Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
21 articles on this Page
PWY SYDD YN BARCHEDIG.
PWY SYDD YN BARCHEDIG. Y MAE Mr. Walter Phillimore, Cang- ellydd Esgobaeth Lincoln, wedi newydd penderiynu pwy sydd a hawl i arfer y teitl Parchedig. Yn ol ei farn ef, nid oes gan weinidog Wesleyaidd hawl gyf- reithlon i'r teitl, a bod Ficer Owston Ferry yn iawn wrth omedd i Mr. Keet yr hawl o gael ei ddynodi fel y Parch. Henry Keet ar feddfaen ei ferch. Y mae Mr. Phillimore o'r farn fod y teitl Parch, yn perthyn yn unig i offeiriaid yr Eglwys Sefydledig. Nid yw Mr. Phillimore wedi cyfeirio at un weitbred seneddol yn profi fod y teitl yn perthyn iddynt hwy yn unig, ac fe wyr pawb nad oes gan yr eglwys na'i hoffeiriaid hawl i ddim nad yw yn y gyfraitb, ac yn sicr felly y mae ei farn yn anghyfreithlon. Y mae rhai o'r Eglwyswyr eu hunain yn condemnio y fath ddedfryd, yr hon sydd yn rhoddi y fath dramgwydd i Anghydffurfwyr y wlad. Y mae yn sier fod hwn eto yn benderfyniad a rydd ergyd ychwanegol tuag at ddwyn yn mlaen y dadsefydl- iad. ♦
HELtNT CADBEN TOZER, CASTELLNEDD.
HELtNT CADBEN TOZER, CASTELLNEDD. Y MAE hwn yn ymddangos yn helynt go anghyffredin, Bu mor anffodus a dyfod yu berchenog £15,000 ar ol ei ewythr. Hyn ydoedd dechreuad ei drafferthion. Ymadawodd a'i oruch- wyliaeth forwrol, yn yr hon, y mae'n debyg, y bu yn lied sobr, ac a ddaeth i fyw i'r sir hon. Trwy nad oedd gan- ddo ddim i'w wneud, a digon o arian yn ei logell, ymgymerodd âg yfed. Un noson cafwyd ef gan yr heddgeid- wad ar hyd heolydd Penybont yn feddw, a chariwyd ef i dy dyn o'r enw Williams, yr hwn, yn nghyda'i wraig, a fuont dyner wrtho. Syrthiodd yntau mewn cariad a'r teulu, a gwnaeth iddynt roddi i fyny eu tafarn, a myned i fyw gydag ef i Gastellnedd. Er 1873 hyd ei farwolaeth bu fyw yn gy- medrol, bytb yn yfed llai na photelaid o frandi y dydd. Ar yr 17 eg o Ion- awr cawii ef yn achwyn oherwydd poen yn ei ben. Gomeddai gymeryd ymborth, ond yr oedd yn parhau i yfed ei ddogn ac ychydig gyda hyny. Bu farw y dydd Mercher canlynol. Modd bynag, y diwrnod cyn iddo farw, ar awr sobr, rhoddodd gyfarwyddiadau i wneud ei ewyllys, yn yr hon y gadawai ei holl feddianau i Williams, ei wraig, a'u plentyn. Wedi gwneud hyn syrthiodd i gysgu, ond canol nos di- hunodd, a llawnododd yr ewyllys yn ngwydd dau dystion. Daeth ei ber- thynasau yn mlaen gan ddadleu yn erbyn y fath ewyllys. Profwyd fod Williams a'i wraig wedi derbyn an- rhegion gwerth rhyw £1,500 ganddo. 0
IEISTEDDFOD Y PIL.
