Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
MABON AC < ARSYLLYDD' Y GWLADGARWR.
MABON AC < ARSYLLYDD' Y GWLADGARWR. DRUAN o Arsyllydd, alias Brythonfryn, Samson, Vulcan, &c. Y mae ya amlwg fod facts yn stubborn things yn eu cysylltiad ag ef. Yr oedd fyllythyr; diweddaf yn cynwys amryw awgrym- i iadau ag yr oeddwn yn awyddus eu i gwyntvllu, ond yr oedd yr awgrymiaA-: au, y mae yn debyg, yn ddigon, canys nid yw prif ohebydd golygyddol y Gwladwr Bach, yn mherson Brython- fryn, yn dewis myned yn mhellach i'r pynciau hyn, ac felly nid oes genyf finan ond eu gadael yn awgrymiadol fel yr ymddangosasant. Gan ei fod wedi son am gawl erfyn, ac awgrymu at y pethau gwell a gefais i, gallaf ei sicrliavt, oeth bynag a gefais, i mi eu cael heb wneud cam a meistr na gwas, a gwerthwr na phrynwr ac yr wyf yn barod i ddywedyd eto mai esmwyth y cysg cawl erfyn. Am fy ngallu ysgrifenyddol, nid wyf yn proffesu fy mod yn ddim amgen na fy nghyd ysgolorion o goleg y man- drel, ac y mae yn chwerthingar clywed y cawr-ohebydd hwn, sydd wedi ac yn byw wrth ysgrifeuu (ysbwrial), ynherio un o'r tanddaearolion bethan fel myfi. Ond gwybydded y cawr fy mod wedi hen ddysgu y gwahaniaeth sydd rhwng egwyddor a rhagritb, gonestrwydd a thwyll, sobrwydd a chyfeddach a bod iddo roesaw i wneud arddangosfa o honof, ond i minau gael ei roddi yntau mewn caravan arddangosol arall. Y mae yn gofyn i mi beidio meddwl mai encilio y mae; wel, y mae yn rbaid o gwrs ei gymeryd ar ei air, a cheisio peidio meddwl hyny, er ei fod yn rhyw beth tebyg iawn i enciliad. Os bydd y eawr yn myned i drafod un neu ychwaneg o'r pynciau sydd wedi eu hawgrymu, yr wyf yn erfyn arno am wneud hyny yn y Gymraeg. Nid wyf yn amen ei alln yn yr iaith Saeson- aeg, ond er ein mwyn ni, y bobl uniaith, yr ydym yn erfyn am hono. Y mae rhyw ddyn gwellt, druan, yn ceisio gwtbio ei bigi mewn, ondy mae mor dywyll o barthed fy nghysyUtiad i a J. Gray gynt, fel y mae yn chwer- thingar darllen ei ddwli plentynaidd, ac yn islaw sylw. MABON. [Credwn fod y dyn gwellt uchod, ag y cyfeiria Mabon ato, yn ceisio taflu en- syniad celwyddog at ryw un o staff presenol y DARIAN ond gwybydded y llofrudd cynllwyngar na fa ac na fydd y cyfryw yn euog o ddatguddio unrhyw gyfrinach perthynoL i unrhyw swyddfa y bu nac y mae a fyno efe a hi, (os bydd anrhydedd yn perthyn i'r gyfrinach) nac ychwaith wedi cyflawni dim arall fel y bu gorfocl arno ymad- ael a'r cyfryw ac y mae y ffaith fod J. G. yn ysgrifenu i'r DARIAN yn brawf nad yw yntau yn credu ei fod wedi derbyn cam gan neb o honom. A all staff newyddiaduron ereill ddweyd hyn? Beth am helynt iselwael a gwarthus Raven H ill rhyw fis neu bum wythnos yn ol ? Y mae yn drewi yn ffroenau pawb sydd yn gydnabyddus a'r helynt. GOL.
