Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
YN SYNAGOG YR IUDDEWON.
YN SYNAGOG YR IUDDEWON. RHYWFODD neu gilydd, y mae gan ed- mygwyr dynoliaeth barch dyeithriol i'r hen genedl ddihefelydd hon. Y mae yn anmhosibl i broffeswr Cristiouogaeth i anghofio arbenigrwydd a rhwygg- fawredd y teulu dynol, a fu o dan lyw- yddiaeth a thriniaethau uniongyrchol y Duw anweledig. Yn mysg holl dy- lwythau y ddaear—yn eu dirif draws- fudiadau a'u neillduolrwydd gwleidydd- ol a chrefyddol-y mae'r genedl hon heb un cystadleuydd gan mor ofnad- wy y dylanwadai ei nertholrwydd ar gydwybodau ei gwrthwynebwyr, ym- egnient nugio crefyddolrwydd yr Hebreaid er mwyn i'r olaf drugarhau wrthynt ac arbed eu bywydau, ereill a ymwasgent a'r Penaetbiaid etholedig am gael eu derbyn yn aelodau o'r Eglwys Iuddewig. Y mae'r Gyfrol Ysbrydoledig yn rhoddi mwy o hanes y genedl hon nag a rydd o hanes yr holl genedloedd ereill gyda'u gilydd. Y mae ei hanes o Ur y Caldeaid hyd Moses yn destyn syndod i bob cnawd ond y mae y Mor Coch, yr anialwch, y mynediad buddugoliaethus i dir yr addewid yn ychwanegu yn aruthrol at arddangosiadau a phriodoleddau syn- fawr hiliogaeth yr hen batriarchiaid ac o'r awr y goresgynasant hwy yr Amoriaid, y Canaaneaid, &c., &c., hyd eu caethgludiad i Babylon, croeshoel- iad Iachawdwr dynoliaeth, a'r cigyddio calonrwygol arnynt hwythau, a'r adeg rhyfeloedd anghymarol goresgyniad Caersalem, y mae eu hanes wedi ei gerfio mewn llythyrenau mor ofnadwy o eglur, fel nas gall rhyferthwyon a chwildroadau holl fagnelau difrod daear a nefoedd idd eu dileu oddiar goflyfrau y greadigaeth. Yr oedd eu Duw hwy yn Dduw y duwiau, a chyda'r un pri- odoldeb y gallesid eu bedyddio hwy- thau yn Genedl y Cenedloedd wrth eu cymharu a'r lleill o linach Adda. Ond am eu synagog yr oeddem wedi ar- faethu traethu ein cofeg am orig fach. Yr ydym wedi ymgymdeithasu llawer a'r Iuddewon er ys saith neu wyth mlynedd, ac wedi cael ein taraw a. syn- dod wrth wrando arnynt yn esbonio i ni yr Y sgrythyrau, ond ni chyrhaedd- odd ein syndod ei esgyneb (' climax ') hyd nes myned o honom i'r synagog gysegredig i weled a chlywed.pa fodd y dygent weithrediadau yr oruchwyliaeth seremoniol yn mlaen. Da y gwyddom oil mai ein dydd Sadwrn ni ydyw Sab- bath yr luddewon dros holl derfynau y ddaear, a phe byddai cyfreithiau y gwahanol deyrnasoedd yn caniatau idd- ynt, hwy a ddygent eu goruchwyliaeth- au trafnidiol yn mlaen ar ein Sul ni yr un mor ddiofal ag y gwnawn ni fas- nachu ar eu Sabbath hwy. Y mae ganddynt ffordd