EISTEDDFOD Y PIL. DYDD Llun diweddaf, cynaliwyd eis- teddfod yn nghapel y Bedyddwyr yn y lie uchod. Llywyddwyd gan y Parch. T. Howells; beirniad y gerddoriaeth, Alaw Ddu, Llanelli; beirniad y.rhvdd- iaeth, y farddoniaeth, a'r adroddiadau Mr. Jenkins (Cynffigwyson). Y prif wobrwyon corawl a enillwyd gan gor Pisca, dan arweiniad Mr. John Jones, argraffydd, Maesteg. Yn yr hwyr cynaliwyd cyngherdd ardderchog, yn yr hon y cymerwyd rhan gan Ap Mawrth, Eos Afan, Eos Dyffryn, Mr. H. Lee, Mr. T. Thomas, a'r cor bnddugol. +
METHIANT CWMNIAU ABER-NANT…
METHIANT CWMNIAU ABER- NANT A PLYMOUTH. Y MAE genym bob lie i gredu yn awr y cerir y gweithiau hyn yn mlaen yn y dyfodol llawn mor egniol ag yn y gor- phenol. Y mae y pwnc yn cael ystyr- iaeth ddifrifolaf y gofynwyr, y rhai wrth reswm sydd am wneud y goreu o'r mater. Dywedir mai yr holl ofynau ydynt jEl,300,000, ac mai holl werth meddianau y cwmni i gyfarfod a hyny ydywd61,200,000, neu rhywbeth tua chan mil yn llui na'r gofynion. Bernir, os rhoddir y gweithfeydd hyn yn awr yn y farchnad, pan yn dechreu adferu o'r marweidd-dra hirfaith y maent wedi bod ynddo, y collirarianmawrynddynt. Y teimlad poblogaidd ar hyn o bryd ydyw, y bydd i'r gofynwyr ffurfio yn gwmni er cario y gweithfeyddya mlaen eu hunain, am y byddyn debycach o lwyddo na nemawr gwmni newydd a ffurfir y dyddiau presenol.
CWM RHONDDA.
CWM RHONDDA. DTMUNA Pwy 11 gor Gweithiol Llwynypia gydnabod derbyniad y symiau canlynol: -Yr wythnos yn diweddu Mai 22ain, Masnachwyr Llwynypia, Tonypandy, Coeclymeibion, 94 14s. 4c.; Mr. Thomas, Swan Inn, 2s. 6c. Yr wythnos yn di- weddu Mai 29ain, Masnachwyr Llwyn- ypia, Tonypandy, a Choedymeibion, £ 3 16s. lc.; Mr. Thomas, Swan Inn, 2s. 6c. YSG. CAERFFILI. PRYDNAWN dydd Llun diweddaf, yn dra disymwth, bu farw Anthony Powell, llifiwr. Yr oedd yr hen wr wedi bod yn angladd Edward Jones (Ned y Postman). Aetb gyda chyfeillion ereill i'r Boar's Head Hotel. Wedi gadael y lie hwnw galwodd mewn ty, gan achwyn ei fod yn teicolo yn hynod wael ei iechyd. Anfonwyd am ei fab a'i fab-yn-nghyfraith, ac fel yr oeddynt yn dechreu ei arwain tua chartref, bu farw yn eu breichiau. Yr oedd yn 60 mlwydd oed, ac yn un a berchid yn fawr.
ABERHONDDU.
ABERHONDDU. BOREU dydd Sul diweddaf, bu farw dyn ieuanc o'r enw Jones, mewn canlyniad i gic ceffyl a dderbyniodd y dydd blaen* orol yn y lie hwn.
