Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

. NODIADAU ADOLYGIADOL

News
Cite
Share

NODIADAU ADOLYGIADOL GAN TAU. LLITH HI. BELLACH, nodir cynhwysiad yr hya yr helaethir arno gan B., lie nad oes gan M. ddim, mewn rhai manau, ac mewn manau eraill, ddim ond braidd gry- bwyll. Ceir gan B. sylwadau ar ym- neillduad Samuel,—cais a methiant ei feibion i lywodraethu areiolef; achau Saul, lie y lied awgrymir mai dau frawd oedd Ner a Cis, tra y danghosir yn amlwg yn y Beibl, mai mab Abiel oedd Ner, mai mab Ner oedd Cis, ac mai mab Cis oedd Saul. Ceir hefyd hanes croesawiad Saul a'i langc yn nby Samuel: y mae'r dar- luniad a roddir o'r tri yn cyd-dynu (fel cwn) wrth yr un ysgwyddog, yn lled awgrymiadol, ond yn hollol ddiawdur- dod. Peth arall a awgrymir, ydyw, i ryw ddiwygiadau anhygoel gymeryd lie yn mywyd Saul y pryd hwnw. Ychydig yn mlaen, ceir hanes am Saul gartref yn adrodd hanes ei daith-ei ymweliad a Samuel, &c. Ceir hanes Saul yn erlyn yr "Amelaciaid" [Ama- leciaid], lie y dilynir Josephus, ac y nodir iddynt fyned can belled a thir yr Aipht; er na sonir yn y Beibl iddynt fyned o Arabia. Ceir ganddo nodiad ar ddrwg nwydau Saul, a barn meddyg- on ar ei anhwyldeb. Gosodir hanes Dafydd yn ffoi o flaen Saul i anialwch Ziph a Maon, yn llawer rhy bell yn mlaen yn yr hanes. Dyna yr unig fanau lie ceir yr hanes gan B., yn gyf- lawnach na chan M.; gwir y dywed i Saul fyned yn llenor" ar unwaith, a bod ganddo ef a'i langc sicl i'w rhoddi i wr Duw er y dywedir yn y Beibl, mai pedwaredd ran sicl oedd ganddynt; ond, ni ddylid rhoddi rhyw lawer o bwys ar "gyflawn"-der o bethau fel yna. Yn awr, cymmerir golwg gyffelyb dros ysgrif M., a nodir yn unig gyn- hwysiad yr hyn a geir ganddo ef, yn wahanol neu yn helaethach na'r hyn a geir gan B. Sylwa yn fanylach ar y cyfarwyddiadau buddiol a roddir gan Samuel ar ei ymddiswyddiad-ceir ganddo fwy o fanylion y rhyiel yn erbyn yr Ammoniaid ar gadarnhad eneiniad Saul, a'i sefydliadareiorsedd; lleihad nifer ei filwyr, a lliosogiad mil- ".wyr y Philistiaid. (Gadewir araith Samuel, a'r ddwy flynedd heddwch, yn rhy ddisylw gan y ddau.) Ceir gan M. sylwadau manylach ar ymguddiad Ionathan a'i wyr; ymyriad rhyfygus Saul a phethau cysygredig; rhagfy- negiad Samuel am ddiswyddiad Saul; ymddygiad y Philistiaid tuag at ofiaid yr Hebreaid nodiad, digon priodol, ar nodweddiad cyffredinol Ionathan; gor- chymyn ffoi Saul i'r bobl ymattal heb fwyta, o herwydd yr hyn y bu agos i fywyd Ionathan gael ei gym- meryd ymaith, &c. Sylwa M. yn y fan hon, wrth fyned lieihio, fod seiliau cryfion i dybied, mai yr Eplwd a ddyg- wyd i'r gwersyll, ac nid yr Arch, fel y dywedir yn y cyfieithiad cyffredin. Gwedi hyna, ceir sylwadau helaethach gan M., ar ymddygiad Saul yn codi allor i