Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
GOHIRIAD EISTEDDFOD IFORAIDD ABERDAR. MEWN pwyllgor cyffredinol a gynaliwyd yn Oalvaria Hall, y 31ain cynfisol, pen- derfynwyd GOHIRIO dydd cynaliad yr Eisteddfod. Bydd i'r Pwyllgorbenodiyr adeg, yn nghyda thestynau ychwanegol, &c., mor faaii ag y terfynir yr anghyd- welediad presenol. Hyderir na thram- gwyddir neb o herwydd yr angenrheid- rwydd hwn. Ar ran y Pwyllgor, D. R. LEWIS, Ysg., 19] 33, Wind-street, Aberdare. GAN mai yn Aberdar y cynelir Cynadledd Flynyddoi yr Uadeb iioiaidd ain y fiwydd- yn nesaf, bydd i EISTEDDFOD FAWREDD- OG gael ei chynal gan Iforiaid y Dosparih y dydd blaenorol i'r Gynadledd, sef y LLUN c}3titaf yn GORPHENAF. Prif Destynau. I'r Cor, heb fod dan 150 o rif, a gano yn ereu Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel," gan J. Thomas, Blaenanercb. Gwobr £ 70, yn nghyda baton aidderchog i'r arweinydd. Am y Traetbawd goreu ar Saflf y Gweith- iwr yn y Cyfansoddiad Prydoinig." Gwobr zclo log. Am y ChwRreugerdd oreu ar "Amgylch- iadau ymweliad Owen Glyndwr a Syr Lawrance Berkrolles," gwel y Gwyddoniadur Cymreig. Gwobr jElO 10s. BEIRNIAID: Y Canu.J. PARRY, Ysw., Aber-' ystwyth; J. THOMAS, Ysw., Blaen- anerch. Y Traethodau a'r Farddoniaeth, CYNDDELW. CYNELIR CYNGHERDD ARDBERCEOG YN YR HWYR. Am fanylion pellacb, gwel v programme, yr hwn 2 a ellir ei gael am geiniog (trwy y post, lie.,) gan yr Ysgrifenydd. TREORCI. Tra Mor tra Brythron." "Mor o Gan yw Cymru G&d." BYDDED bysbys i boll Gvmru benbaladr y cynelir Ail EISTEDDFOD FLYN- YDDOL Y BRYTHONIAID yn Nbeorci, ar y Dydd Llun cyntaf yn Awst, 1875, er cadw mewn cof Fuddugoliaeth y Cor Cymreig, yn Llundain, yn 1873. CERDDORIAEEK. 1. I'r cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 60 mewn rhif, a gano yn oreu yr ail chorus o'r Creation, "Achieved is the glorious work;" i' w chanu ar y geiriau Cymraeg, Ar ben mae'r .gogoneddus waith." Gwobr, £25. 2. I'r cor o'r un gynulleidfa, heb fod dan 50 mewn rhif, a gano yn oreu Llawenychwn, gorfoleddwn," o Gantata, Gwilym Gwent. Gwobr, j612 12s. i 3. I'r 21 mewn rhif a ganont yn oreu Can Jaradog," gan Alaw Ddu. I'w chael gan Isaac Jones, printer, Treherbert. Gwobr, £ 5 5s. Fmddengys rhai o'r prif ddarnau mewn rbif- ynau dyfodol, yn nghyd ac enwau y beirniaid. Bydd y Programme yn fuan yn barod, yn cynwys yr boll destynau. TESTYNAU YCHWANEGOL. Am yr Awdl oreu ar "Wanwyn Einioes," heb fod dan 300 llinell, na thros 400. Gwobr, ze,5, a chadair gwerth £ 3 3s. Am y Gan oreu i'r "Crwydryn," heb fod dan 60 llinell, na thros 80. Gwobr, £1 10s. Am y G&n a Chydgan oreu, gwel y Programme. Gwobr, jEl Is. Beirniaid y csinu, EOS MORLAIS a LLEW TAWE. Beirniad y Farddoniaeth, y Traathawd, a'r Adroddiadau, ac arweinydd yr Eisteddfod fydd Mynyddog. Bydd y Programmes yn cynwys yr boll fanyl- ion, yn barod erbyn y cyntaf o Ebrill; i'w gael drwy y Post ar dderbyniad dau stamp geiniog. Dros y Pwyllgor, J. DEFYN JONES, Llywydd. R. MANSELL THOMAS, T Trysor- G. R. JONES (Gara/log) t yddion. W.WILLIAMS, Canton House, ) Y„™N D. SKYM, (Detvi Arual), i ° HARMONIUMS! HARMONIUMS! HARMONIUMS! Dymuna Hywel Cynon hysbysu y gellir cael ganddo HARMONIUMS o'r gwneuthuriad goreu am y prisoedd mwyaf rhesymo1- HARMONIUMS o je5 5s. ac ifyny. RHYBUDD O'R SYMUDIAD. DYMUNA I RICHARD JONES, DILLEDYDD, 36, CARDIFF STREET, ABERDARE, Hysbysu ei gwsmeriaid a'r cyhoedd ei fod yn awr wedi symud o'r cyfeiriad uchod i 50, CARDIFF STREET, A thra yn diolch am y gefnogeeth haelfrydig y mae wedi ei dderbyn am y blynyddoedd a aethant heibio, taer obeithio am barhad o'r unrhyw am y dyfodol. Gwerthir ganddo ddillad parod i wrywod a bechgyn mor rhated a chan unrhyw un yn Aberdar. Archebion am ddillad o bob math a gant y sylw buanaf. Cedwir stock dda o frethynau a defnyddiau ereill ar law bob amser. BWRDD Y GOLYGYDD. "NID AUR YW POB PETH SYDD YN DYS* GLEIRIO." Gwen genym beidio cy- hoeddi eich sylwadau ar y testyn uchod. Yr ydym wedi amodi k ni ein hunain i fyw yn heddychol, os gallwn. Trech metel na maint." A chofier pwy ydym-tri gweithiwr tylawd, ac wedi gwneud yr oil ar ein traul ein hunain, fel pe byddai i haner Aberdar farw yfory, na fyddai perthynasau neb o'r meirw hyny ddimai ar eu colled o ran dim a wnaethant mewn cysylltiad a'r D ARIAN. Yr ydym wedi derbyn, heblaw sydd yn y rhifyn presenol, eiddo Athan Fardd ar Synagog yr Ieuddewon,' a'r Angen- rheidrwycld o gael Egwyddorion Sef- ydlog' gan W., y rhai a gant ym- ddangos yn ein nesaf; hefyd eiddo Gomer Llwyd, Hen Forganwgan, Cyf- lafareddwr, Pwy wyt Ti, Un am Hedd- wch, &c., &c. Pob gohebiaethau ac ysgrifau i'r D A 11 IAN i'w cyfeirio :—" Kditor of TAUIAX Y GTWEITHIWR, Aberdare." Pob archebion a thaliadau i'w lianfon i Mills, Lynch, a Davies, Tarian y Gweithiwr" Office, Aberdare.
DAIONI CYFLOG UCHEL.
