Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
"COFFIN AU RHAD!! DYMUNA SAMUEL MORRIS, 64, BUTE STREET, ABERDAR, HYSBYSU y cyhoedd yn gyffredinol ei fod yn awr yn barod i ymgymeryd a gwneud unrhyw fath o GOFFINAU, a hyny mor isel neu is na neb arall yn y cymydogaethau. Y ntae yn teimlo yn wir ddiolchgar i'r cyhoedd am y gefnogaeth y mae wedi ei chael yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, gan obeithio y bydd iddo gael parhad o'r cyfryw gefnogaeth am y dvfodol. AT EIN DOSBARTHWYR. Y MAE y rhifyii hwn yn terfynu ail gwarter y DARIAN. Yr ydym yn ddi- olchgar am y gefnogaeth sydd wedi ei roddi i nî, gan obeithio y parhawn i'w dderbyn. Y mae achwyniad er hyny wedi ein cyrhaedd o le neu ddau, nad oes digon yn cael eu derbyn i gyflenwi ygalwad. Nid ydym yn gofyn am ddim ond chwareuteg yn y farchnad newyddiadurol, yr hyn y gobeitbiwn a gawn gan bawb. Cofied ein dos- barthwyr hefyd nad oes genym ond yn unig ein llafur i ymddibynu arno, ac y bydd taliadau prydlawn o'r pwys mwy- af i ni. A gawn ni eifyn ar bawb am ein cofio yn hyn y ehwarter presenol. Pob gohebiaethau ac ysgrifau i'r D ARIAN i'w cyfeirio :—" Editor of TARIAN Y GWEITHIWR, Aberdare." Pob archebion a thaliadau i'w hanfon i Mills, Lynch, a Davies, Tarian y Gweithiwr" Office, Aberdare.
MR. DALZIEL A SLAFIAETH Y…
MR. DALZIEL A SLAFIAETH Y GWEITHIWR. UN o'r camsyniadau gorthrymus sydd wedi bod yn ffynu trwy gymdeithas, yn y wlad hon a gwledydd ereill, yw, fod penderfyniad meistr neu frenin, yr hwn a wna bobpeth trwy nerth bwr- lymiad ei ewyllys ei hun yn unig, i'w gymeryd yn un da, yn mhob ystyr, os bydd y penderfyniad hwnw yn un manteisiol ynddo ei hun i'r gweithiwr neu y deiliad. Nid y cwestiwn yw, onid yw meistr caethwas yn delio yn well tuag ato na meistr arall at was rhydd? Beth bynag a all manteision caethwas fod, mewn bwyd, dillad, cartref, a pharhad digyf- newid ei gynhaliaeth, fel anifail pryn- edig arall, y mae y ffaith nad yw ei allu i weithio ddim yn meddiant ei ewyllys ei hun, yn gorbwyso gwerth y manteision anifeilaidd a fedda efe yn ngwasanaeth ei feistr, i'r graddau y mae rheswm, cydwybod, a chyfrifoldeb persouol dyn, fel meddianydd enaid anfarwol, yn fwy pwysig na phobpeth a berthyn i'w gorff ef yn ei sefyllfa amserol a daearol. Y mae pob ym- ddygiad tuag at ddyn—pwy bynag fydd awdwr yr ymddygiad hwnw— brenin, meistr, neu dorf (mob), a waseiddia reswm a chydwybod y dyn allan o'u hawliau personol, yn ym- ddygiad mor ormesol, fel na all unrhyw fanteision a rydd y gormeswr i gorff y gorthrymedig, wueud iawn am ei waith drwg o ysbeilio y dyn o'r cwbl sydd yn werthfawr, fel dyn, yn ei fodolaeth. Beth a feddylid am ddyn a gymerai gynwysiad wy ei gyd-ddyn, ac a roddai y plisgyn yn unig yn ol iddo, neu a gymerai rawn ei wenith, ac a roddai yr us yn unig iddo, neu a gymerai nwyddau siopwr o'r bocsau gwael yn mha rai y cludir hwynt, ac a adawai y bocsau hyny, yn unig, i'r siopwr, eiddo yr hwn fyddai y nwyddau? Ond er mor anghyfiawn fyddai hyny, byddai yr anghyfiawnder yn llai i raddau anfesurol nag ysbeilio gweith- iwr, neu ffermwr, neu ddeiliad gorsedd mewn gwlad, o'r hyn sydd yn gwneud enaid dyn yn werthfawr iddo ei hun, a rhyngddo- a Dnw am dragwyddoldeb, trwy gymeryd rhyddid ei ewyllys a'i gydwybod oddiarno yn ei weithred- iadau personol ei hun. Er hyny gwneir hyn yn barhaus mewn etholiadau gan aristocratiaid y wlad hon, a chan feistri yn nhrefniadau gwaith, a chan y mobs blagardaidd, y rhai a regant eu cyd- weithwyr cydwybodol i uffern, fel eHyllon, gan hongian bygythion cig- yddol uwch eu penau, os na chytunant i wneud eu cydwybodau a'u rheswm yn slafiaid i farbariaeth ddinystriol torf o wylltfilod nwydol, dall, a direswm. Da yw fod Cymru mor rydd oddiwrth ddylanwad y fath wylltfilod. Ond y mae eisieu gwylied rhag i'r rhai a foddant eu rheswm mewn alcohol a mwg opiataidd, i fytheirio cyfiawnder, synwyr, a chydwybod oddiar orsedd cymdeithas a gwaith. Nis gall neb gredu fod rbeswm na chyfiawnder yn teyrnasu lie bydd llwon a ihegfeydd melldigedig, ar ddynion a cheffylau, yn rhedeg fel llifeiriant didor mewn gweithfeydd haiarn a phyllau glo. Nid oes dim yn amddifadu gweithwyr o nerth i ddylanwadu ar y meistr yn fwy nag oferedd diddeddf mewn ymad- roddion, gweithrediadau, a thymherau. Hunan-barch, hunan-feddiant, a hunan- lywodraethiad yn mhlitb gweithwyr, ydynt y moddion mwyaf effeithiol i sicrhau meddiant o'u hawliau gan y meistri. Pe ffynai y moddion hyn ni feiddiai y meistri, na Mr. Dalziel, yn eu henwau hwy, roddi y fath ymad- roddion ag a geir yn ei lyfr yn nghylch perthynas y meistri a'r gweithwyr. Defnyddia efe y gair insubordina- tion," tudalen 29, wrth ddesgrifio ym- ddygiad gweithwyr tuag at y meistri. Rhydd efe y gair mewn llythyrenau Italaidd, i ddangos ei fod ef yn rhoddi pwys mawr ar ei ystyr neillduol. Nid yw y gair yn gymhwysiadol ond at waseiddrwydd caeth, tebyg i filwr yn ufyddhau i lywydd y lln, fel darn o beiriant dienaid. Tardda y gair oddi wrth y geiriau Lladin sub=o dan, ac ordo=trefn. Y mae y geiriau cyfan- sawdd yn y Lladin, yn y rhai y mae y rhagddodiad sub i'w gael, yn golygu darostyngiad. Golyga subactus, fel engraifft, ddarostyngiad trwy goncwest. Gan hyny, yn ol iaith ddewisedig Mr. Dalziel, trosedd mawr y gweithwyr yw gwrthod cymeryd eu darostwng, eu concro, gan y meistri, yn y pwnc o raddoliaeth y gyflog. Eglura y Parch. D. Sivan Evans, yn ei Eiriadur, ar y gair sub-ject, yr hwn a gynwys y rhag- ddodiad Lladinaidd uchod, yn y geir- iau canlynol:—"dwyn danodd, caeth- iwo," &c. Mewn penderfyniad o eiddo y meistri yn Caerdydd, Mai 29ain, 1871, yn ol yr hanes a rydd Mr. Dalziel, def- nyddiwyd ymadroddion yn dangos eu bod yn penderfynu ceisio darostwng y gweithwyr i ufydd-dod caeth i'w he- wyllysiau hwy. Dywed Mr. Dalziel, Teimlodd y meistri y buasai caniatau rhagor @ gyflog yn peri i'r gweithwyr otyn am ychwanegiad pellach at eu cyflogau, a'i fod yn angenrheidiol rhoddi atalfa ar duedd gynyddol yn y pyllau glo, i wrthod ymddarostwng (iinsubordination), a byny mewn modd uniongyrchol." Holl ystyr y fath ymadroddion, fel eglurhad ar weithrediadau y meistri gan