Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

PWYLLGOR CYNORTHWYOL TRECYNON.

DOSBARTH TRECYNON.

DOSBARTH T GADLYS.

DOSBABTH ROBERTS TOW

.DOSBARTH LLWYDCOED.

DOSBARTH CWMDAR.

.DERBYNIADAU.

TALIADAU.

Advertising

FFRWYTHLONDEB GWAITH.

News
Cite
Share

FFRWYTHLONDEB GWAITH. Y MAE llonaid gwlad o bob! yn cael eu hargyhoeddi fod cyfoethyn. sylfaenedig ar ymdrechion gweithwyr, unwaith y gwelont ganlyniadau truenus atalfa tri- ugain mil o weithwyr oddiwrth eu gwaith. Gwelant nad yw cyfoeth a' llwyddiant yn ymddibynn cymaint ar ddigonedd o gyfalaf-o ddefnyddiau, megys glo, a mwn haiarn; riac ar reil- flfyrdd, docks, a phob math o gyfleus- derau masnach ar for a thir-ag y mae ar waith dwylaw y gweithiwr. Ei waith ef sydd yn rlioddi gwertli ar lonaid mynydd o lo a haiarn, am mai efe. yn ♦ei waith, a all eu troi i ateb aneiryf amcanion cymdeithas. Efe sydd. yn rheoli ffynonell ffrwd elw yr hon a leda dros y wlad mewn myrdd o ffurfiau. Ei waith ef yw y reservoir o-ba un y mae cymdeitbas yn cael cyfiawnder o bob peth a gynyrcha Iwyddiaut. Bydd y pibellau a drosglwyddant firwyth eu ymdrech ef i bob ty, yn weigion, os rhydd efe heibio ei gaib a'i raw. Pan, edrych cymdeithas ar filoedd o weith- wyr yn segur, ystyria pob dosbarth o ddynion fod moddion eu cynhaliaeth w yn gwywo Tw gwreiddiau. Fod prudd- dereu gwynebau fel pebyddaiybyd bron ar ben, Edrychir ar waith y gweithiwr fel calon corff masnach gwlad. Pan y peidia y galon hon a churo, trenga masnach, a chyda y tren giant hwn trenga llwyddiant yn mhob peth materol. Aiff yn nos ar ragolygon am fwyd a dillad, a chyfyd, i olwg dychymyg ofnus, farch du newyn a noethni. Nid yw pob gwaith yn gynyrchiol fel gwaith y rhai a lafariant i ddwyn glo a haiarn i fasnach y byd. Dywed y Dr. Adam Smith, yn ei lyfr yr hwn a elwir Wealth of Nations, safon gwleidiadwyr yr oes ar y mater hwn,— The labour of a menial servant adds nothing to the value of materials." Nid yw traul gwas neu forwyn mewn ty byth yn dyfod yri ol i'w meistr. Ni ddeuai yn gyfoethog wrth gynal Ilawer o weision a morwynion. Pa fwyaf tydd traul eu cynhaliaeth hwy, lleiaf i gyd a enilla efe. Tynu oddiwrth ei enillion y mae efe wrth roddi cynhal- iaeth a chyflog i weision a morwynion ei dy. Nis gall droi dim a wtaant yn foddion elw. Nid yw cynyrch eu llatur yn werthadwy. Dibena ffrwyth y llafur hwn o fewn cylch cyfleusdra a chysur teulu y meistr. Y mae liawer o waith y dosbeirth uwcbaf o gymdeithas mor ddigynyrch o elw a gwaith gweision a morwyn- ion mewn ty. Nid yw ffrwyth llawer o weithrediadau y mawrion yn dwyn ceiniog o elw iddynt hwy na neb arall. A phe cymerai strike le yn eu plith am flwyddyn, ni arafai un olwyn yn mheir- iant masnach o herwydd hyn, ac ni byddai cymdeithas geiniog yn dlotach. Ni ystyriai neb y byddai olwynion masnach y wlad yn sefyll am foment pe darfyddai holl redegieydd ccffyhm, yr holl steeple chases, yr holl galed- waith mewn saethu