Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

NODIADAU ADOLYGIADOL CAN TAU.

ATTODIAD.

+ PAEOTOI AM Y BRIODAS.

♦ CYFOETH A'I FANTEISION.

YMWELIAD A LLUNDAIN.

News
Cite
Share

YMWELIAD A LLUNDAIN. LLITH XII. Y MAE yr ysmotyn lie yr arferid di- enyddio arno yn y Twr wedi ei amgau a railings, haiarn isel, ac yn nodi y man lie yr oedd y plocyn. Yn mhlith y llawrlechau llwydion ereill, y mae careg lasddu oddeutu yr un lied a hyd a'r plocyn. Heblaw y rhai a boenwyd i farwolaoth drwy hir garchariad, ac a ddienyddwyd yn gyhoeddus, eafodd i amryw eu llofruddio yn ddirgelaidd yno, megys plant ieuainc Edward iv. Fel y nodwyd yn flaenorol, wedi marw- olaeth y brenin, pan y deallodd ei briod, Elizabeth Woodfield, fod Due Glouces- ter, brawd Edward IV., wedi cymeryd gafael yn ei mab hynaf, yr hwn oedd a hawl i'r orsedd, diangodd hi a'i mab bychan, Richard, Due York, i'r Ys- tafell Noddfa yn Westminster Abbey, gan feddwl y byddai bywyd Edward bach yn ddyogel, tra y buasai ganddi hi un arall i lanw ei Ie; ond rywfodd, trwy dwyl], dylanwadwyd arni i ym- adael a'i phlentyn anwyl Richard, ac yn fuan wedi hyny clywodd fod Due Gloucester wedi ei gyhoeddi yn frenin,. a'i dau blentyn hithau wedi eu llof- ruddio yn y Twr trwy orchymyn y creulonddyn hwnw. Claddwyd hwy yn ddirgel o dan un o'r grisiau yn y Bloody Tower, lie ydeuwyd o hyd i'w hesgyrn bychain yn mhen amryw fly- nyddau wedi hyny wrth adgyweirio y rhan hono o'r Twr. Gellir gweled yn bresenol y man lie yr oeddynt. Mewn ystafell dywell yn y Boywer Tower'boddwyd George, Due Clarence, brawd Edward IV., mewn cascenaid o win. Y fath weithredoedd amryw- iol ac eithafol a gymerasant le o bryd i bryd o fewn ei furiau Mewn un o'i ystafelloedd, rai prydiau, eisteddai y brenin a'i gynghoriaid i drafod eu gwahanol faterion mewn urddas a mawredd, ac ar brydiau ereill eisteddai y barnwyr ar achos rhyw druan an- ffodus a gamgyhudclid yn fynych oryw drosedd neu gilydd, ac a ddedfrydid i gael ei ddienyddio. Un dydd byddai yn sedd y golygfeydd mwyaf ysblenydd a rhwysgfawreddog, megys derbyniad y foneddiges brydferth, Anne Boleyn, gan ETarri vili., a Maer Llundain yu blaenori yr orymdaith fwyaf hardd a mawreddog, yn swn y gerddoriaeth felodaidd a rhuad trwstfawr y magnel- au mawrion dyddiau ereill yn ttfferii ar y ddaear, lie y cyflewnid y gweith- redoedd mwyaf erchyll a. barbaraidd; ïe, yn y He y cymerodd y golygfeydd ofnadwy hyny Ie, gall yr ymwelydd yn bresenol fwynhau ei hun wrth sylwi ar ei furiau oesol, a gwaith dwylaw y rhai a fuont yn gareharorion ynddo yn britho muriau ei ystafell bron yn mhob cyfeiriad, lie y maent wedi tori eu henwau, ac amryw frawddegau pwr- pasol i'r sefyllfa yr oeddynt ynddo, megys gwaith Lady Jane "To mortals' common fate tby mind resign, My lot to-day, to-inorrow may be thine." Mewn un ystafell fawr, yn mesur 150 troedfedd o hyd, y mae nifer luosog o frenhinoedd a swyddogion rhyfel areu meircb, oil yn ell gwisgoedd dur o bob math a ddefnyddid yn yr oesoedd boreuol am ganrifoedd o flynyddau, a chanoedd o filoedd, a dweyd y lleiaf, o arfan hen a diweddar, cartr^fol a thra- mor, a ddefnyddid oddiar amser Wil- liam y Gorchfygwr hyd yn bresenol. Mewn un man y mae amryw filoedd o honynt, yn darianau, cleddyfau, gwaew- ffyn, bidogau, cyllill, llawddrylliau, &c., wedi eu gosod ar ffurf chandelier mawr, y lleill ar ffurfiau ser, &c. Yr arfau a ddefnyddid yn mhob teyrnasiad yn cael eu nodi, a'r gwisgoedd yr un modd. Dylaswn ddweyd hefyd fod rhai o'r gwisgoedd dur yn agos tri 9 el ugain p-vys yr un. Mewn un ystafell y mae deunaw mil o rygnddryiliau (■rifies), y rhai a ddefnyddid yn ein rhyfel diweddaf a Rwsia, a'r tu allan y mae y magnelau a gymerwyd mewn gwahanol ryfeloedd oddiar wahanol genhedloedd. Yn y Jewel House y mae y coronau brenbinol mewn glass case mawr, crwna yn mesnr oddeutu wyth troedfedd yn mhob ffordd, ac yn cael ei amgylchu a bariau haiarn cedyrn. Goruwch yr oil o'r lleill y mae coron Victoria, yr hon sydd yn werth pum' miliwn o bunau, ac yn pwyso oddeutu tri phwys a haner. Y mae yn gyfansoddedig o gapan velvet bychan, lliw cochddu, a chylchau arian o amgylch iddo, pelen fechan a chroes ar ei ben uchaf; ac wedi ei addurno a'r gemau mwyaf drudfawr. Odditani y mae coron Tywysog Cymru, gwerth tair miliwn o bunau, a thair o goronau ereill a bertbynent i wahanol bersonau, ffon aur, yn mesnr dwy droedfedd a saith modfedd o hyd, pump teyrnwialen aur, un o honynt a berthynai i Mari, priod William III. Mewn case arall y mae .tri chleddyf aur—Cleddyf Tru- garedd, Cleddyf Cyfiawnder, a Chleddyf Eglwysig — breichledau, a'r amrywiol lestri a ddefnyddir ar ddydd y corou- iad, ac yn eu plith lestr halen hynod o gywrain ei wneuthuriad, wedi ei w n eud o aur. G el wir ef Towel Model. W. D.

* YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG.