Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

LEWIS A GOMER LLWYD.

News
Cite
Share

LEWIS A GOMER LLWYD. PE na sylwasai Lewis Rees ond yn unig ar ffolineb a niwed yr arferiacl atgas o organmol a gorfoli personau ar amcan, nen i gau ddybenion, a bod Cromer Llwyd ae ereill yn rhy dueddol i wnend byny, nid ydyw yn debyg yr ynganasai neb air i'w erbyn. Ond yr cedd cymeryd mantais annheg ar ganmoliaethau diniwed Gomer Llwyd i ereill, er gwneud sylwadau anmher- thynasol ar ei duedd i ganmol ei bun, ion a gwneud cais i ddadguddio cyfrinion ei ifugenwau, a chodi i'w wyneb hen 'sgarfchion claddedig, yn bethau hollol wahanol. Yr oedd y ffrwgwd am Thomas Williams. Caerdydd, a Gabin- twr y Dydd, wedi ei chyhoeddi trwy y wasg eisioes, nid "er ys ychydig fis- oedd yn ol," ond er ys yn agos i flwy- ddyn yn ol, a Gomer Lhvyd, os yr un ydyw a Gabmtwr, vvcui dyoudef am hyny yn gam nen gymhwys, ac yr oedd yr ymddygiad o ddanod hen bethau o'r natur yna iddo dracliefn, heb un achos yn beth rhy blentynaidd a gwrachaidd i'w oddef oddiwrth un a hona iddo ei hun safle mor uchel fel lienor, Ac heblaw hynyna, sylwer ar yr ysbryd sarhaus a wna ei ymddangos- iad yma ac acw trwy ei lythyr, megys yr hyn a ganlyn sier wyf y gwna cymeradwyaethau rhai personau fwy o niwed nag o les." Gwir, ac er cysur i Gomer Llwyd, y mae y gwrthwyneb yn gymaint gwir, sef y gwna anghy- meradwyaethau rhai personau fwy o ddaioni nag o niwed. Sylwer eto, "trueni meddwl fod colofnau ein papyran newyddion yn cael en llwytho a'n beichio gan gorachod digymod fel Gomer Llwyd." Y mae yn debyg fod y cawr anferth hwn yn cael golwg eorachaidd neu lilipwtaidd iawn, ar hycl y nod llenor llafurns, ffraeth, a nwyfus o faintioli dymunol fel Gomer Llwyd. Dylai golygwyr, gohebwyr, a jdarllenwyr, werthfawrogi eu braint fod y fath gawrwedi ymddangos ar dudal- enau y DARIAN, a dadweinio ei gledd ar faes llenyddiaeth. Y fath hapus- rwydd meddwl, y bydd eolofnau ein papyrau newyddion yn cael eu llwytho a'u beichio rhagllaw a myfyrdodau amnhrisadwy lienor coeth a boneddwr leddychlon o safle y gwr o'r Hafod. Ond odid na chrea y gwr hwn gyfnod newydd yn llenyddiaeth Cymru. Es- gorodd eisioes ar un darganfvddiad pwysig iawn, sef nad oes melin gan yr Hen Felinydd, na chart, na Boxer, na Roser Barod, na Hugh Gadarn ie, ac nad oes yn ei feddiant gaban ceiliog gwydd — brawddeg .yn gosod allan dreiddgarweh ei welediad. Gellir meddwl fod yr eiddigeddwr ar chwysu rhag i'r wlad edrych arno fel masnach- ydd eyfrifol, yn berchenog melin, ani- feiliaid, gweision, &c. Peth rhyfedd na ddywedasai nad oedd efail gan Shon y Gôf, eingion gan Athan Fardd, ys- gubor gan Will Ysgubor Wen, na fiawr dyrnu gan Samson, &c. Mae'n debyg iddo anghofio. Gwae chwi weilch hocedus, fe ddynoethir eich twyll chwithau un o'r diwrnodau yma. COCHYBERLLAN.

LLYTHYRAU CARDI.

AMRYWION O'R AMERIG.

IDARGANFYDDIAD HYNOD.

CAWRFIL MAWREDDOG.

Y GWRAGEDD, COFIWCH DALU'R…

YN Y TREN.

[No title]

Advertising

Y PABYDBIOK".