Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

PRYDYDD AC HELYNTION Y BEIRDD.

News
Cite
Share

PRYDYDD AC HELYNTION Y BEIRDD. Y twat; y gwr nerthol, cyhyrog hwn wedi creu rhyw gynhwrf aruthrol yn ngwer- sylloedd y beirdd yn ddiweddar gyda ei ysgrif ddoniol yn y DARIAN; ac ar fy ngair, Bid wyf fi yn deall pa beth fydd ei chanlyniadau os parha ei heifeithiau i gynyddu yn y dyfodol fel y mae wedi bod yn y gorphenol; canys y mae Gwilym Glan Tywi a Ieuan Dar wedi digio yn anfaddeuol o herwydd na fuasai Prydydd yn eu rhyddhau hwy, fel ereill o'r trawd- oliaeth, o'r gwarth oesol y mae y beirdd wedi dynu arnynt eu hunain trwy fyned i gydhela a chwn ysglyfaethus Cwmdar. Ond chwareuteg hefyd i'r beirdd, ni chawsant hwy ond un redegfa ar ol y cadnaw, tra y gorfu i'r own gael tair. Hefyd, ni chafodd y own ond cadnaw byw yn y diwedd; ond am y beirdd, myn- asant hwy ei gael yn farw mewn eiliad, a chael gwledd arno yn y Cross Inn a a thebyg. yn ol a glywsom, mai gwledd flasus vdoedd, er fod un peth annymunol yn aros, sef fod Nathan Wyn yn gywir gredu mai efe daylasai gael y pen. Am Dyfedfab, mae efe mewn hwyl chwerthin byth-barhaol wrth ddychymygu gweled y beirdd yn Hawn chwys a baw yn eu ewrs ar ol eu holv- wrthddrych cadnoaidd. Y mae Glaslwyn yn parhau mewn syn- fyfyrdod am fod Gwilym ab loan wedi rhanu yr ysglyfaeth cyn ei fod ef wedi dyfod i'r wledd, ac ynteu yn rhedeg mor gyflym. Daronwy oedd yn sefyll y tro diweddaf y gwelsom ef fel hurtyn, ac yn ymddangos fel pe mewn ofn a dychryn mawr rhag ei fod wedi tynu y beirdd am ei ben. Ond tystia Hedydd Cynon a Dafydd Bowen mai ysmaldod gwr ieuane yn y sefyllfa briodasol sydd arno tra y mae Cynonfryn yn dal yn ddiysgog ei fod yn feddw ar Demlyddiaeth, ac felly yn anfoddlon ei weled ef yn mwynhau ei hun ar bob lluniaeth angenrheidiol. Nid oes gan Twreh Cynon amser i roddi ei fam, gan ei fod a'i boll enaid yn dysgu iaith y Bwrdd lechyd. Nidydyw Morfab yn gwneud un sylw o lythyr Prydydd, na'r hyn y siarada am dano, gan fel y mae yn mwynhau ei hun ar y pea soup a gafodd am gan y strike, a'r addewid am ail wraig am wneud llythyr caru mor ddoniol. Er hyn, y peth sydd yn lloni ei feddwl fwyaf ydyw y ganmoliaeth uchel a gafodd gan Gwilym ab loan am ei draethawd i'r hen wr, yn nghyd a'rwobr fawr a'r cwdyn papyr a dderbyniodd. ir Ond dywedir na chawsai Morfab yr un o'r pethaa hyn oni b'ai fod ysbryd ys- griblo Vulcan Fardd wedi ei foddi yn J swn baldorddawl yr etholiad; hefyd, ei fod yn teimlo yn siomedig, ac wedi wylo mor druenus am fod Dyfedfab wedi dangos mwy o ddagrau nag ef. Dywedir nas gwelir Tiberog mwy ar faes y DARIAN nac mewn un man o'r fath, canys gwell ganddo ef ydyw gwledd o'r fath a gafodd yn y Cross Inn, ac hefyd ei fod wedi cael ei droedio yn ddiweddar am ddweyd y gwir. Dywedir fod Dewi Dyfan o ran ei ysbryd wedi bod yn ngwledd y Cross Inn, ond na ranwyd iddo ddim o'r dan- teithion, er yr wyf fi. yn credu mai sibrwd disail ydyw y peth yna, gan fod Dewi yn cael gwleddoedd da yr ochr draw i'r mynydd yna; a dywedir mai dyna yr achos i Cynfelyn a Glaslwyn ddyfod yma, a'u bod yn artaeth gynhyrfiol eu meddwl o'r bwriad ysglyfio y cyfan o'u blaenau. 0 chwaethus feirdd, da chwithau,-nag clwch Eich gilydd bob euwau; A chonwch, cleddwch feiau-yn gynar 0 fewn daear maddeuol fwynderau. Bakcud.

MUDIAD CO-OPERATIVE ABERDAR.…

MARWOLAETH MR. W. EDMTOTOS,…

AMRYWIAETH 0 LANSAMLET.!

I "VOTE I DAVIES Y CLWYDI."

GAIR AM YR AMSER PRESENOL

NEWYDD DA O'R GADLYS.

MAE NHW YN DWEYD.

PORTH.—TYSTEB MR. JABEZ THOMAS,…

AT Y BEIRDD.

[No title]

^ Y GWANWYN.

PRIODAS FY NAI.

COR Y WIG.

t(' YR WYBREN.

AI SIARAD WYT AG ENGYL GLANP

!DYFODIAD YR HAF.

Y GENINEN.