Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
24 articles on this Page
Y STRIKE.
Y STRIKE. Y MAE yn awr bum mis er pan ddaeth y glowyr allan, a chredwn eu'bod yn llawn, mor abl i sefyll allan am bum mis eto ag yr oeddynt ar ddechreu y pum mis sydd wedi myned heibio. Nid oes un symudiad yn Aberdar na'r Rhondda tuag at fyned i mewn, eto y mae cryn ddysgwyliad y bydd i IYW- beth droi allan o hyn i'r wythnos nesaf. Y mae cynrychiolwyr o wahanol fanau i gyfarfod heddyw (dydd lau) yn Mountain Ash, er derbyn teimlad y glvahanol adranau yn ngwyneb cynyg- iad diweddaf y meistri, a threfnu me- surau i weithredu wrthynt rhagllaw. Y mae fod y meistri wedi boddloni i gael rhyw gynllun i weitbredu rhag- llaw, mewn cysylltiad a chodiad a gos- tyngiad eyflogau yn gam yn yr iawn gyfeiriadj a gresyn na fuasent wedi dadgan eu boddlonrwydd i hyn er's misoedd; ond a all y gweithwyr a hwythau gydweled yn nghylch y cyf- ryw gynllun sydd bwnc arall, ac yn un y mae yn debyg y rhaid cael boddlon- rwydd arno cyn myned nemawr yn mhellach.
MERTHYR.
MERTHYR. 0 Merthyr, yr ydym yn cael fod y gImvyr sydd wedi dechreu ar waith ar delerau y meistri, yn gweithio mewn llawn hwyl, heb gymeryd un sylw o wyl y Sulgwyn. Yr unig ofnau sydd yn eu meddianu yn awr ydyw na bydd agos digon o waith i'w cadw yn mlaen. Y mae cryn lawer ychwaneg o lowyr wedi myned i mewn yr wythnos hon yn Cyfarthfa, Plymouth, a Dowlais. Dywedir fod y nifer gofynol wedi myned i mewn yn Dowlais.
CWMAFON.
CWMAFON. Yr ydym yn cael fod glowyr un pwU yii Owmafon wedi myned i mewn, ac arwyddion y daw y He yn fywiog eto yn fuan.
GLYN EBWY.
GLYN EBWY. Y mae nifer ychwanegol o lowyr wedi myned i mewn i Bwll No. 6, a disgwylir yn awr y bydd i o leiaf 150 y tynell o lo gael ei godi yn ddyddiol gan y nifer sydd wrth waith. Y mae nifer y-chwanegol hefyd wedi myned i mewn i byllau ereill, a disgwylir y bydd i luaws yn^ ychwaneg fyned i mewn o hyn i ddiwedd yr wythnos. Y mae yma ddysgwyliad, a seiliau i'r cyfryw, y bydd i'r gweithfeydd haiarn ddeehreu o hyn i ben y mis.
.DERI.--I
DERI. Cynaliwyd cyfarfod gan lowyr y Deri, dydd Sadwrn diweddaf, er cymeryd dan ystyriaeth y priodoldeb o fyned at waith. Cymerwyd pleidiais trwy y Ballot, a chafwyd fod y mwyafrif dros fyned at waith. Y mae y gweithwyr hyn wedi bod allan am bum mis, ac heb dderbyn cynorthwy o un man. De- chreuwyd gweithio yn mhyllau y Dar- ran a'r Bargoed ddydd Llun diweddaf.
PONTYPRIDD.
PONTYPRIDD. Prydnawn dydd Mawrth diweddaf, cynaliwyd cyfarfod o'r tu ol i'r Butcher's Arms, Pontypridd, pryd yr oedd yn bresenol Mr. Casey, un o gynrychiol- wyry National Association of Miners, a Mr. Prosser, y rhai a anerchasant y rfod. Cymerwyd y gadair gan Mr. James Rogers. Dywedodd Mr. Casey fod yr Undeb y perthynai efe iddo, wedi anfon i Ddeheudir Cymry, er lonawr, £13,431, a'u bod yn barod i'w eynorthwyo am ddeuddeg mis.
:SIRHOWY A'R, AMGYLCHODD.