J. T. MORGAN, CYHOEDDWR "AMDDIFFYNYDD…
J. T. MORGAN, CYHOEDDWR "AMDDIFFYNYDD Y GWEITH- IWR," (?) A'I HAERIADAU. MR. GOL.,—Yr oeddwn yn tybied fod J. T. Morgan wedi cael digon o gosfa gan Mr. Simons yn Ilys yr heddgeidwaid yn Merthyr, pan ddygwyd cwyn ganddo yn fy erbyn, fel na buasai yn beiddio dyfod i'r cyhoedd i geisio glanhau ei hun ar ol hyny ond ymddengys fod gan J. T. Morgan ddigon o bres ar ei wyneb i ddod a'r mater budr hwn eto o flaen y werin. Gan fod ei haeriadau yn gyfryw ag sydd yn gwneud cam dirfawr a mi, ac yn neillduol yn cyffwrdd a'm cymer- iad, yr hwn y beiddiaf ddweyd "yn ngwyneb ha'il a llygad goleuni," a ddeil i'w gystadlu un dydd o'r flwyddyn a'i eiddo ef, yr wyf trwy eich caniatad, Mr. Gol., yn erfyn amychydig ofod i egluro y mater. Yr haeriad cyntaf a wna yw na ddygodd y cwyn yn fy erbyn er mwyn fy nghosbi, ond i gael iawn am yr hyn yr haera efe oedd yn golled iddo drwy fy absenoldeb. Gyda golwg ar yr haeriad hwn, gallaf dystio mai gelyniaeth faleisus o'i eiddo ef oedd y gwreiddiol achos o .ddwyn y cwyn yn fy erbyn. Er egluro hyn, rhaid i mi roddi ychydig o hanes y drafodaeth fustlaidd a gwenwynig. Yr oeddwn i yn gweithio o dano (fel y mae gwaethaf y modd), o dan gytundeb, ac nid wrth y dydd. Y cytundeb oedd fy mod i osod saith o golofnau Cymreig o'r papur, cyfieithu i'r Gymraeg, darllen y prawfleni Cymreig, a gwneud y papur Cymreig i fyny yn forms yn barod i'r wasg. Y dydd Sadwrn blaenorol i'r wys, cefais rybudd i ymadael ganddo, ac o ganlyniad aethum i ymofyn gwaith, a chefais addewid gan Mr. Jones, per- chenog y Taff Vale Gazette, y buasai lie i mi ar ol gorphen fy mhythefnos gyda J. T. Morgan. Pan ddeallodd yntau fy mod wedi cael lie arall, dangosodd ei ffyrnigrwydd drwy roddi yr wys hon i mi am absenoli fy hun o'r gwaith pryd- nawn dydd [au. Yr oeddwn y noswaith flaenorol wedi gweithio byd haner awr wedi 12 o'r gloch y nos, ac wedi gorphen y papur Cymreig. Nid oeddwn dan rwymau, yn ol y cytundeb cyntefig, i weithio ar y rhan Seisnig, ond beth bynag a, wnawn ar y papyr hwnw, yr oeddwn yu cael 6c. yr awr am dano. Gweithiais dydd Iau hyd un o'r gloch, a chan fy mod yn teimlo yn flinedig, a bod dyn ychwanegol yn y swyddfa i weithio, nid aethym yn ol y prydnawn. Boreu dydd Sadwrn canlynol derbyniais yr wys oddiwrtho trwy law yr heddgeid- wad. Gan na bum erioed o flaen yr ynadon, tybiais mai gwell oedd i mi geisio setlo ag ef; ac ar ol iddo wrthod talu dim o'm cyflog yr wythnos hono hyd ddydd Mercher, daethom i gytundeb drwy i mi ddweyd y gwnai 25s. y tro os byddai iddo adael i mi weithio hyd y dydd lau canlynol. Aethym at fy ngwaith ddydd Llun, ac o herwydd fod y ddanodd yn fy mlino, gofynais am gan- iatad i fyned i dynu fy nant. Dychwel- ais ar fyr yn hollol alluog i ddilyn fy ngwaifch, ond gweithredodd ef tuag ataf, nid fel amddijjynyclcl y gweithhvr, ond fel gelyn y gweithiwr, drwy fy nhroi dros y drws yn ddiseremoni. Am hyn dygodd wys arall yn fy erbyn, a boren dydd Mercher dygwyd y cwyn cyntaf o dan y Master and Servant's Act, 9th Section, yn mlaen ganddo. Ni waeth genyf fi pa section o'r Act, yr oedd yn rhan o'r Act y bu efe ei hun yn ysgrifenuyn Ilym yn y herbyn. Mae y cyhoedd yn gwybod ei canlyniad, y modd y darfu i Mr. Simons ei drin yn y llys, ac