DAIONI CYFLOG UCHEL. BARNA llawer dyn, yr hwn nad ywwedi treiddio islaw gwyneb pwnc, fod caled- waith am ychydig oriau yn ffafriol i gynyrchiant moesau da mewn gwlad. Y mae y filth dybiaeth, os yw yn cyd- sefyll a gwirionedd, yn cynwys athraw- iaeth o gymwysiad rhy gyffredinol i ateb pwrpas y rhai a'i cyhoeddant, fel rheswm o blaid cadw cyflogau gweith- wyr yn isel. Rhaid fod yr afchrawiaeth hon yn gymwysiadol at foneddwyr yn gystal a gweithwyr. Nid oes dim yn banes dynolryw yn profi fod meddian- wyr llawer o arian, tai, a thiroedd, yn llai Ilygredig-yn llai tneddol at ddrwg —na'r dosbarth gweithiol. Nid oes un athronydd, na duwinydd, wedi awgrymu sillaf erioed fod elfenau y natur ddynol yn y gweithiwr wedi cyfranogi mwy o bla cwymp Adda na'r boneddwyr di- waith, y rhai sydd yn gwledda ar gy- nyrchion ynidrech a llafur gweithwyr. Diau fod g'an foneddwyr gyfle i guddio eu hanfoesoldeb eu hunain, mewn mil- oedd o ff-yi-dd nad yw yn meddiant gweithwyr anghenus. Pe buasai rhyw lwybr i ddadguddio yr holl lwybrau troellog, yr holl wobrau, yrholl guddio ar y profion gwrthwynebol iddynthwy, yr holl ysbeilio sydd wedi bod ar weddwon a phlant amddifaid, a'r holl gamgymwysiad sydd wedi bod ar ffryd- iau cyfoeth mewn hen waddoliadau, fel ffurfiau o weithredu, trwy ba rai y mae cyfoeth heddyw yn meddiant miloedd, y rhai sydd yn uchel eu penau mewn cymdeithas, ni byddai neb yn tybied nad oedd yr Ysbryd Glan yn cynwys boneddwyr pan y dywedodd, "pawb a bechasant." Ped ystyrid y cruglwyth mawr o arian a waria aristocratiaeth ar buteindra, ar gwn, ac ar geffylau mewn rhedegfeydd, bob blwyddyn; a'r gwas- traff diderfyn sydd yn ei balasau; a'r oferedd costus a berthyn i'w holl symudiadau, a'i deithiau mawreddog, ar gyfandiroedd a moroeddcyfoeth yn fur cad am trwchus, yn cadw y cwbl o afael ymchwiliad a chosp—ni byddai neb mor gibddall a phriodoli anfoes- garwch eithriadol i'r dosbarth gweith- iol. Pe catFai cyfiawnder deyruasu, byddai yr anfoesgarwch eithria'o" ond odid, yn perthyn i ddosbarth y rhai a gondemnianty gweithwyr. Diau fod cystudd, lielbnl, trallod, a thlodi, wedi bod yn offerynau elfeithiol yn llaw y nefoedd i wneud pob dosbarth o ddynion yn "gyfranogion o sanct- eiddrwydd" y Goruchaf. Ond nid ei arfer ef yw cadw digofaint hyd byth." Yeliydig soriant, a thrugareddauiawer a mawr," yw ei gyfundrefn ef er o-wellq dynolryw. "Yr ydymni yn ei garu f am iddo ef yn gyntaf ein caru ni," yw tystiolaeth ei genhadon am ei gynllun ef i godi dynoliaeth i weithredu i fyny at safon uwehaf dyledswydd tuag at Dduw a dyn. Gan hyny, unrhyw athronydd yn ym- resymu yn nghylch cyflogau gweithwyr, yr hwn a ddewisa gynllun i gadw gweithwyr mewn tlodi ymddibynol, fel y llwybr goreu i'w moesoli, a. wna eithriad y nefoedd yn rheol ymddygiad dyn at ddyn. Y mae yn eglur nad yw efe yn dilyn esiampl y Goruchaf, a golygu am foment fod gan un dyn hawl i boeni dyn arall, hyd y nod yn eithriadol, er mwyn ei foesoli. Dywed yr athronydd Mr. WADE, It has been represented that high wages tend to generate habits of idleness and dissipation in work-people. Probably this may be true, but generally it seems inconsistent with principle and expe- rience. Wages are the encouragement of industry, which, like every other human quality, increases in proportion to the encouragement it receives, where wages are high, accordingly, we always find the men more active, diligent and persevering, than where they are low -in England, Holland, and America, than in Ireland, Poland and Hindostan." Profir hyn mewn engreifftiau