SIRHOWY A'R, AMGYLCHODD. Y MAE pefchau wedi cyfhewid er gwell yn ylle hwn oddiar pan yr anfonais air i'r DARIAN o'r blaen. Y mae llawer o'r gweithwyr wedi derbyn telerau y meistri, er fod y rhai hyny yn galed. Credwn mai doethineb yw i ni yma dderbyn y telerau. o dan yr amgyloh- iadau presenol. Ymae yn dda genym weled y meistri wedi dyfod, gamyn nes atom, trwy foddloni i ffarfio pwyll- gor er gosod safon i lawr wrth ba, un y., gellir codi a gostwng fel v .bydd y farclmad yri myned. Gobeithio y bydd hyn yn ddechreu cyfnod dedwydd, acy bydd i genfigen gael ei hymlid o'n gwlad, ac heddwch yn bodoli rhwng meistr a gweithiwr. Hyderwny-daw y cynllun hwn i fodolaethyn fuan, ac v bydd i'r strikes a'r loclc-onts gael eu claddu ibeidio codi mwyach. G.
' CROSS IXX. : .V. Y ; .'v;;;.
CROSS IXX. .V. Y v; Cynaliwyd cyfarfod yn Cross Inn, Mai8fed, gan gynrychiolwyr o'r gweith- feydd cylchynol, pryd yr oedd Mabon yn bresenol; ac wedi ymdrafodaeth helaeth ar ein sefylifa yn y rhanbarth hwn o'r glo careg, penderfynwyd fod cyfarfod i'w gynal yma eto y Sadwrn diweddaf o'r mis bwn, sef Mai 29ain, pryd y dysgwylir cynrychiolydd o bob glofa ag oedd yn dal cysylltiad a chyf- arfod inisol y Cross Inn o'r blaen, yh nghyd a gwybo.daeth fanwl o sefyllfa- oedd y gweithfeydd hyny a gynrych- ioIant.- W. M.
4' TANWYR NANTMELYX.
4 TANWYR NANTMELYX. MR. GOL. Y mddangosodd dau lythyr yn y PARIAN, yr wythnos ddiweddaf, wedi eu harwyddo, gan "Tanwyr," yn gwadu nad oeddem a Haw yn nghodiad y glo yn Nantmelyn, ac yn priodpli y weithred i bersonau dan enyau ftugiol, &c. Dymnnwn hysbysu nad oeddem wedi awdurdodi neb pa bynag i ateb drosom, ac nad oeddem a llaw yn y mesur lleiaf yn nygiad allan y llythyrau," gwaradwyddus crybwylledig, ac heiyd nad ydym yn bwfiadu ateb unrhyw olyniad o berthynas Fr gwaith yn y dyfodol; oblegyd y mae yn ymddahgos i ni ei bod yn afresymol gwneuthur dim o'r fath beth. 0 ganlyniad, hyderwn y bydd y mater hwn yn cael ei gau i fyny gyda y llythyr hwn, gan ddymuno arnoch chwi ein llwyr rhyddhau. Yr eiddoch yn gYWir- T. JAMES, W. PHILLIPS, I M T. I'.mK' J.THOMAS,: ) I; [Mae yn wir ddrwg genym fod y llytljyron y cyfeiriwch atynt wedi ymddangos; a chan fod ein rbyddid wedi cael ei gamddefnyddio fel ag i gyhoeddi yr hyn nad, oedd yn wir, yn nghyda cbyflawni bryntwaith arall, bwriaOwn wneud a allwn i ddw) n y person neu y persynau hyn i ateb am eu oynllwynion drygiorius. Yr ydym' braidd yn sicr y deuir p hyd idilynt.]
.—-— ..:.''/1 BODDIAD YN MAE…
—-— BODDIAD YN MAE STE G. DYDD Llun diweddaf, dygwyddodd dam- wain i fachgenyn naw oed, o'r enw David Daniel, mab i Mr. Daniel, glowr, Garn. Aeth y llencyn i'r Brithdir i foddi ci bychan mewn pwll lien waith. Wrth daflu careg at y ci, syrtbiodd i mewn ei hun. Y mae y pwll yn hynod dd-vfn, ac ynddo rhyw 28 troedfedd o ddwfr. Ymgasglodd nifer mawr at y lie, ond methai paw^.roddi unrhyw gy- northwy. Y mae yn ddrwg genym dros y rhieni gofidus.
