Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
CASGLIAD AT WYE Y STRIKE A'R…
CASGLIAD AT WYE Y STRIKE A'R LOCK-OUT. lIiR. GOL. Y n gymaint ag i mi es- geuluso gyru i'r wasg helynt cajsgliadau Rica, Llantwit Colliery, am ddydd Gwe- ner, Ebrill 23, byddaf yn ddiolchgar i chwi am eu cyhoeddi yn y DARIAN yr wythnos hon. Wele y cyfrifon :-CMgl- iad gan weithwyr perthynol i'r lofa, £ 11 5s. 6c.; rhoddwyd gan Mr. David Jenkins, Bush Inn, Llantwit, 3s.; Mr. Titus Lewis, New Inn, Llantwit, 2s. 6c. —Cyfanswm, £ 11 lis. Talwyd allan i chwech o fenywod Merthyr a gasgl- ent wrth yr Office, ond a wrthodwyd, 6s. —GweddiU a anfonwyd i'r Central Re- lief Committee, £11 5s. Yr ydym wedi bod yn dysgwyl dro ar ol tro am ryw- beth yn eich colofnau oddiwrth lowyr Wallsend Colliery, Llantwit Main Col- liery, a'r Gelynog Colliery, ond y cyfan i yn ofer. Mae y tri gwaith gyda'u gil- ydd yn cynwys oddeutu tri chant o weithwyr, ac y mae un rhan o dair yn -w- -ic -h am undebwyr. Ondbpthamylleillp Dau cant o bersonau heb un o honynt yn teimlo awydd ar ei galon i anfon un swllt i filoedd o'r rhai bychain sydd ar newynu, tra y mae eu rhieni yn ymladd brwydr rhyddid clrosom ni ac ereill ie, pan yn gosod ein hunain yn lie y tad hwnw fe ddichon sydd wedi gosod un neu ragor o'i rai bycbainyn y becld yn ystod mis Ebrill, ac a fu yn wylo a chrynu gan oerni a newyn.yn nhymor gauaf, yr ydym yn synu, ac yn gofyn lie mae'r galon na theimla, a'r Haw na rodda i'r rhai sydd yn aros ? Nid oes iaith a esyd allan yn ei iawn liw ymddygiad y per- sonau hyny sydd heb roddi dim i ddy- oddefwyr mor fawr, tra y maent hwy wedi mwynhau y breintiau a'r cysuron hyny sydd yn anwyl i bob dyn, sef ym- borth a rhyddid trwy dymor y gauaf. A gant hwy newynu ar faes y frwydr? I Na, gobeithio. Pa le mae R. Wilkins, T. 'Prat, a John Morris, ac ereill, a weithient gynt yn y Wallsend Colliery? Gobeithio nad ydynt wedi marw i bob teimlad ac E. Williams a T. Devrock, Llantwit Main J. Rees a R. Tomson, Gelynog—bydded i'r personau byn yn ygwahanol weitliiau wneud rhywbeth ar ran y dyoddefwyr. Na chymerwch eich harwain gan Cornishmen ac ereill cyffelyb iddynto ran ymddygiadau, a breswyliant ardal Llantrisant. Ceisiwch ganddynt unwaith eto, a rhowch wybod i lowyr Cymru beth a wnant, oblegyd teg yw gwybod pwy sydd o'n tu a phwy sydd yn ein herbyn. Anwyl ddarllenydd, nid ein hamean yw udganu clod ein hunain ond fel cly- wedodd yr anfarwol Nelson gynt, wrth ddangos ei fedals ar ddydd y frwydr,— England expects every man to do his duty." Anwyl gydweithwyr, dangoswch eich medal ar ddydd y frwydr. Cofiweh fod y labour cause yn dysgwyl i bob un i wneud ei ddyledswydd tuag at y rhai hyny sydd yn ymladd y frwydr bresenol yn erbyn gormes meistri glo a haiarn Debeudir Cymru, fel y dygont farn i fuddugoliaeth. Meddylia frhai mai brwydr am ten per cent yw. Felly mae, os ten per cent yw gwerth ein rhyddid fel glowyr am yr ugain mlynedd dyfodol; oblegyd gesyd y fuddugoliaeth os try o du y meistri-latitude ancl longitude linds ar ein rhyddid am y tymor a nod- wyd. Dichon fod llawer un sydd yn y frwydr bresenol yn nhymor heddwch wedi bod yn anystyriol o'r cynghor gwerthfawr hwnw, sef Keep your pow- der dry," ac wedi ei exposo yn ormodol i'r elfen wlybyrog. Waith beth am hyny, cofied pob glowr fod ganddynt gyfiawn bawl ynrhan o'n dry powder ni sydd wedi bod yn fwy gofalus tra y maent yn ymladd ein brwydr o ganlyn- iad, gadewch i ni ofyn i chwi, un ac oil, weithwyr Cymru, i ddangos medals ar lios y pay nesaf. Yr eiddoch, &c.,—LLANO.
