Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. BOREU dydd Linn diweddaf, yn Tyne- mouth, llosgwyd dyn i farwolaeth mewn ty oedd ar dan. YB oedd y Frenhines yn 54 oed ddydd Linn diweddaf. PRYDNAWN dydd Llun diweddaf, yn Mhontypwl, syrthiodd bachgenyn by- chan, o'r enw Goter, o ffenestr ucbel i'r heol. Syrthiodd ar ei ben, a bu farw mewn poenau mawrion am rai oriau. Y MAE strike wedi dedireu yn nglofa Walmer's Pit, Dean Forest, yn erbyn gostyngiad o 15 y cant. Y MAE gweithwyr alcan Glanmorlais wedi derbyn rhybydd y byddant oil yn rhydd ar derfyniad eu rhybydd. Bern- ir mai gostyngiad cyflogau sydd mewn golwg. Y MAE cwmni y Midland Railway wedi cael caniatad y Seneddd i helaethu eu gorsaf yn St. Pancras, Llundain. Yn yr helaethiad hwn bydd i ugaiu o heolydd a 300 o dai gael eu hysgubo ymaith.
—4, MARWOLAETH MENYW FAWR…
—4, MARWOLAETH MENYW FAWR AMERICANAIDD. Y MAE menyw fawr newydd ymadael a'r byd hwn yn America. Nid yn fawr o ran ei thalent a'i dysgeidiaeth yr oedd. Mor belled ag y gellir casgln oddiwrth yr hyn a ddywedir am dani, uid oedd dim yn neillduol yn perthyn iddi o ran ei gallu meddyliol. Nid yn fawr o ran ei meddwl yr oedd, ond yr oedd ei mawredd yn ei chorff. Dywedir wrthym ei bod dros chwe' chant o bwysau-cymaint a phedair neu bump o fenywod cyfiredin yn un. Y mae y foneddiges bynod hon wedi bod yn orweddog am dair blynedd ar ddeg, a hynyam eibod yn rhy fawr i ymsymud o gwmpas, a phan y bu farw, gorfuwyd galw i mewn nifer o ddynion cryfion i gario ei chorff o ystafeil uchel yn y ty i'r coffin oedd yn ei haros ar y llawr, yr hwn goffin nad oedd yn ronyn llai na chert cyffredin. Talodd preswylwyr dinas Pennsylvania, yn yr hwn le y preswyliai, gymaint o barch i'w gwedd- illion, fel yr ymwelwyd a'r ty gan gymaint fel y bu gorfod ar yr heddgeid- waid ddyfod eu hatal i mewn. Dywed y newyddiadur a gofnoda ei marwolaeth fod lie cryf i gredu fod angeu wedi bod yn gymwynas i Mrs. Ford. Pwy o'n beirdd a auturia gyfansoddi marwnad iddi ? Dyma le i ddychymyg —
Y FASNACH YD.
Y FASNACH YD. Y R ydym yn cael fod y ceirch yn ein marchnadoedd wedi gostwng rhwng 6s. a 10s. y chwarter yn ystod y tair wythnos a aeth heibio, yr hyn sydd yn amgylchiad anghyffredin yn hanes ein marchnadoedd yd. Y mae gwenith wedi gostwng mewn un tymor 30s. y cant. Y mae y gostyngiad hwn wedi cael ei effeithio gan y tywydd ffafriol yr ydym wedi gael, a'r olwg rhagorol sydd, mewn canlyniad, ar bob cynyrch amaetbyddol. Marwaidd iawn oedd y farchnad ddydd Llun, a thueddai y gwenith a'r fflwr i ostwng. —4
DAMWAIN ANGEUOL I FWNWR YN…
DAMWAIN ANGEUOL I FWNWR YN MHENCLAWDD. BOREU dydd Mawrth diweddaf, yn y gwaith a elwir Penlan Slant, cyfarfydd- odd dyn o'r enw Evan Davies, 27 oed, a'i farwolaeth yn hynod sydyn trwy i gwymp o'r top syrtlro arno a'i gladda yn fyw. Ni chafodd ei gydweithiwr ond diangfa gyfyng. Y mae y tranc- edig yn gadael ar ei ol weddw a thri o amddifaid. Cyfariyddodd brawd i'r trancedig a'i angeu rhai blynyddoedd yn ol yn yr un He trwy ddamwain gyffelyb.
YMLADDFA ANGEUOL GER CAERFYRDDIN.