Mr. DALZIEL, oedd, fod yn rhaid dysgyblu y gweithwyr i ufydd-dod caeth i ewyllysiau y meistri, heb fod un rbeswm am hyny ond mai ewyllys- iau y meistri oeddynt. Nid oedd Mr. DALZIEL na'r meistri, am ymresymu yn erbyn hawl gweithwyr i gael rhagor o gyflog yr oedd eu distawrwydd ar hyny yn dangos eu bod yn cydnabod yr bawl. Ond, fel mater o ddoethineb meistri ar gaethweision, gwrtbodasant weithredu yn ol yr hawl hon. Hyny yw gwrthodasant wneuthur cyfiawnder a'r gweithiwr, pryd yr oeddynt yn gweled y cyfiawnder hwnw yn eglur eu bunain. Y mae y rheswm am beidio gwneud cyfiawnder yn ychwanegu at ddrygedd eu hymddygiad. Dywed Mr. DALZIEL, mewn effaith, eu bod yn gwrthod rhoddi cyflog yn ol cyfiawnder, rhag ofn i'r gweithiwr ofyn am ragor yn ol hawliau cyfiawnder. No ad- vance, lest a further advance be claimed." Dyma swm yr ymadrodd- ion. Ni rydd Mr. DALZIEL yr awgrym- iad lleiaf yn erbyn y gweithiwr, fel pe buasai eu bawl am ragor o gyflog heb sylfaen iddo ar dir cyfiawnder. Holl ystyr ei eglurbad ef o benderfyniad y meistri, yw, nad oedd y gweithiwyr i gael cyflog yn ol eu hawl, er mwyn eu gwasgu i lawr i ymostyngiad ufydd i'r meistri. Pwnc o ddysgyblaeth ar gaethion oedd gwrthodiad eu hawl gan y meistri. A ddiau fod hyn wrth wraidd annhueddgarwch meistri i ym- ostwng i gyflafareddiad am amser maith. Yr oedd y drychfeddwl o ddysgyblu caethion i ufydd-dod, trwy atal eu cyflogau, trwy i'r meistri osod yn eu pocedau eu hunain yr hyn a ddy- lasai fod yn mbocedan y gweithwyr, yn un mor ddengar, mor gydnaws ag ysbrydiaeth caethfeistrolaeth, fel nad oedd yn hawdd gan foneddwyr o dan lywodraeth y fath swyn, i osod eu caethweision mewn sefyllfa gyfartal a hwy eu hunain mewn cyflafareddiad. Yr oeddynt yn anghofio fod posibl- rwydd i'w dy&gyblu hwy eu hunain, i ymostwng i gyflafareddiad, neu golli pob cerpyn o'u meistrolaeth a'u helw; oblegid y mae gorfodaeth yn offeryn y gall mwy nag un blaid chwareu arno. Cyn y cyfarfod uchod o eiddo y meistri yn Nghaerdydd, yr oedd Managers y glofeydd wedi cyfarfod yn Aberdar, Mai 12fed, 1871. Yn y cyfarfod hwnw cytunasant ar y pender- fyniad canlynol, yr hwn a welir yn tudalen 31 o lyfr Mr. DALZIEL:—• "Mai ein barn ni yw, fel managers pyllau glo, os na wna meddianwyr wrthod cais y dynion am ragor o gyflog, hyd yr eithaf, y pryd hwn, y bydd yn anmhosibl i'w llywodraethu, a bydd y golled i'r meistri oddiwrth hyny yn anghyfrifadwy; a pha lwybr bynag o weithredu a gymer y meistri haiarn, yr ydym yn ddwfn argyhoeddedig, y bydd gwaith meddianwyr glo, yn ildio i'r radd leiaf i ofynion y dynion, yn ddinystr i waith ac elw y meddianwyr." Nid ydym am wneud sylwadau ar faterion hanesyddol, fel y penderfyniad uchod, yn unig er mwyn hysbysu yr hyn sydd wedi bod, ond er mwyn egluro i'r gweithiwr, ac i bawb a gy- merant ddyddordeb yn nadleuon. y gweithwyr a'r meistri, y ffeithiau sydd wedi bod yn gysylltiol a gweithred- iadau y naill a'r llall, gan inai yn ngoleuni y ffeithiau hyn y gall y gwethwyr a'r meistri ddeall eu dyled- swydd tuag at eu gilydd yn y dyfodol. Y mae Mzperiantia docet, sef