Y DYDD HWNW YN NHREFORIS.
Y DYDD HWNW YN NHREFORIS. MRI. TARIANWYR,—Deliwch y DAMAN rhyngwyf ag Ysgrifenydd y Parti fu yn yllehwnyn adrodd "Y Dydd Hwnw." Mae yn ddigon trech na mi ar drin. Medr ef logic, ac yna rhaid tewi; ond y gair ymadawol yw hwn. Rhoddasom ormod o ymddiried yn eu hunan-ymwadiad, drwy gredu eu bod hwy yn mwy hunan- ymwadol na'u cymydogion oeddyn ceisio o gyleh y drysau yr hyn gaent. Do, ni fuom yn ffol yn credu y cawsem weled hunanymwadiad mewn giveithrecl yn gys- tal ag mewn adroddiad. Dyna iaith calon ddiolchgar, ynte, son am yr hyn^ gafwyd mewn llythvr er dangos ei bychander—ei galw yn rhodd "dywysogaidd," a'i chyfrif wrth y frac- tions. Nid iaith diolch sydd yn y llythyr. Beth bynag, swn dirmyg sydd yn y cyntaf. Dau ddiwrnod i gerdded ugain milldir o ffordd, a methu ei wneud yn hyny Un a wnaeth ychydig dros i chwi gael cynulliad yn un o'r lleoedd a enwyd yw yr ysgrifenydd; ac er i chwi gyflawni eich addewid, rhoddwch y swm i lawr, fel y gellir gwybod a allasech ai ni allas- ech anfon ychydig gartref. Os nad oedd- ech yn dyfod yn enw rhyw bwyllgor cy- northwyol, onid oedd yn ddrwg genych fod yr ardaloedd yr elech iddynt yn credu hyny? Cawsoch ystafell lawn yn yr ymyl yma, a hyny yn unig am eich bod yn dyfod droe ddyoddefwyr. Nid oedd neb yn gwybod yn amgen cyn eich dyfod- iad. Y chwi sydd yn hollwybodol ac nid ysgrifenydd y llinellau hyn. Mae eich ymweliad a'r ardaloedd hyn yn ffeithiau gweledig i'r cyhoedd, a'r cynulliadau yn bysbys, a thrwy byny yr oedd genyf siawns lied dda i wybod mai nid llafur ofer fu eich ymweliad ag Abertawe a'r gymydogaeth. Oni wyddocb chwi mai yr hyn a ysgrifenwyd yw yr hyn a ar- graffwydp Nid yr hyn ysgrifenwyd a argraffwyd. Dyna un haeriad yr erbyn y Hall. Pwy sydd t'r cyfle goreu i wybod pwy sydd gywir, gadawaf i chwi farnu. Atebasoch chwi ofyniad y cadeirydd fel pe buasai awydd arnoch i symud y dyb- iaeth ffiwrdd eich bod yn weision i'ch brodyr. Beth yr ydych yn ymofyn a'r enw priodol ? A fyddai hyny yn fanteis- 101 i chwi roddi trinfa bersoiiol iddop Good bye yn awr, Evan. YN WOULD-BE GOHEBYDD.