. Y FAIICUNAD A'K CYNHAUAF*
Y FAIICUNAD A'K CYNHAUAF* YMAEyrhaia ysgrifenant ar obeith- iony cynhauaf yn ein hysbysu y bydd y cynhauaf mor belled ag y gellir barnu yn awr yn un ardderchog, mewn cnyd- au y meusydd a ftrwyth y coedydd. Er fod y tywydd rhagorol a gafwyd yr wythnos ddiweddaf wedi cael effaith neillduol ar farchnadoedd yr holl gyfan- dir, nid yw y gwenith wedi gostwng ond ychydig yn ystod yrSvythnos; ond tueddu i ostwng y mae. Y maegwen- ith tramor yn dylifo i mewn i'ii porth- laddoedd, fel y mae genym bob lie i gasglu y cawix fara rhad.
CYDWEITHKEDIAD MEWN' GLOFEYDD.
CYDWEITHKEDIAD MEWN GLOFEYDD. YR ydym yn deall fod cydweithrediad mewn glofeydd ar gael ei brofi yii sir York. Y mae yr "Associated Working Miners of Yorkshire" wedi prynu glofa am £ 80,00'0, er profi a ydyw elw perchenogion glofeydd yr hyn y dywedir ei fod. J 'r
LLOFRUDDIAETH, AR Y MOR.
LLOFRUDDIAETH, AR Y MOR. Y MAE y llestr Carrie Ann newydd gyrhaedd Bristol o Yalentia, lie mae y cadben a'r mate wedi eu rhoddi yn nghiarchar ar y cyhnddiad o lofrnddio un o'r dwylaw, Henry Pourtney, am iddo omedd cyflawni gwaith cogydd, y: hwn oedd yri glaf. Cadwodd y cadben ef jrieirn cadwytuui, a hyny yu noeth mil airiryw ddyddiau, lie y bu farw: Claddwyd ef yn y mor.
«'1I DAMWAIN I FAD--PEDWA11…
«'1 DAMWAIN I FAD--PEDWA11 0 BEHSONAU; WEDI BODDI! r w-a CYMERODD dam wain alarus Ie dydd Llun diweddaf rhwng Shields a Sunder- land, trwy yr hon y boddwyd tri o fechgyn ieuainc, ac un ferch ieuanc. Yr oeddynt wedi meddwl myned ar bleserdaith iMarsden Park, ac ni clily- huwyd dim ani danyiit hyd oddeutu naw o'r glocrr, pryd y gwelwyd y cwch yn y creigiau ger Whitburn. Wedi gwneud ymchwiliad, deuwyd o hyd i gorff y ferch ieuanc. L
YMLADD AG INDlAID.
YMLADD AG INDlAID. O'R America yr ydym yn cael fod ym- laddfa golledus wedi cymeryd lie rhwng haid o Oheyennes a dwy adraii 0 feirch- filwyr yr. Unot Dalaethau, yn yr hwn y Uaddwyd 27ain o Indiaid. Gwersyllai yr Indiaid yn agos i orsaf Monument, 380 o iilldiroedd yn orllewihol i ddinas Kansas. Anfonwyd hysbysrwydd ar unwaith i Old Fort Lyon, ac anfonwyd Lieutenant Henley a dwy adran allan. Deuwyd o hyd i'r Indiaid rhyw ddeu- gain milldir yn orllewinol i Monument, rmbwyllodd y rneirch-filwyr am ych- M YC' ydig nes eu bod yn baiod: i ymosod, pryd y gwnaethant ruthrgyrch rhagorol arnynt. Yn gweled eu perygl, gwnaeth yr Indiaid ymgais am ddianc, ond caw- sarit eu hatal, pryd y gwnaethant ym- p b drech galed am fuddngoliaeth. Bu- wyd yn ymladd am ddwy awr, pryd y torodd yr Indiaid ifyIiy ac a ddiarig- asant, gan adael ar eu holau y cwbl a feddent. Cafwyd ar y maes 27 o Indi- aid a dau filwr, ac yn mhlitli yr Indiaid yr oedd dau dy wyspg.
