Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
CYMRO GWYLLT FEL 30RUCH-WYLIWIt…
CYMRO GWYLLT FEL 30RUCH- WYLIWIt YMFITDOL. YSTYKIWYF fod yn ddyledswydd arnaf gydnabod y Oymro Gwyllt a gwobr o barch ar gyhoedd fel Goruchwyliwr Ymfudol gonest a theilwng o ymddiried. Gosodaf ger bron y darlienydd yr hyn a wnaetk yivA. yna 7"; Yn mis Mai, 1874, prynais pass ganddo i fy mherthynasau sydd yn yr Amerig, er mwyn eu oael yn ol i'r Hen Wlad. Yr oedd y i barhau mewn grym am flwyadyn. Ond nid oedd un o'r rhai y codais y pass iddynt yn ewyllysio dyfod yn ol fel yr oeddwn yn meddwl. Ond ciena: f'y mrawd-yn-nghyfraith. yn ei,lle, gaii feddwl y cawsent newid yr enw ar y pass gan Oruehwyliwr y White Star Line yn Chicago, ond gomeddodd y cyfryw un wneud hyny o gymwynas. Ac ar yr 17eg o'r mis diweddaf (Ebrill), cefais iythyr o'r America yn hysbysu yr helynt, a'r pass ynddo yn ol i mi. jSTis gwyddwn yn iawn befch oedd i wneud, gan fod y i >*s ar ben y 25ain o'r mis hwn. Ond juuerfynais anfon y pass at y Cy:_ ia ei hysbysu o'r helynt. An- fonodd yntau lythyr yn ol gyda throa-d y -post, a synais yn fawr wrth. si agor pan ganfyddais pass newydd yn lie yr hen i mi, ac i fod mewn grym am flwyddyn arall, a'r enw wedi ei newid, a hyny heb godi arnaf ond yr hyn a delais am y blaenaf iddo. O 1 »' yn teilyngu diolchgarwch gwre- v if hi Ii tyrthyf amy fath gared- Pwy arall wnelai hyny heb god' yr ail vnnvh, ac yn falch o gael y fautui^ a'r cyle i dynu arian neu anr oddi wrchyi am newid yr enw yn unig, heblaw am y pass newydd am flwyddyn yn mhellach. Bendithion ffawd fyddo yngweiiu ary Oymro, ae hiroes i wasan- aefchn y swydd a'i geriadl yn mhob vstyr. A phwy bynag sydd yn meddwl ymfudo ac am onestrwydd a phob peth yn wyneb agored, cynghoraf hwynt i fyned at y Oymro Gwyllt. Gweinydda iddynt yn egwyddoroi a didwyll. Pe bawn i yn croesi y Werydd unwaith bob mis iddo ef yn nnig yr ymddiri edwn tra byddo yn y swydd.—Yr eiddooh, &c., Tydraw, Jons B. WILLIAMS, Foxhole, Swansea. O.Y.—Profais ef yn ddyn gonesttrwy- adl yn y flwyddyn 1869. Gwasanaethocld yn rhadlon a rhesymol i foddlonrwydd fy mherthynasau y pryd hyny.—J.R.W.
YR EISTEDDFOD IFORAIDD.
