Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Y STRIKE.
Y STRIKE. YE oeddem yn tybio yr wythnos ddi- weddaf y buasai genym yr wythnos hon i gofnodi rhywbeth newydcl a mwy boddhaol o barthed yr annealldwriaeth sydd rhwng ein meistri glo a'u gweith- 11 zn wyr, ond bron yn yr un man y mae pethau hyd yn hyn. Nid oes amheu- aeth nad yw y ddwy blaid wedi blino ar sefyllfa bresenol pethau, ac yn barod i roddi i mewn i ryw raddau er mwyn ei derfynn, ond nid oes neb am ddangos y faner wen, am y byddai hyny i ryw raddau yn arddangosiad eu bod wedi cael eu gorchfygu. Y mae yn wir fod y meistri wedi gostwng X5 y cant yn ychwaneg yn y cyflogau; oud credir pe byddai i'r gweithwyr fyned i mewn ar y 10 y cant gostyngiad, a gofyn am gael cyflafareddiad wedi ei sefydlu er trefnu pethau rhagllaw, y celid y pethau hyn, ac na chlywid am strike mwyach am yr ugain mlynedd nesaf o leiaf. Y mae y gweithwyr o'r ochr arall yn awr yn dechreu ymgynefino a'r strike, ac yn gofyn yr un peth yn awr ag a ofynid ganddynt bedwar mis yn ol— dim mwy na llai. Dadleua rhai fod marchnad y glo lawer is yn awr nag yr oedd y pryd hwnw, a chymeryd y farch- nad yn gyffredinol, tra y dywed y lleill fod y glo yn Nghaerdydd, yn yr hwn le y gwerthir ein glo ni, rai sylltau yn ddrutach nag yr oedd pan y rhoddwyd heibio gweithio. Y mae dosbarth hefyd yn dechreu ofni, wrth weled yr ystyfnigrwydd hwn yn y pleidiau, ac yn gweled fod ychydig yna ac ychydig acw yn myned i weithio, mai y diwedd fydd myned i mewn heb gael y fantais a ellid ei chael yn awr mewn cysylltiad a sefydlu cyflafareddiad am y dyfodol. Y mae yn sicr bellach fod ychydig o weithwyr tanddaearol Cyfarthfa wedi dechreu gweithio. Aeth rhai i lawr ddydd Llun, nifer lluosocach ddydd Mawrth, ac os ydym wedi clywed yn iawn, yr oedd y nifer wedi lluosogi yn fawr erbyn dydd Mercher. Mewn canlyniad i gyfarfod a gynal- iwyd ddydd Sadwrn diweddaf rhwng gweithwyr y Pentre, Cwm Rhondda, a Mr. Rosser, y goruchwyliwr, y mae y gweithwyr yn bwriadu siarad wyneb yn wyneb a Mr. John Cory yr wythnos nesaf. Y mae y rhybudd sydd wedi cael ei roddi gan Mri. Nixon a Chyf. i'w tenantiaid wedi achosi cryn gynhwrf, a dywedir fod y meistri yn benderfynol o gario eu penderfyniad i weithrediad. Y mae Mr. Thomas Brassey, A.S., wedi ysgrifenu llythyr ar bwnc yr an- nealldwriaeth, yn yr hwn y dywed ei fod wedi bod yn siarad ag un neu ddau o foneddigion ag ydynt yn teimlo dy- ddordeb yn sefyllfa pethau yn Neheu- dir Cymru, ac nad yw yn cael oddiwrth ddim a fedr efe gasglu, y bydd i'r meistri wyro dim oddiwrth y gostyng- iad o 15 y cant; ond mor gynted ag yr a y gweithwyr i mewn, ei fod ef yn credu fod y meistri, er yn hollol wrth- wynebol i Fwrdd Cyflafareddol, yn barod i fabwysiadu cynllun o ostwng a chodi cyflogau gyda'r farchnad. Y mae hefyd yn cyngori y gweithwyr i fyned i mewn.