YMLADDFA ANGEUOL GER CAERFYRDDIN. PRYDNAWN dydd Sadwrn diweddaf, cyfarfyddodd tri o ddynion-David Walters, David Rees, a James Davies, -yn y New Inn, Croesyceiliog, ger Caerfyrddin. Yr oedd Walters wedi bod yn yfed yn flaenorol, a gomeddai y gwestywr roddi iddo ychwaneg o ddiod, ond cydyfai a rhai o'i gyfeillion yno. Ychydig cyn deg o'r gloch aeth y tri gyda'u gilydd i'r pentref, pryd y cwerylasant a'u gilydd, a chafwyd David Walters yn gorwedd ar y llawr. Cynorthwywyd ef i fyned i'w gartref, lie y bu farw tua deg o'r gloch nos Sul. Nyddwr oedd Davies, a gwehydd oedd Walters. Yr oedd yn 25 oed, a chanddo wraig a dau o blant.
CAU GLOFA IARLL FITZWILLIAM.
CAU GLOFA IARLL FITZ- WILLIAM. DYDD Llun diweddaf, rhoddodd Iarll Fitzwilliam rybydd ar fod i'w lofa yn Low Stubbin, ger Rotheram, i gael ei chau yn gyfangwbl. Nid aeth ond 11, allan o'r ddau gant oedd ar strike, i mewn ar delerau ei arglwyddiaeth. 4
YSBEILIAD FFORDD FAWR.
YSBEILIAD FFORDD FAWR. Nos Wener diweddaf yn agos i Aber- honddu cyflawnwyd ysbeiliad penffordd gan dri o wirfoddolion. Y person a ysbeiliwyd oedd un Morgan Evans, masnachwr mewn defaid, brodor oTre- garon, sir Aberteifi; y swm a ysbeil- iwyd oedd £ 99. Yr oedd Evans wedi bod yn cydyfed a tbri o'r gwyrfoddol- ion, y rhai a'u canlynasant ef pan yr ymadawodd o'r dafarn, ac wedi ei daraw i'r llawr a'i hysbeiliasant. Cymetwyd y tri i fyny, y rhai a gyffesasant eu heuogrwydd, a throsglwyddwyd hwynt i sefyll eu prawf yn sesiwn nesaf Aber- honddi. Enwau yr ysbeilwyr ydvnt David Perkins, Athan Owens, a David Llewellyn. 4
DAMWAIN ARSWYDUS I
DAMWAIN ARSWYDUS I FERCII IEUANC YN ABERDAR. CYMERODD un o'r damweiniau mwyaf arswydus a gofnodwyd erioed, le yn Aberdar prydnawn dydd Grwener di- weddaf. Pan yr oedd merch ieuanc landeg, o'r enw Rosannah Evans, 16 oed, wrth ei gorchwyl yn Brickworks Aberdar, trwy ryw anffawd, tynwyd ei dillad i mewn i'r felin glai, ac i ganlyn ei holl gorff, gyda'r eithriad o'i phen i mewn i'r cogs. Yr oedd amryw ferched ieuanc yn y man ar y pryd, ysgrechiadau y rhai a dynodd y peir- ianydd i'r lie, ond yr oedd y bywyd wedi ei golli. Darniwyd ei chorff yn gyffrois, a buwyd am gryn amser yn ei chael o rhwng y cogs. Yr oedd yn ferch weddaidd iawn ac yn byw gyda'i rhieni yn Bute Street, Aberdar. 4
DAMWAIN ARSWYDUS YN PENGAM.-DAU…
DAMWAIN ARSWYDUS YN PEN- GAM.-DAU DDYN WEDI EU LLADD. CYMERODD damwain ofidus le yn lefel Carnfethin, Pengam, boreu dydd Gwe- ner diweddaf, yr hon fu yn achlysur i ddau golli eu bywydau, a niweidio tri ereill yn fawr. Yr mae y lofa yn cael ei hadwaen wrth yr enw Glanddu, ac wedi cael ei gweithio am haner can mlynedd. Yr oedd y dynion hyn mewn dram wag yn cael ei lusgo gan geffyl. Aeth pobpeth yn mlaen yn dda nes cyrhaedd man lie yr oedd y lofa yn lie 1 uchel, ac yn y lie hwn syrth- iodd darn mawr i lawr ar y dram olaf, yn yr hon yr eisteddai- y dynion. Yr oedd y darn a ddisgynodd yn agos i bnm tunell o bwysau. Yr oedd yn y dram bump o bersonau ar y pryd. Enwau y rhai a laddwyd oeddynt, James Price, 38 oed, ac yn briod Jo- siah Bull, 32 oed, ac yn briod.
