Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Y NOFEL:

News
Cite
Share

Y NOFEL: GRYFFUDD JONES. DAETH y chwarter i ben, gwawriodd boren Sadwrn, a daeth yr awr a'r fynyd i'n harwr, Gryffudd Jones, ffarwelio a Mrs. Ellis (ei ysgolfeistr a'i briod), ac i gychwyn i'w daith. Wrth wneud hyny, estynodd Mr. Ellis nodynbychan i Gryffudd i'w roddi i'w dadcu, yn yr hwn yr hysbysai dadcu Gryffudd ei fod yn flin ganddo nad oedd yn gyfleus iddo dalu ymweliad ag ef gyda Gruffydd y tro hwn yn ol ei addewid, ac y byddai iddo gyflawni ei addewid cyn hir. Beth bynag, cychwynodd Gryffudd yn nghwmni dau o'i gydysgolheigion yn flawen, pa rai oeddynt yn dyfod i'w hebrwng. Wedi teithio tua thair milldir, trodd ei gydysgolheigion yn eu hoi, gan ddymuno gyria lawen i Gryf- fudd, felly Gryffudd iddynt hwythau, gyda diolch iddynt am eu caredig- rwydd. Yn mlaen oedd arwyddair Gryffudd, ac yn mlaen y teithiai yn gyftym. Cyrhaeddodd y fan lie y gallai weled y bwthyn lie ei ganwyd, a'r bwthyn yn yr hwn y trigfanai ei rieni anwyl..0! fel y llenwid ei galon gan dan gorlawenydd wrth gael golwg ar yr hen Benrhys anwyl; ond collodd ei serch at yr hen adeilad, y caeau a'i hamgylchynai, &c., pan welodd ei fam wrth dalcen y ty yn gwylio ei ddyfod- iad. "Dacw fy mam anwyl eto," ebai wrtho ei hun; "ymae hi bob amser yn ffyddlawn;" a chan fod ei fraich yn rhy fer, a'i lais yn rhy wan iddi hi fedru ei glywed gan gymaint y pellder, efe a gododd ei het i fyny, a chwifiodd hi yn yr awelon balmaidd fel cyfarch- iad, tra y cyfarchai hithau yntau yn llawen. Pan yn ymyl pentre'r Aber, gwelai ddati o'i frodyr yn dyfod i'w gyfarfod, a mawr y llawenydd a roddodd hyny iddo. Wedi cyfarch eu gilydd yn hapus, cyd-deithiasant gyda'u gilydd, a dechreuodd yr hynaf o honynt ddweyd "mai eu mam oedd wedi eu danfon, a'i bod hi yn dweyd wrthyt ti, Gryffudd am ddyfod tua thre' yn union; hyny yw, am i ti beidio aros yn y pentre fel o'r blaen." Pob peth yn burion, ebai Gryffudd, mi a ddeuaf. Ar hyn, gwelai Gryffudd ei feinwen deg, sef Mari Dafydd (y Ferch o Gelli Fechan) yn gwylio ei ddyfodiadar ben y "Daran Fawr;" ac O fel y brathwyd ei galon, a chy- farchai hi trwy godi ei law i fyny, a'i hysgwyd yn yr entrych, tra y gwnelai hithau yr un peth. Nis gallai, gan ei fod mor gywilyddgar, godi ei het, rhag i'w frodyr ei ganfod. Cyrhaeddasant bentre'r Aber, cyfarfytldodd yno a hen adnabyddiaeth; ond yn mlaen oedd eu harwyddair, gan addaw treulio awr yn eu cwmni rhai o'r dyddiau nesaf. Wedi myned allan o'r pentref, cyfar- fyddasant a merch y Gelli fechan (car- iad Gryffudd); ac O! y fath gyfar- fyddiad hynod yd oedd, am fod ei frodyr gydag ef; ond cawsant foddlon- rwydd mawr wrth gael golwg ar y naill a'r llall, a gweled fod iechyd yn dawnsio ar eu gruddiau. Dywedodd Gryffudd wrthi