Skip to main content
Hide Articles List

18 articles on this Page

YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. CYFNOD ING EGLWYS LOEGR. DIWRNOD pwysig yn hanes Eglwys Loegr yw Gorphenaf 1, 1875. Yn ol ,cyfraith Mr. Disraeli, yr hon a basiwyd y llynedd, y maeDefodaeth yr Eglwys i gael ergyd marwol ar ol y dydd h wn, am mai ar hwn y mae y gyfraith yn dyfod mewn grym. Dywedodd Mr. Disraeli wrth egluro y mesur mai ei amcan oedd tynu defodaeth i lawr." Cynygia y Hock, papyr newydd wythnosol y blaid Efengylaidd yn yr Eglwys, fod y diwrnod hwn, sef Gor- phenaf laf, yn cael ei dreulio yn ddi- wrnod o weddio gan Brotestaniaid yn gyflredinol, a chan Eglwyswyr Protest- anaidd yn neillduol. Ystyria Protest- aniaid yr Eglwys fod y drwg defodol, Pabyddol, yr hwn sydd yn ffynu yn yr Eglwys, yr un gwaetbaf sydd wedi ymddangos er amser Luther. Diau fod perygl mawr i'n gwlad ni, o ran ei hawdurdodau, i fyned yn Bab- yddol yn eu crefydd. Yr oedd yr Eglwys wedi Thewi i fyny mewn ffurfioldeb. Yr oedd rhew gogleddol trwchus wedi gor- doi ei gwasanaeth am flynyddau. Yr oedd hen rew-fryniau canonau a swydd- ogoethau, yn dysgleirio yn ei hwylbren ;hi, yn nghanol cyfoeth ac awdurdod eyf- raith, gan lanw ei hawyr ag oerni a yrai y boblogaeth i ddyfroedd direw, bywiog, ymneillduaeth. Yr oedd unfiurfiaeth farw yr Eglwys fel cyfan- dir o ia, yn cadw holl fywyd y byd draw o'i chymdeithas. Ond yr oedd ffrwd wresog Mexican Gulf crefyddol y byd yn gweithio o dan yr ia, nes y dechreu- odd gracio mewn llawer man yn amser Simeon o Gaergrawnt. Aeth darnan mawrion o for rhewlyd yr Eglwys yn ddyfroedd go rydd oddiwrth ia defod- aeth. Daeth dyfroedd efengyleidd-dra i'r golwg, a mentrodd ambell long o for mawr rhydd efengyleidd-dra Ym- neillduaeth, i'r sianelau bychain efeng- ylaidd rhwng rhewfryniau defodaeth yr Eglwys. A gwelwyd llawer o frawd- garwch rhwng Ymneillduwyr ac Eglwyswyr Efengylaidd. Ond oddeutu -deugain mlynedd yn ol, aeth an- esmwythder ar y rhewfryniau defodol yn yr Eglwys. Yr oedd talpiau mawr o rew gogleddol Eglwys Rhufain yn cael eu rholio at rai yr Eglwys. Cododd penau rhewfryniau defodaeth yn uwch bob blwyddyn. Ac o herwydd fod darnau o'r mor Eglwysig o'u hamgylch bron heb rew trwy wres yr efengyl, trwy gynhyrfiadau tanforol bygythiai y rhew fryniau Pabyddol, defodol, rolio I'r sianelau efengylaidd, er mwyn gwneud cyfandir o ia Pabyddol i or- chuddio yr holl Eglwys Sefydledig- Holl ofal y 'Rock,' a'r blaid a perthyn iddo, yw cadw y rhewfryniau draw o'u sianel hwy, a gwneud ymdrechion i'w gwthio o'r Eglwys yn hollol pe gallent. Cwynant yn ddirfawr nad ydyr.t yn cael cymhorth gan yr esgobion. Troant eu llygaid at y Senedd. Rhoddant eu gobaith yn Mr. Disraeli a larll Shafte- sbury. Y mae eu hyder yu gryf yn y mesur yn erbyn defodaeth, sydd wedi dyfod mewn grym y cyntaf cyfisoL O'r ochr arall, y mae Pabyddion proffesedig yr Eglwys yn llawenychu, gan mai mater eyfraith gwladol