[No title]
MAE bellach dros bedwar mis wedi myned heibio er pan yr ydym wedi cael ein dal gan ganlyniadau echryslon yr hen strike felldigedig. Yn wir, ychydig oeddem yn feddwl pan ddaethwyd a'r tools allan ddiwedd y flwyddyn y buasem allan eyhyd. Yr oedd yr eira gwyn ar y ddaear y pryd hwnw yn ei iaith yn dweyd nad allasai dim ddal yn hir iawn, ac y buasai yu rhaid i ni syrthio o dan ddwy- law celyd y cyndyn feistri; ond nid felly y mae wedi bod. Yr ydym wedi ymladd yn wrol yn erbyn trais a gormes, mewn gobaith o gael buddugoliaeth orfoleddus cyn bo hir. Yr ydym yn meddwl na throseddwn yn erbyn neb wrth ddweyd nafuy fath strike erioed a'r un bresenol. Y gwir yw. y mae canlyniadau y strike hon yn ddibendraw, a pha bryd bynag y terfyna hon, fe fydd ei holion yn gan- fyddadwy ar lawer am amser maith. Y mae llawer gwyneb oedd gynt yn wrid- goch wedi ei wneud yn welw, a llawer o deuluoedd wedi eu gwasgaru oddiwrth eu gilydd am byth, a'r cwbl yn herwydcl fod y meistri yn gwrthod rhoddi rheswm dros eu hymddygiadau. Dywed y South Wales Daily Neivs am dydd Sadwrn diweddaf fod rhai gweith- feydd wedi dechreu yn y Khondda ar delerau y meistri. Yn awr, yr ydym yn apelio at y rhai sydd yn gweithio yn nglofa Brithweinydd ar iddynt ddyfod allan fel dynion, a dweyd yn onest ar ba delerau y maent yn gweithio, yn hytrach na'u bod yn destyn gwawd y gymydog- aetb. Os ydych yn gweithio ar y gostyngiad, byddwch cystal ag hysbysn hyny, neu os na wnewch hyny, arnoch chwi y gorphwys y gwarth. Rhaid ter- fynu, rhag tynu rhai o'r tylwyth hyn am fy mhen, a rhag blino y darllenydd. Y mae y bwrdd yn 11 awn. Os bydd angen am ragor, chwi a'i cewch, ac am hyny byddwch chwithau barod. FIXA.NGJELLWR.
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN.
SEFYLLFA MASNACH GLO A HAIARN. (Allan o'r Daily News, Llnlldàin.) ERRILL 26, Middlesborough.—Pryn- wyr yn cadw yn ol o herwydd pris- oedd uchel. Ond y mae dcmiands da o Scotland a'r Cyfandir. Digon o waith yn nghyfeinad busnes mewn plciteta bars. Pe darfyddai y strike yn Neheudir Cymru, byddai yr orders yn myned yno. Ond gwneir gwaith i ateb i orders na buasent yn myned yno. Prisoedd coke yn dal yr un fath. Birmingham. Masnach mewn nwyddau haiarn yma yn isel. Digon tebyg eu bod yn ymyl cyfnod o iselder mawr yn y fasnach yma. Nid yw y rhagolygon o ran masnach yn dda o Russia, India, yr Unol Dalaethau, a Chili. Y mae archebion gweddol o Awstralia, New Zealand, a Cape of Good Hope. Ebrill 28, Middlesborough.—Mas- nach haiarn yn gwella. Rhagor o archebion am rails. Rhai o felinau y Darlington Iron Company, y rhai sydd wedi bod yn segur, yn myned i gych- wyn gweithio. Y mae y rhagolygon yn well nag y buont am y deuddeng mis sydd wedi myned heibio. Y mae y llong-lwythi i'r Cyfandir a Scotland am y mis hwn yn debyg o fod yn fwy nag y maent wedi bod am amser maith, os nad yn fwy nag y buont erioed yn y mis hwn yn hanes y fasnach. Y mae penderfyniad Mr. Forster fel cyflafar- eddwr yn nghylch dadl y glowyr yn Durham wedi siomi y meistri glo. Ceisient hwy ostyngiad o ugain yn y cant. Penderfynodd yntau ar bump yn y cant o ostyngiad i'r rhai sydd yn gweithio o dan y ddaear. Ebrill 29, Wolverhampton.