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. MEWN cyfarfod a gynaliwyd yn Llun- dain dydd Llun diweddaf, pasiwyd penderfyniadau yn gefnogol i sefydlu Cadair Geltaidd yn Mhrif Y sgol Edin- burgh. Llywyddai Ardalydd Huntley. Y MAE un cwmni, yn Mountain Ash, yn ystod yr wythnos ddiweddaf, wedi llwyddo i godi dros 2,000 o dynelli o lo, a dysgwylir y bydd i'r cyfanswm hwn gael ei dreblu yr wythnos hon. YR ydyin yn cael y bydd i weithiau haiarn y Cefn, yn nghymydogaeth Pen- 0 ybont, gael eu can yn niwedd y mis presenol, a hyny oherwydd strike y stolcers, y rhai a wrthodant dderbyn y gostyngiad cyflogau fel y cytunwyd mewn ysgrifen. DYDD Mawrth diweddaf cyrhaeddodd llong Prydeinig o'r enw Mary Rich- mond i Gaerdydd, er cael ei hadgyw- eirio. Dywed ei dwylaw i anghydfod gyfodi ar ei bwrdd ar ddydd Gwener y Groglith, tra yn myned rhagddi i Rot- terdam o Lagos, ac i'r mate dderbyn y fath niweidiau fel y bu farw. Ceisiodd yr hwn a achosodd iddo golli ei fywyd lofruddio y cadben drachefn, ac wedi hyny iddo gyflawni hunanladdiad. DIWEDD yr wythnos ddiweddaf, cynal- iwyd trengholiad gohiriedig ar wedd- illion y tri dyn a gollasant eu bywydau yn lefel Pengam, ar yr 21ain cynfisol, trwy gwyjnpiad amryw dynelli o bwysau arnynt o'r top. Cafodd y rheithwyr mewn cysylltiad a marwol- aeth James Price, fod ei gyflogydd, Richard Evans, i'w feio. Yr oedd hyn yn gyfystyr a chael Mr. Evans yn euog o ddynladdiad. BOREU dyddlall yr wythnos diweddaf, cymerodd glofa Hafod y Bwlch, Rhuabon, dan, ond pa un ai trwy danchwa nea ynte ryw ffordd arall, ni wyddis. Llosgwyd chwech o ddynion yn arw. Y MAE morwr o'r enw John Jones, wedi cael ei gymeryd i fyny yn un o borthladdoedd Gogloedd Lloegr, ar y cyhuddiad o fod wedi llotruddio Cadben Thomas, perthynol i'r llong Galloway Lass," o Abertawe. Yr oedd y cyhudd- iedig yn swyddog ar y llestr, ac y mae y dwylaw yn hysbysu fod cweryl wedi cymeryd lie rhyngddynt tra yr oedd- ynt ar y mor, a chollvsyd golwg ar y cadben ar yr adeg. YN llys yr heddgeidwaid, Briste, dydd Gwener diweddaf, cafodd Ma- thew Morrison ei ddedfrydu i dri mis o lafur caled am daflu ei wraig all an trwy y ffenostr.
_!—♦ Y DYNLADDIAD TYBIEDIG…
—♦ Y DYNLADDIAD TYBIEDIG YN NGHAERFYRDDIN. YR ydym yn cael fod y ddau ddyn ieuanc—James Davies, a David Rees -y rhai a gyhuddir o fod wedi achosi marwolaeth David Walters, yn Croes- y-Ceiliog, ar yr 22ain. cynfisol i sefyll eu prawf am ddynladdiad yn sesiwn nesaf y sir. Y mae y ddau wedi cael eu meichnio hyd adeg y sesiwn.
—+ CRAIG Y BWLLFA, CWMDAR.
— + CRAIG Y BWLLFA, CWMDAR. BoREU dydd Mawrth diweddaf, deuwyd o hyd i gorff dyn o'r enw William Pooley, rhyw 32 neu 35 oed, yn ymyl Craig y Bwllfa. Yr oedd y trancedig yn byw yn Blaengwrelych, Rhigos, ond yn gweithio yn ddiweddar yn N ghwm Rhondda. Bernir iddo syrthio dros y graig, yr hon sydd rhai canoedd o droedfeddi o uchder, nos Sadwrn diweddaf. Nid yw yn debyg fod neb wedi gwneud dim iddo, yn gy- maint a bod yn ei logellau rhyw bnm' punt o arian pan y deuwyd o hyd iddo. Y tro olaf y gwelwyd ef yn fyw oedd rhwng naw a deg o'r gloch nos Sadwrn yn un o dafarndai Cwm Rhondda.