profiad yn rhoddi addysg, yn hen ddiareb. Y mae llawer o bethau pwysig i'w dysgu oddiwrth y penderfyniad uchod. Profodd amser nad oedd managers y gweithfeydd glo yn brophwydi, wrth ddadgan y buasai dinystr ar elw y meistri os gwnaent ildio i gais y gweth- wyr oblegid gwnaethant ildio i raddau helaeth i gais y gweithwyr heb ddinystrio eu busriess. Yr oedd y penderfyniad yn awgrymu fod y gweith- wyr mor aflywodraethus, fel yr oedd tuedd i fod felly yn peryglu holl elw y meistri; ac mai y ffordd orau i ddi- ogelu yr elw hwn, fyddai cadw cyflog y gweithiwr mor fycban ag y byddai modd; fod y dynion wedi myned fel meirch, wedi cael gormod o geirch, yn tori y tresiynngherbydauy meistri; ac nad oedd dim i'w wneud ond eu lleddfu trwyleihaudognauei hymborth, &c. Os oedd y glowyr wedi myned yn aflywodraethus, ar y managers yr oedd y bai am osod y fath geffylau yn y cerbyd, a llanw y pyllau, a dynion yn ol eu deddf ddewisedig eu hunain o supply and demand heb bigo y supply goreu. Pe gofalai yr agentsna byddai neb yn cael gweithio ond y rhai a roddant brawf eu bod yn ddynion y gellid ymddiried ynddynt, ni byddai ganddynt supply o rai aflywodraethus. Ond, onid yw cydwybodau yr agents yn tystio, mewn llawer engraiftt, eu bod wedi dangos gwg tuag at y dynion gorau, a ffafr arbenig tuag at y rhai gwaethaf, mewn llawer man. Os na bydd cadben llong yn ddoeth i bigo crew o ddynion cymwys nid rhyfedd os caiff efe ofid ar ei fordaith. Beth a ddeuai o fusness vmrehouses mawrion Llundain a threfydd eraill, pe na byddai y rhai sydd yn eu llywodraethu yn pigo y dynion gorau a allent gael, eu talu yn dda, a'uparchu ? Pa ryfedd fod "y dynion" yn aflywodraethus pan yr ymddygir tuag atynt fel pe byddent wylltfilod anwaraidd, i'w dofi, eu ffrwyno, a'u cadw ar fywioliaeth dlawd ?
PONTLOTTYN, - CYFLWYNIAD TYSTEB.
PONTLOTTYN, CYFLWYNIAD TYSTEB. PRYDNAWN dydd lau, yr 17eg cyfisol, daeth yn nghyd i dy Mr. Morgan, draper, o'r lie uchod, nifer o'r rhai a fuont yn ei wasanaeth i'w, anrhegu ag anerchiad, ac oriawr a chadwen aur, gwerth £50. Y mae Mr. Morgan yn ddyn o'r cymeriad moesol puraf, yn dra dylanwadol yn mhlith ei gyd-dref- wyr, ac yn troi mewn cylchoedd pwysig gwerthfawrogir ei farn aedd- fed a phwyllog yn mhob cylch y tro ynddo. Y mae yn bynod am ei lwydd- iant masnachol; sefydlodd chwech o ddynion ieuainc mewn masnach, ac y maent oil yn gwneud yn dda. Nis gwyddom am un masnachwr mwy teilwng o ymddiried a chymhwys i ddwyn dynion ieuainc i fyny yn y fas- nach y perthyna iddi na Mr. Morgan mae ei onestrwydd a'i gywirdeb mas- nachol nwchlaw amheuaeth, a'i esampl yn werth ei hefelychu. Y mae bob amser yn hynaws; medr adloni y meddwl heb halogi'r galon. Yr oedd Mr. Morgan wedi darparu swper ardderchog i'r ymwelwyr, a'r byrddau wedi eu hulio yn ddeheuig gan Miss Llewelyn a Miss Owen; ac yn mhlith y rhai a eisteddasant i swper yr oedd Mr. Rhys Etna Jones, a Mrs. Jones, Aberdar Mri. James Griffiths, Rhymni; D. M. Davies, Treforris B. Williams a J. Williams, Tredegar; B. Jones, Ffynon Taf; Evan Williams, John Davies, D. Price, Miss