—Grwell- iant yn marchnad haiarn. Ond nid yw gweithwyr haiarn yn gweithio mwy na haner eu hamser yn gyffredinol. Digonedd o lo. Ebrill 30, Birmingham.—Ychydig o gais am haiarn. b Masnach yn fwy marwaidd nag arferol y tymor hwn. Prisf marked iron yn dal i fyny. Nis gellir gwerthu haiarn arall heb ostyng- iad pris, a'r pris hwnw yn llai na bod yn ddigon o dal am wneud haiarn. Cwynir ar uchder cyflogau gweithwyr. Dysgwylir y bydd lleihad ynddynt. Pris glo yr un fath ag o'r blaen. +
CAU Y TAFARNAU AR Y SABBOTH…
CAU Y TAFARNAU AR Y SAB- BOTH YN YR IWERDDON. Y MAE'R Aelodau Seneddol Gwyddelig yn lied hyderus o gael yr ysgrif ar gau y tafarndai ar y Sabboth wedi ei hail ddarllen yn Nhy y Cyfiredin heddyw (dydd lau). Y mae Mr. Disraeli wedi awgrymu na bydd i'r llywodraeth symud yn yr achos. Disgwylir y bydd i Mr. Bright bleidleisio a siarad yn ffafriol i'r Ysgrif, yn gymaint a bod yr Aelodau Gwyddelig yn unfarn ar y pwnc. 4
TANCIIWA DDYCHRYNLLYD MEWN…
TANCIIWA DDYCHRYNLLYD MEWN GLOFA—43 WEDI COLLI EU BYWYDAU. PRYDNAWN dydd Gwener diweddaf cy- merodd tanchwa ddychrynllyd le yn nglofa Bunker's Hill, yn agos iTalk-'o- the-Hill, pryd y collodd 43 o weithwyr eu bywydau. Taenwyd y gair ar y cyntaf mai 31 oedd wedi colli eu byw- ydau, ond erbyn hyn y mae eu nifer wedi cyrhaedd 43, a chyda'r eithriad o ddamwain ddychrynllyd pwll Talk, yn 1866, hwn ydyw yr un mwyaf di- nystriol sydd wedi cymeryd lie yn nos- barth North Staffordshire. Cariwyd y gwaith o chwilio y pwll yn mlaen yn ddyfal yn ystod nos Wener, ac erbyn oddeutu pump o'r gloch boreu dydd Sadwrn, yr oedd 42 o gyrff wedi eu dwyn allan o'r pwll. Yn gymaint a bod y nifer hwn yn fwy o gryn lawer nag a dybid oedd i lawr ar y bryd, rhoddwyd i fyny y gorchwyl o ym- chwilio, gan farnu fod yr oil wedi eu cael; ond yn ystod y dydd ymholwyd am ddyn arall, ac yr adnewycld wyd yr ymchwyl, ac yn fuan deuwyd o hyd iddo mewn congl o'r gwaith nad oeddid wedi ei chwilio yn flaenorol. Yr oedd rhai o'r cyrff wedi cael eu niweidio a'u llosgi i'r fath raddau fel nad oedd yn bosibl eu hadnabod ond trwy ranau o'u dillad. Bernir i'r rhan luosocaf o hon- ynt farw ar unwaith, a hyny yn ddi- boen ond yr oedd ychydig o'r nifer wedi cael marwolaeth boenus, ac ereill wedi eu taraw i lawr tra yn ffoi. Yn y rhan o'r gwaith ag y cymerodd y danchwa Ie, nid oes neb wedi dianc i adrodd yr helynt. Bernir yn gyffredin i'r danchwa gael ei hachos trwy daniad ergyd wrth flastio. Y mae rhyw 22 o weddwon, a 50 o blant amddifaid wedi eu gadael yn ddiamddiffyn trwy y drychineb alaethus hon. 4.