gyfrwys iawn i brofi anghyfreithlonrwydd Sabbaoth y Crist- ionogrwydd, a dyma hi:—Haerant os gorphwysodd Iali" oddiwrth ei waith ar y seithfed dydd. ac iddo sant- eiddio hwnw, a rhoddi iddo briodol- eddau a phwysigrwydd Ei nod cyfrin dwyfol, fod yn annichonadwy i un diwrnod arall wneud y tro heb i'r An- feidrol ddadwneud holl ymysgaroedd y greadigaeth faterol, ac nid yn unig hyny, rhaid iddo hefyd ddadwnenthur prwylen fawr y bydysawd, yn nghyda newid tueddfryd dynion, angylion, a cholledigion! Ar y dydd Sabbath Iuddewig y mae myned i Synagog yr Hebreaid, ac yno y gwelir yr Iuddew yn ei ogoniant. Pan y cyferfydd Iuddew ag un arall ar yr heol, neu wrth ddrws y Synagog, dywed y cyntaf, Sholam aleichem ben Abraham," ac yna ateba'r un a anerchwyd, Aleichem sholam," h.y., Tangnefedd i ti mab (ben) Abraham," y llall a etyb I tithau dangnefedd," neu "tangnefedd i tithau. Yna prysurant i'r cyntedd nesaf i mewn, pan yr anerchant eu gilydd bendra- phen a'r un geiriau a ddyfynwyd. Rhyfedd y fath wahaniaeth sydd rhwng yr Hebreaid yn addoli rhagor y Groeg- iaid a'r Pabyddion. Gwir fod ffurf- weddiau addoliadol yr luddew yn gorchymyn llawer o blygu pen, siarad gyda buandra'r gwefr, gwneud ystum- iau o flaen yr arch a'r drugareddfa, curo bronau, edrych tua'r dwyrain, taflu llwch dros y naill y Hall; ond nid oes yn y Synagog un portread o neb byw na maiw. Yr oeddem ni yn meddwl cael gweled ardebau o Moses, Israel, Abraham, Aaron, Josuah, Samuel, Da- fydd, Jonathan, Solomon, ac ereill o saint a gwyliedyddion y Duw Goruchaf —ond dylasem gofio nad yw y gyfraith Dywed rhai Shalom. Iuddewig yn caniatau i neb o'i deiliaid i wneuthur "llun dim yn y nefoedd uchod, nac ar y ddaear isod." Er fod ffurf addoliadol plant yr Israel wedi ymddirywio yn aruthrol, y mae yn ddir genym fod yma yn aros burach a gogoneddusacharddull ymostyngol nag sydd gan y Pabyddion a'r Groegiaid. Rhywbeth i hud-ddenu y llygad yn unig geir yn ngwasanaeth y Pabydd a'r Groegwr, gyda eithrio y gerddoriaeth ond rhyw alluoedd anweledig ac an- orchfygol sydd yn cynhyrfu holl ymys- garoedd meddyliol, corfforol, ac ysbryd- ol yr Iuddew. Nid dybenu ar ar- dderchogrwydd trwsiad canwyllau a chroesau yn yr offeren (mass) y mae yr ben genedl etholedig. O! na, y maent yma am eu bywyd yn cyffesu eu pechodan yn bersonol i Arglwydd Dduw byddinoedd Israel, ac y mae'r difrifoldeb a orchuddia holl wynebau yr addolwyr henafol yn pregethu brawdd- egau y tragwyddolfyd i'r gwyddfodol- ion. (Tw orphen yn ein nes(1f.) 4
YMWELIAD A LLUNDAIN.
