Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

HELYNTION Y BEIRDD.

News
Cite
Share

HELYNTION Y BEIRDD. PA beth all fod yr achos o'r cynhwrf, y cyffro, a'r aflonydd sydd ar y bodach rhyfedd hyn y dyddiau presenol ? A all fod poethder yr hin yn effeithio rhyw- beth ar eu swyngyfareddus nef-anedig, sef Mrs. Aw en ? Neu a ydyw drygioni y boblach wedi cyrhaedd i'w eithafnod nes eu llanw hwythau mor llawn o ddigasedd at bechod ac anghyfiawnder fel na fedrant ddal yn hwy heb dywallt o ffrydlifoedd eu hathrylith eu gwawd • yn ol i'w gwvnebau ? canys aruthrol o chweny ydyw ffrwyth yr awen pan fyddo yn dyfod allan yn ei dillad gwaith i glirio awyrgylch y byd gwamal a chyf- newidiol hwn. Nid rhyfedd fod Tiberog mewn hwyl cyfansoddi rhamant Gymreig, canys y mae ei ddarfelydd mor fywiog-medr daflu haner dwsyn o feirdd i'r amlwg ar yr un faint o enwau. Y mae Gwiiym ab loan, Brythonfryn, Nathan Wyn, &c., yn methu deall pwy ydyw Dar- lwyn a Gwilym Glan Tawe. Fechgyn, digon cynar i chwi ddwyn enwau new- yddion o flaen y fainc burlwys hon ar ol i chwi weled ffrwyth en hysbrydoedd treiddgar yn ffiamio yn chwaon tynery byd nefol barddoniaeth. Dywed John y Crydd fod Prydydd y Coed yn crynu yn ei esgidiau rhag ofn i Gynonfryn ddyfod i ddeall pwy ydyw, ond dywedir mai ei blentyneiddiwch ydyw hyny er y byddai yn well i'r cyfaill gael hyffiorddwr mwy gwyneb-agored na'r Hedyddion, oble- gyd nid clod gwyntog sydd yn magu beirdd. Y mae golwg hyllig ar Evan y Saer er yramser y mae Ymgeisydd wedi dy- fod allan i oryn am gyfansoddiadau Eis- teddfod y Gloch Las, a hwythau wedi eu gwerthu by auction,, ac fel bu'r anffawd, disgynasant i'r truenusaf o'r bobl. Ffei! Ymgeisydd. Y mae ffynonell ffraethebion Prydydd yn dweyd "fod Barcud wedi disgvn ar glwyf y gwalch, ond os felly, yn hollol anfwriadol aeth ei big mor ddwfn i'w archollion. Ond dyna, dim ond i Brydydd beidio gwingo am y tro hwn, y mae Barcud yn bwriadu myned i hepian am ychydig i un o gilfachau y creigiau cyfagos, o herwydd fod amser brysiog yr haf wedi ei oddiweddyd. Eto unwaith, parotowch, fechgyn: ,,y rhwbiwch eich hunain, a byddwch barod; canys bydd y redegfa wedi cymeryd lie cyn daw y llith hwn o'ch blaen. Rhaid i Gynfelyn ddyfod a'i feirch gwerhyrgar i'r maes eto uuWaith i ddal y cadnaw coch. Y mae Barcud a Phrydydd yn hollol -gvdolygu am y wobr ddirfawr o dri swllt yn agos i Bethel, a'r gwirionedd yw, y mae yr awen wedi ffromi yn ddir- fawr wrth roddwr y wobr; a pheth chwithig ydyw gweled ei phlant yn codi baw i'w daflu idd ei llygaid treiddgar a thanbeidiol. Shame! 0 ¡;;u Iwysferch deg hylon,—awen ber, Wyti'n byd yn swynlon Wele hi ddaetli o law ddoetti Ion I der loewi daearolion. BARCUD.

FFESTINIOG.

AWGRYM ER CAEL GWARED O'R…

LLANILLTYD FARDREF.

CiLAIS 0 GOLEG Y MANDREL.

PWYLLGOR CYNORTHWYOL ."TONYPANDY.

AT Y BEIRDD.

[No title]

KATIE.

CAN I YSGOLDY NEWYDD PENYGRAIG.

;--/' Y MYNYDD AR LAN Y MOR.

Y WRAIG ANYNAD.

Y WRAIG GEINTACHLYD.

TAN MAWR YN PESHAWUR