adar, dilyn cwn hela, a liawer o bethau cyffelyb, yn mba rai y mae gewynau, mer, ac esgyrn y mawrion, yn cael yr ychydig iechyd a allant gael yn y fath waith. gaii fod natur yn galw am ryw waith er mwyn iechyd, a bod perffaith segur- dod yn nghanol palasau, cyfoeth, a phleser, yn berffaith drueni. Pan yr a canoedd o'r cyfoethogion o'r wlad hon, i dreulio misoedd lawer ar y cyfan- dir, nid yw bywyd masnach yn lleihau 1 dim, oblegid fod eu gwaith hwy wedi sefyll, os bydd eu cyfoeth hwy mewn cylchrediad fel cyfalaf, i gadw dynion, a ddygant elw i gymdeithas, mewn gwaith. Y mae ymdrechion caledion y mawr- ion yn dibenu yn ddielw arnynt hwy eu hunain. Y mae yn waeth na gwin- wydden wag profFwydoliaeth Hosea, "yn dwyn ffrwyth iddi ei hun" yn linig. Nid yw y mawrion yn dwyn fawr o ffrwyth iddynt eu hunain, os na ystyrir y pleser glasdwraidd a fWYll- hant yn ffrwyth. Gyda eu holl ym- drech i lanw eu hamser a rhyw fath o weithio dielw, teifl eu cyfoeth hwy i afaelion amser gwag, yr hwn a fodola o waethaf eu hymdrech i'w ladd. Tra y mae Rhagluniaeth wedi eu gosod hwy mewn sefyllfa, yr hon, yn ol arfer y wlad, a'u carcliara allan o diriogaeth gwaith a gynyrcha elw, y mae Khag- luniaeth wedi gosod y gweithiwr tlawd yn nghanol gwaith yr hwn sydd yn elw a bendith i'r byd o'i amgylch yn gystal ag iddo ei hun. Nid yw gwaith yr orsedd, na gwaith mainc y barnwr, na gwaith swyddog- ion milwrol na swyddogion y llynges, yn dwyn elw masnachol. Geilw Dr. Adam Smith y rhai hyn oil yn" un- productive labourers." Geilw hwynt yn weision cymdeithas, a'u bod yn cael eu cynal a chynyrch llafarwaith gweith- wyr glo a haiarn; mewn creiftau, a phroffeswriaethau masnachol. Er fod gwasanaeth y swyddogion uchod yn anrhydeddus a defnyddiol, a hefyd yn angenrheidiol, nid yw yn cynyrchu y fath,elw a.allai bwrcasli y gwasanaeth I hwn yr ail waith. Nid yw yr amddiffyn a rydd eu gwasanaeth un flwyddyn i'r wlad, ddim yn dwyn elw digonol i bwr- casu eu gwasanaeth yn y flwyddyn ddyfodol. 0 gynyrch gwaith dosbeirth eraill o ddynion y derbyniant hwy dai am eu gwasanaeth bob blwyddyn. Y In mae offeiriaid, esgobion, a gweinidog- ion o bob enwad, yn nghyd a chwareu- wyr, cantorion, a chantoresau, buffoons a dawnsyddion, yn cyflawni gwaith nad yw yn dwyn ceiniog o elw masnachol. el illtu, Derfydd y weithred yn yr engreifftiau hyn ar ei gorpheiiiad. Ni fydd dim i'w weled. ar ei hoi, fel ffrwyth, yn debyg i lwyth o lo a haiarn, ar ol i lafur y mwnwr ^i'r puddhr ddarfod, neu ddernyn o waith neubeiriant defnydd- iol wedi i'r crefftwr ddibenu ei orch- wyl. < A chan fod gwaith dielw liawer dos- barth yn cael ei wobrwyo a chynyrch gwaith dosbeirth eraill, rhaid i'rgwobr- wyo hwn, neu gyflog y gweision nad ydynt yn cynyrchu elw, beidio bod y fath faich ar waith ag sydd yn dwyn elw, ag i leihau ei allu i elwa yn bar- haol os nad yn gynyddol, ac onide bydd yn rhaid i'r gwasanaeth dielw derfynu, neu weithio am ddim yn y pen draw. Y mae