YMWELIAD A LLUNDAIN. LLITH XIII. KEW GARDENS. DYMA faes eang, yn mesur oddeutu can' erw o dir, ac yn cynwys pob math o goedydd a llysiau a geir ar wyneb y ddaear; amryw hot-houses bychain a mawrion, yn y rhai, megys y rhanau allanol, y mae nifer lluosog o ddynion yn gweithio yn barhaus, yn trin a dyfrhau y miloedd coedydd, llysiau a blodau o bob math a gynwysant. Y mae rhai o'r llysiau, yn yr hot beds, fel coedydd mawrion o ran eu maint. Mesurant o ddeugain i haner can' troed- fedd o uchder, a'u dail o wyth i ddeg troedfedd o hyd, wrth ddwy droedfedd a haner o led. Dygwyd y rhai mwyaf o honynt o India. Yn mhlith y miloedd coedydd yn y gerddi, y mae derw Cymru, cedrwydd Libanus, y pren myglys (tobacco), y ffigysbren, &c., ac fel y gallo yr ym- welydd eu hadnabod, y mae eu henwau wrth bob un c honynt. Yn nghanol y ty gwydr mwyaf, y mae esgynlawr uchel wedi ei gyfodi, a grisiau haiarn i fyned i'w ben o'r ddau tu iddo, yn troi o amgylch bron yr un ffurf a grisiau clochdy. Oddiar yr esgynlawr hwn, ceir un o'r golygfeydd mwyaf bendigedig ar y maes paradwysaidd, wedi ei drefnu yn y modd mwyaf destlus a deniadol i'r llygad,—yn frith o welyau o bob ffurf o flodau amryliw, y coedydd mawrion o wahanol liwiau, a'r dyfroedd grisial- aidd yn y llyn mawr, yn cynwys nifer luosog o adar y dwfr o amryw wledydd. Os byth yr ymweli a'r brifddinas, ddar llenydd, yn mhlith ei lluosog ryfedd- odau, cofia fyned i'r Kew Gardens, cei dy dalu yn dda am dy drafferth. Nid oes dim i dalu am eu gweled, a gelli fyned i mewn yn eofn drwy yr oil o'r adeiladau, yr hot-houses, y museums, &c., a gynwysant. v •.
HYDE PARK.
HYDE PARK. Os hoffet weled cynulliad ardderchog o feirch a cherbydau heirdd a drudfawr, Hyde Park yw y man am danynt. Ar ddiwrnod tesog yma, fel gwenyn o'u cychod yn ngwres yr haul, ceir hufen cyfoethogion ein teyrnas yn troi allan ar eu meirch ac yn eu cerbydau, yn eu llawn ogoniant, ac yn eu plith yn ami y te llu brenhinol yn gyru yn eu cylch megys ereill. Y mae dwy res o gerbydau yn ffurfio cylch difwlch, yn rhedeg i un cyfeiriad, ac ereill yn y gwrthwyneb, fel nad oes dim modd croesi yr heol; ac yn gofalu fod pob cerbyd yn cadw ei le priodol, y mae ceidwaid ar feirch yn eu gwylied yno, fel y maent ar bont Llundain a manau ereill, lie mae y traffic yn fawr; ac ar yr afon Thames, yn rheoleiddio y llongau, y mae ceidwaid mewn badan bychain. Yn gyfochrog a heol y cerbydau, y mae y Rotten, Road, ffordd bwrpasol i rai ar geffylau i farchogaeth. Yn yr Hyde Park y mae yr hen dderwen nodedig a elwir Reformer's Tree, yn ymyl yr hon y bu Dr. Kenealy yn ddiweddar yn cynal ei gyfarfod mawr ar achos yr hawlydd." Ar un ochr i'r park y mae yr Albert Memor- ial, sef cofgolofn i'r diweddar Dywysog Cydweddog, yr hon sydd wedi costio cant ahaner o filoedd o bunau i'w had- eiladu a chyferbyn a hi, yr ochr arall i'r heol y mae y Royal Albert Hall, yn yr hon y mae yr organ fwyaf yn yr holl fyd. Y mae yn y neuadd hon ddeuddeng mil o seddau. Y mae yn debyg i wy yn ei ffurf, ac i gyfodi per- sonau i'r orielau y mae cerbyd pwr- pasol, megys cerbyd pwll, wedi ei am- gau fel un o'r boxes sydd yn y pyllau glo at ollwng i lawr a chyfodi ceffylaw, ond nid mor drwsgl. Bu y draul o adeiladu y neuadd hon yn ddau can' mil o bunau.
YR AGRICULTURAL HALL.