fydd eu rhwystro i Babyddoli yr hen sefydl- iad, y bydd y draul mor fawr i roddi atalfa arnynt, fel y bydd y gyfraith yn lLythyren farw, yn enwedig gan y bydd llawer o'r esgobion, y rhai fydd a Haw yn ngweinyddiad y gyfraith, yn debyg 9 o fod yn bleidiol iddynt. Dywed y Rock' fod deuddeg mil a chwe chant o aelodau Eglwys Loegr yn Pabyddion proffesedig, yn eugolygiadau a'u defodau crefyddol, a bod 2,370 o'r rhai hyn yn glerigwyr, a rhai a gynhelir a'r degwm. Cydnabyddodd un o'r clerigwyr hyn y o flaen y Ritual Commissioners,' mai ei am can ef a'i blaid yw gwneud yr Eglwys y peth oedd hi cyn amser Harri viii., sefyn Eglwys Babyddol. Felly y tystiodd y Parch W. F. Taylor, D.D., Ficer yn Everton, Liverpool, mewn cyfarfod Eglwysig yn mis Mai diweddaf. Yn ei araeth y pryd hwnw, dywedodd, Y mae y blaid hon yn gofyn pwy a aiff yn flaenor dros fyddinoedd Israel yn erbyn Goliaeth Protestaniaeth. Dy- wedant fod Mari waedlyd wedi bod yn rhy dyner galon o lawer tuag at y Protestaniaid. Gwrthodant ateb eich rhesymau yn eu herbyn, bygythiant ddadsefydlu yr eglwys os na chaniateir iddynt ei Phabyddoli. Felly y dywed- odd Canon Gregory yn y Convocation. [Mae y Canon Gregory hwn yn aelod o Fwrdd Ysgol Llundain, a gwna ei oreu yno i Babyddoli addysg y werin. Y maent yn lledu eu gweithrediadau trwy y deyrnas trwy offerynoliaeth brawdol- iaethau (guilds) yn cynwys oddeutu deng mil o aelodau." Y ffeithiau uchod, a llawer ereill a roddwyd gan y Ficer a enwyd uchod yn y cyfarfod yn Llundain. Yn ngwyneb bygythiad y defodwyr Pabyddol i geisio dadsefydlu yr Eglwys os na chaent eu ffordd, dywedodd y Ficer efengylaidd fod gwirionedd a phurdeb efengyl Clist yn fwy gwerth- fawr ganddo ef na sefydliad gwladol yr Eglwys; ac os nad ymlidid Pabydd- iaeth o'r Eglwys, y byddai ei dadsef- ydliad yn sicr o gymeryd lie efallai yn fuan. Cwestiwn amser yn'* unig yw. Er mwyn y cysylltiad, ni ddylem ym- gymodi a Phabyddiaeth i'r graddau lleiaf. Os na theflir y'Jonabaid Pabydd- ol dros fwrdd Hong yr Eglwys, aiff y storom yn drech na hi." Swn fel hwn sydd i'w glywed yn holl gyboeddiadau y blaid efengylaidd yn yr Eglwys er ys blynyddau. Y mae y rhyfel yn un cyffredinol trwy Ewrop. Cyn pen hir cymer y blaid Babyddol ryw ffurf o erledigaeth yn mhob ardal. Bydd llenorion annuwiol yn cymeryd eu lie gydag erlidwyr, am eu bod yn gwerthfawrog eu crwyn yn fwy na'u heneidiau. Dyoddefa fiyddloniaid nes y delo eu brenin i'r maes, pryd y cant fuddugoliaeth fythol ar eu gelynion. 4

SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.

MASNACH YR HAIARN YN WOLVERHAMPTON:

SAFON CERDDOROL PRIF YSGOL…

COR UNDEBOL ABERDAR.

♦ CWMDAR—GLOFA NANT - MELYN.

. GLYN NEDD-BODDIAD.

GLYN "EBB WY—DAMWAIN ANGEUOL.

ABERDAR—AGORIAD YR YS-I GOLION…

YMADAWIAD DEWI DYFAN.

NODION 0 DREHERBERT.

DAMWAIN ANGETJOI. ,.

|DAERGRYN EliCEYLL.

PONTYPEIDD A'R AMGYLCH-OEDD.

ABERAFON.

[No title]

GENEDIGAETHAU.

.---.---...----n I MO[JETAI]Sr…