BWRDD GWARCIIEIDWAID MERTHYR.
BWRDD GWARCIIEIDWAID MERTHYR. CYMERODD amgylchiad teilwng o gof- nodiad le yn nghyfarfod Bwrdd y Gwarcheidwaid Merthyr ddydd Sa- dwrn diweddaf. Y mae yn ymddang- os fod Mr. Howell Williams wedi rhoddi rhybudd o'i fwriad i ddwyn dan sylw y Bwrdd, yr hyn a ystyriai efe yn ddull annheg ac anghyson o ardrethu meddianau yn snhlwyf Aber- dar, gan gyfeirio mewn modd neillduol at feddianau Mr. Rees Hopkin Rhys, ac ereill, ac nad allai efe gyfrif am hyny, ond fod Mr. Rhys a Mr. James Lewis ar Bwyllgor yr Ardrethiant. Pan fel hyn yn cyfeirio yn bersonol at Mr. Rhys, clywodd Mr. Williams ef yn ei alw yn blackguard, pryd yr atebodd Mr. Williams nad oedd yn blackguard- ei fod wedi bod yn ddysgybl iddo ef am 22 o flynyddoedd, ac nad elai at Mr. Fothergill i geisio ei gymeriad ef; a dywedai wrtb yr aelodau ereill, "Dyma Ynad Heddwch Sirol yn fy ngalw yn blackguard." W edi ychydig sylwadau gan y llywydd, a chael ar ddeall gan yr ysgrifenydd nad oedd y cyfryw yn bwnc i'r Gwarcheidwaid, cafwyd taw ar y drafodaeth anheilwng o'r fath gynulliad.
Y CYNAUAF A'R FARCHNAD.
Y CYNAUAF A'R FARCHNAD. Os na cheir cryn lawer yn ychwaneg o wlaw, y mae yn rhaid y bydd y borfa yn brin. Y mae y perllanoedd, modd bynag, yn edrych yn rhagorol, ac yn addaw toraeth o ffrwythau. Y mae yn cael ei ddweyd y bydd y cynhauaf eleni braidd yn ddiweddar, beth bynag am y cnydau. Y mae gostyngiad bychan wedi cymeryd lie yr wythnos hon yn mhris y gwenith mewn rhai marchnadoedd, tra y mae ereill wedi gallu cadw prisoedd yr wythnos flaen- orol.
COLERA YN INDIA.
COLERA YN INDIA. Y MAE y newydd wedi ein cyrhaeclel o India fod y colera wedi tori allan yno. Fod rhai achosion wedi cymeryd lie yn mhlith ypererinion yn ninas Benares. Y mae hanesion cyfFrous wedi cael eu derbyn o Cawnpore. Fyzabach, Joun- pore, a Benares. Gorfnwyd taflu wyth o gyrff allan o'r gerbydres yn Lucknow ar yr 8fed o'r mis diweddaf. Ni ehyr- haeddodd cerbydres Benares, yr hon oedd yn ddyledus yn Lucknow ar yr 8fed, hyd y diwrnod canlynol, trwy fod cymaint o amser yn cael ei golli i gladdu meirw y colera.
L'ERPWL.