YR AGRICULTURAL HALL. Yn yr adeilad mawreddog hwn, He y mae Moody a Sankey yn cynal eu cyfarfodydd poblogaidd, y mae lie i ddwy fil ar hugain o bersonau i eistedd yn gysurus. Ar gaiiol y llawr y mae yno ddeunaw mil o gadeiriau. Mae yn syndod ineddwl fod yr adeilad mawr hwn yn cael ei lanw yn y cyfarfodydd mawrion a gynelir gan y cyfeillion Americanaidd. Pan y mae Sankey yn canu, y mae'r holl dyrfa yn uno ag ef yn y cydgan. Y fath Niagara o gerddoriaeth ydyw swn dwy fil ar hugain yn canu yn un cor mawr!
Y FARCHNAD GIG.
Y FARCHNAD GIG. Trueni mawr na chawsai tylodion Cymru, yn y dyddiau presenol, gy- northwyo eu hunain o le cyffelyb i hwn, fel y dywedodd gohebydd un o'n papyrau dyddiol un diwrnod am ypawn shops, a'r meistri i dalu yr holl dreuliau. Dyma swm y cig a ddygir i'r farch- nad yn wythnosol, sef ir un adeilad,- eidionau, tair mil a dau cant; defaid, wyth mil ar hugain a phedwar cant; lloi, tri chant a phedwar ugain moch, haner cant. Y mae y lladi-dy mawr yn agos i'r man hwn, a tren tanddae- arol yn dwyn yr holl greaduriaid i mewn iddo, yn lie eu gyru trwy yr heolydd. Canwn yn iach i brifddinas y byd yn bresenol, gan obeithio y cawn destyn i lawenhau yn fuan—tymhor o lwydd- iant i'r gweithiwr, yn lie y gauaf du o aflwydd sydd wedi goresgyn ein gwlad, fel y galluogir darllenwyr parehus y DARIAN, na fuont, i ymweled a'r lie yn. bei-souol, a mwynhau eu hunain wrth sylwi ar ei miloedd rhyfeddodau nas gellir eu hamgyffred drwy y des- grifiad a roddir o honynt. W. D. 0
YR ANGENRHEIDRWYDD 0 GAEL…
YR ANGENRHEIDRWYDD 0 GAEL EGWYDDORION SEFYDLEDIG. Y GWARANTYDD sicraf o lwyddiant yn mhob anturiaeth fawr a chanmoladwy ydyw ffurfiad cymeriad, ac ni chyr- haeddodd neb erioed y n6d ragorol hon heb fod yn feddianol ar yr arferiad o weithredu oddiar egwyddorion sefydl- edig. Y mae yn yr holl gelfyddydau a gwyddorau l'hywegwyddorion sef- ydledig, ac y mae ynrhaid euhadnabod a thalu sylw manwl iddynt os chwe- nycha dyn fod yn llwyddianus. Gall celfyddydwr weithiau, gyda nerth syml, arferiad a medr, ddyfod yn hynod gyw- rain, eithr yn unig mewn enghreifftiau cyfyngedig. Y llwybr yna yn unig yr a yn mlaen gyda sicrwydd ond nis gall anturio at unrhyw beth arall, nac hyd y nod anelu at welliant yn yr hyn a wna. r Yn mhellach, os nad yw yn deall yr egwyddorion ar ba rai y mae ei weith- redoedd yn ymddibynu, rhaid iddo weithiau fethu. Dyrysir ef gan agwedd- ion newyddion,' ac nis gwyr pa fodd i ragflaenu yr anhawsder lleiaf; ond os blaenora ei wybodaeth ei weithredoedd, os yw yn deall paham y mae YII, rhaid gwneuthur pethau felly, a pha fodd y cynyrchir yr effaith, y mae yn dyfod yn fwy medrus yn ei weithredoedd. Gall wella unrhyw gamsyniad, unioni un- rhyw anmherffeithrwydd, ac anturio hyd yn nod tuhwnt i'w derfynau j arferol i welliant neuddyfeisiau newydd- ion. Yn sicr ynte, ni ddylid gadael y gelfyddyd o fyw yn anrhydeddus, a llanw gyda modd parchus ein cylch mewn bywyd i berygl, i arferiad, i ddefod, i antur, nac i fympwy. Yr hwn