Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

Y TEULU ANNEDWYDD

News
Cite
Share

Y TEULU ANNEDWYDD (Allan o hen Fisolyn tua 40 mlynedd yn ol.) RHYW fodd neu gilydd dygwyddodd i'r feriili hynaf gael ei chymeryd i gwm- peini parchus, yr hyn a achosodd iddi ymchwyddo mewn balchder, ac i ynfydu mewn ffolineb. Nid ydoedd dim yn ei phen ond myned i'r balls a'r dawnsiau, erlid crefydd, dirmygu crefyddwyr, ac ymgeisio at fawredd heb fodd yny byd i'w gynal ond ar draul rhai ereill. Yn mben yehydig amser, daeth dau wr ieuanc i'w charu, a hithau yn ei ffolineb a gefnogodd y ddau a thrwy ei hys- tranciau, ymrafaeliodd y ddau ddyn ieuanc a'u gilydd, a'r canlyniad fu i un o honynt ladd y llall. Diangodd y Ilofrudd o'r wlad, ac nichlybuwydgair o son byth am dano; ac am y ferch, llwyr gollodd ei chymeriad ac yn lie edifarhau am ei gweithredoedd, torodd ei chalon oblegid i'w balchder gael ei' ddarostwng, a bu farw dan regu a melldithio, fel y gorfu pawhifoi o'r ystafell pan ymdagai ag angeu. Fel hyn yr aeth i donau yr afon fawr; llithrodd ei tbraed ar y cabol-feini, a suddodd i beidio dyrchafu ei pifenyn dragywydd Bu yr amgylchiad pruddaidd hwn yn foddion i effeithio divygiad yn y teulu am yohydig: gadawodd y tad ei reg- feydd a'ifelldithion, gadawodd y plant eu castiau, drygionus, a meddyliwyd bod cyfnewidiad dymunol ac effeithiol wedi cymeryd lie; Ond yn mhen tua phymthefnos arferid yr un iaith yn y teulu, dilynid ft un arferion, a rhoddid yr un llwybrau; ac yn He gwellhau, gwaethygasant yn eu drygioni. Prentisiwyd un o'r bechgyn yn Lloegr, gyda masnachwr cyfrifol, parchus, a chrefyddol, lløy bu am ryw ysbaid mewn anrhydedd mawr, a rhoddid pob ymddiried ynddo. Ond yn lie astudio ei gelfyddyd, a bod mewn ymdrechiad- au yn ngwahanol ganghenau gwybod- aeth, ymunodd a chymdeithion a fuont yn achos o'i lwyr ddinystr ynypen draw. Megys y crybwyllwyd yn barod, yn lletreiddio yn mlaen mewn gwybodaeth fuddiol gyda golwg ar y gelfyddyd y rhoed ef ynddi, aeth yn bolitician mawr, ac nid ydoedd neb yn uwch ei leferydd nag efe ar hyd y nos mewn tafarndai, yn trafod materion y llywodraeth; ac er na wyddai ddim am egwyddorion unrhyw lywodraeth yn fwy na'u gilydd, galiesid meddwl wrth ei siarad ei fod yngwbl addas i fod yn Ganghellwr y Trysorlys. Fel hyn yr aeth yn mlaen am ryw hyd, o un drwg i'r llall, hyd oni chyflawnodd ryw gyflafan yn y di- wedd, fel, rhag ei gymeryd gan swydd- ogion y gyfraith, ffodd o'r wlad, ac aeth i deyrnas dramor. Yma y bu mewn cyfyngderau mawrion oblegid newyn, noethni, yn nghyda phob anghenogtid. Wrth grwydro tua glan y mor, cafodd long yn dychwelyd yn ol i'r deyrnas hon, ac wedi gwnewd erfyniadau mawr- ion, cymerodd y meistr drugaredd arno, a chymerodd ef gydag ef yn ol i Loegr. Wedi dyfod i'r wlad hon, yr oedd yn gwbl ddiymgeledd, ac heb ddim yn ei logell er cael unrhyw angenrheidiau, ac felly bu dan yr angenrheidrwydd o fegian ei ffordd adref. Cyrbaeddodd anedd ei rieni yn eithaf truenus yr olwg arno; ac yr oedd mor wael fel o'r braidd yr adwaenid ef gan neb. Cudd- iwyd ef gan ei fam 6 olwg ei dad, oblegid yr oedd hwn mor galon-galed fel yroedd yn rhy beryglus i ddweyd wrtho fod y bachgen wedi dychwelyd yn ei ol. Gan ei fod yn awr dan yr angenrheidrwydd o fod yn nghudd; a chan na allai ddilyn oferedd ei feddyl- iau cymerodd ei genad, ac yn fuan gwel- wyd efgan ryw wr o'r gymydogaeth yn canu baledau ar hyd ffeiriau pellenig. Yn fuan ymunodd., a haid o'r gipsies, a dechreuodd ladrata ceffylau, yr hwn orchwyl a ddilynodd gyda chryn lwyddiant am ryw ysbaid o amser. Dechreuodd ystyried ei ffyrdd, a'r can- lyniad o ddilyn ei lwybrau presenol, a phenderfynodd adael ei boll gymdeith- ion, dychwelyd adref yii wir edifeiriol, a dechreu arwain bywyd newydd. Rhyw noswaith aeth yn ddisymwth i mewn i dy ei dad, yr hwn, yn nghyda'i fam, a'r teulu, a eisteddent wrth y tan. Taflodd ei bun fel yr afradlon o'i flaen, gan erfyn arno, gyda wylofain, i'w gymeryd dan ei ymgeledd, a maddeu iddo yr oil a wnaeth yn ei erbyn. Ond yn lie tyneru ato, ymgynddeiriogodd ei dad yn ei erbyn yn lIe llefaru yn deg wrtho, efe a'i rhegodd yn ddychrynllyd; ac yn lie ei ymgeleddu dan ei grong- lwyd,efe a'i llusgodd allan, gan ei guro yn ddidrugaredd, a chlodd y drws ar ei ol. Wedi cael ei wrthod yn y wedd hon yn nhy ei dad, ail ymunodd a'i hen gymdeithion, a'i fpyd ar ddrygioni yn fil mwy nag erioed o'r blaen. Un nos- waith cyfarfyddodd ag amaethwr parch- us yn dyohwelyd tuag adret o'r farch- nad, ymosododd arno, ac yspeiliodd ef yn y fan. Daliwyd ef dranoeth yn feddw mewn tafarndy, rhoddwyd ef yn ngharchar a phan ddaeth amser ei brawf, dedfrydwyd ef i gael ei alltudio dros y mor am ei oes. Rhoddwyd ef, gydag ugeiniau ereill o raicyffelyb iddo, mewn Hong, i'w trosglwyddo i wlad eu halltudiaeth a phan ar y mor, ym- rysonodd ag un o swyddogion y Hong, a tharawodd ef; a'r canlyniad fu iddo yntau gael ei daflu dros y bwrdd i'r dyfnder yn nghanol banllefau torf o resynolion calon-galed fel ef ei hun.

PROFFESWR I'R IEITHOEDD ,CELTAIDD.

L '"l'.bohebiaethau*

>1, Y PABYDDION A GWAIIARDD'IAD…

CYMRY SYDNEY A'R " COR MAWR."

Y LLYTHTR.

YR ANERCHIAD.

MR. HENRY RICHARD, A.S., AR…