L'ERPWL. (ODDIWRTH EIN GOHEBYDD). DYDD MAURTH. ER nad ydwyf ond ychydig O wleid- iadwr, eto nis gallaf lai na chredu nad oes rbyfel Europeaidd dinystriol yn cael ei friweddu. Gwyr pawb fod y rhyfel diweddar a fu rhwng Germany a Ffrainc, yn gyfryw ag y bu Bismarck am y pedair blynedd blaenorol iddo yn parotoi ar ei gyfer. Nid oes am- heuaeth chwaith nad oes gwreiddyn chwerwedd wedi aros rhwng y ddau allu. Mae yn wir y gallesid sefydlu cyf- eillgarwch yn gystal a heddwch rhwng Ffrainc a Germany yn 1871, yn debyg fel y gwnawd rhwng LloegT a Ffrainc gynt; ond gwnaeth Germany ormod o'i gallu gorchfygol gan wthio amodau ar Ffrainc orchfygedig ag oeddynt yn rhy galedion i fod yn dawel aboddlon- gar iddynt. Y cymer rhyfel eto le rhwng y ddau allu nid oes neb yn ameu, tra y dealla y Ffrancod y tro nesaf hefyd eu bod yn ymladd am eu bodol- aeth cenedlaethol. Dywedir y carai y Tywysog Bismark weled y cyfryw ryfel yn cymeryd lie yn bresenol, a'i fod yn ceisio ei oreu i'w ddwyn oddiamgylch, trwy ei fod yn deall fod pob diwrnod a oedir yn fantais i Ffrainc, tra o'r ochr arall yr ymdeimla fod oediad yn anfan- tais i Germani. Ond pan y tyr y cyfryw ryfel allan, pwy a wyr yn mha le y terfyna ? Y mae rhai o'n pobl dde- allgar mewn olrhain achosion ac effeith- iau, yn gweled y naill genedl ar ol y Hall yn cael eu tynu i gymeryd rhan yn y rhyfel nesaf, fel na fydd odid i wlad yn Europ heb gymeryd rhan ynddi. Nid yw y newyddion masnachol o'r Unol Dalaethiau nemawr gwell, ond yno megys yna gyda chwithau, meistri a gweithwyr mewn annealldwriaeth a'u gilydd, a miloedd o deuluoedd mewn canlyniad yn dyoddef. Modd bynag, y mae un newydd cysurlawn yn ein cyrbaedd oddiyno, sef fod gobeithion rhagorol trwy yr holl wlad am gynauaf mwy toreithiog nag a welwyd er's blynyddau, a bod lie cryf i gasglu y bydd defnydd bara mor rhated y flwydd- yn nesaf ag ydyw eleni, os nad rhatach. Y mae ymfudiaeth o'r porthladd hwn yn parhau i leihau. Yn ystod y mis diweddaf gadawodd rhyw 13,248 o ymfudwyr, mewn 5 2 o longau, yr hyn oedd yn llai o 2,535 nag yn Ebrill y flwyddyn ddiweddaf. Dydd Sadwrn diweddaf cawsom or- ymdaith arddangosiadol 'flynyddol y certwyr a'u ceffylau, ond yr oedd y gwlaw yn disgyu yn drwm ar yr ad eg, yr hyn a ysbeiliodd yr arddangosfa o ran helaeth o'i dyddordeb a'i bywiog- rwydd arferol. Nid oes yr un dref yn y Deyrnas Gyfunol na'r byd, a gystadla a L'erpwl am ei cheffylau. Y dyddiau diweddaf y mae Cadbeu Boy ton wedi bod yn arddangos ei wisg bywyd-achnbol i filoedd yn yr Afon L Mersey. Wrth egluro neillduolion y wisg, dywedodd ei fod yn bwriadu croesi y Channel eto ar y 2J neu 25 o'r mis presenol, ac heb feddygon i'w ganlyn, am mai gelynion iddo oedd y rhai hyny ac nid cyfeillion. Y mae y cyfaill Americanaidd hwn yn cyflawni gwrhydi'i neilllduol ar y mor trwy offer- ynoliaeth y wisg forawl ag y mae wedi ei dyfeisio. ■*—