hefyd y darfu i'r ynad ddweyd fod J. T. M. wedi com- poundo a mi y dydd Sadwrn blaenorol, ac felly nad oedd cwyn yn fy erbyn. Efe a gafodd y fath drinfa gan Mr. Simons fel na feiddiai ddyfod a'r cwyn arall yn fy erbyn felly barned y darllenydd pa un ai fi ai J. T. M. oedd yn ei le. Am ei gyfeiriad at ei swyddfa, nis gallaf ddweyd ond fod yn ffiaidd genyf fy mod erioed wedi aros mor hir ag y gwnaethym i gyflawni y fath fudrwaith a chyfteithu y Spirit Medium, yr hwn oedd yn ddim ond anwiredd o'i dderhreu i'w ddiwedd, ac wedi cael ei ddyfeisio gan ymenydd iled ddiffygiol. Gwell i J. T. M. fy ngadael yn llonydd, neu caiff ryw- beth eto a fydd yn tynu mwy o warth arno na'r hyn a ddygodd Mr. Simous arno yn y llys. Nid yw y cwbl o'i lys- nafedd tuag ataf ond effaith ei genfigen fy mod wedi cael swydd mewn papyr arall yn Nhroedyrhiw. Gadawaf ef ar hyn, ac ni wnaf 'sylw mwy o'i lithiau na'i erthyglau, canys y maent yn salach nag islaw sylw.' J. R. EVANS (loan Egwest.)
LLITHIAU 0 HAFOD ILLTYD.
LLITHIAU 0 HAFOD ILLTYD. Ma. GOL.,—Hwyrach y bydd i chwi ganiatau i lith yn awr ac eilwaith i ym- ddangos yn eich TAMAN ddysglaer, y rhai a gant eu hysgriblo ar fwrdd yr Hafod. Credwch chwi neu beidio, y mae genyf fi wmbredd o bethau i'w hysgrifenu o bryd i bryd, canys y mae 11 u mawr yn galw yn yr Hafod, y rhai sy'n gwybod hanes y byd, a'r Betws hefyd. 0 ie, y mae Dewi Wyn wedi symud o randir Powys i Bontypridd. Wel, wel, dyna ryfedd, onite? Yr hunan-ddysgydd brif-fardd wedi gadael y tawel le iachus a denol i ddyfod yn fasnachwr ar lan y Taf! Nid oeddem yn dysgwyl iddo gael yr un dysteb yno cyn ymadael a Phowys, Morganwg, gan nad oedd neb o'i ber- thynasau a'i gy mydogion yn gallu gwerth- fawrogi ei alluoedd meddyliol treiddgar, canys nid yw amaethwyr bro Morganwg yn ceisio amgvffred yn uwch na gwerthu moch a defaid, erfin a thatws felly nid cedd Dewi yn byw gyda nhw er ei fod yn gymydog iddynt. Beth bynag, y mae'r bardd gwyn bellach yn cadw maelfa ar y Graig, Pontypridd. Y mae yma lu o gyfeillion calon i Dewi yn yr ardal hon, ac os na chafodd noson ffarwel cyn ymado a Dinas Powys, caiffi noson o roesawiad yn Mhontypridd. Yn mhlith cyfeillion Dewi, cyfarfyddodd Nathan Dyfed, Dewi Haran, Carnelian, Mathonwy, Llyfnwy, &c.; ac wedi myned yn fras dros y mater, dyna, englyn gan Carnelian, a. dyma fo:- 0 herwydd byn mae Haran-yn cynyg, Ac ynll mae Nathan, Mathonwy a Llyfnwy o'r Llan, A'i eilio wna Carnelian. Atebai Mathonwy:— O roesaw ni fydd resyn, r I)uw a wyr; i Dewi Wyn, Y mae brys i ddal y Post, a wele i chwi daflen o'r casgliad at gynorthwyo y dyn- ion sydd allan yn sefyll dros eu hiawn derau:-Glofa Rica, Mai 7fed, £ 11 10s. eto, Mai 22ain, £10 Is.; Evan Morgan, grocer, 2s.; David Jenkins, Bush Inn, 3s.; Glofeydd Tynant a'r Ida, Mai 22ain, £35 6s. 10c.; John Morgan, cigydd 2s.; Llyfnwy, 2s. 6c.; Thomas John, Cros- cade, 2s.; Titus Lewis, New Inn, 2s. 6c.; Lewis Rees, crydd, Is.; Rees Jenkins, cigydd, Is.; William Lewis, Y sw., Dyffryn Bach, 5s.; cyfanswm, £3628. 10c. Tal- wyd i John Jones ei dreuliau am fyned a'r arian i'r Pwyllgor Canolog, Aberdar, 3s. 8c. Gweddill, 935 19s. 2c. Yr holl arian o'r Tynant, Ida, a'r Rica wedi eu trosglwyddo i Mr. Edward Williams, Bute Arms, Aberdar. Joml JONES.