a fyn fod yn llwyddianus a medrus, y mae yn ofynol iddo ddeall yn dda pa reolau a'i arweina, neu ynte blina ei hun i ddim pwrpas, a rnetha hyd y nod gan ormodedd o ymegniad. Os cymer dyn ieuanc yr amcan godidog i fyny, a phenderfynu bod yn gymeriad gwerth- fawr, da, y man lleiaf, a mawreddog os caniata amgylchiadau, y mae wedi gwneud y cam cyntaf drwy y fath ben- derfyniad. Gadewch iddo ymofyn yn wyliadwrus a pha egwyddorion y bydd iddo arwain ei hun i sierhau y fath nod bwysig. Gadawch iddo ddeall nad yw yn bosibl enill dim o wir werth ond trwy ofal a llafur. Damwain, fel y gelwir hi, ydyw diogi yn y mater hyn a y 1"3 fydd yn sier o gynyrchu drygioni. Ychydig ystyriaeth a ddengys fod dyn- ion o gymeriad da neu ddrwg yn gweith- redu fel hyn oddiar ryw fath o gynllun rheolaidd. Rhyw egwyddor gyffredin, er enghraifft, wedi bod yn ddigon mewn llawer amgylchiad, "mai gonestrwydd y ydyw'r policy goreu" sydd wedi dyfod yn ddiareb, ac wedi cadw llawer un rhag diuystr. Y mae yn wir am fodau gwaelach, y rhai nad allant ffurfio un- rhyw ddychymyg o bolicy heb ddichell na chyfrwysdra. Buan y daw hyn i dwyll, a phan suddo i hyn, y mae wedf ei amlygu, ac a ddymchwel amcan ei hun. Gadewch i'r dyn ieuanc, ynte, gymeryd i mewn ychydig ystyriaeth, edrych pa egwyddion cyffredin sydd yn arwain i barchusrwydd, a gadewch iddo ddewis y cyfryw ag sydd wedi eu llwyr brofi, y fath a fyddo yn cyfateb i'w sefylFa i'w arwain mewn anhawsderau neillduol, neu ei amddiffyn rhag ei brofedigaethau neillduol. Arweinia y gwir benderfyniad hwn i weithredu oddtar egwyddor i'w fabwysiad, y naill ar ol y llall, y fath a fyddo yn cyfateb fwyaf neillduol ei angenrheidion. Pa fodd y dylwn weithredu a ddelai yr ymofyniad parhaus, ac anfynych byddai yr atebiad yn anhawdd i'w benderfynu pan fyddo yr arferiad o wahaniaethiad unwaith wedi ei lwyr sefydlu. W. ♦—
ADGOFION AM CALIFORNIA.
ADGOFION AM CALIFORNIA. DieHOX nad annerbyniol genych chwi a'ch lluosogdderbynwyr, fyddai ychydig eiriau o barthed darganfyddiad aur yn California—pa Ie, pa bryd, a chan bwy. Y llanerch lie y darganfyddwyd yr aur gyntaf ynddo, oedd y fforch ddeheuol o'r American River, yr hwn a elwir yn awr yn Coloma. Cymerodd hyn le ar y 16eg o Ionawr, 1848, yn y dull can- lynolAnfonodd Gen. John A. Sutter bersonau o'r enwau James W. Marshall, E. Pierson, John Wimmer, W. H. Scott, A Stephens, H. Bigler, J. Brown. Peter Wimmer, a C. Bennett, i osod i fyny felin lifio. Fel yr oedd James W. Marshall yn tori ffos i gario dwfr, can- fyddodd ddarn o aur, yr hyn a greodd gyffro mawr yn eu mysg. Ymledodd yr hanes yn fuan dros y byd gwareidd- iedig, a chyrhaeddodcl nifer mawr o bobl yno y flwyddyn ganlynol, gan feddwl gwneud eu pile yn yr El Dor- ado newydd, oddiwrth yr hyn y cafodd y County ei henw. Nid oedd yn Coloma ar y pryd ond dau log-cabin, a deunaw o bersonau, a'r rhan fwyaf o honynt yn Indiaid, ond buan y daeth yn dref yn cynwys o dair i bedair mil o drigol- ion.-O'r "Drych." ;—«
GWERTH GWEITHIWR.
