Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

YR WYTHNOS,

News
Cite
Share

YR WYTHNOS, HAUL MASNACH WEDI CYFODI. BYDD dydd Gwener, Mai 28, 1875, yn fyw yn nghof holl genhedlaethau Gweitbwyr a Meistri Deheudir Cymru, fel cyfnod-fel torch arbenig yn nghad- wen amser, o'r pwys mwyaf i bob dos- barth o ddynion. Ac edrych arno fel dydd o ddy- gwyddiad cyffredin, ar wahan oddi- wrth achosion naturiol, moesol, neu fasnachol y "strike" hirfaith prudd- glwyfus, ac ar wahan oddiwrth ymres- ymiadau ac ymdrechion gwrthwynebus y gwahanol bleidiau, y rhai sydd wedi bod mewn ymrafael a'u gilydd, y mae fel dydd dygwyddiad o bwys wedi tynu sylw y byd. Yr oedd y "strike" a'r "lock-out" yn Neheudir Cymrn fel gefeilliaid plaol, angeuol, wedi myned yn destynau paragraph dyddiol yn mhrif bapyrau y deyrnas. Yr oeddynt wedi tynu eu gobebwyr mwyaf dewis- edig i ymweled a'r ardaloedd lie y trigai y gefeilliaid Apolyonaidd uchod ac yr oedd awch cywreinrwydd John Bull yn cael ei foddloni a thameidiau anmrwd gohebiaethau, y rhai oeddynt gan mwyafyn ddychymygion unochrog, yn mhell oddiwrth y ffeithiau, yn nghyleh y gefeilliaid dinystriol. Yr oedd y "strike" a'r "lock-out wedi codi eu penau fel clogwyni yr Alps; a safant byth mewn hanes, yn eu mawredd alpaidd, a'u penau gwynion eiraol, rhewol, oerllyd, yn wybren am- ser, rhwng llygaid yr oesau a'r ser, fel cofgolofnau o un ofrwydran mwyaf gwaedlyd y byd, rhwng cyfoeth a gwaith, boneddig a gwreng, nieistr a gweithiwr; a bydd cytundeb y meistri a'r gweithwyr, dydd Gwener diweddaf, fel carnedd tystiolaeth Mizpah, lie y cyngreiriodd Laban a Jacob, ac y gosodasant derfynau eu tiriogaeth, pan ddywedodd Laban, "Gwilied yr Argl- wydd rhyngof fi a. thithau, pan f'om ni o olwg ein gilydd." Llawenydd i bawb yw fod RHESWM o'r diwedd wedi cael ei godi i'r orsedd, ac wedi cyfryngu yn effeith- iol rhwng y meistri a'r gweithwyr. Yr oedd TBIMLAD wedi cael siarad yn hir, uchel, ymhongar, a heriol. Y mae wedi cael rhyddid yn hir i daflu gwreichion tanllyd ei ddigofaint gyda dibrisdod creulawn yn nghylch y can- lyniadau. N i chymerodd foment i ys- tyried fod y gwreichion hyn yn syrthio yn nghanol llonaid gwlad o bylor di- nystriol. Gwnaeth wrecks alaethus o iawer o bethau gwerthfawr a gasglwyd yn nghyd gyda llawer o ofal a chynildeb am flynyddau; yn arian, yn ddodrefn, a llawer o bethau eraill, yn mha rai y trigai gobaith o seibiant a mwyniant yn y dyfodol. Gallai TEIMLAD ddi- nystrio, ond hid oedd ganddo athrylith i roddi terfyn ar ddinystr, ac adferu dynioliaeth i sianel llwyddiant. Yr oedd yn. rhaid cael RHESWM at hyn. Ac er fod TEIMLAD wedi carcharu RHESWM am nsoedd, fel y carcharwyd Jeseph, mewn dystawrwydd- dirmygus, bu y natur ddynol dan orfod i gael y Joseph hwn o'r carchar i egluro llwybr i osgoi truenusrwydd cyffredinol newyu a noethni. Dywedodd RHESWM fod yn rhaid i'r ddwy blaid ildio ychydig. Yr oedd TEIMLAD wedi bod yn crochlefain am ei hawliau hyd at y ffyrling eithaf, Ymffrostiai teimlad y meistri a theim- ,lad y