eglur. y Z, Y mae y Gwyddel yn esiampl yn ymyl. Yn ei wlad ei linn y mae yn ddioglyd ac esgeulus iawn, ond wedi croesi y sianel ymrodda i weithio. Camgy- huddiad yw fod yr egwyddor o dalu yn dda am waith yn tueddu i wlleud dyn- ion yn ofer. Y mae digon o engreifft- '7) iau i brofi fod y rhai sydd wedi cyr- haedd cyflogau digon uchel i sicrhau cysuron teuluol, a sefyllfa barchns mewn cymdeithas, os na bydd torf o brofedig aethau eithriadol yn eu cylchyim, yn fwy rhinweddol na'r rhai sydd yn methu rhoddi ceiniog heibio, wedi sicr- hau angenrheidiau bywyd. Gellir priodoli llawer o anfoesoldeb gweithwyr, y rhai a dderbyniant gyf- logau uchel, i ansicrwydd gwaith a chyflog. Pan gaffont waith gwnant egni gormodol i enill ariall-egni tu hwnt i allu naturiol eu cyrff. Par eu hymdrechion iddynt syrthio i afael af- iechyd, yr hwn sydd yn gyfyngedig i sianel neillduol eu gwaith. Y mae gorymdrech natur i wneud llawer iawn, a gormod o waith, pan y delo, er mwyn sicrhau swm da o arian, yn gwrth- weithio, fel pob eithafion, i daflu v natur—oddiar reddf—i eithafion o syched am "'fwyniaut a gorphwysiad. Dywed Dr. Smith, meddyg enwog, "Y mae gwaith caled, a wneir gan y meddwl neu y corff, wrth i ddyn bar- hau ynddo am lawer diwrnod, y naill ar ol y llall, yn cael ei ddilyn yn na- turiol, mewn dynion yn gyfFredinol, ag awydd cryf am seibiant neu ryddid oddiwrth rwymau tynion gwaith. Y mae yr awydd neu y syched hwn yn tori dros ben pob terfynau os na bydd rhywbeth cryf iawn yn sefyll ar ei ffordd. Lief cryf natur yw. Myn gael ei foddhau os gall." Dywed Mr. Locke, yr athrollydc1 enwog, fod yr awydd neu y syched hwn, a dardd oddiar Hinder natnr, ar ol cael ei lethu bron gan waith trwm, yn ceisio "esmwythad trwy newid gwaith." Ac os na chain* yr awydd, y wane hwn, ei ffordd, bydd canlyniadau niweidiol. Mewn rhai engreifftiau dybena yn angau y dyn. Gau hyny, ymdrech greddf bywyd i barhau ei fodolaeth, yw ymdrech gweithiwr caled i gael ychydig o fwyniant wedi gorphen ei waith. Y mae y recldf hon mor gryf, fel llifeiriant, yn cario rheswm fel asglodyn ar gefri ei donau rhuthr- iadol. A gwelir ar ol ei lonyddwch, yn mhen ychydig ddyddiau, y difrod mawr a wnaeth yn ei yrfit ffrochwyllt- aidd, ac asglodyn rheswm wedi ei adael ar ochr y bane, heibio i ba un yr aeth y llif, yn nghanol yr ysbwrial gwaelaf, mewn llys gwladol efallai, lie y cospir y dyn am y difrod a wnaeth ei natur, yn ei gorwylltedd i gyrhaedd hamddenolrwydd allan o'i chaledi, yn ol greddf ei hanfod i barhau ei bywyd. Edrycha dynion, y rhai a sicrhant eu tamaid bob dydd, mewn hamddenol- rwydd respectable, ar y. gweithiwr, druan, fel dyn yn ddarostyngedig i lewygfeydd o wallgofrwydd ar brydiau, heb ystyried y buasai eu natur hwy, fel eu natur yntau, yn tori dros ben ter- (yuan, pe buasont hwy wedi bod cyhyd agefyn ngafael llyfTetheiriau gwaith caled. Y mae deddf natur, y reddf i ba un yr ufyddha efe yn anyben, yn ddeddf gyffredinol. Y mae hi i'w gweled yn ngorchestion yr hyn a elwir hydraulic power—dwfr yn cael ei wasgu mewn cyfyngder, yn ddigon cryf i hollti haiarn modfedd o drwch yn ddarnau man. Ni bu un oen yn fwy llariaidd na dwfr ond iddo gael digon o le i redeg mewn tawelwch neu i fod yn yr un man heb gael ei gynhyrfu na'i wasgu yn ormodol. Edrycha mor llonydd a llyfn a gwydr os caiff lonydd. Felly y mae yr awyr. Rhuthra yn daranau erchyll i wag 1:3. "Nature abhors a vacuum." Y mae rhwymedigaeth oddiwrth Frenin y brenhinoedd ar feddianwyr arian, hyd y gallont, i drefnu fod gweithwyr yn cael gwaith cyson, fel na bo