Llewelyn, a Miss Owen, Pontlottyn a dau frawd Mr. Morgan, sef Mr. Thomas Morgan, masnachwr cyfrifol yn Maesteg, a Mr. James Morgan, cyfreithiwr, Aberhon- ddu, ac eraill. Wedi mwynbau o'r danteitbion pa- rotoedig, neillduwyd Mr. James Grif- fiths i'r gadair, a Mr. D. M. Davies i'r is-gadair. Wedi cael anerchiad pwr- pasol gan y cadeirydd, galwodd ar Mr. Rhys Etna Jones i ddarllen yr anerch- iad a'i gyflwyno i Mr. Morgan; yna cyflwynwyd yr oriawr a'r gadwen aur gan Mrs. Etna Jones, pan y dywedodd fod yn dda ganddi gael yr anrhydedd o gyflwyno yr oriawr a'r gadwen aur i Mr. Morgan ar ran y tanysgrifwyr, a'i bod yn gobeithio y cawsai fyw yn hir i'w gwisgo. Yna cafwyd can gan Mr. Jones, Ffynon Taf. Wedi hyny an- erchiad gan Mr. Morgan. Clywsom ef yn siarad yn dda o'r blaen, ond erioed fel y tro hwn yr oedd ei deimladau wedi cyrhaedd eu llawn lanw. Yn ystod yr hwyr cafwyd anerchiadau gan y cadeirydd, is-gadeirydd, ysgrif- enydd, ac eraill. Canwyd yn gampus gan Mri. Morgan, Maesteg; Jones, Ffynon Taf; Morgan, Aberhonddu Williams, Tredegar; Davies, Pont- lottyn, ac eraill. Mewn gair, cafwyd cyfarfod teilwng o'r amgylchiad. Drwg genym nas gallasai y cyfaill D. W. Davies, Llundain fod yn bresenol. A ganlyn sydd gyfieithiad brysiog o'r anerchiad :— "Anwyl Syr,-Fel rhai a gawsant y fraint o ddyfod i'ch gwasanaeth yn moreu oe", dymunwn gydnabod mewn modd arbenig ein rhwymedig- aeth i chwi. Nis gall y rhai hyny o honom a dreuliasant flynyddau boreuaf eu bywyd mas- nachol dan eich tywyniad byth draethu y diolch. garweh a deimlwn i chwi am y gofal cyson a ddiingosasoch am ein cysuron teuluaidd, y modd cllredig y gwnaethoch gydymddwyn a'u diffygion fel rhai yn dechreu, y gefnogaeth wresog a roddas- och i'n hymdrechion at ddiwylliant, ac uwchlaw yr oil, am ddylanwad daionus eicb gwersi coeth, a'ch esiampl bur ar ein cyrneriadau moesol a'n llwyddiant cyffredinol. Ereill o honom na chaw- sant y fraint o ddechreu ein bywyd masnachol gyda chwi, teimlwn yn ddyledus am fuddiantau yr un mor bwysig, pa rai, gyda bendith rhaglun- iaeth ddwyfol, a brofant yn sylfaen i gysylltiad masnachol helaeth. Gan hyny, erfyniwn yn garedig eich derbyniad o'r anerchiad hwn, yn ngbyd a'r gadwyn aur cydfynedol gyda'n dymun- iadau puraf am eich llwyddiant. Goddefwch i ni yn mhellach eich sicrhau nad ydym yn cyfrif cyilwyniad yr anrheg hon yn ein rhyddhau mewn un modd o'n dyledion i chwi, ond yn unig fel dangosiad gwan o'n gwir barch tuag atoch. Nid mewn rhoddion ag y gellir eu prynu ag arian ac aur y mae eich gwobr, ond yn y farn uchel a goleddir am danoch, acyn y lluawa cyfeilliou y mae eich caredigrwydd a'ch bnchedd ddilwgr wedi enill i chwi, ac yn y llawnder a pha un y mae rhagluniaeth ddwyfol wedi gweled yn dda fendithio eich bywyd llafurus. Ar i chwi gael oes faith i fwynhau benditbion goreu y byd bwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol, ydynt ddymuniadau unol James Griffiths, Thomas Morgan, B. Williams, John Williams, D. W. Davies, Rhys Etna Jones, D. M. Davies, B. Jones, Evan Wil- liams, John Davies.