YR EISTEDDFOD IFORAIDD. MI;WN atebiad i luaws o lythyrau o bob cyfeiriad, tybiwyf fod gair neu ddati yn ddyledus trwy gyf- rwng y DARIAN mewn perthynas i'r gohiriad. Parl gyfarfu y Pwyllgor Mawrth 31» fel y gwelir mewn colofn arall, barn- wyd yn angenrheidiol i ohirio dydd cynaliad yr Eisteddfod, ond ni thybi- wyd yn addaS i gyfnewid adeg derbyn- iad y cyfansoddiadan, mewn gobaith y buasai y trychineb poenus presenol wedi ei hen derfynu cyn hyn. Mae'r Eistedd- fod, fel y gwelir, wedi ei gohirio hyd adeg anmhenodol, ac yn amddifad o unrhyw sicrwydd pa bfyd y gellir ail gychtvyn, felly, mae'r pwyllgor wedi barnn mai gwell hefyd ydyw gohirio adeg derbyniad y cyfansoddiadan hyd hysbysiad pellach. Gwel "hyabysiad" yr Eisteddfod am yr wythnos ddyfodol. Bydd y cyfnewidiadau hyn yn debyg o fod yn gryn siomiant i amryw o'r cys- tadlenwyr; ond credwyf fod sefyllfa belbnlus masnach ein hardaloedd yn ddigon i gyfiawuhan ymdclygiad y Ily Pwyllgor. Dylid eofio fod y Pwyllgor yn gweithredu dan nawdd Adran Ifor- aidd Aberdar, yn annibynol ar amcan- ion arianol. Mae'r Eisteddfod Iforaidd yn sefydl- iad perthynol i'r Gynaclledd Flyn- yddol," ac yn cael ei chynal er anrhyd- edd ir T-Trdd; felly, mae'r angenrheid- rwydd o ohirio yr Eisteddfod yn weith- red boenns o du y Pwyllgor a'r Adran. Gall y cystadleuwyr fyned yn mlaen yn hyderus-bydd i'r Pwyllgor ail-ymaflyd yn ei ddyledswydd gyda'r cyiiensdra cyntaf. Bwriedir i'r Eisteddfod hon fod yn un wir anrhydeddus. Mae symiau mawrion o arian wedi eu haddaw, yn nghyda chefnogaeth 4,000 o Iforiaid Aberdar, heblaw ein bod wedi llwyddo i sicrhau gwasanaeth beirniaid o'r dos- barth blaenaf a fedd ein cenedl, Yr eiddoch ar ran y Pwyllgor, D.B. LEVis, Ysg.
LLITH 0 aWM RHONDDA.
LLITH 0 aWM RHONDDA. PAX yn rhodio o gwmpas ardal fy ngenedigaeth yn ddiweddar, cyfarfydd- ais a chyfaill mynwesol i mi, yr hwn a ddaeth yma am dro ar adeg farwaidd y strike yma. Cawsom ychydig o oriau cysurus yn y ty yma. gyda'n gilydd—yn siarad y peth hyn a'r peth arall, hel- yntion y strike, son am y llithiau campus sydd yn ymddangos ar duclalenau clod- wiw y DAKIAN, &c., ac am y cyfarfodydd canu rhagorol yma o dan lywyddiad leuan G-wyllt—peth rhyfedd iawn na fnasai mwy o ol y cyfarfoclydd yma ar ein calonau celyd. Ymrafaelio sydd yn mron yn mhob cwr o'r wlad. Mae'r gwr o Gower Road a Golygydd y Gkvladgarwr ar faes y frwydr, Oymro Gwyllt a Mer- tbyrian, Meton a'r Temlwyr Da, Bryn- fab a 1'hwyllgor Eisteddfod y Croglith Treherbert, ac ereill. Wel, wel, meddai un wrth y llall, y maent yn 11 awn o ym- rafaelion. Trueni fod y wlad yn talu am y fath bethau diwerth, onide, meddai. Ie, yn wir, meddwn inau; ond y mae yna dipyn o newyddion Bed dda yn y DARIAN yr wythnos yma heblaw yr ymrafaelio yma. (Gwyr y wlad pa rai o'r ym afaeiion sydd yn y DABIAJJ, ac yn mha le y mae ereill.) Dyna'r erthygl, arweiniol, sef "Llwyddiant a Ohyflog." Dyna ryw beth gwerth oi ddarIl en, onide? Ie, yn wir, meddai, mae hwna yn ysgrif- enuyndia; ac nid dyria oedd y cwbl oedcl yn fuddiol yna-darllenaist ti yr Ymweliad a Llundain," Defnyddiol- deb Gwybedj" "Dyrchailad y Gweifch- i vvr "I Do, dyna dda oeddynt hwy, onite P Ie, yn wir, carwn i'n pa,pyrau fod yn Uawn o rywbeth fel yna—mi ddarllenwn bob gair wed'yn. Oh! ie, yn wir, a welaist ti "N odiadau Adolyg- iadol gan Tau P Do. Dyna feirniad- aeth fanol, onite? Ie, yn wir. A wel- aist tihwnw gan "Un o'r Pwyllgor at Tau ? Do. Clywais i erioed o'r blaen fod Tan yn hunanol. Clywaist ti? N adelo, yn wir. GOH.