CASTELLNEWYDD EMLYN—) EISTEDDFOD.!
CASTELLNEWYDD EMLYN— EISTEDDFOD. CTNALIWTD Eisteddfod y dydd o'r blaen yn Nghapel If an, ger Cajstellnewydd, dan lywyddiaeth H. W. T. Howell, Yaw., Glasbant. Gwnaeth j llywydd anerchiad tarawiadol yn yr iaith Gymreig, yr hwn a dderbyniodd gymeradwyaeth uchel. Arweinwyr yr Eisteddfod oeddynt Mr. T. H. Jones, Cefngwndwn, a'r Parch. J. Davies, Llandysul, y rhai hefyd a rodd- asant anerchiadau. Cafwyd anerchiad barddonol i'r Eisteddfod gan Mr. J. Davies. Enillwyd y wobr ar ganu Cyng- herdd y Goedwig' gan Gor yr Aelwyd, dan arweiniad Mr. D. Davies. Beirniaid i y rhyddiaeth a'r farddoniaeth oeddynt y Parchn. W. Thomas, M.A., Llandysul, a T. J. Morris, Saron. Enillydd y wobr am Ddyddlyfr yr Amaethwr' oedd Mr. T. H. Jones, Cefngwndwn, yr hwn hefyd a enillodd y wobr am y traethawd ar Y lies neu yr afles o wydraid o wyrodydd.' Yr hwn a ganodd yn oreu yr unawd, Anwyl yw Gwalia fy Ngwiad' oedd Mr. James Thomas, Pen'rallfcddu. Yr oedd 10 yn cystadlu ar yr unawd, a'r beirniad oedd Mr. J. Thomas, Llanwrtyd. Cys- tadleuodd pump ar ganu y Fwyalchen,' a'r oreu oedd Miss Elizabeth Miles, Cwm Morgan. Yr hwn a enillodd ar y llinellau barddonol i Mr. Jeremiah, ysgolfeistr, Capel Ifan, oedd Mr. T. H. Jones, Cefn- gwndwn. Cystadleuodd dau gor ar gan Garibaldi,' ond enillwyd y wobr gan gor Rehoboth, dan arweiniad Mr. D. Davies. Mr. Samuel Jones, Castellnewydd, a enillodd y wobr am yr englynion goreu i Ffynon Ifan. Y wobr am ganu 0 na bawn i yn Seren' aroddwyd i Gor Emlyn, dan arweiniad Mr. W. Davies. Cystadl- euodd wyth ar yr unawd Gogoniant i Gymru,' ac enillwyd y wobr gan Mr. Samuel Jones, Plygyrhiw. Cystadleuodd pump o gorau ar ganu Mai,' ond enill- wyd y wobr gan Gor Drefach, dan ar- weiniad Mr. Benjamin Davies. Y llinell- au barddonol ar Ba un goreu lletya neu briodi' a enillwyd gan Mr. T. Jones, yr hon oedd y bedwaredd wobr iddo. Caf- wyd cystadleuaeth ragorol ar yr unawd- au o ddewisiad y cystadleuwyr, ond enill- wyd y wobr gan Mr. S. Jones, Drefach. Y gwobrwyon ereill a enillwyd gan David Phillips, Gwallter Glan Taf, John How- ells, David Davies, E. Miles, Cor Cas- tellnewydd, dan arweiniad Mr. T. Jones, &c. A. D.