GWEDDILLYN CYMREIG.
GWEDDILLYN CYMREIG. YN y Graphic am yr wythnos hon dywedir,—Y mae gweddillyn Cymreig o gryn ddyddordeb, perthynol i Ar- ddangosfa Llundain am 1851, yn awr yn meddiant Cymro Americanaidd, yn Utica, New York. Telyn fawr ydyw, wedi ei gwneud yn Nghaerdydd, o hen bren sicamor hanesyddol, yn tyfu ger Castell Wenfoel, Morganwg, yr hon a blanwyd gan un o hen Dywysogion Cymru. Archodd y di weddar Dywysog Albert i'r delyn gael ei gwneud i'r Arddangosfa ond yn mhen blynydd- oedd gwnaeth yr offeryn ei ffordd i bawnshop yn Nghymru, lie ei prynwyd yn 186.7, am £20. Ei phris gwreiddiol oedd £180. ♦ —
Family Notices
D O WL AIS—M AR WOLAET H TRWY CICK CEFFYL. BOREU dydd Sul diwedd bu farw bach- gen ieuanc o'r enw John Edwards, mab Richard Edwards, teiliwr, Dowlais, o effalth ciek a dderbyniodd gan geffyl y dydd blaenorol. Cydiodd y bachgen yn nghynffon yr anifail tra yr oedd yn pori ar gae Penwern. Cickiwyd ef yn ei golyddion. 4
ETHOLIAD SWYDD FRYCHEINIOG.
ETHOLIAD SWYDD FRYCHEIN- IOG. Y MAE ein cydwladwyr rhyddfrydig yn Mrycheiniog wedi ymladd brwydr galed, ac wedi ersill buddugoliaeth ar- dderchog. Dygwyd holl ddylanwad cyfoeth ac ystranciau Toriaith i'w herbyn, ond methodd yr oil. Hysbysid ui yn ddyddiol gan y newyddiadur Toriaidd nad oedd gan yr ymgeisydd Maitland a'i gefnogwyr ond siawns wael; ac hyd yn nod wedi i'r pleid- leisiau gael eu rhoddi, ond cyn eu cyfrif, hysbysir nad oedd v pleidleisiau a roddir i'r Rhydd fry dwr ond ychydig mewn cydmariaeth; ond erbyn rhoddi yn gy- hoeddns sefyllfa wirioneddol pethau, cafwyd fod gan Mr. Maitland 1,710 o bleidleisiau, a chan Mr. Gwyn 1,607 mwyafrif dros Maitland, 103.
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN. (Allan o'r "Daily News," Llundain.) MAI 15, MiddIesborough.-Tawelwch yn masnach pig iron. Ychydig an- esmwthder o herwydd methiantau, ond y mae hyny yn rhoddi ffordd i obeithio. Un cwmni yn myned i osod melin arall ar waith. Cryn geisio am lo at law- weithfeydd. Mai 17, swydd York.—Y mae un cwmni yn agos i Sheffield wedi anfon allan gylcb-hysbysiadau, yn datgan eu bod yn myned i leihau pris medium Yorkshire bars gymaint a 10s. y dynell. Bydd y dosbarth hwn o haiarn i'w gael am X9 10s. y dynell. Dywedir fod cwmni arall yn Sheffield wedi lleihau y pris yr nn fath. Mai 18, Middlesborough.—Archebion oewyddion wedi dyfod i 'mewn. Ofnir na bydd masnach mor fywiog yn awr, gan fod gweithfeydd Cymru wedi cychwyn. Pris glo a coke yn aros yr un. Mai 19, Wolverhampton.—Haiarn Deheudir Cymru a Gogledd Lloegr yn cael ei gynyg ar werth am 5s. y dynell yn llai na phrisoedd diweddaraf haiarn swydd Stafford. Bariau Cymru a Cleve- land yn cael eu cynyg am £8 5s. y dynell, yn cynwys eu trosglwyddiad i Wolverhampton. Bariau swydd Sta- ffordd wedi iselhau 2s. 6c. y dynell. Mai 20, Birmingbam.Marwaidd yw y ceisiadau am lo a haiarn. Ychydig o fywiogrwydd yn masnach marked iron. Marwaidd yw y fasnach mewn pig iron.
Y STRIKE.