cymdeithas yn llawn o adweithiadau, neu wrthweithiadau, y rhai a brofant fod buddiant personol poodyn yn hanfodol ymddibynol, ar ei waith ef yn rheoleiddio ei hawliau ef ar eraill, wrth gyfartaledd eu hawliau hwy ar ei eiddo et ei hunan. Ac os dygwydd iddo fod yn un o'r gweision 1 anrhydeddus, y rhai a wnant waith anghynyrchiol o elw masnach, ei ddy- iedswydd yw cyduabod uwchafiaeth y gweithwyr, ar ffrwyth gwaith pa rai y mae efe yn cael ei gyflog. Hebddynt hwy ni chaffai geiniog o gyflog heb zn n fyned i lawr, os lawr hefyd, i wnendy gwaith a wnant hwy. Y mae y gweithiwr, yr hwn a ystyrir fel yn perthyn i'r dosbarth tlawd, yn cynyrchu digon o ffrwyth i gynal ei hun, ac i gynal y rhai a wnant waith dielw, ac i gadw y rhai sydd yn ddigon uchel i fod mor segur a delwau difywyd. Y mae parhad bodolaeth cyfalaf (capital) yn ymddibynu ar lafur y gweithiwr. Trwy lafur y gweithiwr, yn llaw pa un y mae y defnyddiau a ymcldirieda cyfalaf iddo, y mae cyfalaf yn dyfod yn ol i law ei berchenog gyda chwanegiad o elw, wedi i'r gweithiwr dd, rbyn cyfiog am ei waith. Os rhydd cyfalafydd ran o'i gyfalaf i weithiwr dielw, megys esgob, bydd ei gyfalaf o gymaint a hyny yn llai at gynyrchiant elw trwy waith mwnwr neu grefftwr cyffredin. Fel y dywed Dr. Adam Smith, y ddeddf fasnachol yw fod v gweithiwr tlawd, yr hwn y mae ei waith yn dwyn elw i gyfalafwyr, i gael ei dalu cyn i'r gweithiwr dielw, megys brenin, barnwr, neu esgob gael ei gyflog, oblegyd rhaid cadw y peiriant sydd yn dwyn elw mewn gwaith, gan y byddai pall yn hwn yn sychu y ffynon o ba un y firydia cyfiog pob un o'r mawrion uchod. Tuedd cyfoethogion yw rhoddi mwy o gyflog i weithwyr y rhai na chynyrch- ant elw na rhai sydd yn ei gynyrchu. Dywed Dr. Adam Smith, "The expense of a great lord feeds generally more idle than industrious people. The rich merchant, though with his capital he maintains industrious people only, yet by his expense, that is, by the employ- ment of his revenue, he feeds com- monly the very same sort as the great lord." Y mae yn eithaf eglur wrth hyn mai ¡ y gweithiwr—yr hwn a ystyrir yn dlawd, gan ei fod yn ymddibynu ar ei waith ei hun am gyflog, ac nid fel brenin, barn-vr, neu esgob, ar waith rhyw un arall—yw gwir reolwr cym- deithas. Efe yw car eg sylfaen elw mewn masnach. Efe sydd yn cadw hoedl cyfalaf. Efe sydd yn rhwystro diddymiant cyfoeth. Efe sydd yn goods gwerth ar feddiatiau mawrion y deyrnas. Ped ysgubid holl weithwyr y wlad yfory o fodolaeth, byddai yn rhaid i'r mawrion ddisgyn, os disgyn hefyd, i wneud eu gwaith hwy, neu farw o newyn, heb fwyd na than, na dillad, na thai. Pa bryd y dawr segurwyr moethus palasau a eherbydau i gydnabod gwerth y dosbarth gweithiol, ar ba un yr ymddibynant am fwyd, dillad, tai, cyfoeth, a phob mawredd a berthyn iddynt?

SEFYLLFA MASNACH GLO Ai HAIARN.

^YMADAWIADY PAJiCfiTlt)"-DAVIES…

CARMEL, TRECYNON.

OOSPI DYNION HEB EU PROFI…

GOFYNIAD MESURYDDOL.

MARWOLAETHAU.