CYFARFOD DIGHIF YN RHYMNI
CYFARFOD DIGHIF YN RHYMNI JBwriad i gynyg Cwrw i'r dynion am fyned f)- Y yn troi yn siomiant! DYDD Ian, y 29ain o'r mis diweddaf, cynhyrfwyd tipyn ar dawelwch y lie ar Avaith rhyw fodyn gy da chloch, yn galw cyfarfod o fwnwyr a glowyr i fod am bump y prydnawn hwnw yn ymyl y Castell, tafarn tra adnabyddns yn y lie. A chan fod y dynion allan er's amryw wythnosau beilacb, ac yn dyheu am fyned at eu gwaith, ond cael cynyg rhyw delerau tebyg i degwch, creodd y cyfryw hysbysiad ddysgwyliad pry- derus am yr amser apwyntiedig, gan feddwl y caAvsent rhyw newydd "da. Gobeithient mai yr awdurdodau oedd wedi anfon y cyfryw, gan fod yr Un- debwyr yn ddigon didaraw am waith, nad oedd a fynent hwy a ga]w y cyfar- fod. Erbyn yr adeg a nodwyd dyma y dynion yn dechreu cyfeirio eu cam- rau tua'r fan, ond wedi y cyfan yn dra gochelgar, gan fod amheuaeth obarth- ed cywirdeb amcan y cyfryw gyfarfod, ar yr un pryd yn sefylfo hirbell i wylio yr ysgogiadau. O'r diwedd dyma ychydig bersonau yn dechreu cynull at eu gilydd, a bechgynach a phlant, a rhywbeth pen cyrliog barfog yn ceisio sefyll ar ei draed i anerch ei dorf, ond yr oedd ei ben yn rhy drwm dan ddylanwad yr hen ddioden, fel yr oedd yn ddigon/o waith i'r dorf i'w gadw ar ei draed. Pryd hwnw dyma rhyw greadur mor sobr a phren ar ei draed, a'i goesau mor ddued a bran, yn galw am chwareu teg i arwr y cyfarfod i draethu yr hyn oedd gan Mr. Good-for-nothing i'w ddywedyd wrthynt. Ar hyny dywedai fod gan ei gyfaill lythyr yn ei logell a garai ei ddarllen, os caniataent, oddiwrth ein parchus so-and-so, i'w hysbysu os aent i'r gwaith yn blant da, y caent lon'd bola o ddiod fe ddichon. Ar hyn dyna waedd o'r dorf, yn gofya pwy roddodd awdurdod i alw cyfarfod o'r fath hwn yn enw mwnwyr a glowyr tybed. Yr atebiad ydoedd Masnachwr—Mr. Llygad y Geiniog, yn nghyda Mr. Glanweithdra a Mr. J. Heiddyn, y rhai a ddenodd Mr. Llygad y Geiniog i ddyfod allan er terjynu yr anghydfod presenol. Dywedir fod Mr. Llygad. y Geiniog yn ymffrostio ond iddo gael Mr. Heiddvn o'i 1)1 aid y gyrai efe y dynion, bob copa byw, i'w gwaith am lon'd bola o gwrw. Beth bynag am eirwiredd y dywediad, prof- odd yn fethiant llwyr y tro hwn. Nis gallwn amheu y fath ddywediad, gan fod gweith red debyg wedi ei gwneud yn flaerorol yma er's ychydig fisoedd yn ol, ac wedi ateb dyben da y pryd hwnw. Credaf y dylem fel gweithwyr if- eiddio y fath gynygiadau i'r eithaf, a dangos yr anghyrneradwyaeth mwyaf i'r cyfryw yn y dyfodol, am geisio ein bradychu mor feiddgar, ac am eu meddwl isel am danom, pan yn ceisio ein cael i werthu ein hiawnderau am folied o gawl coch. Gwroldeb, fechgyn; ac os rhoddi i fyny, gadewch i ni wneud hyny heb gymhorth eu CAVTW hwy beth bynag. Cywilyddiwn na fyddem UAVchlaw iddynt i gynyg y fath drwyth o'n blaen. Gair yn mhellacih at weithwyr y Waenfawr. Yr wyf am gymhell y