Y STRIKE. Y MAE yr annealldwriaeth yn parhau i fodoli yn ein plith. Dydd Ian di- weddaf, bu cynrychiolaeth o weithwyr Syr George Elliot yn ymddyddan ag ef yn ei breswylfa yn Aberaman. Bu cryn lawer a ymddyddan rhyngddynt ar helynt yr annealldwriaeth, a gohir- iwyd yr ymddyddan hyd y diwrnod canlynol yn nghyfarfod y meistri yn Nghaerdydd, lie y gobeithid dyfod i derfyniad a'r annealldwriaeth. Yr un diwrnod cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus lluosog gan lowyr Aberdar, dan lywyddiaeth Mr. John Prosser. Yr oedd o leiaf 2,000 yn bresenol. An- erchwyd y cyfarfod bwn ganyllywydd, Mr. Samuel Davies, Mr. Casey, Mr. David Morgan (Mountain Ash), Mr. John Jenkins, ac ereill. Yn y cyfar- fod hwn pasiwyd penderfyniad yn rhoddi "ychydig mwy o hawl i'r cy- nrycbiol wyr er ceisio dwyn i derfyniad yr anghydfod, yn ol awgrymiadau Mr. Casey. Penodwyd Mri. John Prosser, Samuel Dalies, David Morgan, John Thomas, a W. Hope, i gynrychioli y cyfarfod hwnw yn nghyfarfod Mount- ain Ash y diwrnod canlynol. Yn nghyfarfod Mountain Ash dydd Iau, yr hwn a gynaliwyd yn N euadd y Gweithwyr, rhoddodd y cynrychiolwy* ystyriaeth fanwl i bob rhan o gynygiad Mr. Casey, sef y cynygiad i benderfynu y gyflog am chwe mis, a hyny ar de- lerau na fyddent yn cyrhaedd 15 y cant o ostyngiad ar yr hen brisoedd. Apwyntiwyd yn y cyfarfod hwn hefyd 12 o gynrychiolwyr i fyned y diwrnod canlynol i gyfarfod y meistri i Gaer- dydd. Cymerodd cyfarfod y meistri le dydd Gwener, a mawr y dysgwyliad a'r pryder oedd am ei ganlyniad. Wedi i'r meistri a'r cynrychiolwyr gyfarfod a'u gilydd, methwyd dyfod i unrhyw ddealldwriaeth, a hyny oherwydd fod glowyr Cvml Rhondda yn sefyll yn ddiysgog at y 10 y cant gostyngiad, a'r meistri yn ymddangos benderfynol o fynu y 15 y cant i weithrediad. Cymerwyd y gadair yn nghyfarfod y meistri gan Mr. D. Davis, Maesy- ffynon, yr hwn a dderbyniodd y gy- nrychiolaeth mewn dull boneddigaidd. Y cyntif i siarad oedd Mr. Casey, a derbyniwyd ei sylwadau gyda chymer- adwyaeth cyffredinol; a hyderai pawb oddiwrth rediad ei anerchiad fod dydd trancedigarth y strike wedi dyfod. Yr ail i siarad oedd Mr. Prosser, Aberdar, yr hwn a gynygiodd ar fod i'r gweithwyr gymeryd 71 y cant o ostyngiad; i'r hyn yr atebodd y ca- deirydd, nad oedd achos colli amser i ddadleu y cynygiad hwnw, yn gymaint ag y gwyddai na fyddai i gyngor Un- deb y Meistri o'r braidd ei gymeryd i ystyriaeth. Siaradwyd yn gefnogol i gynygiad Mr. Prosser gan Mr. Walter Barry, Blaenafon, a Mr. S. Davies, Caerffili, ac ychwanegodd yr olaf, os nad oedd y meistri yn barod i dderbyn cynygiad Mr. Prosser, feallai y byddai iddynt wneud rhyw gynygiad rhesymol i'r gweithwyr yn ei Ie. Wedi i'r cadeirydd hysbysu eilwaith mai ofer ac afresymol oedd siarad ar y fath gynygiad, daugosodd Mr. Mene- laus, Dowlais, wir sefyllfa y farchnad haiarn i'r cynrychiolwyr, ac nad oedd yn bosibl i'r meistri haiarn gario yn mlaen eu gweithfeydd heb y 15 y cant gostyngiad ond os derbynid hwn, eu bod yn barod i fyned rhagddynt, ond os na dderbynid ef, nad oedd gan y meistri ddim i'w wnend ond cau y gweithfeydd haiarn i fyny, ac anfon eu glo i'r farchnad. Gofynodd