,..,,.I F FEW YD III AT) 13ERW…
F FEW YD III AT) 13ERW K DY DD YN XGOGLKDD CYMIU;. DAU DDYX WEDI EU LLADD. ODDEUTU havV o'r gloch yljoreu dydd Iau, yr Wythnos ddiweddaf, ffrwydrodd bovwedydd yn Melin Lifio Caelilgybl gan achosi marwolaeth dau ddyn. Yr oedd y peii'ianydd arferol yn; absenol oherwydd afiechyd, a'r peiriant dan ofal un William Williams. Y 'mae yn yniddangOs i'r dHvfi* gael ei adhel i fyned yn isel, ac wrth roddi ychwaneg yn y berwedydd, ffrwydrodd. Y ddau a gollasant eu bywydau oeddynt Wil- liam Jones a William AVillianis.
....., DEDFRYD: MARWOLAETII…
DEDFRYD: MARWOLAETII WJI:I)I EI SYMUI).. Y MAE yn dda genym allu hysbysu fod y ddedfryd o farwolaeth a gJhoedd wyd uwch ben y5 druanes, Mary Elizabeth Coward, am Tofruddio ei baban trwy ei daflu i'r canal wedi cael ei symud. Y mae llywydd carchar Newgate wedi derbyn -cenddwri i'r pwrpas hwn s o'r Swyddfa Gartfefol. Yr oedd i gael ei dienyddio ddydd Llun nesaf. J
ODYDDLAETH.
ODYDDLAETH. Y; MAE Cyfarfod Symudol Biynyddol. yr Odyddion yn awr yn cael ei gynal yn Nghasnewydd. Y mae yn agos i bedwar can to. gynrychiolwyr yn bre- senol o bob. parth o'r wlad. Yn ei anerchiad,. dywedai y llywydd fod yn awr yn perthyn i'r undeb dros 502,000 o aelodau, a bod ei drysoi; yn cyrhaedd y swm o £ 3,706,336.
DAMWEINIAU Y RHEILFFORDD.
DAMWEINIAU Y RHEIL- FFORDD. Y MAE yr adroddiadau o barthed dani- weiniau y rheilffordd am y flwyddyn ddiweddaf AYedi en cyhoeddi. Oddiwrtb yr adroddiadau hyn, cawn fod, ilifei, y rhai a Jaddwyd yn, y Deyrnas Gy&mot yu,]:>.4,20, a'r rhai a glwyfVy.dyn,j5,050
' '"^LAXION" O'LI AMERICA.
^LAXION" O'LI AMERICA. LLOFIUJDDIADAU ÂRSWYDOJ" -Adrodda y little'' Mdefo, Arkansas Gazette,: jr- hanes brawychus a'' gaiilyn: Darfa i Sarwmwr' oedd yn byw yivynayl Nebo Church, Seiver County, werthu ei eiddo er svimid i Texas, a dydd Mercher, Ebrill 2latin, aeth i ymweled a chyf- eillion yn y gymydogaeth; ae er eifod yn bwriadu aros oddicartref y noson hono, aeth yn anesmwyth yn y nos yn nghylch dyogehveh ei denlvi, a dychwel- odd adref yn nghwmni dyn aralL Yr oedd ganddynt ddau i-ychdd-rvlt dwbl. baril. Wedi dyfod at y ty, gwelenf drwy y ffenestr bedwar o ysbeilwyr yn cyfrif en harian, y rhai a saethasantyn farw yn y fan; ond erbyn myned i'r ty, brawyehwyd y ffarmwr drwy ganfod ei, briod a'i ddau blentyn wedi en Hof- ruddio. Gwelir oddiwrth hyn fod saith o gyrff yn y ty ar yr un pryd. MALU DYN MEWK MELIN WYXT.— Cymerodd damwain echryslon li yn Potsdam, Minnesota, Ebrill 23, trwy i bedwar o ddynion fyned i dwrmelill wynt oedd yn cael ei gyru yn orwyllt gan wynt uchel, a'r bob! yn analluog i droi yr esgyll o'r gwynt; ac wedi myned i fyny darfu i un dyn o'r enw W. A. M'Carran, yr hwn oedd yn 27 mlwydd, ae yn heinyf a cbryf, roddi trosol yn yr olwynion i'w hatal; a thra yn gwneud hyny, llithrodd ei draed ar olwyn ddaneddog islaw. Pan ddeall- odd ei fod yn cael ei dynu i mewn, bloeddiodd, aehubwch fi, yr wyf yn cael fy nhynu i mewn." Ymaflodd dau ddya ynddo gan amcanu ei godi o'r olwyn; ond methasant a'i ddal, ac yn fuan yroedd wedi ei dynu o'r golwg i, ddanedd yr olwynion. Malwyd ei gnawd a'i esgyrn yn .jelly, a chafodd ei wasgll trwy le dwy fodfedd o drwch, fel nad oedd dim yn dal y cnawd w gwaedlyd yn nghyd ond gewynau, a chareiau o'i ddillad. LLElDR. Ychydig wythnosau yn ol daeth Cymro yn cyfenwi ei hun Benia- min Jones i Long Creek, Iowa, a gwein- yddodd fel meddyg am amser byr, gan ddefnyddio electric bath at wahanol bersonau. Ond cyn iddo gael amser i roddi prawf ar ei alluoedd, adnabydd- wyd ef gan ddyn yn y gymydogaeth fel un a ddiangasai o Dodgeville, Wiscon- sin, gan gymeryd buggy perthynol. i arall gydag ef; a phan ddeallodd; fod y swn allan am dano, diangodd, ondsdal- iwyd ef drachefn.
