Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

-*-Y GWALLGOF.

News
Cite
Share

Y GWALLGOF. YB oedd gweddw dylawd yn ngogledd Lloegr, yr hon er ei chynaliaeth, a gad- wai farchnad-fainc i werthu afalau a theisenau byehain. Yr oedd gan y weddw hon blentyn yn wallgof, ag mor resynns o ymddibynol a diamddi- ffyn, fel nad ymddangosai un math o fywycl i nwyd ddigllawn neu o allu i aniddiltyn- ei hun. Tra byddai ei fam wrth y bwrdd yn y farchnacl, eisteddai yntau drwy gydol y dydd wrth ei thraed, ac nid ymddangosai ei fod yn feddianol ar un gyneddf ddynol, ond yn unig ymddiriedaeth yn nghariad a gofal ei fam ato, yn nghyda dychryn o blant yr ysgol, pa rai a'i niweidient yn ami. Yr oil a wnai tra yn eistedd yn y cyflwr yma ar y ddaear ydoedd siglo ei hun yn ol a blaen, gan ganu Pol lol" mewn llais isel, eto cynhyrfus. Yr unig aflonyddwch a ddangosai oedd pan fyddai rhai o'i boenydwyr yn y golwg, pryd y glynai wrth ei fam yn anarferol o ddychrynedig. Ie, o'r boreu hyd yr hwyr y canai ei ddolefus, ond diegniol, gerdd, nes y tynai sylw a thosturi pawb. Yn yr hwyr, pan gasglai y fenyw dlawd ei hychydig bethau i fyned adref, 0 mor druenus yr ymddangosai ei dddiffygion. Gor- fodid hi i gario ei bwrdd ar ei phen, yr ychydig nwyddau fyddai ganddi dros ben en gwerthu yn ei harffedog, ei hystol mewn un llaw, tra yr arweiniai yntau yn y Haw arall. Ond gan nad pa le y byddent, os ymddangosai un o blant yr ysgol, glynai wrth ei fam yn arswydol ac yn ddychrynedig, gan guddio ei wyneb yn ei mynwes am nodded. 0 greadur tylawd, mor isel ydoedd yn ngraddfa dynoliaeth fel na welwyd ei gyffelyb erioed. Nid oedd ynddo y radd leiaf o'r cyfrwysder a welir mewn dynion o'r fath. 0 na, yr oedd ei ddiniweidrwydd gymaint fel nas gellld ei gyffelybu ond ag eiddo yr oen bach neu y golomen, eto yr oedd gan- ddo deimlad mwy gwresog nag a dda- ngosir gan y eyfeillgar a'r serchoglawn gi, a gellir dweyd fod ei wybodaeth yn uwch nag eiddo y creadur, canys yr oedd yn synwyrol o dynerweh ei fam ato, a gwyddai ei ddyledswydd iddi am ei gofal. Y nos, tra y taenai hi ei wely, 0! mor ryfedd yr oedd, er nas gwyddai weddi, ac nad allai amgyifred difrifol- deb addoliad, eto, ymostyngai wrth draed ei fam; a thra yn ei chusanu, mwmianai rywbeth, ac ymddangosai fel pe yn mwynhau yr ysbrydol, ac mewn duwioldeb dwyfol. Yn y boreu, cyn bod ei fam yn myned allan i gymeryd ei lie yn y farchnadfa, byddai ef bob amser yn fanwl a gofalus i edrych i'r heol, ac os dygwyddai iddo weled un o fechgyn yr ysgol gerllaw, daliai ei fam yn ol yn ddiysgog, a chanai ei don fechan "Pol lol, pol lol" yn hynod o efl'eithiol a thorcalonus, fel pe buasai rhywbeth, ofnadwy gerllaw. Ond un diwrnod, collwyd y wraig galonrwygol, gyda'r plentyn gwallgof, o'r farchnad ac wedi gweled eu beis- ieu, tueddwyd rhai o'r cymydogion, trwy eu gofal a'u tynerwch atynt, i ymweled a'u bwthyn, pryd, er eu mawr syndod, y eawsant y fenyw dyner yn gorwedd ar ei mainc yn farw, wedi tori ei chalon dan wasgfeuon a tbroion celyd y byd, a'r plentyn druan yn eis- tedd yn ei hochr, gan ddal gafael yn ei Haw a siglo yn ol a blaen, fel y gwel- sid ef droion cyn hyn, ac yn canu yr un druenus bruddgan, ond yn fwy torcalonus yn awr nag erioed o'r blaen. Sibrydai ryw hurtwch annealladwy, er hyny edrychai ar brydiau fel pe yn gallu amgyffred yr hyn a siaredid a phob tro y dywedid rhywbeth wrtho codai ei olygon i fyny, a'i lygaid yn llawn dagrau, a gwasgai y Haw oer yn fwy-fwy i'w fynwes, tra suddai sain ei brudd Pol lol" yn ddyfnach-dyfnach, nes cyrhaedd nod eithafol truenus- rwydd, nes peri i galonau yr edrychwyr deimlo mor ddwfn, fel o'r braidd y gallent symud llaw na throed er myned ag ef oddiwrth gorph marwol ei fam. Ond gollyngodd afael o'r ddaearol law yn ddiwrthwynebiad, ac ymneillduodd i gongl dywell o'r ystafell, pryd y dy- wedodd un o'r gwyddfodolion, tra yn syllu y naill ar y llall, Ow, druan tlawd, pa beth wnawn o hono. Ond cyn fod y gair olaf yn cael ei ddywedyd, clyw- id ei gan drachefn, a gwelid ef yn plygu i'r lJawr, a chododd lonaid ei ddwylaw o'r baw i fyny, ac a'i gosododd dros ei ben, fel pe yn rhoddi arwydd ei fod am gael ei gladdu gyda'i fam, a chlywid ef yn tywallt allan ffrydlif-n oedd ei gan "Pol lol, pol lol" gyda llymder gwresogrwydd a thruenus- rwydd aughydmarol. OYNONFRYN.

___Gohebiaethau.

MERTHYRIAN YN CANU El GLOCH.

BRYNFAB A PHWYLLGOR EISTEDDFOD…

AT MR. 1. JONES, TREBERBERT.

METON A'R TEMLWYR DA.

[No title]

[No title]

Y MEISTR A'R GWEITHIWR.

TANWYR NANTMELYN.

Y GOFYNIAD AT DANWYR NANT.-MELYN…

4 DYRCHAFIAD Y GWEITHIWR.