! YMADAWIAD DEWI DYFAN.
YMADAWIAD DEWI DYFAN. FEL ag y mae rhyw un wedi awgrymu yn eich TAlUAN ddewrwych, y mae y brawd ftllVvyl Dewi Dyfan yn ymadael, a phenderfyniad nnol yr eglwys yn y Gadlys, ydyw fod iddo clysteb deilwng o hono ei hun. Gwir fod yr amser yn dlawd ond nid oes ond gwneud y goreu. Penderfynwyd i fod ynllywyddy pwyll- gor Mr. David James y trysorydd, Mr. Mr. W. T. Williams; a'r ysgrifenydd, Mr. Daniel Rees-y ddau olaf yn byw yn Oxford Street, a bydd llyfrau i bawb o gyfeillion y bardd i'w cael gan yr ys- if e, grifenydd, neu rai o'r eglwys. Pa fodd y mae lienorion a beirdd yr ardal yn meddwl gwneud. A ydynt yn taflu eu nerth i'r drysorfa, hon? Neu a ydynt yncymerydy gorchwyl atynt eu hun- ain, fel ag y cefais awgrymiad? Gair yn y DAIM v.\ nesaf, a phwyllgor at once, fechgyn yr awen. Yr ydych chwi yn wyr o gyhyrau nerthol, ac yn rhai all wneud grymusder pan fyddoch yn dyfod alSan, ac nid oes yrun dewinall ddirnad eich medr. Gwyddom i gyd am Dewi, mai dyn dystaw ydyw wedi bod trwy yr holl amser yn y Gadlys. Er ei fod wedi cyfansoddi llawer, ni chadwodd ddim trwst yn ei gylch. Profodd ei hun yn gyfaiU trwyadl i bawb a'i adwaenai, a cherir ef gan bawb, or lleiaf hyd y mwyaf. Bu yn gofalu am eglwys y Gael- lys am yn agos i ddeg mlynedd, a mawr ydyw y gwaith y mae wedi gyflawni. Mewn gair, y mae wedi profi ei fod yn ddyn cyflawn ac os oes tysteb yn deil- wng, i neb, saif Mr. Davies yn un o'reyf- ryw. Dyn i ddynion ieuainc hyd yr eithaf—da gan ei gaIon ydyw gweled dyn ieuainc yn ymestyn am wybodaeth, a chanddo nod o'i flaen. Oyfaill caruaidd cyfion—i'r ieuanc Wr hoew, bydd ffyddlon, A'r henwr gu o rinion—ei burlwys, Ie, a'i sainlwys bregethauswynion, I niou. GWYLLTEIHIOG-.
I HELYNTION Y BEIRDD.I
HELYNTION Y BEIRDD. YMDDENGTS fod yr helyntion wedi creu chwildroad yn mhlith trueiniaid y trienwau "—rhai wedi digio yn anfadd- euol am fod y Prydydd wedi cymeryd eu henwau yn ofer, ac ereill yn chwythu yn mon eu cyrn am na baent wedi cael sylw yn yr helyntion. Peidiwch a gwingo, fechgyn, yr ydych yn gymeriadau cyhoeddus, a. rhai o hon- och yn prysur esgyn grisiau enwog- rwydd; ond os ydych wedi breuddwydio am gyrhaedd y clogwyn heb dderbyn cyfran helaeth o wawd a dirmyg y byd, yr ydych yn sicr o gael eich siomi. Clywsom nad oedd Daronwy yn synu dim fod y Barcud wedi ei weled yn "sefyll fel hurtyn wedi meddwi ar deml- yddiaeth." Y syndod ydyw fod y Bar- cud wedi ei weled o gwbl tra yr oedd yn gorfod, syilu trwy gynifer o colored glasses, a'r rhai hyny yn amrywio yn eu maint a'u lliw yn gyfatebol i flys yr edrych- ydd. Mae pwyllgor "Eisteddfod y Own" yn myned rhagddynt yn eu hanturiaeth- au llenyddol. Mae y gyfrol ag y maent newydd ei chyhoeddi yn ychwanegiad pwysig at "Literature of the Kymry," ac y mae cyhoeddAyr y Geiriadur Byw- graffyddol o Enwogion Oymru newydd dderbyn enwan awdwyr caneuon y ewn. Cadwed y beirdd eu harfau yn lân- clywsom oddiar awdurdod da fod gini arall i gael ei chynyg am y farwnad oreui'r cadnaw drylliedig." Mae'n