Dduw, yn parhau i erlyn y Phi- listiaid, &c. Yna, ceir ganddo ychydig grybwylliadau (nid am achau, ond) am deulu Saul, a sylw ar nodweddiad Abner,—ewythr Saul o frawd ei dad, a phenllywydd ei fyddin ef. Ceir hefyd gan M., pan yn tryddwyn Dafydd gyntaf i sylw, nodiad ar ei ymddang- osiad, ac ar ei nodweddiad cyffredinol; ac ychwanegir gair ar. hwyrfrydig- rwydd Samuel i'w eneinio, er mai hyny oedd yr hyn a orchymynwyd iddo gan Dduw. Sylwa hefyd yn helaethach ar ddychweliad Dafydd, o lys Saul, i dy ei dad ei ymweliad gwed'yn a'i frodyr; y dieithrwch a amlygai Saul, o ber- thynas iddo, yn nyffryn Elah. Ys- grifenodd yn helaetbach ar erlyniad y Philistiaid gan Saul gwedi iddynt golli eu cawr ar adduced Saul i beidio lladd Dafydd ar y nodweddiad brad- wrus a amlygid gan Saul; ac ar waith Dafydd, er hyny, yn gorchfygu y Phi- listiaid ar ei ran ef. Ceir ganddo hefyd sylwadau helaethach ar Saul a'i weision yn prophwydo (y fath bro- phwydo !) ger bron Samuel; ar Saul yn bwgwth lladd Ionathan o achos Dafydd; ar lonathan a Dafydd yn ymwahanu; ar Dafydd, ac un o offeir- iaid Nob, yn ffoi o flaen Saul; ar y Philistiaid yn aflonyddu ar Saul, pan y bwrigdredtf ertyn Dafydd; ar farwol- .u\Í fy nghyfanscl; ar Saul pan yn cymeryd chiai, °nd drwy b^vth Dafydd, acyn rhoddi wedi fy adferyd i'm g « j J ci 1 t yn dyfod yn ieuanc o,fywyd ef; ar Saul yn och, D4 ac yn bendithio Da- jdd yn cilio oddiwrth Saul am y tro diweddaf, ac yn myned i Gath; ar ymgynghoriad Saul a'r DdewinesoEndor; a gesyd farwnad farddonol a theimladwy Dafydd ar ol Saul a Ionathan, ar derfyn ei ysgrif. Ar y diwedd, ceir ganddo ychydig nodiadau attodiadol, yn y rhai y sylwa, —Nad ydyw tegwch corphorol yn sicr- hau bywyd dedwydd fod amgylch- iadau bywyd yn egluro tymherau a. thueddiadau dynion; y goddefir i ddyn- ion fyned ymhell yn eu ffyrdd eu hun- ain, er mwyn eu dwyn i sylwi ar ffol- ineb eu hymddygiadau fod pwys mawr mewn cydymffurfio a chyfar- wyddiadau dwyfol a bod galar a difrifoldeb marwolaetb yn peri i ddyn- ion anghofio beiau eu gilydd, &c. Gwedi i'r darllenydd sylwi ar y di- fyniadau blaenorol, a meRur a, phwyso gvMhaniaethcm y ddwy ysgrif, bydd ganddo fantais i farnu pa un o'r ddwy ydyw y gyflawnaf, ac i ba raddau y bu i'r naill a'r llall o honynt gadw at brif linell y testun. Lied brin a fa y ddau yn hanes dygiad Dafydd i sylw cy- hoeddus ar y cyntaf; pan y dewiswyd ef yn gludydd arfau, ac y pennodwyd ef yn un o brif swyddogion y fyddin. A buasai yn dda cael desgrifiadau cyf- lawnach o'r gwahanol olygfeydd, y bryniau, y mynyddoedd, yr afonydd a'r ainaldiroedd, dros y rhai y gwibiai y gwahanol bleidiauyn eu hymgyrchoedd. —

EISTEDDFOD FFYNON TAP.

LLOFRUDDIAETH MEWNI GLOFA.I

GWASANAETH CREFYDDOL Y PABYDD.

YMWELIAD A LLUNDAIN.