PWLL LEVEL YR AFON A NODYN…
PWLL LEVEL YR AFON A NODYN LLYGADGRAFF YN Y "DARIAN" DDIWEDDAF. YN gymaint a bod gwahanol bersonau cysylltiedig ag Abernant wedi datgan mai fi ydyw awdwr y nodyn a ymddangos- odd yr wythnos ddiweddaf dan y penawd uchod, gwasanaethed hwn, yn nghyda thystiolaeth y Gol., er eu sicrhau nad oes a fynwyf mewn unrhyw fodd a'r cyfryw, Hefyd, cofier, os byddaf un amser yn teimlo datgan fy syniadau ar unrhyw fater a ddygwydd fod yn groes i'm barn, meddaf ar ddigon o wrolder i wneud hyny yn gyhoeddus yn ngwydd fy nghyd- weithwyr; os trwy y wasg, bydd i mi osod fy enw wrtho.-J OSEPH PRICE, 63, Bute St., Aberdar. (Gallwn sicrhau mai nid Joseph Price yw awdwr yr ysgrif dan yr enw "Llygadgraff. GOL.)
PWLL MWN Y GADLYS.
PWLL MWN Y GADLYS. NID ydym wedi gweled dim yn ym- ddangos am y pwll hwn yn y DARIAN glodwiw oddiar ei dechreuad, ac yr wyf yn meddwl ein bod, y rhan fwyaf o hon- om, yn dderbynwyr cyson o honi; felly, yr ydym ninau am i chwi adael i'r ych- ydig linellau hyn ymddangos yn organ y gweithiwr. Gwelais yn eich newyddiadur am y 14eg cyfisol, am lofa yn talu ei levies yn arddercbog yn Nghwm Aberdar. Da iawn. Y mae glowyr y lofa i'w canmol am hyny. Felly, yr ydym ninau am i'r darllenwyr gael ychydig o hanes y Pwll Mwn a'i daliadau at y strike hon. Ein nifer yn gweithio ar ddechreu y strike oedd 52, ac yr ydym yn bresenol tua 90, ac yr ydym wedi casglu y swm o j6120 7s., ac wedi anfon i'r fund ganolog y swm o £119 18s. 6c. Y mae yn llawy trysorydd 8s. 6c. erbyn y taliad nesaf. Yr wyf wedi clywed fod rhai yn gwneud eu goreu yn yr hen bwll, ac hefyd fod yno lawer yn lied stiff i roddi cyn- orthwy yr adcg hon. Yr wyf hefyd wedi clywed mai ychydig o'r teimlad da hwn sydd i'w ganfod tua ochr y Graig yna.- MAC.
BWRDD GWARCHEIDWAID MERTHYR.
BWRDD GWARCHEIDWAID MERTHYR. CYNALIWYD cyfarfod wythnosol y Bwrdd hwn ddydd Sadwrn diweddaf. Hysbyswyd mai nifer y rhai a gynorth- wywyd yn ystod yr wythnos yn di- weddu Mai 14eg, oeddynt 765 o wryw- od, 139 o fechgyn, 723 o fenywod, a 2,551 o blant. Y swm a wariwyd oedd X409 14s. 4c., yr hyn oedd yn llai o yn agos i 181 na'r wythnos flaenorol i hyny. Nifer y dynion a weithient ar y ffyrdd ac a dorant geryg oeddynt 380, mewn cyferbyniad a 535 yr wythnos flaenorol. Meddyl- iai y Bwrdd y gellid bellach hebgor y swyddogion ychwanegol a gymerwyd i mewn yn ystod adeg y loch-out, ac y gallai y swyddogion arferol bellach gyflawni yr holl waith. Siaradwyd ar y pwnc hwn gan Mr. Rees H. Rhys, Mr. Gould, Mr. Jones, y Cadeirydd, a Mr. T. W. Evans, Cariwyd y cy- nygiad yn unfrydol. Mr. Howell Williams a ofynodd, a allai y Bwrdd orfodi Mr. R. H. Rhys i gadw ei fodryb a'i gyfnithder, y rhai ydynt yn derbyn cynorthwy plwyfol. Iddynt dderbyn y flwyddyn ddiweddaf X IS 2s, Yr atebiad a roddwyd iddo, nad allai. Hysbyswyd mai nifer y rhai yn y tylotdy oedd 308. Yr wyth- nos gyferbyniol y flwyddyn ddiweddaf, 258.
