Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

DYGWYDDIADAU FFODUS.

News
Cite
Share

DYGWYDDIADAU FFODUS. PAN y syrthiodd Miss Hewett gynt i'r Tafwys o fenestr ty ei thad ar Bont Llundain, yr oedd y ddamwain yn un ffodus i'r egwyddorwas ieuanc gwrol, yr hwn. a gymerodd header, ac a acliub- odd yr etifeddes ieuanc rhag boddi; canys fel gwobr am wroldeb parod y bachgen, pan daeth y plentyn yn fon- eddiges ieuanc hardd, ni wrandawai Syr William ar unymgeisydd cyfoethog, canys addawodd mai yr hwn a'i hachub- odd o farwolaeth a gai ei hetifeddu am fywyd; a chan ei bod hithau o'r un feddwl, darfu i Edward Osborne briodi merch y tywysog masnachol, a buont fyw yn ddedwydd byth wedi hyny. Ond nid oedd ymdaflu i afon Tafwys ond gweithred fechan at yr hon a gyf- lawnodd gwasanaethwr William of Orange o gariad at ei feistr, pan fy- gythiai y frech wen gymeryd ymaith fywyd y cyfryw foneddwr. Dywedai y meddyg nad oedd dim a achubai y claf ond i ryw ddyn ieuanc iachus fyned i orwedd yn yr un gwely ag ef, ac wrth ei gymeryd i'w freichiau daflu digon o wres i'w gyfansoddiad fel ag i orfodi yr afiechyd i dori allan. Bodd- lonodd Bentinek, page y boneddwr, i ymgymeryd a'r sefyllfa beryglus hon. Llwyddodd y prawf, a diangodd y dyn ieuanc yn ddianaf, a hyny i fwynhau rhan o lwyddiant bydol ei feistr, canys daeth yn Brif Weinidog Lloegr, a chafodd dy ac enw anrhydeddus yn ngwlad ei fabwysiad. Ychydig feddyliai yr apothecary di- nasol, pan y cynygiodd yru Arglwydd Butei'r aricket-match arMoulsey Hurst, ei fod yn rhoddi i'w gymydog gwledig lift mewn dwy ystyriaeth. Yr oedd -Frederick, Tywysog Cymru, yn edrych ar y chwareu, ac i'w ddifyru tra yr oedd y chwareuwyr yn aros am i'r gwlaw fyned drosodd, cynygiwyd ar fod i chwareu neillduol fyned yn mlaen. Yn gymaint a bod y pendefigion yn brin, cafwyd trafferth i wneud y nifer gofynol i chwareu i fyny, nes i rywun gofio ei fod wedi gweled Arglwydd Bute ar y maes. Deuwyd o hyd iddo, a gofyn- wyd iddo am gymeryd rhan gyda'r teulu brenhinol. Trwy iddo chwareu ei gardiau yn dda, wedi y game gwa- hoddodd y Tywysog ef am dro i Kew. Yn ftian addfedodd eu hadnabyddiaeth i gyfeillgarwch, a chyn bo hir yr oedd yr Iarll Ysgotaidd yn bob peth yn Lei- cester House-yn brif gynghorwr i'r gwestywr a'r westywraig, cyfarwyddwr addysg eu mab ac etifedd y goron. Gydag esgyniad William III. cyflymodd dyrchafiad Bute yn Ysgrifenydd Car- trefol, ac o hyny i Brif Weinidog- dyrchafiadau na fuasai byth yn eu cyr- haedd oni buasai am chwareu whist ar foreu gwlawog. Pan yn rhodiana ar draws y maesydd yn agos i Sayes Cqgrt, daeth Evelyn ar draws ty unigol, a phan yr edrychodd efe i mewn canfyddodd ddyn ieuanc yn brysur gerfio ar bren. Pan yr aeth i mewn, gwelodd waith na welodd efe erioed o'r blaen ei gyffelyb o ran cel- fyddyd. Hysbysodd Evelyn y brenin am yr hyn a welodd, ac edrychwyd allan am le iddo, yr hyn a roddodd gychwyn- iad i Grinling Gibbons i gyfoeth ac enwogrwydd. Gallasai y buasai Sherwin, y cerfydd, wedi gorphen ei ddyddiau fel torwr coed oni buasai iddo gael 'ei alw i drawing-room, Mr. Mitford tra yr oedd y boneddigesau ieuainc yn mwynhau eu hunain wrth y gorchwyl o dynu dar- luniau. Wrth sylwi fod ei dorwr coed yn cymeryd dyddordeb neillduol yn yr hyn a wnelai y boneddigesau, gofynodd Mr. Mitford a fedrai ef wneud rbyw- beth yn y