debyg fod y Betheliaid hefyd ar fedr cynal Eisteddfod bwysig yn Mehefin, yn yr hon y cynygia Etna Jones dri swllt o wobr am y pedwar penill goreu ar y linell newydd-iffurfiedig a ganlyn:— Tynwch y bibell o enau'r un bychan." Clywsom am un gweinidog, yr hwn oedd yn hynod am ei wrthwynebiad i'r arfer- iad o ysmocio, ac anturiodd dynu pibell o enall dyn ieuanc oedd yn ysmocio ar yr heol; ond bobl anwyl, lwc oedd na chafodd black eye" am ei ryfyg. Ond bydd y beirdd uwchlaw y perygl hyny yn yr ymdrechfa hon, gan na fydd yr ysmociwr ond un bychan. Tybed y bydd i unrhyw fardd o nod i ysheilio y bychan hwn o'r ychydig gysur a sugna trwy goes ei bibell am y wobr fechan o dri swllt. Gadawer iddo fechgyn i ysmocio yn mlaen. PRYDYDD.
CROTYN ORITO UIsrWAITH ETO-
CROTYN ORITO UIsrWAITH ETO- YN y DAlUAN am Ebrill 30ain y mae Cro- tyn Orito yn parhau i geisio dangos i'r wlad ei fod ef yn rhyw fod pwysig a galluog yn y gymydogaeth, ac nad oes neb ond efe yn gallu dweyd y gwir pan yn ysgrifenu i newyddiadur. Dywedodd yn ei lith o'r blaen fy mod i yn dweyd anwiredd a dywed eto yn ei lith anfon- eddigaidd ddiweddaf yr un peth, ond a brofodd efe hyny, barned y daiilenydd. Dywed Crotyn yn mhellach am ddrud- aniaeth coffinau yn yr ardal. I beth y mae yn ymosod arnaf fi am beth o'r fath? Nid yw gwneud coffinau yn perthyn i mi mwy nag yntau, oblegyd'glowr wyf fifel yntau. Nid yw hyn ond profi ei fod heb ddim i'w ddweyd ond ceisio curo y perthi am ryw fwystfil i ymlid ar ei ol. Dywed Crotyn wrthym am gadw at fon- eddigeiddrwyeld, ac yn y llinell nesaf cynghora ni i fyned o gwmpas gydag arddangosiad y Punch 8f Judy. Dyna i ti, ddarllenydd, esampl fendigedig o fon- eddigeiddrwydd, onidep Ond bydded hysbys i'r Orotyn y byddai yn ddagenyf fod yn ddigon clever i fyned oddiamgylch gyda y cyfryw orchwyl, neu byddwn yn foddlawn rhodcli benthyg fy het i fyned i gasglu i'r cyfryw bwrpas, acni fyddwn am gadw rhan o'r casgliad chwaith yn dal am ei benthyg. UN o NI, WELWCHI. [Mae yn arahvg fod y ddadl hon wedi ei gwthio yn Ian i'r clawdd. Bydd y pwt hwn yn derfyn- iad arni,—GOL.]
TAlsTYfYR NANTMELIN.
TAlsTYfYR NANTMELIN. BYDDED hysbys i'r lluaws nad ydym ni ddim yn ystyried ein bod yn gyfrifol am y bodach hyny sydd yu tori glo yma, a hyny bron bob dydd. Ond hyn a allwn ddweyd, nad oes gyda ni law ynddo o gwbl. Hefyd, gan fod y gofyniad mor deg nis gallwn lai na rhoddi atebiad i chwi y tro hwn, gan obeithio y cawn lonyddwch yn ol Haw. Mae y glo a sonir am dano yn cael ei dori gan bump o lan fodach pesychlyd iawn, ac y mae'r wlad yn berffiaith adnabyddus o honynt, ac wedi gorfod eu hadnabod cyn hyn, fel mae gwaethaf y modd. Ond adnabyddir hwynt o hyn allan dan yr enwau can- lynol: — Pryfyn y Brag, Byr ei Bwff, Jacki Cap Papyr, Wat Bach Pwll Dwr, a Wil Tri Chwarter. Mae peiriant y pwll yn cael ei weithio ar y polka plan, gan Mr. Bred & Bred. Bydd gwydd clew yn cael ei rhoddi yn wobr, tua diwedd yr haf, am y gan oreu i'r dewrion am eu hymdrechion diflino yn yr adeg bresenol. TANWB.