ICREULONDEB AT WRAGEDD.I
CREULONDEB AT WRAGEDD. YN Liverpool, dydd Mawrth di- weddaf, cafodd yr ynadon o'u blaenau ddau achos o greuIondeb neillduol gwyr at eu gwragedd. Anfonwyd un Thos. Cudley i garchar am chwe' mis am ym- ddwyn yn greulawn at ei wraig. Yr oedd wedi myned gartref yn feddw, ac wedi cloi y fenyw druan mewn ystafell, gorchymynodd iddi dynu ei dillad oddiam dani. Wedi iddi wneucl hyny, ciciodd yr anghenfil hi ar ei phen a'i chorff a'i glocs haiarn-amgylchol. Gohirwyd dedfryd y llall, am Had oedd ei wraig yn gallu bod yn bresenol. Yr oedd gwraig hwn, er achub ei hunan o'i grafangau creulawn, wedi neidio allan trwy y ffenestr, ac wedi derbyn y fath niwediau, fel nad oedd yn alluog i fod yn bresenol. ♦
I CYNRYCHIOLAETH MERTHYR AC…
CYNRYCHIOLAETH MERTHYR AC ABERDAR. CEDWIR cryn gynhwrf gan ychydig ymyrwyro barthed cynrychiolaeth Sen- eddol Merthyr ac Aberdar, os dygwydd i Mr. Fothergill roddi ei sedd i fyny. Ni charem ar hyn o bryd i unrhyw gyf- newidiad yn ein cynrychiolaeth gymer- yd lie, ond yr ydym yn gallu hysbysu, a hyny ar seiliau da, mai B. T. Wil- liams, Ysw., Bargyfreithiwr, fydd yr ymgeisydd dewisodig ar ran y Rhydd- frydwyr, ac mai Syr Ifor Guest a gyn- nygir ar ran y Toriaid.
. Y "DARIAN" 0 DAN GAREG SYLFAEN…
Y "DARIAN" 0 DAN GAREG SYLFAEN CAPEL. DYWED gohebydd o Gaerfyrddin fod y DARIAN yn mhlith y newyddiaduron a osodwyd yr wythnos ddiweddaf o dan gareg sylfaen capel newydd yr Anni- bynwyr yno.
LLOSGIAD EGLWYS BABYDDOL YN…
LLOSGIAD EGLWYS BABYDDOL YN AMERICA. CANT 0 FYWYDAU WEDI EU COLLI. YN y papyrau sydd wedi cyrhaedd o New York yr wytbnos hon, yr ydym yn cael manylion am y tan dychrynllyd a gymerodd le yn Eglwys Babyddol Holyoke, ar wyl Corpus Christi. Yr oedd y gwasanaeth ar derfynu pan y cydiodd y ganwyll yn y wisg o am- gylch delw y Forwyn Fair, trwy yr hyn y rhoddwyd y lIe ar dan. Wedi i'r tan dori allan, cymaint ydoedd brys y gynulleidfa i ddianc, fel yr ymruthrasant yn gyfangorff, fel y methent yn lan ac ymryddhau oddiwrth eu gilydd yn y mynedfeydd a'r drysau. Yr oedd holl ymgais yr offeiriaid i gadw trefn yn bollol ofer. Yr oedd unteuluo bedwar yn yr Eglwys, yr oil o ba rai a gollasant eu bywydau. Llusgwyd lluaws allan wrth eu breich- iau a'u coesau, y rhai a fuont feirw yn iuan wedi eu cael allan. Ereill a gymer- wyd allan ag ond ychydig gnawd am eu hesgyrn.
HIRWAUN—NEWYDD DDA.