ffordd bono. Atebodd Sher- win nad oedd yn meddwl y gallai, ond y carai efe dreio. Rhoddwyd papyr a phencil yn ei law, ac er anystwythder ei fysedd celyd, tynodd ddarlun a syn- odd yr oil, a'r hwn, pan ei arddangos- wyd i Gymdeithas y Celfyddydau, a enillodd y tlws arian. Rhoddodd hyn gychwyniad yn Sherwin, fel yr enillodd enw yn myd y celfyddydau. Pwy na chlywodd am gychwyniad Sharp y paentiwr. Fe ddywedir ei bod yn arferiad i weision brenhinol gynt, pan y byddai y brenin yn myned o'r naill ran i'r llall o'r palas, i barotoi y ffordd o'i flaen trwy waeddu allan, 11 Sharp, sharp; look sharp." Cyr- haeddodd y waedd glustiau Sharp y paentiwr, yr hwn ar y pryd a barotoai liwiau yn rhai o ystatelloedd y palas brenhinol, a meddyliodd ei fod yn caei ei alw. Rhedodd allan i gyfarfod ei alwedydd, ond er ei ddychryn daeth wrthdarawiad disymwth a'r brenin, yr hyn fu yn achlysur i'r paentiwr druan fesur ei hyd ar y llawr. O'r adeg hono allan ni chollodd y brenin gyfle i gy- northwyo dyrchafiad y paentiwr, a dyrchafwyd Sharp trwy ei gwymp. Bu Halil Pasha yn ddyledus am ei ddyrchafiad i beth mor fychan a syrth- iad lamp. Yr oedd yn dygwydd bod yn gwneud gwaith tinman yn ystafell y Sultana Valide, pryd y tarawodd y lamp i'r Ilawr. Yn meddwl nad oedd neb yn Constantinople a fedrai well a y lisern ddefnyddiol, bwriadai ei hanfon i Paris, pryd y gofynodd y tinman ieuanc am gael treio beth a fedrai efe wnend o honi, ac a lwyddodd i'w rhoddi yn iawn. Cafodd y foneddiges ei boddloni gymaint fel y siaradodd am dano wrth ei mab, y Sultan, ac wedi iddo ynteu brofi gallu y tinman mewn amryw ffyrdd, apwyntiodd ef yn Brif Feistr ei Fagnelwyr, yr hon swydd a gyflawnodd yn anrhydeddus, ac er mantais fawr i'w wlad. Yr oedd offeiriad tlawd, ond balch, yn rhan-berchenog o ddarn diffrwyth o dir, yr hwn yr oedd boneddwr unwaith yn ceisio ei brynu. Yr oedd y bon- eddwr wedi addaw talu swm bychan i'r offeiriad am ei hawl, ond yn methu dod i fyny a'i gytundeb, aeth Mr. Hughes ymaith mewn tymer ddrwg, gan ballu gwneud dim yn rhagor a'r boneddwr anmhrydlawn. Yn fuan wedi hyny deuwyd o hyd i wythien werthfawr o gopr ar y darn tir, a thynodd yr offeiriad dros haner can mil o bunau yn flynyddol o'r tir y bu mor agos a rhoddi ei hawl o hono i fyny. Yr oedd Mr. Coutts yn ddyledus am ei lwyddiant fel arianwr i'r ffaith iddo glywed, yn fuan wedi dechreu mas- nachu, fod ariandy neillduol yn Llun- dain wedi pallu benthyg deng mil o bunau i foneddwr uchel. Ysgrifen- odd Mr Coutts at y boneddwr urddasol, a gofynodd iddo alw; ac wedi iddo alw cynygiodd iddo fenthyg y cylryw swm. Ond nis gallaf gynyg i chwi unrhyw sicrwydd," ebai y boneddwr. "Bydd nodyn o dan eich llaw yn ddigonol," oedd yr atebiad. Derbyniwyd y cy- nygiad, ac aeth y benthycwr ymaith a phum mil o bunau, gan adael y lleill at ei alwad. Ymdaenodd yr hanes yn gyflym, yr hyn a dynodd luaws o gws- meriaid newyddion. Daeth yr hanes i glustiau y brenin, yr hwn a allfonodd am weled yr arianwr haelfrydig, a bodd- lonwyd ef gymaint gan ei ymddyddan- ion, fel y gorchymynodd drosglwyddo ei fasnach arianol i Ariandy Coutts.

Gohebiaethau.

PWYLLGOR EISTEDDFOD TREHERBERT…

DEWI DYFAN.

Y PABYDDION A GWAIIARDD-IAD…

CYFRAITH Y MEISTR A'R GWEITHIWR.

CASTELLNEDD-Y GYMANFA GERDDOROL.

[No title]

SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.