Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

----MABON AC 'ARSYLLYDD' Y…

News
Cite
Share

MABON AC 'ARSYLLYDD' Y GWLADGARWR MR. GOL.Yn eich rhifyn cyn y di- weddaf darfu i mi ysgrifenu ychydig o sylwadau ar nodiadau 'Arsyllfa' y Gwladgarwr ar gyfarfod Llanwyno, ac er fod fy nodiadau yn anwrthbrawrf, (er nad oeddynt ond yehydig o'r llawer y bydd i mi eu datguddio gydag amser), yn rhifyn olaf y cyfryw newyddiadur, wele Arsyllydd, yn anterth ei hy- awdledd, amleiriog, a spwrielaidd yn LV. vIlli ci i aiiiddiffyn caerfa, di- fwlch yn erbyn yfnosodiad I edlyebeidd. iol o'r fath edlyclieidaiaf.' Y fath gyson- deb mawreddog ond yn hollol gyd- weddol ond ystyried y darddfa. Q Feallai y dylwn hysbysu wrth dde- chreu, fy mod wedi dyfod i ddeall mai y lienor uchelryw Brythonfryn ydyw awdwr yr Arsyllfa, ac mai ag ef o gan- lyniad, ac nid ag unrhyw olygydcl yr oedd a fyno fy nodiadau ond er fy mod wedi cael fy ngoleuo ar bwnc yr awduraeth, nid yw yr hyn a ddywedais yn llai gwirioneddol. Dechreua ei nodiadau trwy daflu ychydig lysnafedd diystyrgar ar y DAE AN, gan ei galw yn gydwythnosolyn bychan, a hyny am mai tri gweithiwr sydd yn ei dwyn allan: rhaid oedd dangos yr egwyddor hyd yn nod wrth geisio gwadu ei bodolaeth. Beth arall oedd yn gofyn am y fath sylw ? Nid mor fychan, ond yn hytrach yn fwy nag y bu y Gwladgarwr' erioed hyd y pedwar mis diweddaf o'i fywyd, a gwyr y wlad yn dda beth fu achos ei helaethad pan y daeth. Un o'r cyhuddiadau a ddyg y bon- eddwr hwn yn fy erbyn yw, fy mod am "gloi tafod y wasg." Y mae hyn yn gyhuddiad pwysig; ond nid yw yn ddim ond geiriaM, canys gwyr pawb a wyr rywbeth am danaf yn fy nghysyllt- iad cymdeithasol nad oes rhith o wir- ionedd yn y fath faldordd; ond hyn a ddywedaf, mai goreu pa grntaf y cloir tafod pob gwasg a ymddyga tuag at y rhai a'i gwasanaetha fel yr ymddyg- wyd yn ddiweddar at gyfaill o Raven's Hill. Ond nid oedd yr hwn a frad- ychwyd ond gweithiwr y mae'n wir, eto gellid dysgwyl i awdurdodau y wasg gadw at eu haddewidion ysgrifenedig hyd yn nod at weithiwr. Y mae yn wir fy mod wedi esgyn ami i I wyfan yn ddiweddar, ac ar rai adegau wedi adrodd rhigymau talcen-slipaidd; ond os ydynt yn dalcen-slipaidd, gallaf dystio mai eiddo cartref ydynt, ac fe wyr Arsyllydd, ond odid, mai "es- mwyth y cwsg cawl erfin." Cofus genym glywed er's rhai mis- oedd yn ol am berson neillduol wedi ei gyflogi i geisio dinystrio Undeb y G-weithiwr, ac wedi bod yn taer geisio drws agored i actio y Balaam cynogedig ond Undeb y Gweithiwr oedd ei nod i fod, cofier Beth oedd ei amcan, tybed, yn dy- fynu darn o ysgrif Eos Wyn ? Cofus genyf pan yn grwt, os cyhuddid fi o tai, mai fy mhrif ddadl oedd fod arall wedi gwneud yn gyffelyb. Gwyddom nad yw ein cyfaill yr Eos ond gohebydd aclilysurol fel ninau, ond gwyddom cystal a hyny fod awdwr yr Arsyllfa yn un o staff taledig y Bradgarwr, ac yn ysgrifenu dan yr ystyriaeth hono, heb nag enw nag arall wrth ei eiddo. Fe allai nad yw wedi cael yr anrhydedd o wisgo y teitl o Olygydd mwy nag ereill sydd wedi cyflawni y givaith, ond fe wyr y cyhoedd yn dda sat y mae pethau yn sefyll er hyny. Ac onid oes gan staff unrhyw newyddiadur hawl i ddweyd eu barn ? Pwy erioed a geisiodd eu lluddias ? Ond yn sicr iiid ydyrit hwythau yn fodau anffael- edig, ac yn enwedig awdwr yr Arsyllfa! A dyma y boneddwr sydd yn son am gloi tafod y wasg! Yr yd wyf yn gwybod digon am helynt dadl John I y Gray, yr Etholiad Cyffredinol diweddaf, a llnaws o bethau ereill, fel ag i ddeall pa chwareu teg y mae y gweithiwr wedi ei gael, ac megys yr oedd y mae eto. Y mae Arsyllydcl yn cyfeirio at gy- huddiadau personol, ond pwy erioed a fu yn fwy personol nag ef yn ei nodiad ar gyfarfod Llanwyno, gan dystio mai W. Abraham a fn yn foddion i dori y cyfarfod i fyny, &c., a hyny heb wneud dim, lie yr oedd deng mil yn bersonol! Rhyfedd y fath ddylanwad oedd gan- ddo! Pe buasai genyf amser, caraswn ym- helaethu, ond fe allai y gallwn gadw y pwnc yn agored am ychydig wythnosau, nes y byddaf yn fwy rhydd. Beth y mae yr awdwr clasurol yn ei feddwl wrth y frawddeg goeth fod gtcr yn ceisio lledu ei phylacterau i oZZwng saeth f Yr eiddoch yn fyr a brysiog, MABON.

PWYLLGOR CYNORTHWYOL TON-YPANDY,…

MANION O'R WEST.

MERTHYR TYDFIL.

YR HAWLYDD TICHBORNE.

SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.

Y FASNACH HAIARN YN CLEVELAND.

TRYWANU YN L'ERPWL.

ABERDAR-DAMWAIN ANGEUOL

Advertising

PWYLLGOR EISTEDDFOD THE-HERBERT…