Y GOFYNIAD YN CAEL EI ATEB.
Y GOFYNIAD YN CAEL EI ATEB. Y MAE un o'r ymyrwyr, fel dyn mawr rhesymegol (?) wedi dyfod yn ddigon o gawr i allu cael gan ereill gywiro ei ys- grif lilipwtaidd, fel ac y maeyn ddigon da i ddyfod allan ar y DARIAN glodwiw. Ac felly, fel dyn mawr (?) daw allan gan ofyn pwy fn a llaw yn tori y glo a welsom ar ben y pwll. Y gofyniad atom ni fel Tanwyr, a rhesyma ei bwnc trwy ddweyd nad yw y swydd yn perthyn i ni o gwbl. Felly yr wyf finau fel un o'r Tanwyr yn ei ateb fel hyn,—Ai ein swydd ni ydyw ateb gofyniadau a rydd efe ac ereill o gorgwn cyfarthlyd sydd ar hyd y lie? Pe buasai yr ymyrwr hwn yn dyfod atom fel dyn, diamheu y caweai atebiad boddhaol, a hyny yn foneddigaidd, neu o leiaf cystal ag y gallasem ei roddi; ond gan ei fod wedi bod mor frysiog ac anoeth, nid oes ond iddo ddyoddef a ddel, a byddwn yn barod iddo pan ddaw allan eto. Cofied y gwr ei fod wedi bod yn bostio ei fod yn gallu ysgrifenu i newydd- iaduron, &c., a hyny yn ddiweddar yn y Bwllfa; felly, gan ei fod wedi cymeryd gorchwyl nad oedd yn dal cysylltiad ag ef fel person, bydd rhaid iddo sefyll neu syrthio o flaen ein bwledi. Er iddo ddeall ein bod yn gwybod pwy ydyw, caiff yr awgrymiad hyn, sef nad oedd yn gweithio yn Nantmelin cyn i'r strike ddechreu, ac nad oedd yn gweithio yn y Bwllfa ond mewn oddeutu chwecb wyth- nos ar ol dechreu y strike, gan hyny beth sydd a fyno ef a glo Nantmelin? TANWE,
Y NEWYDDIADURON.
Y NEWYDDIADURON. N ID oes achos i mi ddweyd dim am y lies anrhaethol sydd wedi deilliaw i gym- deithas yn gyffredinol drwy y newydd- ly iaduron-mae hyny yn ddigon eglur i bawb: mae yr hyn a gyhoeddir ynddynt r o bryd i bryd yn eangu y deall, yn puro y chwaeth, ac yn dyrchafu y cymeriad; ond nid yw pobpeth a gyhoeddir ynddynt yn gwneuthur hyny, ac y mae y Gol. yn gorfod gollwng llawer o bethau i mewn iddynt na charai, a hyny oherwydd rhyw achosion neillduol. Y mae llawer yn taflu y bai wrth ddrws y Gol., pan mewn gwirionedd y gohebydd ddylai gael y bai. Y mae gan y Gol. ddau ddosbarth i'w boddloni, sef y gohebwyr a'r darllenwyr, ac mae'r ddau ddosbarth yna yn groes i'w gilydd yn fynych iawn, a thrwy hyn y mae y Gol. yn sefyll mewn lie cyfyng iawn. Pan fyddo cyfeillion yn ysgrifenu mae yn anhawdd iawn gwrthod cyhoeddi yr hyn a ysgrifenir ganddynt, er ar yr un pryd yn gwybod na,d yw yr hyn a ysgrifenir yn dderbyniol gan y darllen- wyr. Y mae'n rhaid cyfaddef, er cymaint o betbau llesol sydd wedi eu cyhoeddi, fod llawer o bethau diles a diadeiladaeth wedi eu cyhoeddi hefyd, ac y mae hyn oil i'w briodoli i'r gohebwyr; a'r goheb- wyr yn unig. Os bydd