CASTELLNEDD.
CASTELLNEDD. Boreu dydd Llun diweddaf, boddodd dyn ieuanc o'r enw John Davies, yn y He hwn, tra yn ymdrochi. Brodor ydoedd o swydd Benfro, a chrydd wrth ei alwedigaeth.
LLOFRUDDIAETH TYBIEDIG PLENTYN…
LLOFRUDDIAETH TYBIEDIG PLENTYN YN GLYN EBWY. FEL y cyfeiriasom yn ein rhifyn di- weddaf, y mae cryn lawer o dwrw wedi cael ei achosi yn y lie hwn mewn can- lyniad i gaffaeliad plentyn marw mewn sewer. Wedi dyfod o hyd i'r plentyn syrthiodd drwgdybiaeth ar un Rachel Rogers, yr hon ar y dechreu a wadodd nad oedd hi wedi rhoddi gen'edigaeth i blentyn o gwhl. Cafwyd meddyg i'w gweled, yr hwn a dystiodd ei bod wedi rhoddi genedigaeth i blentyn. Gwnaeth y meddyg hefyd archwiliad manwl ar y plentyn, a chafodd ei foddloni fod y plentyn wedi bod yn byw ar wahan oddiwrth y fam. Dywedodd fod trwyn y bychan wedi ei niweidio, a thybiai fod ei farwolaeth wedi cael ei achosi trwy fygiad. Wedi ei chymeryd i fyny, cyfaddefodd Rogers ei bod wedi cael plentyn, ac iddi ei daflu i'r geudy, a hyny rhag ofn i'w brawd ddyfod i wybod a'i thaflu dros y drws. Wedi cryn oediad ac anghytuudeb, cafwyd Rachel Rogers yn euog o flaeii y rheith- wyr o ddynladdiad.
TONYREFAIL.
TONYREFAIL. CYLCHWYL FLYNYDDOL CYFRINFA ISTODDFA. ANGHENUS—Cyfarfyddodd aelodau y gyf- rinfa hon am 10 o'r gloch y boreu, Me- hefin 12fed, er mwyn derbyn aelodau newyddion, &c. Wedi hyn, aethpwyd i gapel y Methodistiaid, a chafwyd pre- geth ragorol gan y Parch. W. Evans. Wedi cael ychydig luniaeth i'r corff, ffurfiwyd yn orymdaith, ac awd trwy'r Dinas, yn cael ein blaenori gan seindorf Llantrisant, a baner Urdd yr Hen Fryt- aniaid a gafr fyw yn dilyn. Wedi dy- chwelyd cyfranogwyd o giniaw odidog. Am chwech yn yr hwyr cynaliwyd cyf- arfod cyhoeddus yn ystafell y gyfrinfa, pryd y cafwyd anerchiadau dyddorol ac adeiladol gan Mri. B. Morgans, llywydd, J. Williams, H. Rowlands, J. Arell, M. Thomas, L. Hopkins, D. Edwards, brawd arall, a'r Parch. Mr. Jones, Ficer, Ton- yrefail, a claanvvyd amryw ddarnau gyda. chwaeth neillduol dda. H. R. JONES.
TRECYNON.
TRECYNON. CAPEL Y BEDTDDWR.—Cynaliwyd cyf- arfod adloniadol yn y capel ucbod nos lau diweddaf. Llywyddwyd gan y Parch. William Harris, gweinidog y lie. Oawsom araeth agoriadol ddifyrus, yna aethpwyd yn mlaen at waith y cyfarfod. Canwyd amryw ddarnau gan gor y plant yn rhagorol. Canwyd unawdan, deu- awd, a thriawd yn hynod dda gan wa- hanol gyfeillion. Ond y peth goreu yn y cyfarfod ydoedd adrodd y Mab Af- radlon." Prif amcan cynaliad y cyfar- fod hwn ydoedd anrhegu y brawd Ben- jamin Gibbwn gyda dau ddarlun hardd, un o gor y plant, a'r llall o gyfeillion o'r eglwys. Y cyntaf am ei fawr ymdrech yn addysgu'r plant, a'r ail am ei lafur fel ysgrifenydd yr eglwys. Llanwodd y ddwy swydd yn anrhydeddus, fel y tystia pawb a'i hadwaenai. Ei arwyddair yw gwneud daioni.' Llwyddiant a'i dilyno yn mhob man.-CYFAILL.