profedigaeth iddynt i wneud gormod o hono pan y caftont ef; oblegyd y mae mwy o rwymau tuhwnt i fesur ar feistri i ystyried hawliau dynoliaeth gweith- wyr, nac i gasglu cyfoeth tywysogaidd iddynt eu hunain. G-wnaent hyn, pe byddai y ddeddf car dy gymydog fel ti dy hun," wedi cael ei "hysgrifenu ar eu calonau." Y dyn a weithia yn gymedrol yw yr un a all weithio yn barhaol, mewn meddwl a chorff. Dyn a wna felly yw y dyn iachaf a dedwyddaf. Ac efe a wna fwyaf o waith yn ystod y fiwyddyn. Y mae cyfiog isel barhaol yn Avell tuag at gynyrchu dedwyddweh a iechyd na chyflog fawr am ychydig o fisoedd, na wyr neb pa mor gynted y syrth i ddi- ddymdra. Y mae meistri a masnach- wyi- yn gyfrifol i raclclan mawr am gyfnewidioldeb prisoedd glo a haiarn. Delw y cyfnewidioldeb hwn wedi ej adlewyrchu ar y gweithwyr yw y cyf- newidiadau yn eu hymddygiadau hwy. Y maent yn gorfod casglu eu cynhauaf mewn biys ac yn anyben, am na wyddant pa mor gynted y newidia y tywydd. Y mae hinsawdd gwaith fel hinsawdd gwlad Canaan, yn ddaros- tyngedig i gyfnewidiadau sydyn ac anysgwyliadwy, y rhai a greant ddiga- londid mawr mewn un dyn neu Ion aid gwlad o ddynion. Mewn hinsoddau cymedrol, heb fod yn ddarostyngedig i gyfnewidiadau sydyn a mawr, y mae pawb a phobpeth yn llwyddo fwyaf. Y mae cyfnewidiadau masnach mewn cysylltiad a llaw-weithfeydd yn difetha gwerth yr ystadegau a gyhoeddir yn nghylch mawredd cyflogau y gweith- wyr am ychydig o fisoedd. N\ ddylid cyfrif maint cyfiog dyn am ddeufis fel safon barn, pan y mae efe yn gorfod byw ar gyflog lawer llai am y deng mis arall o'r fiwyddyn. Nid yw dyn yn perthyn i rywogaeth y saith gysgadur- iaid i fedru byw heb fwyd, dillad, a thy, tra bydd ei gyflog yn isel. Nid yw ystadegau canol-bris (aver- af/e) cyfiog gweithiwr, yn rhoddi eg- lurhad cyfiawii o sefyllfa ei allu ef i fyw a thalu ei ffordd, oblegyd yn amser ei gyfiog bydd pob peth—y mae angen arno am dano—yn nwch ei bris y pryd hwnw na phan y mae ei gyflog yn isel. Oblegyd hyn yr oedd ystadegau Arg- lwydd ABERDAR a Mr. YIVIAN" yn hollol allan o gylch yr holl ffeithiau perthynol i sefyllfa y gweithlwr; ac i werth ei gyfiog i ateb pwrpas bywyd. A phe buasai v boneddwyr uchod wedi ymresymu ar y mater yn ol athron- iaeth BACON, sef yr Inductive Phi- losophy, yr un benaf yn y byd, ni bu- asent yn gadael allan ffeithiau trymion o'u clorianau o ochr y gweithiwr, wrth geisio cyfartalu liawliau meistri a gweithwyr. Os yw y natur ddynol yn myned yn ddireol oddiar reddf, yn ngwyneb cyf- newidiadau sydyn, pwysig, mewn gwaith a chyflog, buddiant i'r meistri, mor wirioneddoi ag i'r gweithwyr, fyddai ystyried pa beth a gydwedda a'r natur ddynol. Dywed Mr. M'CITLLOCH, "Ni ddylid ystyried y dynion hyny a ymostyngant yn dclistaw i leihad oil cyflogau, ac a ymfoddlonant i dderbyn yr hyn fydd yn ddigon yn uuig i gael angenrlwidinu bywyd, yn ddynion i'w hefiyehu." Ac medd efe, yn ei iaith ei hun, "On tIn contrary, everything should be done to make such apathy esteemed disgraceful. The best interests of society require, that the rate of wages should be elevated as high as possible —that a taste for the comforts, lux- uries, and enjoyments of human life, should be widely diffused, and, if pos- sible, interwoven with national habits and prejudices." Yr un yw golygiad- au Dr. ADAM SMITH yn ei Wealth of Nations. Y mae yn eithaf eglur nad yw meistri gweithiau glo a haiarn wedi astudio athroniaeth gwaith a chyflogau, fel eu gwelir yn ngweithiau clasurol boll Political Economists mawr y byd. —♦
YN AROS EI DIENYDDIAD.