Y2NY8MEUDWY. ■;'
Y2NY8MEUDWY. ■ C YPTALIODD Ysgol Siibbothol Bethesda yn y lie uchod ei gwyl de fiypyddol prydna>vn djdd Sa- dwrn diweddaf. Wedi iddynt gyfranogi o'r wledil Ahsuh, cafwyd^ (on gan gor y plant, dan arwein- iad y cerddor ,ieuanc ac addawol, Alaw Meudwy. Wedi hyny, cafwyd anerchiadau barddonol vn deilwng o'r wyl gan Mri. W. T. Williams, B. Walterx, J. Walters, a L. Davies. Hefyd, dar- llenwyd darn p waith Telynog gan Mr. G. Jones,, yr hwn ddarn oedd yn taro i'r a Caf- wyd can gau Llew Ogwy, a deuawd gan Alaw Meudwy a Mr. W. L«wi*. Diweddwyd trwy ganu, Hen Wlad fy Nhadau," ac ymadawodd pawb wedi eu llwyr foddloni yn inhob ypiyr. c. J. W", .{( its;'
LLANILLTYD FAERDREF.
LLANILLTYD FAERDREF. YR ydym yn Dawenbau yn y gobaith y daw y.ddau allu. pwysigrO lafur a chyf- alaf yn fuan yii nes at eu gilydd, ac y terfynh" y II-eddir, ac y cleddir y strikes am byth, ac yn sicr y bydd yr enw strike yn ddirmygedig, yn warth, a:cyn ddrew- edig ar lyfeau banesyddiaeth trwy yr oesaua.ddel. Ond yr ydym yn liyderu na fydd i'r ;un glowr, masnachwr, na neb o'r dynion tyner galon, i atal eu rhodd- ion at y llu sydd eto yn amddiffyn eu ac ein biawnderau, canys" bydd y rnarch farw tra'r glaswellt yn tyfu felly, yn hael ac ewyllysgar deuwn allan yn ein nerth arferol cr cadw y dinawdd rhag syrthio yn aberth i draflwnc newyn ac na tydd dim.i'n hatal ond swn y drams a'r .olwynion, .y mwg. a'r chwiban, a golw^ ar yr'agerlpng'au eto.yn rbedeg y tonau; brochus' a chynwysiad perfeddion eiji gwlad i wledydd pell y byd. Da genym ailu eich hysbysu fod i'w gofnodi yn eich TAKI VS yr wytbnos hon eto y symiau canlynol o'r lie hwn, yr hyn, M a feiddiwn ddwoyd, .nad pes unrhyw le yn ein gwlad, yn ol ei faint- iuli, wedi bod yn fwy ffyddlon at y gweithwyr anffortunus Casg]wyd yn y Tynant gan Ida Collins, £ 34 5s. 8c.; Dr. DaTies, M:D., 10s.; J. Morgan; cigydd, Is.; W. Lewis, Ysw.( Dyifryn Bach, 5s.; cyfanswm, £ 35 Is. 3c. Talwyd alhua. i fenywod oedd yn casglu wrth yr Office, 12s. anfonwyd i'r Pwyll- gar. Carolog Aberdar, £ 34 9s. 3c. Derbyniwyd, yn rby ddiweddar i'w hanfoji gyda¡'r uchod,—Thomas John, Crosscade, '2s. Daniel Morgan, 6c.; H. I z;1 Jones, Dyffryn- Bach, 2s.; T. Morgan (Llyfnwy), 2s. 6c.; Evan Morgan, grocer,, 2s. Cyfanswm, 9s. Trosglwyddwyd ,i'r Pwyllgor Canolog Aberdar; yr 17eg o Fai, 1875. Yr eiddoch fel arfer, I WILLIAM ErnvARDS
PWYLLGOR CYXOIlTirWYOL ,PONTYPRIDD.
