Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

GAIR YN MHELLACH AT "UN 0…

News
Cite
Share

GAIR YN MHELLACH AT "UN 0 NI." Poneddigion,—T mae Un o Ni," yn eich rhifyn am y 23ain o Ebrill, yn ceisio clytio ychydig ar ei gamddywediadau blaenorol. Y mae ymosodiadau personol bob amser yn mhell o fwriad Crotyn Crito, ac ni fuasai yn ymyraeth yn y fusnes hon o gwbl oni b'ai ei fod yn teimlo dros y gwirionedd, ac yn neillduol felly dros y gymydogaeth i ba un y per- thyna, yr hon y mae wedi wasanaetbu yn y swydd o ohebydd lleol am 16 mly- nedd diweddaf, fel y mae yn gyffredinol hysbys yn y cymydogaethau hyn. Heb- law hynyma, creda hefyd nad oes hawl gan neb pa bynag i feio arno fel cymydog na chenedlgarwr, ac mai yr olaf peth fyddai ganddo bob amser ydyw camliwio neu sarhau ei gymydogion yn y cyfryw gymydogaeth. Ond fel y gellid meddwl oddiwrth" Un o Ni,' ymddengys 11 y mai i'r gwrthwyneb y saif pethau-mai y cabldraeth nwch yr enw uchod er ys ychydig amser yn ol sydd i'w gymerad- wyo fwyaf. Gadewch i ni, gan hyny, weled sut y mae pethau yn sefyll-pa un ai y gwirionedd neu y gwrthwyneb sydd i gael y flaenoriaeth y tro hwn. Nid yw Crotyn Crito yn amheu nad oes rhai yn dychwelyd yma ac acw i'r Bydd undebol. Ond, a yw ychydig mewn lleoedd neillduedig, megys Gwauncae- gurwen, &c., i fodynsafonhollddosbarth Llwchwr ?, Nid felly, fel mae gwaethaf y modd, ac fel y prawf ardaloedd ereill. Os yw yn anghredu, aed- i'r gymydog- aeth nesaf, sef Cwmaman, a gofyned sut y mae pethau yn sefyll yno. Dywedodd Crotyn Crito yn ei ysgrif mewn dadl ei fod yn barod i brofi yr uchod, neu y pa- ham o'r gwrthgiliad cyffredinol hwn. Y mae eto yn dal at ei osodiad gwreiddiol, hyny yw, gwastraff, &c. Ond, feallai, y byddai yn well am y presenol, tra y parha yr angbydwelediad rhwng meistr a gweithiwr, i ohirio yr ymdrafodaeth, rhag y bydd hyny yn faes tramgwydd i ryw frodyr gweinion i atal eu cyfraniad- au i anffodusion y strike a'r lock-out. Ond can wired a bod haul, daw yr amser, a gorphwysaf, am y rheswm a nodwyd, hyd y cyfryw amser. Ceisiodd Un o Ni gyfiawnhau ei hun yn ei waith yn ceisio sarhau Wm. Jones, &c. Tlodion iawn oeddynt ei es- gusodion. A chaniatau mai ystyr Try- phosa yw melusber, pwy a roddodd hawl i'ch gohebydd i osod enw ar blentyn arall ? Ond y mae y byd yn myned yn mlaen, meddynt, ac y mae lie i ofni ei fod yn myned yn mlaen mewn digywil- ydd-dra hefyd. Am y coffinau, &c., y mae yn 11 awn bryd gwneud rhywbeth gyda y mater hwn. Gwasanaethodd Mr. I. Thomas dref Aberdar a'r cylchoedd yn fawr yn y peth hwn; ac yn awr y mae gweithwyr Aberdar wedi dangos mewn difrif pwy ydyw eu gwir gymwynasydd, trwy ddy- chwelyd Mr. Thomas i'r Bwrdd Iechyd at the head of the poll! Tybed na cheir yr unyn y cylchoedd—Gwaencaegurwen, Cwmaman, neu Frynaman, a digon o ddynoliaeth yn ei galon i ostwng pris y coffinau? Obob gorfaeliaeth, yr orfael- iaeth yma o wasgu ar dlodion yn yr am- gylchiad pruddaidd o gladdu perthyn- asan anwyl, ydyw yr un fwyaf warthus. Dyma ffiaith nas gall Un o honyn' Nhw ei gwadu. Er's ychydig amser yn ol, claddodd cyfaill o weithiwr yn y gymyd- ogaeth hon dri phlentyn; a beth a de- bygech chwi a orfaeliwyd arno yn y ffurf o goffinau i'w anwyliaid? Wel, nid oedd y swm yn ddim llai na phum punt, er nad oedd yr henaf o'r plant yn fwy nag 11 mlwydd! Gall Un o Ni" ddweyd a fyn am ragoriaeth coffinau Gwaencaegurwen; ond gwyddis fod hyn yn hen arferiad gan lawer wrth g'sisio pwffio i fyny nwyddau uchel-bris. YJ'wyf unwaith eto yn apelio at Mr. Isaucc Thomas, a hyny dros y gymydog- aeth i ddyfod i'r maes gyda y mater hwn, a sier yw y caifE ddiolchgarwch gwresocaf yr ardal. Dywedaf hyn, os nad all eich gohebydd gadw at foneddigeiddrwydd ac at y gwirionedd o hyn allan, cynghorwn ef i ryned o gwmpas gydag arddangosiad y Punch Judy, a gellid dweyd am dano fel y dywedodd ysgrifenydd Cyfrinfa Curwen ar amgylchiad arall, fod the right man in the right place." CROTYN CRITO.

Y CYMRO GWYLLT YN Y: DDALFA.

ILLYTHYR 0 NEW ZEALAND.

YSTAFELL Y CYSTUDDIEDIG.

GOLYGYDD Y GWLADGARWR A CHYFARFOD…

Advertising

AMRYWION O'R AMERICA.