Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

MARWOLAETH MR. A MRS. W. DAYIES,…

News
Cite
Share

MARWOLAETH MR. A MRS. W. DAYIES, ARG RAFFYDD, ABERDAR 41 Os myni glod bydd farw," meddai yr hen ddiareb Gymreig. Ond nid pawb ar a archwaethant farwolaeth a deilyng- ant deyrnged o fawl a chlodforedd y byd; ac o'r nifer fechan hyny a'i hawliant yn gyfiawn, ychydig yw yr enwau a dderbyniant wobr eu teilyngdod. Boreu dydd Mercher, y pumed cyfieol, bu farw ein cyfaill hoff a hawddgar, William Davies, ac efe yn ddeunaw-a- deugain mlwydd oed. Boreu dydd Sul, yr unfed-ar-bymtheg o'r un mis, yr ym- adawodd Mrs. Davies, ei anwyl briod a'r fuchedd bon. Ni dderbyniodd y naill na'1' Hall ond byr ysgafn gystudd. Mor anhawdd ydyw sylweddoli y drychfeddwl o golli y ddau gyda'r fath sydynrwydd annysgwyliadwy; anianawd ein natur ni fyn ddygymod a'r ffaith o'u bod wedi ymneillduo o'n plith i fwynhau hunell y bedd, ac ymloniant dihalog gwynfyd, megys yn ddiarwybod. Ganwyd ein cyfaill Davies yn ardal dawel Llanymddyfri, ac yno yr ymbriod- odd ac y treuliodd flodau ei oes. Daethom i adnabyddiaeth o hono gyntaf tua phymtheg neu ddeunaw mlynedd yn ol, yn fuan wedi ei ymsefydliad yn Aberdar; ac o'r adeg hono hyd ei farwolaeth, co- leddasom y syniadau uchaf am ei dalent- au dysglaer a'i gymeriad difrycheulyd. Efe ydoedd un o'r dynion mwyaf unplyg, plaen, a dihoced a adwaenasom erioed; hawliai iddo ei hun annibyniaeth barn, rhyddid barn, a rhyddid llafar; eled gwenau a ffafrau ffug-urddasolion y byd i gyniwair lie yr elent, gonestrwydd ac uniondeb ydoedd ei arwyddair. Dy- wedai y gwir pe syrthiai y ffurfafen Yr oeddyn elyn anghymodlawn i wag ymffrost a thra-arglwyddiaeth honiadol. Gosodai ei wyneb fel callestr yn erbyn pob cysgod o drais a gormes. Ffieiddiai gyda dirmyg hollol y gwaseidd-dra slafaidd hwnw sydd yn nodweddu ami i Gymro y dyddiau hyn; ac yn arbenig y teimlad a'r ysbryd Sais-addoliadol sydd fel hunllef yn dirwasgu Iluaws o'n eyd- genedl i'r llwch, i lyfu traed crach-fon- cddion Seisnig a thrawsfeddianwyr ein gwlad. Yr oedd yn Gymro twymgalon, brwdfrydig, a thrwyadl; yn gefnogwr gwresog ac aiddgar i lenyddiaeth Gy- mreig; ac er nad esgynodd orsingau uchaf bri ac enwogrwydd fel lienor, eto yr oedd yn ysgrifenydd coeth a medrus; yn ddarllenwr mawr, ac yn feddyliwr dwfn a gwreiddiol. Cafodd achos y Gwaredwr o fewn yr Eglwys Sefydledig yn y lie, ac yn neill- duol yr Ysgol Sabbothol, golled anad- feradwy yn marwolaeth William Davies. Bu naill ai yn athraw ffyddlawn, neu yn arolygwr doeth a medrusj yn ysgolion St. loan a St. Ffagan er pan yr ymsef- ydlodd yn ein tref. Meddai gymhwys- der arbenig i ddysgu'r plant, a dawn anhefelydd i hyfforddi y bobl ieuainc. AcO! Mrs. Davies nid ywmwy! Hyd eithaf ein hadnabyddiaeth ni o honi, llinellau egluraf a dysgleiriaf ei chy- meriad oeddynt wyleidd-dra, tynerwch, a chrefyddolder. Yr oedd lledneisrwydd pur, addfwyn- der diffuant, a duwioldeb diamheuol wedi eu cyfuno er prydferthu ei chymer- iad. Gadawsant dri o blant anwyl a hoff i alaru ar ol eu rhieni,—Oaradoc, un o berchenogion y DARIAN Dingad, ysgol- feistr yn Bettws y Coed, G.C.; a Claudia, .yn ngwasanaeth Arglwydd Esgob Llan- elwy. Taened Ion ei aden drostynt yn .en galar. NATHAN WTN. o J mor hawdd yw tywallt deigryn Heddyw'n brudd; Ton ar ol y llall sy'n disgyn Dros ein grudd; William Davies wedi marw- 0 alarus newydd chwerw, -Ofer ceisio cuddio llanw Teimlad cuddl "Roedd ei galon yn anwylo Gwalia Wen; "Fel yr eiddew yn cofleidio Corff y pren; Ar orseddfa ei serchiadau, Cysegredig iaith ei dadau, A'i chy wreiniol gryf blethiadau Ydoedd ben. Esgyn wnaeth i fynydd Seion "— Porth y nef; TTno ffrydiau gras yn gyson Yfai ef; Gyda'r teulu sanctaidd yno Drwy ei oes y bu yn rhwymo Addewidion Duw am dano'n Gadwyn gref. Dysglaer ydoedd ei gymeriad Hyd y glyn; Erys llwybr ei gerddediad Fyth yn wyn; Pan yn nghanol mor tymhestlog, Byd o demtasiynau halog, Safai beunydd yn ddiysgog 0 Fel y bryn. Rhinwedd drwy ei oes gysegrodd Iddo'n sedd, .Ac yn erbyn twyll y daliodd Fin ei gledd; Bellach yn y fynwent lonydd, Engyl o'i breswylfa newydd IFyddo'n lledu eu hadenydd Dros ei fedd! DYFEDFAB.

TREFORIS.— MARWOLAETH MRS.…

MENYW YN PASIO FEL GWRYW.

DAMWEINIAU ANGEUOL AR Y RHEILFFORDD…

Y STRIKE YN SIR BENFRO.

CYNYG AM GYFLAFAREDDIAD YN…

[No title]

Advertising