COFADAIL I'R DIWEDDAR R. EVANS…
COFADAIL I'R DIWEDDAR R. EVANS (ALAWFWYN), TRE- HAFOD, PONTYPRIDD. Y MAE amryw o gyfeillion y diweddar R. Evans wedi dyfod i'r penderfyniad o godi cofadail anrhydeddus a theilwng o hono uwch ben ei fedd ac mewn pwyllgor a gynaliwyd yn hen gapel y Cymmer, nos Sadwrn, Mai laf, pen- derfynasant wneuthur eu hamcan yn gyhoeddus trwy gyfrwng y DARIAN, ac os bydd rhyw gyfaill yn rhywle yn teimlo chwant ar ei galon i daflu ei hatling at yr achos, byddant yn wir ddiolchgar am y rhodd leiaf. Y trys- orydd ydyw Mr. Rogers, Silver Teapot, Pontypridd. Dros y Pwyllgor, LEMUEL FOSTER, Ysg. —+—.—.——
PETHAU DYMUNOL YN NGLYN AG…
PETHAU DYMUNOL YN NGLYN AG EISTEDDFODAU A CHY- NGPIERDDAU. BYDDED hysbys nad oes a fynwyf fi mewn unrhyw fodd a'r ysgrif yn dwyn y penawd uchod, a ymddangosodd yn y DARIAN am Ebrill 16eg. Hefyd, nad wyf n yn sympathiso dim a'r syn- iadau a gynwysir yn yr ysgrif dan sylw.—Yr eiddoch, Hopkin Town. MORGAN MORGAN. [Gallwn ninau sicrhau pawb y per- thyn iddynt nad oedd a fyno M. Mor- gans a'r cyfryw ysgrif.—G-OL.]
4 CROTYN CRITO A'R ,COFFINAU.
4 CROTYN CRITO A'R ,COFFINAU. MR. GOL.Gan fod Crotyn Orito ^YN cyffwrdd a'm enw yn £eich TARIAX ddi- weddaf mewn cysylltiad a'r coffinau yn Aberdar, crefaf am ychydig o'ch gofod i'w ateb. Yr oeddwn yn arfer meddwl bob amser fod y coffinau yn cael eu gwneud tua chymydogaeth Cwmaman yn dra thebyg eu prisoedd ag ydynt yn Aberdar, ond deallwyf fod gwahaniaeth mawr rhyngddynt. A chan nad wyf wedi arfer bod yn turncoat na gormeswr erioed, ond yn hytrach yn teimlo bob amser dros y cyfryw sydd yn cael eu gormesu, fel y gwyr fy nghanoedd cyf- eillion yn Aberdar; o ganlyniad, gosodaf hyn o rybudd ger bron seiri cymydog- aeth Cwmaman, rhoddaf ddau fis iddynt i astudio y mater, ac os na welant yn oreu i ostwng y coffinau i'r un prisoedd ag y gwneir hwynt yn Aberdar, gwnaf agor cangen yn Brynaman, a gosodaf fy mab yno i'w chario allan, a gwn ei fod mor alluog ag un dyn yn N ghymru a Lloegr i'r gorchwyl hwn. Gwn yn dda fod yn ngallu seiri Cwm- aman a'r cylchoedd i wneud coffinau mor rhad a minau, o herwydd gallant gael trimmings o Birmingham lawn mor rhad. ag y gallaf finau eu cael yn Aberdar, ac am y coed, feallai yn rhatach. Er mwyn rhoddi chwareuteg i'r seiri, wele bris- oedd y coffinau yn Aberdar. I blentyn chwech mis oed, 8s., wedi ei addurno oddiallan yn hardd, a gwlanen oddifewn, a'r coed yn Uawn tri chwarter modfedd o drwch eto gyda'r registered trimmings goreu, 9s. I blentyn 11 mlwydd oed, 25s.; eto trimmings goreu, 29s. I ddyn yn ei faintioli, 30s.; eto y trimmings goreu, 35s. Os byw ac iach, byddaf yn ymweled a Brynaman o hyn i ben tair wythnos, ac feallai y cyfarfyddwn a'n gilydd er penderfynu beth a wnawn. Cofion cynhes at fy holl ffryndiau trwy yr ardal. ISA.AC THOMAS.