GWERTH GWEITHIWR. GWELAIS ysgrif odidog yn eich colofnau yr wythnos cyn y diweddaf, a rhyngoch chwi a minau, yr wyf yn coelio fod eich delw chwi arni. Yr wyf wedi meddwl llawer, y naill dro ar 01 y Hall, ar y mater hwn, ond nid wyf wedi amlygu fy meddwl i'r cyhoedd hyd yn awr ond y mae'r ysgrif dda hon wedi riioddi nerth yn fy fferau i ddweyd gair. Y mae y dull yr ymddygir at feib- ion llafur y dyddiau hyn yn ddigon i rewi gwaed dyn yn ei wythienau. Pe buasem yn byw o dan oruchwyliaeth y barnedigaethau tymliorol, byddai llawer tyrant gormesol wedi dyoddef gwaeth tynged na Pbarao cyn hyn. Gellir crybwyll geiriau Solomon yn y fan hyn, Ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oil." Yr ydym yn cyfaddef mai y cynllun sydd wedi ei osod i lawr yn yr ysgrif hon ydyw y mwyaf cyf- iawn i reoleiddio cyflog y gweithiwr. Yr wyf yn gwybod Mr. Gol., fod eich barn aeddfed, eich gwybodaeth uchel, a'ch parch trylwyr i'r gweithiwr, pan yn geirio bwyd a dillad," eich bod yn golygu holl angenrheidiauy gweith- iwr, yn y ddau air, ymborth a gwisg- oedd. Ond fy marn ostyngedig i yw, fod yma le i'r gormeswr i wthio ei ben mewn, a chael gwthddadl. Yn gyntaf, pa fath ymborth ydym yn olygu a ddylai y gweithiwr gael; oblegyd y mae tri o raddau yn perthyn i hwn fel pob peth arall, sef gwael, gwell, a goreu. Y mae genyf ormod o barch i gredu llai nad ydych yn iach yn y ffydd; y dylai y gweithiwr gael y dan- teithion goreu; ond y mae yma le i'r critic i wasgu ar ein gwynt, ac i ni gymeryd yr ymadrodd yn llythyrenol. Cymerwn, fel enghraifft, fy mod yn myned at rhyw gyflogwr i ofyn am waith, gofynai yn union i mi, os byddai yn meddwl cytuno, pa faint o gyflog dywedwn inau mai digon i gael bwyd a dillad. Wel, yn ol eu tueddfryd hwy, dechreuai gyfrif yn y fan, gan nodi y pethau gwaelaf wrth gwrs; a gofala fod pob cyfran yn ddigon prin, er yn wael! Cydolygwyf a chwi i'r dim am y gwerth ydych yn ei roddi ar ddyn, sef gwerth bwyd a dillad, ond credwyf y dylai fod yn ymborth o'r fath oreu ellir gael am arian; yr ym- borth goreu er maeth a llesoldeb y natur ddynol, a chyflawnder o hono i ddiwallu angen pob un fyddo yn dewis gweithio; a chael cyfraith y gwirion- edd i weithrediad ar y dosbarth arall, Yr hwn na fyno weithio, na fwytaed chwaith." Yr wyf yn credu yn gydwybodol, mai y gweithiwr, o bawb, a ddylai gael yr angenrheidiau bywyd goreu; ond nid felly y mae, fel y mae gwaethaf y modd. Rhyw segurwyr, fel corph y farwolaeth ar gefn y wlad, yw y rhai sydd yn sugno o ddanteithion melusaf cymdeithas. Y mae lie i ofhi y bydd y geiriau, Coffa i ti dderbyn dy wyn- fyd yn dy fywyd," yn disgyn fel taran ar glustiau llawer o honynt. Pwy ond y gweithiwr a ddylai fwyn- hau y danteithion goreu sydd i'w cael ? Y mae yr hyn sydd wedi ei dreulio o'r rhan faterol o'i gorph gan bwysau llafur y dydd, yn galw