Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

BRYNFAB A PHWYLLGOR EISTEDDFOD…

News
Cite
Share

BRYNFAB A PHWYLLGOR EIS- TEDDFOD Y GROGLITH TREHERBERT. Be merciful, great duke, to men of mould, Abate thy rage, abate thy manly rage! Abate thy rage, great duke FONEPDIGION,—Meddyliais y buasai fy llythyr blaenorol yn ddigon o eglurhad i Brynfab ar ein hymddygiad fel pwyll- gor yn atal y wobr. Ond yn 11 e cymeryd yr eglurhad yn derfyn ar y cwestiwn,tynu ei got i lawr, torcha lewys ei grys, caua ei ddeint, cwyd ei ddwrn, ymnoetha fraich ac asgwrn, yr un peth a phe o dan ddy- lanwad Syr John Heidden, a gesyd ei hun ar ffurf dyn am frwydr. Ond gwy- bydded Brynfab nad allan i ryfel y daethum. Yn wir, ni byddai ond yn- fydrwydd yn ymylu ar wallgofrwydd i mi, efo fy mhop gun," chwedl yntau, i wynebu y fath gawr a Brynfab a'i Lancaster dinystriol Gwarcbod pawb! byddai un ergyd o enau ei fagnel ffroen-lydan yn ddigon i'n chwythu i ddifancoll tragwyddol. Ond trwy dru- garedd, mae y drychfeddwl mat a. sweep y mae yn ymladd wedi dofi tipyn arno. Ie, garw o beth fyddai i chwi lychwino eich gwisgoedd canaidd wrth ymdrechu ag lID o'r fath ond garwach fyddai i'r sweep a'i frwsh ysgubo eichffug-honiadau trwy gorn y simne, Dywedwch i chwi ysgrifenu at lywydd yr Eisteddfod, ac at lywydd y pwyllgor. Nid wyf yn gwybod pa un a ysgrifen- asoch at y blaenaf ai peidio, ond os do, nid oedd ganddo ef ddim i'w wneud a'r cwestiwn, mwy na'r arweinydd. Ond am i chwi ysgrifenu at "lywydd y pwyllgor," nid yw ond anwiredd noeth, oherwydd myfi oedd, ac ydyw llywydd y pwyllgor, a gallaf eich sicrhaunachlyw- ais na siw na miw oddiwrthych ar ol yr Eisteddfod. Gofynwch yn ddefosiynol beth oedd genych i wneud ond gosod tan yn y gwersyll." Nid yw'r gwersyll mor barod i gymeryd tan ag y tybiwch. Mae yn nghymydogaeth y gwersyll ddigon o ddwfr oer i ddiffodd cymaint o dan a ellwch chwi a'ch lucifer matches ei gyneu (" Nemesis a Nhw a finau included). Y mae Brynfab yn cyfaddefnawelodd amodau ein Heisteddfod cyn yn awr; ond pe wedi eu gweled na fuasai byth yn cystadlu. Dyma beth alwn ni tua'r gwersyll yma yn brynu oath mewn cwd." Rhoddwn well credit i synwvr da Brynfab na'i fod yn gwneud troion fel hyn yn fynych. Cyffelyba ni, am wneud amodau e'r fath, i ladron pro- ffesedig." Ni roddwn hyn yna i lawr at ei gredit, gyda brigandiaid a swind- lers y llythyr o'r blaen. Yr oeddwn i wedi meddwl fod hawl gan bwyllgor unrhyw Eisteddfod i wneud rheol au fel y gwelont yn oreu, heb fod wrth hyny yn agored i gael eu cyffelybu i ladron proffesedig. Ond dyna, mae gwersi pwysig i'w cael bobdydd. Ceisiwnddy- lanwadu ar Brynfab, neu rywun tebyg, i'n cynorthwyo i wneud amodau yr Eis- teddfod nesaf.. Ond gadewch i ni weled pa beth oedd yn yr amod y cyfeiria Brynfab ati. Wele hi, "yn ngwyneb haul a llygad goleuni,"—" Fod y cyfansoddiadan i fod yn Haw y beirniad erbyn y lafoFawrth gyda ffugenw yn unig. A'r enw priodol dan sel i'r ysgrifenydd." Atolwg, a oes rhywbeth yn y rheol yna yr ydym fel pwyllgor yn haeddu cael ein cyffelybu i ladron proffesedig o'i herwydd ? Ie, i "brigandiaid" a "swindlers." Os oedd gan Brynfab wrthwynebiad i'r enw priodol dan sel, fel y dywed, yr oedd croesaw, fel y dywedasom o'rblaen, iddo beidio cystadlu. Ac nid ydyw ei fod ef yn teimlo yn wrthwynebol i'r enw pri- odol dan sel" yn rhoddi hawl iddd da-nu ei lysnafedd ar draws y pwyllgorau fyddo yn gofyn am hyny. Haera Brynfab nad oedd ein program yn crybwyll pa ddyddiad yr oedd yr enw dan sel i fod yn Haw yr ysgrifenydd, ac y gallasai ei anfon ddydd yr Eisteddfod, neu yn awr. Fe wel pob dyn sydd a chymaint a gronyn o had mwata-rd o synwyr yn ei ben, fod yr enw priodol dan sel i fod yn llaw'r ysgrifenydd yrun d d dyddiad ag yr oedd y cyfansoddiadau i fod yn llaw'r beirniad. Poor fellow, beth sydd i ddweyd wrtho ? Pwy all feio dyn ar foddi am gydio mewn gwelltyn crin? Ond y mae Brynfab yn ymgysuro yny grediniaeth y gall fyw heb y wobr yn well na'r pwyll-or ai amddiffynydd, a barnu oddiwrth arwyddion yr amserau." Druan o'r pwyllgor a'i hamddiffynydd tlawd. A oes rhyw debygolrwydd y cant ymborthi o'r briwsion fyddo yn syrthio oddiar fwrdd eu harglwydd, wys, os aiff hi yn galed ? "Will your grace command me any service to the world's end? I will go on the slightest errand now to the Antipodes, that you can devise to send me on I will fetch you a tooth-picker now from the farthest inch of Asia; bring you the length of Prester John's foot; fetch you a hair off the great Cham's beard; do you any em- bassage to the Pigmies." A barnu oddiwrth arwyddion yr am- serau," byddai yn drugaredd i'r pwyll- gor gael rhywbeth i'w wneud yn ngwas- anaeth gwr mor fawr! Nid oes dim yn y rhan olaf o'r llythyr yn deilwng o sylw. Yr eiddoch, foneddigion, Treherbert. D. M. JOMES.

W. TAWENFRYN WILLIAMS A'R…

EIN OANU CYNULLEIDFAOL.

Y PEIRIANWYR A SYSTEM YR WYTH…

SEFYLLFA Y GWEITHIWR.

GAIR 0 GYNGHOR.

AT Y BEIRDD.

[No title]

TRI PHENILL

/ Y NEWYDDIADUR.

- MYNYDD PEN PYCH.

ENGLYN

ADGOFION MEBYD.

Y CYFARFOD GYHOEDDUS YN ABERDAR.