fod ei fam wedi anfon ei frodyr i'w gyfarfod, gan ddweyd gyda llaw, ei bod am iddo ddyfod gartref heb aros yn mhentre'r Aber, ei fod yn meddwl gwneud ei chais, a'i fod yn gobeithio na fyddai iddi hi edryeh yn llai arno, ac y deuai draw i Gelli Fechan heno. Pob peth yn burion, ebai Mari. Ar hyn ymadawsant yn hyderus, a gwen ar eu gwynebau. Yn fuan cyrhaedd- asant Benrhys. Yno yr oedd dysgwyl- iadau a pharotoadau mawrion i'w groesawu. Y fam yn rhoddi derbyniad calonogol i'w hetifedd; felly, mewn gair, yr oU ond, fel y mae'n naturiol meddwl, yr oedd y tad a'r fam wedi eu meddianu a mwy o lawenydd. Treuliwyd oriau dedwydd yn Mhen- rhys. Yn yr hwyr, cyflawnodd Gryf- fudd ei addewid i'w feinwen, sef talu ymweliad â, Gelli Fechan. Cafodd hwynt yno yn iach a chysurus. Cafodd gyfeillaeh ei gariad, a derbyniad car- edig; ond gan mai yr un 'storiau byth a hefyd sydd gydag helyntion y caru yma, pan y bydd y ddau yn ffyddlawn a ffyddiog i'r naill y llall, nid yw o un dyben colnodi ychwaneg yn y fan yma. Fel y mae tipyn bach o ffraeo, ys dywed yr hen ddiareb yn gwneud llawer iawn o les; felly mewn cysylltiad a.Gryffudd a Mari. Bu y tipyn anghydfod a gymerodd le yn mhentre'r Aber yn ystod ei ymweliad y tro o'r blaen o les iddynt. Dyddiau dedwydd i'n harwr oeddynt y dyddiau ymweliadol a'i gartref, am fod ei holl gydnabod yn derbyn etifedd Penrhys, pan ddeuai, gyda breichiau agored a chalonau llawen. Bendithid ef a chwmni y prydferthaf o ferched y ddaear (yn ol ei dyb ef), Mari Dafydd, ag a danteithion goreu y Gelli Fechan, felly yn Mhenrhys; ac mewu gair, croesawid ef gan yr holl ardalwyr. Gan fod yr ymweliad yma i benodi pa un ag oedd ei dadeu, yr hen Gwilym Jones, yn rhoddi rhagor o ysgol i Gryffudd neu beidio, yr oedd yn rhaid iddo ef roddi cyfrif am ei oruchwyl- iaeth; hyny yw, dangos ei fod yn dringo i fyny. Ni fuasai yr hen Gwilym yn gwario ei arian heb fod Gryffudd yn gallu dangos ei fod yn derbyn gwy- bodaeth yn gyfnewid am danynt. Fel yr hysbyswyd yn flaenorol, fod chwech mis eto o ysgol i Gryffudd, os oedd wedi cyfieithu y Penillion Seisnig," pa rai a gyfansoddwyd er coffadwriaeth am yr hybarch Joseph Harris (Gomer) —un o dadau llenyddjaethOymru. A ydyw dy gyfieithiad yn barod o'r gan, Gryffudd," ebai yr hen Gwilym. Yn barod, ydynt, ebai Gryffudd. Pob peth yn burion, dos i'r parlwr i ni gael eu clywed genyt. Yno yr ymgynullodd y rhieni, yr hen Gwilym, a dau o'r ar- dalwyr—Daiydd Prys a Shon Ifan- yn nghyda Gryffudd. Wedi iddynt oil gymeryd eu heisteddleoedd, cododd Gryffudd ar ei draed yn eofn, a dar- llenodd y penillion yn Gymraeg a Saesonaeg.

MR. RALPH DISRAELI.

Gohebiaeihau.

PABYDDIAETH A'R BEIBL.

YR "WOULD-BE GOHEBYDD" A'R…

AT Y GOFIAID YN GYFFREDINOL.

TANWYR NANTMELYN.

AMRYWION O'R AMERICA.

YMWELIAD A LLUNDAIN.