Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

GWEITHWYR CYMIiU AC YMFUDIAETH.

News
Cite
Share

GWEITHWYR CYMIiU AC YMFUDIAETH. DA genym, pan yn ysgrifenu hyn o linell- au, gyfarch fy nghydweithwyr drwy y wasg un troyn ychwaneg fod adeg dor- calonns y strike a'r lock-out wedi dirwyn i ben eto, gan obeithio na welir ein gwlad yn y fath sefyllfamwy. Er y gallwn ymffrostio ein bod wedi cael budd- ngoliaefch, eto, yr ydym wedi colli llawer, sef ni'.veidio ein hamgylchiadan ond dyn:T,rlia.idaberthucrynlawer cyn enill dim. Y mae llawer o'n cydgenedll wedi gadael ein gwlad yn yr adeg der- fysglyd ddiweddar—rhai i Queensland, ac ereill i New Zealand, o herwydd yr hen elyn, sef gormes ar y gweithiwr. Bu yr Israeliaid yn yr Aifft mewn caledi dirfawr—yn cael eu gormesu gan yr h en Pharaoh galon-galed—yngweithio pridd- feini, &c. Ond er caleted oedd calon Pharaoh, yr oedd calonau meistri De- heudir Cymrayn galetach. Ni roddodd Pharaoh lock-out''i'r Israeliaid, ond cymerasant "lock-out" eu hunain, sef gadael y wlad ac ymfudo i wlad oedd yn iiifo o laeth a mel, o dan arweiniad Moses. Wei, da genym fod gwledydd ereill i'w ca,el eto heb eu meddianu aphoblogaeth, a'r rhai hyny i'w cael yn Neheudir Anjerica. Er dangos maintioli y wlad hon i'w gyferbynu a'r gwledydd a nodir isod, dodwn i lawr y gwabaniaeth. Lloegr a Ohymru, 57,000 o filldiroedd ysgwar Pampas, Buenos Ay res, 315,000 ysgwar; Llanos, 153,000; Patagonia, 1,620,000 yn ysgwar. Dyna y Llanos ei hun yn dri chymaint a Lloegr a Ohymru heb son am y lle'ill. Gran fod rhai o'n cydwladwyr wedi sefydlu eisoes yn Mha- tagonia, felly, y mae yn fwy naturiol i ni ymfudo yno. Gan iod Patagonia yn wlad mor helaeth, dyma le i ymfudiaeth am ganoedd o flynyddoedd, lie bydd ein iaith mewn bri. Y mae ein Crewr a'n Cynaliwr wedi rhoddi yr hen fyd ymai ni fel eu gilycldj ond fod rhai bodach yn ceisio meddianu y cwbl oil, a gormesu ereill. Y mae mawrion ein gwlad wedi meddianu y tir i gyd, ac nid oes gan y gweithiwr gymaint a lied ei dro :d. a dweyd mai efe yw ei berchen gan hyny cynorthwywn ein gilydd i ymfudo lie y cawn dir i'w feddianu, a byw yn gysurus arno heb ofni gwg un crach-foneddwr. Y mae yn gysur i ni fod rhagolygon da am ymfudiaeth barhaus i Patagonia, ac y mae y WIadfa yn raddol ddyfod i sylw y werin Gymreig. Y mae llawer yn dweyd fod yn dda ganddynt fod gwlad wedi ei chael i sefydlu gorsaf i ymfudiaeth Gymreig. Y mae dau yn barod i fyned allan ddi- wedd yr haf hwn o borthladd Abertawe. Y dosbarth gweithiol sydcl yn: teimlo fwyaf o ddyddordeb mewn ymfudiaeth. Y mae yn wir fod rhai masirachwyr yn pleidio y mudiad Patagonaidd nid am eu bod am wella eu sefyllfa, ond am eu bod yn genedlgarwyr. Gallwn ddweyd 1 11 eu bod yn wir ddysgyblion i'r cenedl- garwr enwog, y Parch. M. D. Jones, o'r Bala. Gan fod y Sefydlwyr yn cadw gwyl y glaniad yn Patagonia, sef yr 28ain o Orphenaf, yr ydym yn ystyried y dylem ei gadw yn y wlad hon. Deuwch allan, bleidwyr y mndiad, a