Mr. Prosser, os nad allai y meistri ystyried y cynygiad a wnaeth efe, a ganiateid iddynt hwy ymeill- duo, pryd y gallasai y meistri ddadleu y cyfryw rhyngddynt a'u gilydd, a gweled a fed-rent hwy ddim gwneud unrhyw gynygiad? Ar yr adeg hon siaradwyd yn ddif- rifol gan Mr. D. Morgan, Mountain Ash, ar y pwysigrwydd i gynrychiol- wyr i weithredu dros gynifer o weith- wyr. Ymneillduodd y cynrychiolwyr, ac wedi bod yn absenol am oddeutu awr, penderfynasant gynyg ar ddwyn yr an- nealldwriaeth i derfyniad trwy dderbyn 10 y cant o ostyngiad ar ran y gweith- wyr. Cafodd y cynygiad hwn drachefn ei wrthod yn unfrydol. Bu llawer o siarad gan y gwahanol bleidiau ar y pwnc drachefn, wedi yr hyn y darllen- wyd y nodyn canlynol i'r cyfarfod, fel nad allai unrhyw annealldwriaeth pell- ach gyfodi "\tV edi gwrandaw yn astud ar sylwadau y cynrychiolwyr, y mae cynghor y meistri yn teimlo yn ofidus nad yw y gweithwyr wedi gweled eu ffordd yn glir i dderbyn y gostyngiad o 15 y cant, yr hwn sydd wedi cael ei dderbyn gan weithwyr y gweithfeydd haiarn ac ereill. 0 dan yr amgylch- iadau eu bod wedi penderfynu cydym- ftnrfio a chais y cynryehiolwvr i oedi dyfod i unrhyw benderfyniad pellach nes i'r cynrychiolwyr gydymddiddan a'u cydweithwyr, a chael eu hawdur- dodi, fel y dysgwyliai y meistri y bydd- ent heddyw, a gallu i benderfynu yr anghydfod. Nid oes un gwrthwyneb- iad i gael y gyflog wedi ei benderfynu am dymor penodol, ac y mae y cynghor yn cydweled ar fod y gyflog yn y dyfodol i gael ei benderfynu gall bwyll- gor undebol wedi ei benderfynu gan y gynrychiolaeth." Tynodd Syr George Elliot sylw y cynrychiolwyr at y ffaith y byddai i'w eyflogau o hyn allan gael ei sylfaenu ar bris y glo, a gobeithiai y deuid yn y cyfarfod nesaf i ddealltwriaeth trwy- adl ar y pwnc.
ABERDAR.
ABERDAR. Y MAE yma gyfarfod pwysig i'w gynal heddyw (dydd Iau), er penderfynu a dderbynir y cynygiad o 12t y cant. Nid gwiw ceisio proffwydo am ganlyn- iad y pleidleisio ar y pwnc, trwy fod cymaint o wabanol feddyliau Y11 mhlith y glowyr eu hunain. Y mae cryn am- heuaeth hefyd a foddlona y meistri i raniad y 5 y cant ag y mae yr an- nealldwriaeth yn awr yn ei gylch; ond y mae yn sicr y byddai cydwelediad. Iled gyffredinol yn mhlith y gweithwyr i dderbyn, byny yn ddadl dda at ei dderbyn gan y meistri. Nid oes genym ond gobeithio y goren. am ganlyniad y cyfarfod ddydd (rwener yn Nghaerdydd rhwng meistri a chyn- rychiolwyr y gweithwyr. Y mae golwg y wlad ar y cyfarfod bwn, am y credir yn lied gyffredin y bydd ei ganlyniad yn bwysig y naill ffordd neu'r Ilall.
BLAENAFON.
BLAENAFON. Dydd Sadwrn diweddafchwythwyd i mewn ddwy ffwrnes flast yma, a boreu dydd Mawrth dechreuodd gwaith mewu oddeutu haner cant o ffwrnesi pudlo. Y mae hefyd bron yr oil o'r mwnwyr a'r- glowyr wedi myned i mewn.
LLANSAWEL.
LLANSAWEL. Dydd Mawrth diweddaf, rhoddwyd i fyny rybydd am ostyngiad ynngweith- feydd haiarn y lie hwn, a hyny o her- wydd fod gostyngiad wedi cael ei dderbyn yn Merthyr ac Aberdar y gostyngiad i fod yn gyfartal i'r un sydd wedi cymeryd lie yno. Y mae teimlad o gryn anfoddlonrwydd yn dechreu cael ei ddangos yno o barthed i'r rhybydd.