YN AROS EI DIENYDDIAD. Y MAE i'w obeithio y bydd i achos y feuyw an ffodus Mary Elizabeth Coward, yr hon a gafwyd yn euog ddydd Ian dweddaf, yn Old Bailey, o lofruddio ei phlentyn, ond a gymeradvvywyd gan y rheithwyr i drugaredd, gael y sylw dyladwy gan Mr. Cross. Y mae ci hanes yn un o'r rhai mwyaf torcalonus. Y mae y gareharores liaaer-nevrynog, garpiog, a thruenus, yn bedair-ar-hu- gain oed, ac wedi arfer cyflawni man oruchwylion isel am ei bywoliaeth. Rhoddodd enedigaeth i blentyn an- nghyfreithlawn yn Nhyloty St. Luc. Er y dywedir nad ydyw ond creadures haner-call, y mae'n ymddangos ei bod wedi cael ei thrafod yn y modd creu- lonaf gan ei tbad a'r creadnr creulawn a'i darostyngodd. Yr oedd ei thad Y11 hytrach na chynorthwyo ei blentyn anffortunus yn ei thrafferth, wedi ei throi dros y drws. Gadawodd y Ty- loty a'i phlentyn gyda hi, ac nid oes fawr a amheuaeth nad hi a'i tanodd i'r canal yn Huggerstone, lie y cafwyd y corff mewn peth amser wedi hyny, a dillad y Tyloty am dano. Ofnai fyned a'r babau yu ei breichiau tua thy ei thad, am y, gwyddai beth fyddai ei tbynged, ac ni wyddai y greadures am le arall i wynebu. Pan y ceisiodd fyned i mewn wrthi ei hun, yn wan, blinedig, a newyuog, ar eiriolaetii taer y cynsydogion y cafadd ganiatad ei thad i fyned i'r ty. Nid oes amheu- aeth pe buasai y greadures hon yn rhywpeth heblaw bod yn dlawd a dinod yn mhob dull, y buasai erfyniadau taerion yn cael eu gvmeud ar ei rhan. Ond oherwydd ei bod yn diawd ac heb gyfeillion, y mae yn ofnus y bydd i'w hachos gael ei esgeuluso, ac na feddyl- ia neb am drugaredd iddi.