PWYLLGOR CYXOIlTirWYOL PONTYPRIDD. Y MAE y Pwyllgor uchod yn dyinuno cydnabod, trwy gyfrwng y DAHIAX, y symiau canlynol sydd wedi eu derbyn oddiwrth y gwahanol weithfeydd a mas- nachwyr y cymydogaethau cylchynol, tuag at gynorthwyo y dosbarthhwll W sydd yu dyoddef o dan eifeithiau y strike bresenol. Dymunant hefyd ddychwelvd eu diolchgarwch mwyaf didwyll i bawb sydd wedi cyfranu mor ardderchog tuag at yr achos teilwng dan sylw. Y mae parch yn ddyledus i'r masnachwyr am eu cydymdeimlad a'u gweithgarweh di- ail oddiar ddeehreu y etrihi hyd yn awr. Nid, yn; unig y: maent wedi rhoddi eu liarian a'u nwyddau, ond hefyd wedi aberthu llawer o u hamser, trwy ymgy- meryda'r gorchwyl anymunol o fyned oddiamgylch i gasglu, yr hyn sydd wedi profi yh llesiol iawn i ni fel gweithwyr. p 1. 9 YiI unol A: dymuniad arnryw o'r mas- nachwyr, ymae y Pwyllgor yn bwriadu (wedi i'r strikeddod i ben) gyhoeddi, trwy Y DARIAX, rhestr yncynwys enwau y masnachwyr oil, yn nghyda'r symiau y maent wedi eu rhoddi o'r dechreu i'r di ivedd. Cyfanswm y derbyniadau o Mawrth 27ain, hyd Mai lOfed, 1875;- Newbridge, Glofa Rhondda, £ 66 98.; Pontypridd Steam Coal, tl5 12s. 6c.; Dai-anddu, £ 3010s.6c.; Hafod, £84 6s.3e,; Tydicka, £ 90 lis.; Pwllgwawr, £,11 5s.; Engine Drivers ac ereill, y Great West- ern, .68 178.; Lon, £.53 4s. 6c.; Graig Wen. £ 1 14s.; Pontypridd Sinkers, £317s.'6G:r Mr. Thomas John, £ 14 6s.; Masnachwyr Pontypridd a Chwm Rhon- dda,- £ 51 14s. 2c.; T. J».Coe a'iWeithwyr, Bristol, 8s., 9(! Foundry G.wni: Rhondda, Gwaith Vulcan Cwm Rbondda, 5s. 6c.; Gwaith A1 can Trefforest, £ i. 8s. Cyfanswm, £ 435 3s. 2c. '}.' Co.
CWM PJIOXDDA. "l;:
CWM PJIOXDDA. "l;: Dy5iPNA Pwyllgor Gweiibhredol Llwyny- pia,'gydnabod derbyniad y symiau can- lynol, yr wythnos yn diweddu: Mai7fed: —R- Ii- Smith (Homo Ddu), 5s.; Mas- nachwyr Penygraig, 3s.; Gweithwyr Mr. W. Richards, Tonypandy, 8s.; Cwm Clydach, £1 is. 4c.; Masnachwyr LIwyn- yp^ .Tonypandy, Cpedymeibion,, a Tre- alaw, £ 1 7s.,6c.; Mr, ,Thomas, Swan Inn, 2s.' '6c. Wythnos yn diweddu Mai 15fed, Penyglraig, £ 7' 10s. l|c.—YSGKirENit)i).