HIRWAUN—NEWYDD DDA. Y MAE yn dda genym ddeall fod Cwmni Glofeydd Merthyr Dar, Hirwaun, wedi gweled yn briodol i dynu yn ol y rhybudd o ostyngiad yn nghyflogau eu gweithwyr, ac yn benderfynol o fyned yn mlaen am ryw gyfnod eto ar yr hen brisoedd, Y mae y newydd wedi rhoddi boddlonrwydd mawr i drigolion Hir- waun, a bydd yn newydd boddlongar gan bawb.
TONYREFAIL.
TONYREFAIL. CYFARFYDDODD glowr adnabyddus, o'r enw Lewis Davies, yn byw yn y lie uehod, a'i ddiwedd yn bynod ddisym- wth yn Nglofa Penrhiwfer, trwy i gareg fawr syrthio aino. Buwyd am dri chwartey awr cyn y gallwyd cael ei gorff oddi tan y ceryg.
SEFYLLFA MASNACII GLO A HAIARN.
SEFYLLFA MASNACII GLO A HAIARN. (Allan o'r DAILY NEWS, Llundain.) MAl 27, Birmingham. Ychydig fusnes a gyflawnwyd. Prifgwestiwn yr ym- ddyddan yn y farchnad, yw, gwaith meistri haiarn Belgium yn gwerthu dan bris. Y mae archebion mawrion wedi cael eu derbyn ar y cyfandir gan y rhai a gystadleuant a ni, o Rwsia, hefyd oddiwrtli ein Llywodraeth ni yn India, a chwmni rheilffordd Brighton-- yn Belgium. Prisoedd haiarn. Unbran- ded bars, £ 8 10s. bi*anded, £ 10 10s. i £11 12s. 6c. Mai 28, Llundain, cyfarfyddodd meistri a gweitbwyr perthyaol i fas- nach haiarn yn Lloegr, yn Westmin- ster Hotel, y dydd hwn. Yn Rhagfyr 1873, eytunodd meistri a gweithwyr y cawsai cyflog y gweithwyr ei reoleiddio yn ol scale nell drefn o raddoldeb, gan benderfynu beth fyddai y radd leiaf a mwyaf. Yr oedd y cytundeb i ddechreu Ebrill 4, 1874, ac i ddibenu Mehefin 1, 1875. Gosododd y meistri gynyg i'r gweithwyr yn nghylch. y dyfodol. Y mae eu hateb i gael ei roddi cyn neu ar yr 16eg cyfisol. Mai 29, Birmiugham. Masnach go C, fywiog ag Awstralia, New Zealand, India, a Canada. Middlesborough. Masnach yn lied dda. Prisoedd haiarn :—Rails o £7 i X7 5s.; ship plates o Y,8 15s. i £ 9 common bars o X8 i X8 2s. 6c.; puddled bars o £ 5 2s. 6c. i £ 5 5s. Mehefin 3, Birmingham. Dywedir y bydd rhagor- o ffwrnesi ar waith yn fuan. Masnach yn farwaidd.
ODDIWRTH EIN GOHEBYDD 0 GAERDYDD.
ODDIWRTH EIN GOHEBYDD 0 GAERDYDD. Ychydig sydd yn y DARIAN am y lie hwn a'r fasnach fawr a ddygir yn mlaen yma, pan mewn gwirionedd mai i'r dref hon y perthyn masnach glo a baiarn Morganwg a Mynwy. Yn ystod y strike ddiweddaf yr oedd yfasnach, fel y gallesid dysgwyl, yn hynod farwaidd, a hyny yn benaf am y dysgwyliai y prynwyr i ostyngiad gymeryd lie, a'r canlyniad oedd nad oeddynt yn prynu ond pring yr hyn oedd yn angenrheid- iol. Ond wedi mawr a hir ddysgwyl am derfyn, dyma ben arni. Wel, beth am hyny ? Wei, mae yr hyn oedd yn cael ei siarad ys ystod y strike yn cael ei wrthbrofi yn gyflym, sef yw hyny, fod y fasnach yn myned o'r wlad, ac y buasai yn bwnc ei chael yn ol dra- chefn. Ond atolwg ai dyma fel y mae ? Nage, ond nid cynt na bod y strike ar ben, dyma y demand yn cynyddu. Nid oedd disgwyl JIl, ystod y strike, na fuasai y fasnach yn myned, canys beth amgen oedd ganddi i'w wneud, nid oedd yma ddim digon i'w chyflenwi, ac o ganlyniad yr oedd y masnachwyr yn myned i'r lie y gallasent gael glo. Ie, meddir, ond y perygl oedd na fuasai y fasnach yn dychwelyd. Na, nid oedd perygl yn y byd, canys pwy lo geir i wneud yn lie y South Wales Coal.
