydag wmredd o genhedloedd ereill, o wahanol barthau y ddaear, y mae y dref hon yn cael ei llenwi a'i gorlen- wi ganddynt. Deuwch am wibdaith foreuol tua gwaelod pegwn deheuol y porthladd; ceir yma ganoedd o wyr buangam, cadarngryf, ystwythgyrff a pharodwaitb, yn taer ymbil am ddiwr- nod o waith; ac o'r rhengoedd lluosog a safant am gael eu dodi yn mlaen, cymerir eu haner a'r Hall a adewir! Felly y mae agweddau torcalonus masnach hyd nes cyrhaedd cyrchfan cludwyr llafur; gellir gweled mil neu ddwy o'r Gore Piasay i'r lan drwy Brunswick Street, Fenwick Street, ac amgylch-ogylch y Gyfnewidfa y mae y dynion yma fel locustiaid yn mathru traed eu gilydd. Yr un ydyw agwedd y cerbyd-trafnidiaeth tua chwmwd Waterloo, ac oddiyno i Canada Island: gorlenwir yr heolydd bob boreu a chanolddydd gan Wyddelod, a chen- edloedd ereill, y rhai a orfodwyd i droi yn ol at eu teuluoedd wedi methu llwyddo dal diwrnod o waith. Pe yr enciliai can mil o lafurwyr achlysurol y lynyd hon oddiyma, ni welai un adran o'r goruchwyliaethau arfordirol eu hangan er dwyn eu dirfawr weithred- iadau yn mlaen, er eu lluosogrwydd anhygoel yn nghyda'u pwysigrwydd anghydmarol. Byddai yn fil-gwaith dymunolach genyf ymgrwydro dros boeth-begynau Transylvania, Moldavia, Bulgaria, Bos- nia, neu ymerodraethau yr eira a'r ia tragywyddol, na bod yn un o gardot- wyr goruchwyliaethau achlysurol o gwmpas y porthladd cynhyrfus hwn ond eto, y mae yn dorcalonus meddwl fod yma ddarostyngol weinidogion ymneillduol, offeiriaid, wedi derbyn Diploma o M.A. a B.A. yn rhai a brif athrofaoedd Prydain Fawr Bum yn siarad a dau o honynt dydd Sadwrn di- weddaf, ac yr oedd eu gweled a'u clywed yn adrodd eu helyntion trawsgyfnewidiol, eu prof edigaethau chwerwon, eu siomed- igaethau eithafol mewn car a chyfaill, yn nghydag ebychiadau gorfoleddus eu gelynion pan yr ymgasglodd cymylau duon dros ffurfafen eu ffawd a'u cysur y tro cyntaf. Dyma lie mae gwyr a fedrant ddarllen Groeg, Hebraeg, Lladin, Cym- raeg a Saesonaeg, yn gorfod cydweithio a'r hen Wyddel rheglyd, diurddas, ac anniwylliedig, neu ambell Gymro, neu Sais, neu yn wir, ambell un o wyr duon Earn 0! y mae yn resynus gweled pa mor hunan-ddarostyngol i'w cnawd ac esgyrn, os ymegniant fyw yn anni- bynol ar yr Hwn sydd yn arglwyddiaethu ar bobpeth. Os ydwyt ti y gwatwarwr a'r gloddestwr ar dy draed weithiau, cofia'r ymadrodd :—"Yr hwn sydd yn sefyll edryched na syrthio oherwydd, er dy uchelfrydedd, y mae dy ragorach a dy dalach wedi ei ddwyn i'r llawr cyn yma.
SULTAN ZANZIBAR.
SULTAN ZANZIBAR. Y mae'r Ymherawdwr poblogaidd hwn yn arfaethu talu ymweliad a Le'rpwl, Gorph. 5ed. Y mae'r Ymherawdwr yn llawn o'i angerddolrwydd a'r cywreingar- wch mwyaf am ddeall natur dirgelwch llyngesoedd, celfyddydwaith, ac ymar- feriadau deiliaid Victoria; ac hwyrach y ca ei ddychymyg a'i grebwyll ddirfawr ormod o dasg i ddadansoddi ymys- garoedd damcaniaethau ein Breninol- iaeth cyn ymadael a Llundain ond wedi'r cyfan y mae'n rhaid i Ymerawdwr mawr Zanzibar ymweled a gwech-deyrnas y llongau a phrif deml marsiandwyr y byd. Nid ydyw'r awdurdodau wedi gwneud yn hysbys hyd yma pa fath ddarpariaethau a wneir er ei dderbyn, nac ychwaith yn mha le y rhoddir ef i fwyta, yfed, a chysgu; ond dir genym nas anfonir ef i Brownlowhil na Kirkdale am noson neu ddwy. Bwriada fyned oddiyma i Maen- ceinion i archwylio dirif swyddogaethau a chyfundraethaa cartref rhyfeddol yr attwe. Y mae'r Sultan hwn yn aelod o'r sect fanylaf o'r Mohometaniaid, ac ni chymera ddim i'w fwyta o law neb ond o law ei wasanaethyddion Mahometan- aidd. Y mae ganddo ei gigyddion, ei ladd-dy, a'i ddarpariaethau bwytaol a thrwsiadol ei hun, ac er ei fod yn gwisgo esgidiau Prydeinig o ran cywreinrwydd weithiau, mae ganddo raio'i wlad ei bun y tu mewn iddynt, a haen denau o bridd mewn sidan tu fewn i hyny, er cadw ei draed rhag dod i gyffyrddiad a'r tir na sangodd y gau-broffwyd arno
tR ANFFODUS VICKSBURG.