personau canlynol i gyfarfod er tynu cynllun i gynorthwyo y rhai hyny sydd o honom ni yr anundebwyr yn dyoddef, sef Mri. Thomas W. Evans (Hen Gy- mro), David Williams, C. E., Isaac Eees, Thomas Davies, Llangerig, a David Jones, Brynbrith. Gwyddoch fod yr Undebwyr a'u holl egni yn go- falu am eu plaid hwy, a gwyddoch mai rhai wedi eu cau allan ydym ni, am na fyddai y dynion yn gweithio; dim yn gweled yn werth cadw y pwll er ein mwyn ni ychydig bersonau. Gwydd- och fod y wlad yn teimlo i'r byw at ddynion y cload allan, ao yn idiamheu- ol y bydd i ninau gael cydymdeimlad ond i ni apelio. Gwyddoch ei bod yn cael ei ddweyd fod rhai o honom yn foddlon gweithio am chwecheiniog y dynell cyn y deuem allan, ac wrthym ein hunain pe cawsem. Gallai hyny fod yn fantais i ni gael cydymdeimlad ein masnachwyr a'n meistri. Dewch allan, fechgyn, gad- ewch i ni ddangos ein bod yn teimlo dros ein gilydd yn lie ymladd am ffrwyth a llafur y rhai hyny yr ydym yn elynion perffaith iddynt. Y mae yn wir ddrwg genyf ein bod wedi ymddwyn mor anheilwng pan yn gweithio, tra y gallasem gyfiwyno £15 yr wythnos i gynorthwyo ein cyd- ddynion, pe na buasem yn talu ond swllt yr wythnos. Ond pan feddyliaf na ddaeth hyny oddiwrthym am 12 neu 18 o wythnosau, yr wyf yn gwrido. Dewch allan o unfryd, fechgyn, neu yr wyf yn rhoddi rhybudd i bydd i mi eich gadael, a dwyn tystiolaeth mai am arian yr ydym, ac nad oes a fynom a a rhoddi dim.—Ydwyf ar hyn, ANUNDEBWR. ■ +
Y PABYDDION A GWAHAEDD-IIAD…
Y PABYDDION A GWAHAEDD- IAD YR YSGRYTHYRAU. CYFEIRIODD Mr. Jones yn ei lythyr ei fod am i mi i ddeall "mai nid Pabydd ydyw, ond Protestant i'r pen hwnt, ac nad oes neb o fewn cylch ei adnabydd- iaeth yn fwy gwrthwynebol i ormes a thra-arglwyddiaeth crefyddol, nid yn Eglwys Rufain yn unig, ond yn mhlith Ymneillduwyr Cymru yn ogystal." Dymunaf finau ei hysbysu na lochesais y meddwl hAvmv am foment am dano, ond mai dyn o egwyddorion eang a rhyddfrydig, a thrwynerth a dylanwacl egwyddorion pur a dyrchafedig wedi arwain buchedd ddichlynaidd trwy ei oes. Hefyd, na thybied neb o ddar- llenwyr TAEIAN Y GAVEITHIWR fy mod inau am bleidio yr hyn a ystyriaf yn ddifFygiol neu feius mewn Ymneilldu- aeth neu Ymneillduwyr. Odid na chydunwn ein dau yn hyn—fod yr Ymneillduwyr wedi gwneud daioni anhraethol i'r byd, ac yn gorbwyso pob drwg a ddygwyddasant wneud i neb. Dywed Mr. Jones fod canoedd o beth- au bollol anysgrythyrol yn y gyfundrefn Babycldol. Y mae Credo Pius iv. yn ffiaidd i'w dyb a'i farn ef, ac yn ddigon i gondemnio y gyfundrefn Babyddol. Barna hefyd fod digon o bethau gwrth- un, yn ol barn Protestaniaid, yn y gyf- undrefn Babyddol, ac y byddai ein gwrthwynebiad i'r rhai hyny yn llaAver mwy effeithiol na'u cyhuddo o wahardd darlleniad y Beibl, yr hyn nas gellir ei brofi medd Mr. Jones. Gwrthwyneb- wyd laAveroedd o weithiau y pethau uchod wyneh yn wyneb ac mewn ys- grifau