cwrdd ceiniog, neu gyfarfod llenyddol yn cael ei gynal mewn rhyw bentref dinod, rhaid i Mr. Llywydd alw ar Shon Wyntog yn mlaen i gofnod yr hanes yn fanwl, a'i anfon i'r papyr newydd. Ceir gweled yr wythnos ar ol hyny benawd mewn llythyrenau 'breision, Eisteddfod y Ffyliaid! ac yna cynaliwyd eisteddfod fawreddog yn Ys- tafell y Gwirod, Pentref Di-son-am-dano. Llywydd, Shon y Baldordd, Ysw.; beirn- iaid—y traethodau, Twm Hanercall y farddoniaeth, Siencyn Sebon y gerdd- oriaeth, y Gwcw Gareg. Canu Melus bod hebddo," gwobr bar o sebon, goreu John Y stwrllyd. Beirniadaeth y traeth- awd ar Anhebgorion Llygoden, gwobr one barleycorn goreu, Dafydd Ymffrost- gar. Beirniadaeth y farwnad ar ol Die Anhegwch, Ysw., gwobr, dau arllygun, goreu, Wil y Bradwr. Can o glod'iMoc y Gorthrymwr, gwobr, bwtwm crys gwaith; goreu, Ned Oelwyddog. Dyna ddigon, er engraiift, fel y mae llawer o ohebwyr yn manylu ar gyfarfodydd di- nod. Llenwir colofn nen golofn a haner yn fynych i ddweyd pethau nad oes neb braidd yn teimlo un dyddordeb ynddo ond yr ysgrifenydd. Pan yn ysgrifenu hanesion lleol, dylid bod yn fyr, cryno, aphwrpasol, er rhoddi lie i bethau ereill mwy cyffredinol ac adeiladol. Nid wyf yn erbyn cyhoeddi hanesion lleol, ond dylid ar bob cyfrif ddwyn hanes pob lie i gylch bychan, gan fod cymaint yn ysgrifenu o wahanol le- oedd. Dichon fod llawer fel fy bun yn teimlo pan fyddo Mr. Gol. yn tynu ei ysgrifell dros ddarn o'n gwaith: lied debyg mai ynom ni y mae'r bai hyny, a dichon pe byddem ni yn ei le y tynem yr ysgrifell drosti oil chwaethach rhan o honi. Gobeithio y bydd hyn o ysgrif yn achlysur i'r gohebwyr i fod yn fyr ar eu hanesion, er rhoddi mwy o le i ysgrifen- wyr galluog tebyg i ysgrifenydd erthygl- au arweiniol y DARIAN. Er fod rhagor i'w ddweyd, terfynaf yn awr. Yr eiddoch, &c., WMFFRE SHON.
PWLL LEFEL YR AFON,
PWLL LEFEL YR AFON, ABERNANT. FEL y gwvr y rhan fwyaf o weithwyr cwm Aberdar, y mae y pwll uchod yn ystod y blynyddoedd a aethant heibio wedi bod yn nyth i bob aderyn aflan. Nid yn unig y mae wedi bod felly, ond y mae lie i ofni ei fod yn parhau yn ei gymer- iad da, hyd y nod ar yr adeg bresenol. Fel yr oedd person yn myned heibio i enau y pwll diwedd yr wythnos ddiw- eddaf, canfyddodd nifer o ddrams llawn, a gofynodd i ddyn cyfagos beth oedd swm y glo a godid yno yn ddyddiol, yr hwn a ddywedodd fod swm bychan yn cael ei godi i'r gajjers. Yn awr, hoffwn gael clywed pa un ai y gaffers ei hunain sydd yn tori y glo neu rywun arall. Feallai y cawn eglurhad trwy gyfrwngy ny DARIAN gan rai o'r hen weithwyr uwch- raddol oedd yno cyn y cweryl presenol. LLYGADGRAIT.
LLADRATA FFUGENW.
LLADRATA FFUGENW. YN y rhifyn diweddaf o'r DARIAN glod- wiw, dan y penawd "Oasgliad at Wyr y Strike a'r Lock-out," gwelais y ffugenw "Llanc." Bydded hysbys iddo ef fy mod i yn arddel y ffugenw hwn. Gweler Y Cyfaill JEghvysig, o Ebrill 1874 hyd Ebrill, 1875, yn fisol. Rymni. SAMUEL RICHARDS.
DAMWAIN ANGEUOL I SIMON JAMES…
DAMWAIN ANGEUOL I SIMON JAMES (GWALIYYR GWYLLT). Oddiwrth ohebydd o Llanelli, yr ydym wedi derbyn y newydd galarus fod ein gyfaill Gwaliwr Gwyllt, gynt o Mount- ain Ash, wedi cyfarfod a'i ddiwedd tra wrth ei orchwyl yn nglofa Cwm Mawr, Llanelli. Yr oeddid ar y pryd yn saethu yn y lofa, trwy yr hyn y lladdwyd efyn man. Gadawadd wraig ac amryw blant i alaru ar ei ol.
AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. Cyfeiried ein cyfeillion y Beirdd eu holl Gyfansoddiadau Barddonol yn y modd ac i'r cyfeiriad canlynol:— MR. D. W. JONES (Dafydd Morganwg), Hirwaun
.YSGOL Y GRAIG, BRITTON FERRY.
YSGOL Y GRAIG, BRITTON FERRY. O! ysgol anwyl, mae dy enw di, Y Graig, yn dwyn i'm cof am Galfuri, Y graig lie hongiai Craig anfarwol werth I'r enaid rhoi ei bwys ar ddwyfol nerth Feideimlodd creigiau dan ei bwysau ef. Agornet, gwelwent-duodd gwyneb nef Nid ydyw creigiau'r byd ond rhai dych'mygol, Ond yn yr Iesu cu mae'r graig drag'wyddol. Nid yw dy furiau'n farmor gwyn eu lliw, A gwaith celfyddyd o ddarluniau byw, Ac er nad wyt yn.addurniedig iawn, Fe brofwyd dwyfol dân a gras yn llawn 0 fewn dy furiau gan dy blant cyn byn Wrth son am lesu ar hen Calfaria fryn Wyt gysegredig fan, dan nawdd yabrydol, Wrth ddarllen geiriau Duw o fewu i'r ysgol. ERYK jtWYLLT,
YSGOLDY NEWYDD PENYGRAIG,
YSGOLDY NEWYDD PENYGRAIG, Eangfawr adail, teg wyt ti, Doethineb fu'th gynJIunrdd call Athbenddyrchenfynyfry r Yn adail gwycb, heb arnat wall Ar Benygraig dy svlfaen sydd, Yn gadarn wyt fel mynydd mawr, Fel nas gall gwyntoedd stormydd hyf Yn hawdd dy guro mwy i lawr. 0 adail tlws, bu celf a'i llaw Addurnol drosot ami i dro, A sypiau o brydferthweh draw, Ac yna syrthiodd arnat; 0 Disgynai fel mae eymyl net' Yn dropian eu cynwysiad llawn Ar hyd y ddaear fawr, nes yw Fel Eden deg, brydferthol iawn. Nid dy allanol wisgoedd yw' th Brydfertbaf wisgoedd di er bvn, Anhebyg ydwyt ti i'r 9.r A r beddau wisgwyd gynt yn wyn Ond fel mue I' da a'r pur bob pryd Yn cudaio r mewnol gyda lien Yinwadiad-dy degwch i gyd A gedwi'n ddirgel dan dy nen. Dy fewnol ranau sydd yn llawn 0 swyn prydferthweh ar bob tu, Mae celf fel pe'n gwastraffu'i dawn 0 gylch dy nen a'th furiau di Mor swynol ydynt h wy-fe fyn Fy awen gredu nad oes deddf Na chelf yn medru gwneuthur hyn, Ond fod yr oil yn gynyrch greddf. Ond coron ddysglaer ar dy holl Brydferthwch anghydnurol di, A wisgi, pan na chodi doll Ar neb o'th blant, ond dygi fry 1 uchei fryn anrhydedd pell, Dy holl ffyddloniaid yn dy law, Dangosi iddynt wledydd gwoll Drwy dy oleuni'n d'od o draw. Wyt ti yn gryd, lie siglir llu o blantos man yr ardal fawr, O'th fewn fa fegir ami i un Mewn dysg a rnoes fydd megys cawr; Neu goleg wyt, lie cod'ir prif Golofnau'r ddaear yn eu nerth, A ddeil heb wyro byth yn hyf, 0 pwy all draethu'n llawn dy werth, D. J. REES.