---LLYTHYR ARGL. ABERDAR AR…
LLYTHYR ARGL. ABERDAR AR DREULIAU Y STRIKE. Y MAE y Hythyr manwl canlynol wedi ei anfon i'r wasg gan Arglwydd Aber- dar ar golledion y strike bresenol:— "Darfu i Mr. Casey yn ddiweddar hysbysu fod y swm o £13,000 wedi ei gyfranu gan wahanol undebau, i'w cyd- weithwyr yn Neheudir Cymru, yn ystod yr annealldwriaeth presenol. Oddiwrth yr hysbysiad, cywirdeb yr'hwn nad am- heua neb yn gymaint a'i fod wedi dyfod oddiwrth ddyn mor anrhydeddus a Mr Casey, y mae ymholiad yn cyfodi, sef, pa gyferbyniad sydd rhwng y swm hwn a'r gyflog y mae y gweithwyr wedi ei golli. A chymeryd cyflog glowr yn 5s. y dydd, byddai y swm o £13,000 yn gyfartal i ddiwrnod o gyf- 11 y log i 52,000 o ddynion. Hysbyswyd fi beth amser yn ol, gan Mr. Samuel Davies, Aberdar, oddiwrth y cyfrifiad manylaf ag y gallai ef ei wneud, mai nifer y glowyr a weithient yn mhyllau y meistri Undebol oeddynt 57,000, tra yr oedd y rhai a weithient o dan y meistri anundebol yn 28,000. A chymeryd yn ganiataol fod 5,000 allan o'r 57,000 wedi cael gwaith yn nglofeydd y meistri anundebol, byddai y swm o £13,000 yn gyfartal i gyflog diwrnod i'r glowyr nad oeddynt yn gweithio. Dechreuodd y strike ar yr Slain o Dachwedd, er pa adeg y mae 144 o ddyddiau wedi pasio. Yn cy- meryd 24 allan o'r rhai hyn ar gyfer y Sabbothau, dydd Gwener y Groglith, a gwyliau y Sulgwyn, bydd yn ngweddill 120 o ddyddiau gweithio, yn ystod pa amser y gallesid enill £ 1,560,000. Gallai y dywedid, a hyny gyda gwirionedd, fod dros 5,000 o lowyr wedi cael gwaith yn nglofeydd y gymydogaeth a lleoedd ereill. Nid oes genyf unrhyw ffordd fel ac i am- cangyfrif y gostyngiad a ddylai gael ei wneud ar gyfer hyny, ond, wedi gwneud y cyfaddefiad helaethaf, ac ychwanegu at y glowyr oedd allan o waith trwy y strike, y niferoedd a glowyd allan, y labrwyr a'r badwyr a ymddi- bynent ar y fasnach lo a haiarn, a'r dynion oedd yn dal cysylltiad a'r llong-lwytho yn Caerdydd, Abertawe, a Chasnewydd, &c., y rhai sydd wedi bod allan o waith am y rhan fwyaf o'r amser, yr ydwyf yn eithaf hyderus fy mod o fewn terfynau wrth gyfrif fod y swm sydd wedi ei golli eisoes mewn cyflog yn £ 3,000,000. Ac y mae yr amcangyfrifiad hwn yn eymeryd yn ganiataol mai y gostyngiad cynygiedig o 10 y cant sydd mewn grym. Yn ystod yr amser hwn pa sawl miliwn, neu ddegau o filiynau o gyfalaf sydd wedi gorwedd yn segur ? Pa faint o hono sydd wedi cael ei hollol ddinystrio ? Pa golledion y mae y siopwyr wedi eu dyoddef ? A pha faint o honynt sydd wedi cael eu dinystrio? Ni feiddiaf amcangyfrif, ac nis gallaf aros ar golledion y tirfeddianwyr, y rhai, ofn-vyf, nad ydynt yn cael ond ychydig o gydymdeimlad y cyhoedd. Fel yn dal cysylitiad, modd bynag, a buddiant y dosbarth gweithiol, gallaf ddweyd ar fy rhan fy hun, fy mod wedi gorfod aflonyddu ar amryw well- iantau a ddygwn yn mlaen, ac felly droi o'u gwaith amryw weithwyr ag oeddynt yn derbyn cyflog uchel yr ardal. Nid oes amheuaeth genyf nad oes tirfeddianwyr ereill wedi gorfod gwneud yn gyffelyb. Beth ydyw canlyniad yr aberthau hyn ? Nid wyf am ei brisio yn rhy isel, os sefydlir, fel y mae yn bosibl y gwneir, gynllun sefydlog er pender- fynu annealldwriaetbau dinystriol yn y dyfodol; ond gallaf fi, fel edrychwyr ereill a ddyoddefant oddiwrth yr anghydfod, ac nad oes genym lais yn nghyngor y meistri na'r gweithwyr, amlygu fy ngofid na fuasid wedi dar- ganfod y cynllun cynygiedig fel ag i atal y -drwg. Yn y eyfamser, y mae yn dda genyf fy mod wedi gallu darganfod tri o destynau llawenydd yn ystod yr adeg flin a aeth hoihin 1. Fod gofal cyniliol y gweithwyr, yn ystod yr adeg Iwyddianus a aeth heibio, wedi bod yn llawer mwy nag yr oeddid wedi syniaw yn gyfiredin ei fod. 2. Fod eu hymarweddiad, gydag ychydig eithriadau, wedi bod yn hedd- ychol, a'u tymher yn rhagorol. 3. Fod y meistri wedi llywio pethau yn y fath fodd, fel, os caiff yr anneall- dwriaeth ei derfynu ar y telerau cy- nygiedig ganddynt hwy, na elwir ar y naill biaid na'r Hall i ymostwng i ddim fydd yn ddarostyngol. Ydwyf, &c., ABERDAR, Dyffryn, Aberdar, Mai 22.