ond os ydyw v Pabyddion fel dosbarth o ddynion wedi gwrthwynebu a gwahardd darlleniad yr ysgrythyrau i'r werin, fel y dangosaf trwy ffeithiau a thystiolaethau dynion gwybodus a theg am danynt, nid anmhriodol yw cyhoeddi hyn fel ffaith at y "canoedd o bethau hollol anysgrythyrol ereill sydd y11 y gyfundrefn Babyddol." Yn awr, gan fod y grefydd Babaidd mor anys- grythol, ac mor groes i rediad cyffred- inol y Beibl, nis gall sefyll yn ngwyneb eibelydrangogoneddus. Dywed y Parch. H. Koberts, Bangor, yn ei lyfr ar Manes yr Eglwys Grist- ionogol mai yn y tywyllwch y mae y grefydd Babaidd yn gadarn a lhvydd- ianus. mae yn wrthwynebus i'r goleuni, ac y mae goleuni yn ddinystriol i'w hegwyddorion. Yn ngwyneb syniad Mr. Jones am eu cyfeiliornadau, a ydyw yn rhesymol casglu nad ydynt yn wrth- wynebol i'r werin i ddarllen y Beibl, a thrwy hyny ddyfod i'r goleuni ? Argy- hoeddai hyn ynfydrwydd eu gweith- redoedd. Ni dcleilgweithredoedd aflall y Babaeth oleuni y Beibl, ac yn ym- wybodol o hyn y mae eu gelyniaeth yn anghymodol at y Beibl. Dywed y Dr. Hodge, gan fod Eg- lwys Rhufain yn dysgu cyfundraeth sydd yn hollol anghyson ag ystyr eglur a diymwad yr Y sgrythyran Sanctaidd, fel y dengys athrawiaethu y grefydd Babaidd gyda golwg ar yr ofreren, penyd, gweithredoedd, ac addoliad Mair. Oblegyd hyn, y mae Eglwys Rhufain yn cuddio y Beibl rhag y bobl." JPVJ orphen yn ein nesaf.
LLOFFION 0 LANILLTYD FARDBEF.
LLOFFION 0 LANILLTYD FARDBEF. MAE y lie hwn, fel pob lie arall, a'i amryw- iaethau yn perthyn iddo. Mae yn amlwg' iawn i'r craft fod dyfodiad y Parch. E. Rees wedi bod yn fendith i'r gymydog- aeth. Clywsom oddiar awdurdod dda fod yr eglwys yn lluosogi yn ei rhifedi oddiar pan y mae Mr. Rees wedi cymeryd gofal y weinidogaeth yn Bryntirion. Y mae adgyweiriad i gymeryd lie ar eglwys Salem, capel y Bedyddwyr, a'r gost yn cyrhaedd y swm o £ 1,300. Y mae yr hen dy enwog, Heolycawl, yn y lie hwn, yn hysbys bellach i filoedd. Dydd Mercher, yr wythnos ddiweddaf, cymer- odd dan ond yn ffodus, ni chollsvyd yr un bywyd na dodrefn. Teimlem yn ddiolchgar iawn i fas- nachwyr Llanilltyd am. eu rhoddion da yn y cyfwng presenol, a gobeithio yr ad- delir hwynt am eu caredigrwydd. Y mae yn hysbys i'r rhan fwyaf o honom yn y cymydogaethau hyn am y drafferth y mae yr hen dad Llyfnwy wedi bod ynddo yn ddiweddar, ac yr wyf fel un yn cynyg fod pwyllgor i gael ei ffurfio yn y gy- mydogaeth, er ystyried pa gynllun i gymeryd i roddi Haw o gymhorth iddo. Yr wyf yn apelio at lenorion Pontypridd a Llantrisant hefyd. LL--L.
HENGOED.
HENGOED. DAMWAIN AN&EUOL.—Dydd Llun Mai y 3ydd, cyfarfu bach gen ieuanc 18aw oed, o'r enw Charles Jenkins, a'i ddiwedd yn ngwaith glo Hengoed. Cynelir treng- holiad ar y corff. Y GWEITHEBYDD.—Fel yr oeddynt yn Eonawr, y maent yr awr hon, ond y mae Maesycwmwr yn ffortunus, trwy fod amryw leoedd by chain yn gweithio.