IDEUDDEG MLYNEDD YN OL.
DEUDDEG MLYNEDD YN OL. Cyflwynedig i Mrs. Edward Hughes.. Ah! deuddeg mlynedd yn ol, Rhwng cribog fryniau Cymru, Tra'r defaid ar y ddol Am dyner haf yn brefu, Fy nghalon deimla nam Wrth gofio'r dydd anniddig Y cefnais ar fy mam I ddyfod i'r Amerig. 0 na bai'r awel fwyn Sy'n teithio'n chwim i'r dwyrain,, Rhyw ddydd yn gallu'm dwyn Yn ol i Gymru firain Mae deuddeg mlynedd faith Heb wel'd fy mam garedig Yn gwneud fy ngruddiau'n llaitb, A'm calon yn doddedig. Arbenydeuddegmlynedd Adgofion tanwarm henaid, Fy meddwl grwydrai'n rhwydd Yn ol i Walia ddelaid Fy nghorff wrthoda'r hynt Dros donau derch y Werydd, Fy meddwl heda'n gynt Na gwenol chwim y gwehydd. Amddiffyn lor y nef Fo trosocb, mam, bob amser, Nes eloch ato Ef I wlad heb boen na phryder Ah dichon cyn daw pen Un deuddeg mlynedd bellacb, Y byddwn draw i'r lien, Lie ni bydd amser rnwyach. ATHEYWYNc
DEG AR RUGAIN OED.
DEG AR RUGAIN OED. Trwy fawr ddaioni Duw Y gwelir fi yn awr Yn cael y fraint o fy w, Er maint fy meiau mawr 'Rwy' heddyw'n ddeg ar bugain oed,. A phechais lawer, do, erioed. Er treulio rhan mor hir O'r oes i bleser gau, Fy awydd sydd yn wir Am bleser i barhau Yn fwy defnyddiol nag erioed Ar ol y deg ar hugain oed. Dyledswydd benaf dyn Yw gwneud pob peth a wna Yn uno I a cbytun A'r hyn sydd ddoeth a da, Cysegru ei holl oes i gyd I wneud daioni yn y byd. Os mynwn fod yn fawr Ac enwog yn ein hoes, Llafurio raid yn awr, A chodi llawer croes Mae gwir elfenau cysur dyn 0 fewn i'w enaid ef ei hun. Mewn llwyddiant mawr yr S. Pob achos da drwy'r byd, 0 blaid y Temlwyr Da Ymdrechu wnaf o hyd Yn fwy dirwestwr nag erioed Ar ol y deg ar hugain oed. FJFRYND. fm--
PONTYPRIDD.
PONTYPRIDD. PRYDNAWN dydd Iau, yr wythnos ddiw- eddaf, traddodwyd araeth yn Mhonty- pridd gan Mr. W. Abraham, Gower Road, ar Undeb a'i fanteision. Llywyddwydy cyfarfod gan un o fechgyn swyddfa y DAMAN. Cafodd Mabon dderbyniad croesawgar a chydnadyddiaeth uchel. Anerchwyd y cyfarfod ar y dechreu hefyd gan Mr. Weeks, Treherbert, yr hwn a wnaeth amryw sylwadau pwrpasol ar helyntion yr adeg bresenol. Dywedodd gohebydd newyddiadur Saesonig, wedi ei glywed yn areithio, ei fod yn meddu anhebgorion siaradwr cyhoeddus o'r radd flaenaf, a phe siaradai pob goruchwyliwr undebol fel y gwnaeth efe, na fyddai ond ychydig lewyrch ar strikes yn ein gwlad.