ABERDAR.—CYNGHERDD Y STRING…
ABERDAR.—CYNGHERDD Y STRING BAND. DEALLWN fod yn mwriad cyfeillion String Band Aberdar i gynal cyngherdd er budd i'r cyfeillion hyn yn ystod y mis dyfodol. Nid oes amheuaeth nad ydynt yn gwir deilyngu y gydnabyddiaeth hon oddiar ein llaw fel tref a chymydogaeth. Mae y band wedi bod bob amser yn barod i wasanaethu yn mhob achos o elusen ac adloniant, a hyny yn rhad ac am ddim, a gwyddom fod lluaws er's amser yn awyddus am gyfle i ad-dalu rhywbeth iddynt am y parodrwydd hwn o'u heiddo. Wele bellach yr adeg wedi dyfod, ac nid oes amheuaeth na fydd pawb yn barod i wneud y cyngherdd yn un llwyddianus. Gobeithiwn y cawn y pleser o weled a chlywed ein hen arweinydd bydenwog Caradogyncymerydrhanynygyngherdd hon, canys y mae Mr. Howells, ac ereill sydd yn perthyn i'r band, yn hen gyfeilk ion. Deallwn y bydd ein Glee Party enwog yn gwasanaethu ar yr achlysur.
TON, YSTRAD.—DAMWAIN ANGEUOL.
TON, YSTRAD.—DAMWAIN ANGEUOL. DYDD Gwener diweddaf, cyfarfyddodd dyn o'r eifw David Adams a'i farwolaeth yn nglofa y Ton, Ystrad, tra yr oedd efe a'i fab wrth y gorchwyl o dori a llanw glo.
Family Notices
GENEDIGAETHAU. Mehefin lOfed, priod Mr. Williams, 67 Mill-street, Aberdar, ar fab, a gelwir ef Arthur Certhbert. PRIODASAU. Mehefin 16eg, Mr. Thomas Jones, mab hynaf Mr. a Mrs. Jones, Trecynon Brew- ery, Aberdar, a Miss Leyshon, Penybont. Ger y New Golden Lion Inn, eu cartrefle presenol, ymgynullodd torf luosog o ? 0 gyfeillion yn nghyd i ddangos eu parch iddynt. Gallai ymwelydd dieithr, heb wybod am yr amgylchiad, feddwl fod rhyw allu milwrol yn ymosod ar y lie, wrth glywed rhuadau taranllyd a phar- haus y gynau yn tanio salutes i'r par ieu- anc. Yn unol a dylnuniadau eu lluosog gyfeillion dymunwn bob llwyddiant iddynt, a "Rhes o feibion ffraethlon ffri A dwsin o lodesi.—GOHEBYDD." Mehefin 13eg, yn Eglwys St. Elvan; Aberdar,Mr. David Williams, Aberaman, a Miss Mary Ann Humffries, Sunny Bank-street, Aberdar. A'i bri ben Eden ydyw-priodi Paradwys dynolryw Dyna'i glod yw bod a byw, A roi'i fynwes i'r fenyw. Priodi'r lili wir lan-oedd gampUB Dda gwmpawd i'akanian; Mirain aeth a MarJ^nn, A bri aur ein bro eirian.—GwiLYM NEDD. MARWOLAETHAU. Mehefin 13eg, yn nhy ei merch a'i mab-yn-nghyfraith, Mr. Henry Roberts, Aberaman, yn 73 mlwydd oed, Mrs. Elizabeth Jarvis, Bu yn aelod ffyddlon am flynyddau hirfaith gyda'r Annibyn- wyr yn Saron, Aberaman. Dydd Mer- cher, yr 16eg, ymgasglodd nifer luosog o berthynasau a chyfeillion yr ymadaw- edig er ei chludo i Cemetery Aberdar. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan weini- dog Cwmaman.