gweithwyr eu bod yn annibynol ar en gilydd. Ond gwelsant o'r diw- edd mai ymffrost cwbl amddifad o sylwedd oedd hwnw. Boddwyd Uais RHESWM yn swn taranau digofus ymffrosagar TEIMLAD. Llefai TEIMLAI) fel Hebuehodonosor, Dringaf i'r nef- joedd. Oddiar ser Duw y dyrehafaf fy ngorseddfa. Dringaf yn uwch na'r cymylau. Onid hon yw Babilon fawr, yr hon a adeiledais i yn frenhindy yn nghryfder fy nerth, ac er gogoniant fy mawrhydi." Ond daeth lief o'r nef dydd Grwener, ac a ddywedodd, Aeth y trenhiniaeth oddiwrthyt," a chaiff RHESWM deyrnasu yn dy le. Yn awr gellir gofyn, fel y gofynwyd am frenin Babilon, wedi ei ddiorseddiad, yn nghylch TEIMLAD digofus a dialgar, Ai dyma'r gwr a wnaeth i'r ddaear grynu, ac a gynhyrfodd deyrnasoedd,. a osododd y byd fel anialwch (yn y sfrike), ae a ddinystriodd ei ddmasoedd, beb ollwng ei garcharorion yn rhydd tuag adref? RHESWM a dueddodd y meistri ildio yr egwyddor fawr o gyflafareddiad i'r gweithwyr. Yr oedd pob rheswm o blaid iddynt wneud hyny cyn y strike. Yr oedd eu gwaith yn gwrthod gwneud pryd y gallasent safio miliwnau o bunau i'r wlad, a rhwystro llifeirianto ofi diau a ddaeth dros filoedd lawer o ddynion, yn gamsyniad ynfyd, balchaidd, a gor- mesol. Ond y mae eu gwaith yn can- iatau cyflafareddiad yn awr, ar ol pum mis gweithiol, un wythnos, a thri diwrnod o strike dinystriol, yn wneud y goreu o'r gwaethaf. A dylai y gweithwyr faddeu iddynt yr hyn sydd wedi pasio, yn ngwyneb yr edifeirwch ymarfefol a ddangosant, yr hyn sydd yn addawol am lwyddiant yn y dyfodol. Trwy faddeuant y meithrinir cyfeill- garwch, yr hwn a all fod yn well nag arian i'r ddwy blaid. Gwnaeth y gweithwyr yn synwyrol iawn i dderbyn lleihad cyflog o ddeuddeg a haner yn y cant. Y mae y meistri i'w canmol yn, fawr am wahodd y gweithwyr i wledda gyda hwynt ar ddiwrnod yr ymheddychiad. Hen arfer batriarchaidd yw fod dynion yn bwyta gyda'u gilydd fel arwydd eu bod yn gyfeillgar. Dyma un o nod- weddion arwyddol Swper yr Arglwydd. Gosodwyd ef fel arwydd o gymod a Duw mewn iawn. Drwg. genym ddeall fod rhai o'r meistri wedi troseddu yn erbyn un o delerau hanfodol cytundeb dydd Gwe- ner, sef fod-y gweithwyr i "gael eu lleoedd arferol i weithio, neu gael lle- oedd eraill, mor bell ag y byddo hyny yn ymarferol a rhesymol." Gwyddom am bymtheg neu ragor, y rhti, sydd wedi cael eu gwrthod heb gael un rheswm am hyny. Os yw y meistri am sicrhau heddwch a llwyddiant per- ffaith yn y dyfodol, rhaid iddynt ym- wrthod a thriciau naill ochrog a gor- mesol. A gobeithio y byddant yn fwy boneddigaidd na gweithredu allan o gylch ystyr teg eu hymrwymiad i'r gweithwyr.* r; 4

METHIANT'CWMNIAU HAIARN ABERDAR…

Y DDAEARGRYN YN ASIA LEIAF.

. ARIAN Y BYD.

» MASNACH YR YD A GOBEITH-ION…

,. NOFIO 0 FFRAINC I LOEGR.

.—-4-: MOUNTAIN ASH — LLOFRU…

[No title]

CWERYL BUGEILIAID.

DAM WAIN ALAETHUS YN NGWEITHIAU…

LLONG A CHWECH 0 FYWYDAU WEDI…

[No title]

[No title]

NODION O'R AMERICA.

DIRWESTWR DIEGWYDDOR.

TYBACO YN CALIFORNIA.

[No title]

~FFESTINIOG.~~

Family Notices