yn uchel am ryw sylwedd o'r fath oieu i lanw y gwagder; ond 0! y mae yr hyn a osodir o flaen llawer un, ar ol diwrnod lluddedig o waith, yn debycach i ys- garthion na dim arall. Wel, pa beth yw y rbeswm o hyn ? Am nad yw ei gyflog yn caniatau iddo gael gwell. Onid yw yn drueui fod yr hwn sydd yn halen y ddaear yn cael braenu o angen yr un rhywbeth ei hun. Ac oni ddylai yr hwn sydd yn dal pobpeth arall i fyny mewn ystyr fasnachol, gael ei gadw i fyny yn anrhydeddus ? Pwy hefyd sydd yn fwy teilwng o'r gwisg- oedd goreu ? A ydyw yn eu cael ? N ac ydyw. Paham ? Am na chan- iata ei gyflog; pan mae y cyflogwr yn mwynhau ei hun o'r gwisgoedd mwyaf harddwych. Pwy hefyd a ddylai fod ar esmwyth-feinciau ac esmwyth- gadeiriau ? Y gweithiwr, wrth bob rheswm, i gael bwrw ei ludded corph- orol ar ol ei ddiwrnod llafur. Ond y gofyniad naturiol sydd yn cyfodi yn y fan hyn ydyw, A ydyw y gweithiwr yn cael cyflog cyfaddas i bwrcasu y pethau yna ? Ie, meddai rhywun, yr ydych yn meddwi. Yr ydym yn gwybod yr hen stori yna yn eithaf da, fel y mae gwaethaf y modd. Ond nid am y dosbarth yna yr ydym yn siarad ar hyn o bryd, ond am y dynion hyny syddyn gwneud y defnydd goreu o'u cyflogau. Na: yr ydym yn beiddio dweyd nad yw cyflog y gweithiwr ddim yn ddigon i gyfarfod a holl angen ei deulu mewn pob rhyw fodd, a hyny o gryn lawer hefyd. Yr wyf fi yn tueddu i gredu fod dyn a weithio ddiwrnod o waith yn onest yn werth swllt yr awr am bob awr a weithio, ac y dylai hefyd ei gael cyn y gallo gadw ei deulu uwchlaw angen o bob peth; ac yr wyf hefyd yn credu ei fod yn fwy teilwng o honynt na neb arall, am ei fod yn gwneuthur mwy am danynt.—CYFLAFAREDDWR. +
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN. (Allan o'r "Daily News," Llundain). MAi 8, Middlesborough. Masnach yn farwaidd, ond yn iachus. Ystor nwydd- au meistri haiarn yn lleihau, er eu bod yn cynyrchu mwy o haiarn. PI is pig iron yn aros yr un. Dim cymainto geisio am rails. Y mae y meistri a'r gweithwyr wedi bod yn cyfarfod a'u gilydd er mwyn ffurfio graddfa (scale) newydd yn nghyflog y rhai a weithiant yn nghynyrchiad haiarn i'r farchnad, ond nid oes un raddfa wedi ei phender- fynu. Glo Durham yn cadw i fyny ei bris. Llawer o werthu ar coke am bris da. Mwnwyr haiarn yn Cleveland yn gofyn am fwy o gyflog. Mai 8, Birmingham. Masnach yn farwaidd. Ychydig fywyd mewn rhyw ganghenau. Archebion go gyflawn o Rwsia a Norway o blegid agoriad y Baltic. Y mae rhagolygon y bydd yr Unol Daleithiau yn well cwsmeriaid nag y maent wedi bod yn ddiweddar. Y mae Canada yn anfon mwy o archeb- ion. Y mae Awstralia a New Zealand yn gwsmeriaid go lew. Ychydig mwy o ofyn am haiarn wedi ei orphen. Glo fel o'r blaen. Mai 8, Casnewydd-ar-Wysg. Ychydig rhagor o fywyd yn y fasnach allforol, Gwaith tin Ynyspenllwch ar werth. Ni chynygiwyd am dano ond £ 31,000.