threfnwch i gael cyfarfod yr haf hwn, a chael anerch- iadau ar ymfudiaeth, y genedl, a'r iaith. Y mae yn dda genym fod y sefydlwyr yn cadw gwyl y glaniad, yn debyg i'r Americaniaid yn cadw y 4ydd o Orphen- af, er coffadwriaeth am yr amser yr enill- asant eu hanibyniaeth. Gan fod yr amser wedi dyfod yn bur dlawd, buasai yn dda i lywodraeth y Wladfa fabwys- iadu rhyw gynllun er cludo dynion allan pan y daw yn ddigon cref. Diau yr elai miloedd o ymfudwyr allan pe rhoddai y llywodraeth gyfran o wenith, guano, crwyn cuanacod, a phlyf estrys i berchenog rhyw long am eu cludo allan, ac i'r Ilywodraeth benodi rhyw gyfran yn flynyddol i dalu yn ol. Buasai hyny yn hwylysu ymfudiaeth reolaidd, a chynyddu poblogaeth y Wladfa yn gyflym. Gan fod yno yn awr cryn lawer o dynelli o wenith i'w allforio, ni fuasai yn ffol o beth i dde- chreu yn awr ar raddfa fechan, er profi y cynllun. Y mae digon o eisieu gwen- ith yn y wlad hon, er gweled a wna hyny rhyw effaifch ar y cribddeihvyr yma. Dyna sydd yn ddiffygiol ynom ni, y Cy- mry, ein bod yn ymfudo yn wasgaredig, gan hyny fe welir fod eisieu trefn ar ymfudiaeth Gymreig, ac y mae hyny wedi ei gychwyn, felly rhoddwn gy- northwy i'r mudiad. Gan mai mewn nndeb y mae nerth, dangoswn hyny, ac ymfudwn i'r un lie, sef Patagonia, yr hon wlad sydd i fod yn dalaeth Gymreig. Cofiwn mai dan lywodraeth estron yr ydym, yr hwn sydd wedi dwyn ein gwlad oddi arnom; cael ein gormesu yr ydym ni gan blant Hengist er eu dyfod- iad i'n gwlad, felly, gyfeillion, ymdrech- wn sefydlu mewn gwlad lie caffom lyw- odraethu ein hnnain, a dyrchafu i sylw cenhedloedd y byd. Nid ydym fel ce- nedl wedi cael manteision mewn gwleid- yddiaeth hyd yn ddiweddar, ond y mae genym yn awr gewri ar y maes, megys G. Osborne Morgan, Morgan Lloyd, a Henry Bichard, gwir gynrychiolwyr y genedl. Yr ydym hefyd yn cael y fraint o weithio yn galed i Saeson, pa rai sydd yn cael yr holl elw oddi wrth adnoddau ein gwlad. Gorboblogaeth hefyd sydd yn gwneud ein hamgylchiahau yn llawer gwaeth. Ar ol i un to godi i'r esgynlawr y mae'n rhaid i hono drachefn symud er rhoddi Pe i ar?11.; a'r unig lwybr sydd i'w gael yn y wlad hon ydyw ymfudiaeth. Y mae nodweddion yn perthyn i'r Cymro ag sydd yn ei gymhwyso i ymfudo. Y 0 17--ly mae yn gelfyddgar, yn lafuriwr caled, ac yn amaethwa da; ac y mae y genedl Gymreig y fwyaf Gristionogol ar wyneb y ddaear. Wel, dywedwn fel y canlyn ynte Gadiuvn y penwaior oil ar ol I lauw boliau Saeson, A phesger hwy ar botes d w'r," Cawn ninnit gigfwyd eillion Mawr dda i Hengist; a'r lien wlad," Efe sy'# lly wio Gwalia; Ond dyn a'i helpo, druan tlawd, Pan, ddaw i Patagonia." 1. G. TAWE.

MEDDYG A MEDDYG-INIAETH.

IIELYXTION Y BEIRDD.

LLENORION A LLENYDDIAETH.

FFRWYDRIAD NWY YN AGOS .I'li…

CWMDAR. !

TRECYNON—HELFA CWMDAR.

EISTEDDFOD NEiviN L-Lys CYFREITHIOL.

AT Y BEIRDD.

BEDDARGRAFF

BEDDARGRAFF

'RWY'N METHU'N CAEL GWRAIG…

MABY ANN JANE,

AM FOD FY MAM YN MARW.

FFRWYDRIAD DYEITHR A CHOLLIAD…