tR ANFFODUS VICKSBURG. Dygodd Nestorian," un o agerlongau yr Allan Line, ddeg o'r truenusion a ddyoddefasant mor enbydus yn herwydd ymddrylliad y Vicksburg," i mewn i Le'rpwl yn ddiangol o St. John's, Halifax, a Baltimore eu henwau ydynt George Walker, James Callagham, Patrick Greenwood, John Jones, John O'Reilly, Michael Doran, John Curtin, John Red- mond, Martin Lee, tanwr; a Mr. Pen- gelly, teithiwr. Bu'r deg wyr anffodus hyn ar wyneb yr aig am ddau ddiwrnod a dwy noson, o thrwy yr holl amser nid oedd un edafedd sych am danynt; ond yr oedd ganddynt ddigonedd o bethau i'w bwyta, onide buasai ei sefyllfa yn frawychus tuhwnt i ddysgrifiadaeth. Dywedant iddynt weled John Roberts, y pedwarydd swyddog, yn sefyll ar sypyn o wair gerilaw i'r man lie y neidiasant i'r cwch, ond tarawyd ef gan ddarn mawreddog o ia, fel y a syrthiodd i'r mor i beidio codi mwy nes y gasgl Duw'r meirw o dir a mor mewn amrantiad, ar nos Sadwrn olaf y Gyfundrefn Heulog. Yn merw rn6r am oriau maith-bu deg Mab dyn ar eu hymdaith Yn hybu mewn anobaith, Arganol llawr eigiun llaitb. Rhyw dduwdod mawr o ddadwrdd, A throwynt corwynt fu'n ewrdd, A chelloeda ysbrydoedd briw, Y gweiniaid gwlyb ac anwiw .— I wylo'n brudd am weled—rhyw angel 0 rhengoedd ym wared Yn d'od draw a'i la marled, Er eu cael o'r m6r caled.
CELIDD-DRA GWRAIG AT EI GWR.
CELIDD-DRA GWRAIG AT EI GWR. Mehefin 25ain, yn Birkenhead, gwys- iodd un Mrs. Leonard ei mab Francis Leonard o flaen yr Ynadon am fygwyth ei tharo a'r poker; ond ymddengys i'r "Y awdurdodau barnol fwy na haner cyf- reithloni y mab am fygwth y poker ar ei fam. Oddiwrth dystiolaethau y swydd- ogion Moore a Harvey, y mae bywyd y fenyw Leonard yn un o feddwdod a chieidd-dra ofnadwy, ac er mwyn dangos pa mor bell y mae'r edlyches satanaidd hon wedi myned o lwybrau moesgarwch a dynoliaeth, dywedodd un o'r swyddog- ion, pan oedd ei gwr yn gorwedd ar wely angau, iddi dynu y glustog esmwyth oddi tan ei ben, dododd hen wasgod ddrewllyd yn ei Ie, ac ymaith a hi i wystlo'r glustog, ac oddiyno i'r dafarn, a meddwodd fel hwch, tra'r oedd ei gwr druan yn ymladd yr ormest olaf ag angau.
YMLADD CEILIOGOD.
YMLADD CEILIOGOD. Y mae llawer o leoedd yn Lloegr wedi eu gwarthruddo yn ddiweddar drwy ym- laddfaoedd ceiliogod, a dyma un arall at y rhestr yn Reedham: gwisiwyd William Kirkam, Oldham; Samuel Faulds, Chowbent; a James Street, Bolton, o flaen ymadon Rochdale, dydd Mercher diweddaf, am iddynt ymgasglu at eu gilydd, a dodi ceiliogod i ymladd. Dirwyodd yr ynadon hwy i bum punt yr un heb law treulion. Y mae yn gofus genym ddarllen am un Mr. Ardesoif, yr hwn a deimlai'r hyfrydlonedd a'r hyfrydwch mwyaf swyngyfareddol wrth weled dau geiliog diniwaid yn spardino eu gilydd; yr oedd gan y gwr uchod ddewis geiliog i ymladd gormest, ac yr oedd yr aderyn hardd wedi enill i'w berchonog aflan luaws o wobrwyon, ond y tro diweddaf ag y bu'r ceiliog dewr yn ymladd, collodd y dydd druan! pan