.. Y CNYDAU A MARCHNAD Y GWENITH.
Y CNYDAU A MARCHNAD Y GWENITH. Y MAE y cynauaf yn cael ei gyflymu gan y tywydd hafaidd presenol, sydd wedi dilyn y cawodydd maethlawn li- weddaf. Mae marchnadoedd yd y wlad wedi bod yn farwaidd, ond y mae gwerthwyr wedi gallu cadw y prisoedd yr wythnos ddiweddaf. Y mae y gwenith wedi gostwng eto yn New York.
—♦ Y GWEITHFEYDD.
—♦ Y GWEITHFEYDD. TREDEGAR.—Y mae y gweithfeydd hyn yn bywiocau fwy-fwy bob dydd. Mae y melinau pudlo oil mewn gwaith, ac yn yr holl adranau ereill y mae byw- iogrwydd cyffredinol yn ganfyddadwy. Mae y glowyr hefyd yn gweithio yn dda. "It. GLYNCORVG.—Mae yma alw mawr am ychwaneg o lowyr, yr hyn sydd yn arwydd er daioni. PONTYPWL.—Y mae glowyr Aber- sychan, yn gystal a'r rbaiyn mhyllau y Glyn, heb waith, a hyny am nad oes galw am lo. Y mae gan Gwmni Glyn Ebbwy eisioes lawer o lo, am yr hwn nid oes cwsmeriaid, a gwrthodant gy- meryd y gweithwyr i mewn o herwydd hyny.
.. CINIAW PLANT MERTHYR.
CINIAW PLANT MERTHYR. YR ydym yn cael fod giniaw olaf, dan lywyddiaeth Rector Merthyr, wedi cael ei mwynhau gan blant tlodion Merthyr, dydd Sadwrn diweddaf, pryd yr ymgyfranogodd rhyw 2,500 o hono. Dywed y Rector fod 5,000 o blant yn ddyddiol wedi cael eu porthu, a hyny am 12 o wythnosau trwy gyfraniadau y cyhoedd, a 2,000 a 8,000 am ddwy wythnos arall. Nid oes amheuaeth na fu sc-,fydlu, ciiiiaw dyddiol i'r plant yn adeg yr anneall- dwriaeth maith yr ydym wedi ei gael wedi bod yn foddion i gadw yn fyw plant lawer yn Merthyr a'r gymy- dogaeth. Tystiolaeth amryw ydyw fod lluaws o'r plant yn ystod yr wyth- nosau diweddaf, wrth gael un pryd da o ymborth, wedi gwella yn fawr yn eu gwedd. +
TREDEGAR -BODDIAD.
TREDEGAR -BODDIAD. Prydnawn dydd Gwener diweddaf, dygwyddndd i fachgenyn bychan o'r enw John Jones, 6 mlwydd oed, mab i Mr. Abel Jones, dilledydd, o'r lie hwn, foddi mewn nant yn agos i Pwll Ash Tree. Yr oedd wedi myned i'r lie gydag ereill i chwareu, a thrwy ryw anffawd syrthiodd i'r dwfr. +