ILLITH FAOH ODDI AR Y IMYNYDD…
LLITH FAOH ODDI AR Y MYNYDD MA WE. RHYEEDD mor ddiaddurn a difywyd y mae pobpeth wedi myned yma mae y cwbl oil fel pe wedi cael ei droi o chwith gan effeithiau ag echryslonderau yr hen ellylles fythgofiadwy bresenol, sef y strike. Pan yr edrychom i benau y gweithfeydd oedd yn arferol o fyned yn mlaen gyda'r hwylusdod a'r cyflymdra mwyaf ag oedd yn ddichonadwy, ameib- iod llafur yn ymwthio un heibio y llall yn llawn chwys a llndded, fel pe buasent yn ceisio dal eu hanadliad olaf. 'Does dim yno i'w ganfod yn awr ond y dys- tawrwydd mwyaf, yn nghydag ad- feilion ambell i bwysdy yn sefyll yn grynedig rhwng swn yr awelon, fel pe byddai yn ofni ystorm i'w chwythu yn chwilfriw i gofres o gyfrifon y pethau a fu; a swn y peiriant dwfr, pan fyddo ambell gareg yn disgyn arno o'r nenfwd, gan fygwth ei chwilfriwio, ac yntau fel yn ocheneidio wrth fyned yn ol ag yn mlaen, mewn gofid a galar o herwydd colli anwyliaid ag oedd yn arfer gofalu am dano yn mhob rhan o'i symudiadau; ond trwy fod cymaint o allu yn hen ddwy- law haiarnaidd gormes, mae yntau yn cael gwneud y goreu o'r gwaethaf. Ni welwyd yn y lie hwn y fath amser erioed o'r blaen teuluoedd yn cael eu rhwygo, trwy eu bod yn cael eu taflu bendramw- nwgl i ofid a thrafferth; tad tyner yn gorfod ymadael a chartref hoffi, oddiwrth ei wraig a'i blant anwyl, a bechgyn di- wyd a gofalus yn ymadael a mam a chwiorydd, er chwilio am fodd i gadw'r undeb rhwng y corff a'r enaid. yn nghyda diolch fod He i droi. Gobeithio fod y cymylau sydd yn gorchuddio awyrgylch y gweithiwr tylawd ar gael eu gwasgaru, a bod haul cyfiawnder ar ddyfod i daflu ei belydrau euraidd unwaith eto, fel y byddo baner heddwch yn cael ei chwifio ar uchelfanau y Mynydd Mawr a phob mynydd arall, ag fel y gallom ryddhau hen lyff etheiriau gormes a strike, a'u taflu i ganol y Mor Marw fel na chyfodant i aflonyddu yr hil ddynol mwyach. Hyn yna y tro hwn, gyda'r diolchgarwch gwresocaf i bob un sydd wedi cyfranu tuag at ein cynorthwyo mewn adeg mor gyfyng a'r presenol, pa rai sydd fel y canlyn :—PwIlylord, £15 lis. 6c.; Coal- brook, Pontyberem, £4 28. 6c.; Pentre- mawr, t3 14s. 9c.; Oapelevan, £ 3 Is. 6c.; Dynant Colliery, 18s.; Griffith Evans, darllawydd y Tumble. 10s.—J. J., Ysg.
[No title]
ODDIWRTH adroddiad haner blynyddol Cwmni y Gadlys, Aberdar, yr ydym yn cael fod y cyfarwyddwyr yn cynyg 8] y cant' o log, yn rhydd oddiwrth Income, Tax, i'r cyfrandalwyr. YN Ilys heddgeidwaid Marylebone, dydd Mawrth diweddaf, cyhuddid dyn o'r enw George Cole, o fod wedi gosod ei wraig ar dan tra yn feddw.
MAEWOLAETH.
MAEWOLAETH. Boreu dydd Mercher diweddaf, yn 58 oed, yn Aberdar, Mr. William Davies, Argraffydd. Brodor ydoedd 0 Lan- ymddyfri, ond wedi bod yn Aberdar er's deunaw neu ugain mlynedd. Yr oedd yn dad i un o dri wyr y DARIAN, ac y mae mab arall iddo-Dyngad J. Davies — yn ysgolfeistr yn Tanymar- ian, Betwsycoed; a'i unig ferch— Claudia, yn ngwasanaeth yr Esgob Cynireig, yn- Llanelwi. Ydoluro'r hwn y bu farw, oedd yr inflammation. Gadawodd ar ei ol weddw a phlant wylofns.