Family Notices
GENEDIGAET SAU. Mai 23, priod Mr. E. Lloyd, draper, Aberaman, ar fab. Mai 21, priod Mr. John Davies, Tre- forgan, ar fab, a gelwir ei enw Arthur. PRIODASAU. Mai 25, yn nghapel Calfaria, Aberdar, gan y Parch, Mr. Lewis, gweinidog y Bedyddwyr, Cwmaman, yn mhresenol- deb Mr. Jones, Cofrestrydd, Mr. John Jones, engineer, a, Miss Evans, merch Mr. Llewelyn Evans, goruchwyliwr, Cwm- aman. I'r ddau yn ddylifawl doed mwyniant dymunawl Yn 'stad briodasawl, heb dawl, drwy eu dydd, Fel Adda yn Ngwynfa, a'i briod Jan Efa, Cyn gwneud drwy ddoluriau eu bronau yn brudd, Ar bob rhyw achosion, un galon a'u gilydd, Gan gyd-ddwyn yn ufydd heb gerydd neu gwyn; A gwenau rbagluniaeth i'w dilyn yn helaetb, Heb un siomedigaeth du alaeth i'w dwyn. MARWOLAETHAU. Mai 23, yn 14 wythnos oed, Diana Maude, merch fecban Mr. a Mrs. Davies, grocer, Canon-street. Aberdar.
GOHTRIAD EISTEDDFOD IFORAIDD…
GOHTRIAD EISTEDDFOD IFORAIDD ABERDAR. MEWN pwyllgor cyffredinol a gynaliwyd yn Calvaria Hall, y 31ain cynfisol, pen- derfynwyd GOHIRIO dydd cynaliad yr Eisteddfod. Bydd i'r Pwyllgor benodi yr adeg, yn nghyda thestynau ychwanegol, &c., mor fuan ag y terfynir yr anghyd- welediad presenol. Hyderir na thram- gwyddir neb o herwydd yr angenrheid- rwydd hwn. D.S.-Mae adeg derbyniad y Cyfan- soddiadau wedi ei ohirio hyd hysbysiad pellach. Ar ran y Pwyllgor, D. R. LEWIS, Ysg., 19] 33, Wind-street, Aberdare.
Advertising
HYSBYSIAD. YN EISIEU, Bachgen o ddilledydd, JL o 15 i 20 oed. Cyflog da. Ymholer yn bersonol, neu drwy lythyr, a Mr. D. EVANS, Tailor Sf Draper, Gwanncaegur- wen, Brynaman, R.S.O. TO THE INHABITANTS OF FERNDALE. WILLIAM WILLIAMS begs to in. form the inhabitants of Ferndale that he has just received a supply of wood for making Coffins. They will be made according to the sizes required. Also they will be as cheap as possible,, and will be made at a short notice. 15, Pontypridd Road, Ferndale. speiwTfashions", IS75. HENRY LEWIS < HAS NOW RE-OPENED his SHOWROOMS WITH THE LATEST NOVELTIES IN MILLINERY, COSTUMES, SKIRTS, MANTLES, DRESSES, SILKS, FANCY GOODS, &c. 11, CommArcial Place} ABERDARE