'LLWYDCOED, ABERDAR"
LLWYDCOED, ABERDAR N ID fy am can yn y nodiadau. hyn ydyw rhoddi hanes cyflawn o ddygwyddiadau ac amgylckiadau bywyd y diweddar Mrs. Lewis, Llwydcoed House. GeIlir dweyd Ld Mrs. Lev/is -.yn un o'r cymeriadau crefyddol cyfiawnaf. Nid un neu ddau o riuweddau oedd yn cyfansoddi ei chy- meriad, and yr oedd ynddi gyflawnder o rinweddau. Yr oedd yn hynod am syml- rwydd, a phob asiser yn ddifalch. Yr oedd symlrwydd yn ganfyddadwy yn ei hymddan gosiad allanol. Gwisgai bob amser mewn dillad gweddus, ac ystyried ei sefyllfa, yr oedd yn esiampl i'r holl eglwys y perthynai iddi, ac nid oddi allan yn nnig, ond yr oedd wedi ei thrwsio oddifewn a gostyngeiddrwydd* Yr oedd wedi dysgu parchu pawb, a der- byniai hithau ad-daliad o hono gan ereill, a hyny gyda, Hog. Y r ydym yn adnabod llawer o'n cyd-ddynion, yn enwedig os bydd ganddvnt ychydig o bethau y byd hwn, yn ddigon diystyrllyd o'r cvyffiredin a'r tlawd; ac adwaenom rai, fel y dywed Apostol am danynt, na oddefant athraw- iaeth iachus. Edryehant yn ddirmygus hyd y nod ar rai o wirioneddau y gretydd a broffesant. Y mae yn dyfod i'm cof am un hen foneddiges a fyddai yn arferol o fynycku Eglwys y Llan ychydig amser yn ol, ac un Sabboth pan oedd y parckus offeiriad yn llefaru ar ddedwyddwch y net, dywedai nad oeddyno neb yn diawd na neb yn cardota, acna welid yno yr un Lazarus y cardoty*. wrth borfch y goladog, a'r own yn llyfu ei gornwydyad, t&c., pryd y cyffirowyd balckder yr hen fon- eddiges gymaint nes y dywedai wrtk ei mab-yn-nghyfraitk. a eisteddai gyferbyn a hi, Dick, I never should like such a heaven as that;" ond am Mrs. Lewis, ni ddarfu neb weled arwvdcl o'r fath ffolineb erioed, ond bob amser yn ostyngedig ac hawdd oi thrin. Ehinwedd arall oedd yn amiwg yn Mrs. Lewis oedd kaelioni. Hwyrack mai yn hyn yr oedd. hi fwyaf yn ol o foddhau y liuaws, gan fod ynddi gymaint o e! fenau gwakanol wedi cydgyfarfod. Yr oeud hi yn meddu ar y rkinweddau o ddiwyd- rwydd a chynildeb. Cafodd eglwys Moriak, Llwydcoed, golied fawr ar ei hoi yn mhob ysfcyr. Yr oedd yn bedwar ugain mlwydd oed pan y gorphenodd ei gyrfa ddaearol. DIDY:.IUS.
TRYSORFA CANOLOG ABERDAEf
TRYSORFA CANOLOG ABERDAEf Y MAE yn deilwng o gofnodiad fod y Drysorfa Ganolog yn Aberdar Avedi der- byn tuag at ddyoddefwyr y sfailte bre- senol y swm o £33 oddiwrth weithwyr gwaith plwm y Fan, Llanidloes, ac hefyd fod gwaith Shepherd, Cvvm- aman, wedi cyrrann er dechreu yr an- nealldwriaeth y swm anrkydeddns o F741 13s. 6c.
------MARWOLAETH.
MARWOLAETH. Mai 4ydd, yn [9 mlwydd oed, Mr. Leyshon, mab i'r cymdeithaswr dyngarol enwog, Mr. John Leyskon, goruchwyliwr yn Dyffryn Dar, henbwll y Gadlys. Dy- oddefodd gystudd trwm, a hyny yn am- yneddgar, am dros ddwy flynedd. Yr oedd wedi bod yn America am ysbaid o amser, ond nid oedd yr hinsawdd yno yn cyfateb i'w gyfansoddiad. gwanaidd a bu gorfod ariio ddychwelyd gartref. Y dydd Ma wrth canlyr ol daeth tyrfa b-tosog yn nghyd i hebrwng ei weddillion marwol i fynwent Cemetery Aberdar..Hernir fod Yll yr angladd uwcklaw pump cant, heblaw gwragedd a phlant. Darllenwyd a gweddiwyd yn y ty yn deimladwy iawn gan y Parch. Mr. Davies, gweiuidog y WesleyaidCymreig. Heddweh i'w hvch.