Advertising
HYSBYSIAD PWYSIG I DRIGOL. ION BLAENLLECHAU. YMAE Mr. WATKIN POWELL, London JL House, Heol Fawr, wedi ymgymeiyd a derbyn arcliebion am GOFFINIAU, a'a cael oddiwrth Mr. ISAAC THOMAS, Aberdar, yr bwn sydd yn hollol adnabyddus tiwy y gymyd- ogaetb. Cofier y gellir gweled rheetr o'r gwahanol bris- oedd gan Mr. Powell am bob quality ac oedran. [14 Y NEB SYDD MEWN ANGEN DILLAD PAROD DA, AM BRISOEDD ISEL, YKOPYNES A < ROBERT JONES, YN MAIICHNAFA ABERDAR, BOB DYDD SADWRN. [16 REES EVANS, DILLEF-DITDD; 45, COMMERCIAL STREET ABERDAR. ADDYMUNA ddatgan ei ddiolcbgarwch am y gefnogaelh y mae wedi ei derbyn oddiar law y cyhoedd yn gyffredinol. Felyn y gorphenol, felly yn y dyfodol, gwaith da a defuyddiau o'r fath oreu am y prisoedd iselaf. l17 INMAN LINE OF ROYAL MAIL STEAMERS. PASSENGERS BOOKED AT ABBRDAKE BY D. P. DAVIES, 17, Commercial Street. Authorized Agent for the Company. [12 J. M. WILLIAMS, TAILOR & DRAPER, UNION STREET, TRECYNON, ABERDARE. ALL ORDEHS PUNCTUALLY ATTENDED TO. MORRIS MORRIS, 64, BUTE STREET, ABERDARE, ADDYMUNA hysbysu y cyhoedd ei fodyn ymgymeryd a thynu Plans anedd-dai, yn nghyd aphobmathoAdeiladaua Chyfnewidiadau angenrheidiol en pasio gan Fyrddau Iechyd. M. M. a hydera, gan y bydd iddo roddi y sylw buanaf i archebion o'r fath, ac na bydd iddo ofyn crogbris am ei waitb, gael rhan 0 gefnog- aeth y cyhoedd yn ycyfeiriad hwn. [13 YMFUDIAETH I QUEENSLAND! YN EISIAU, 5,000 o Amaethwyr, Glowyr, Mwnwyr, Gwasanaeth-ddynion, Peirian- wyr, Gofiaid, Seiri Coed, Chwarelwyr Adeiladwyr Llongau, a Chrefftwyr ereill, i ymfudo i Queens- land, Australia, ar delerau rhad a chynorthwyol. Gellir cael pob manylion o barthed i'r cludiad, manteision y wlad, cyflogau, &c., gan Mt", W. J. Presswell a Mr. John James, Crown Hotel, Aber- dare. Mae Goruchwylwyr Lleol wedi eu penodi yn mhob ardal yn Nghwm Rhondda a Phonty- pridd, y rhai a weithredant ar ran Mri. James a Presswell. At Mwyllgorau Eisteddfodau a Ohyngherdclau. DAVID BO WEN, Organist, DOWLAIS, A DDYMUNA hysbysu ei fod yn barod i wasanaethu fel SOLO P ANIST a ACCOMPANIST ar delerau rhesymol. Cyfeirier fel uchod. [11 Newydd ei gyhoeddi, Pris Tair Ceiniog, SOBRWYDD A'R GOOD TEMPLARS, GAN JOHN DAVIES, SOAR, ABERDAR. -0- I'W GAEL gan y llyfrwerthwyr yn -R- Merthyr ac Aberdar. Anfonir un- rhyw nifer drwy y Llythyrfa, ar dder- byniad eu gwerth mewn stttmpiau dimai. Pob orders i'w gyru i'r Cyhoeddwr, Mr. Joseph Williams, Swyddfa'r Tyst a'r Dydd, Merthyr. Rhoddir yr elw arferol i lyfrwerthwyr. SPEII.G FASHIONS, IS75. HENRY LEWIS HAS NOW RE-OPENED his SHOWROOMS WITH THE LATEST NOVELTIES IN MILLINERY, COSTUMES, SKIRTS, MANTLES, DRESSES, SILKS, FANCY GOODS, &c. 11 j Commercial Placej ABERDARE.