Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

TERFYNIAD Y STRIKE.

News
Cite
Share

TERFYNIAD Y STRIKE. Y MAB llawer wedi gweled a theimlo amser blin er y cyntaf o Ionawr, 1875, a hyny o herwydd dosbarth o ddynion oedd yn porthi j werin a gwynt ac anwybod- aeth. Os cydmarwn 10 punt y cant yn Ionawr, amser gauafol, a deuddeg a haner y cant yn amser goreu y flwydd- yn, gwelwn ar unwaith, os dewiswn weled, ein bod wedi cael ein harwain i sefyllfa ofnadwy. Dywedai Mr. Halli- day No surrender to the 10 per cent., it is not due but fight the battle with respect." Wel, ddarllenydd, ti weli fod yma lawer o gysondeb oddiar Ionawr hyd yn bresenol: "no surrender" yn Ionawr i'r 10 y cant, ond wedi bod allan uwchlaw 5 mis, yn dweydnad oeddyntyn gweled un tegwch i gymeryd mwy na deuddeg a, haner y cant o'r pymtheg punt y cant yr oeddid wedi ei gynyg. Y mae yn llawn bryd i bob Cymro weled nad yw athrawiaeth gau yn gwneud y tro mewn gwlad mor oleu a Chymru. Gan fod amryw yn ysgoleigion da, a fydd i rai o honynt fod mor garedig a dangos, os nad oedd 10 y cant yn lonawr yn gyfiawn (o leiaf yn deilwng,) pa fodd y cydnabyddant fod deuddeg a haner y cant yn deg wedi bod all an am y tymor uchod. Wrth ba rule y mae y swm uchod i gael ei wneud ? Cofus genyt, ddarllenydd, am yr hyn a wnaeth Arglwydd Aberdar a Mr. Mr. Henry Thomas tuag at wneud yr anghydfod i fyny, a byny er ys misoedd yn ol buasai hyny yn fantais fawr heddyw, o herwydd byddai yn llai o ostyngiad, a gweithio rhai misoedd; ond nid oedd y ddau, meddir, ond wedi eu llwyr prynu gan y meistr. Gweithwyr yn unig, meddent, sydd ag awdurdod i wneud yr anghydfod i fyny, a neb arall. Mewn gwirionedd, a ydyw cenedl y Cymry yn ffolach na'r un genedl arall ? Y mae yn hanes y strike hon ddigon o ifeithiau i brofi ein bod felly, o herwydd Sais yw blaenor y blunders presenol. Efe ydyw "ring-leader" y trueni presenol; ond rhaid cyfaddef fod mwy o fai yn gorphwys arnom am gymeryd ein har- wain. Y mae llawer dyn wedi twyllo y wlad trwy ymddangos y peth nad yd- oedd; ac y mae rhai wedi traddodi areithiau grymus, yn ol eu tyb hwy, yn dangos trais y meistri tuag atynt, ac mai dan gaethiwed haiarnaidd y meistri y mae eu cyd-ddynionyn awryn Neheu- dir Cymru. Cofus genyf am fachgen nad oedd pawb yn ei gyfrif fel ereill, ond yn hynod hoff o'i fam. Un diwrnod, fe alwodd boneddwr ar John, a dywedodd wrtho ei fod am ddanfon ychydig afalau i'w fam. All right," meddai John, a ffwrdd ag ef wedi cael y rhodd; ond llanwodd John ei angen o'r afalau yn gyntaf, a'r gweddill i'w fam; ond dyna sydd yn dda yn John, iddo ddweyd wrtb ei fam pa nifer o afalau a gafodd gan y boneddwr er iddo lenwi ei angen ei hun- an yn gyntaf. Y mae rhai, yn ol pob ar- wyddion, wedi cael yn y pum mis diw- eddaf, lawer o afalau per i'w rhoddi i'r tylodion oedd yn goddef eisieu; ond, atolwg, a fu y cyfryw yn ddigon cywir i roddi cyfrif gwirioneddol ? Cymerwyd digon o ofal fod cyfrif iawn am yr hyn a drainiwyd. yfwyd, bwytawyd, posti- iwyd, telegramwyd, &c., ac yn y diwedd, y gyflog-" so much per day "-a thipyn yn extra am eu good conduct. 'Does neb all brofi pa faint y mae hwn a hwn wedi gael gan hwn a hwn yn y fan ar fan. 0, na, ond derbyn yr hyn oedd o yn weled yn dda. Locus STAKDE. [Yr ydym wedi tynu allan lawer o ensyniadati y liytbyr hwn, ac Di fydd i ni gyhoeddi y fath gyhuddiadau disail heb enwau priodol ac adna byddus wrthynt.—GoL.)

LLOFRUDDIAETH TYBIEDIG YN…

GLYN EBBWY.

[No title]

Advertising