Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

21 articles on this Page

CYFARFOD MOUNTAIN ASH.

News
Cite
Share

CYFARFOD MOUNTAIN ASH. YN ol penderfyniad cjfarfod mawr Llanwyno ddydd Nawrth wythnos i'r diweddaf, cynaliwyd cyfarfod eyffred- inol o gynrychiolwyr yn Mountain Ash ddydd Mawrth diweddaf. Er mwyn cael gweled a chlywed drosom ein hunain, aethom fel cy- nrychiolydd y wasg Gymreig tua'r cyfarfod, ond erbyn myned yno, yr oeddid eisoes wedi penderfynu nad oedd cynrycliiolwyr y Wasg i gael eu derbyn, ond y ceid y penderfyniadau ar ddiwedd y dydd. Nid oedd genym ond boddloni i'r drefn, a myned gyda'n busnes. Dechreuwyd yn fuan wedi haner awr wedi deg, trwy ethol Mr. John Jenkins, Llanfabon, yn llywydd, a Mri. Samuel Davies, Aberdar, a Henry James, Cwm Rhondda, yn ysgrifenyddion. Yr oedd oddeutu cant o gynrychiolwyr yn bre- senol, yn cynrychioli yn agos i 50,000 o lowyr perthynol i'r gweithfeydd sydd yn gweithio a'r rhai sydd ar strike. Nid oedd cynrychiolwyr glowyr y oclt-out yn bresenol. Parhaodd y cyfarfod hyd yn agos i bump o'r gloch, pryd y cawsom mai y penderfyniadau oeddynt, Fod y cyfarfod yn benderfynol o ddal at y cynygiad a wnaed gan y gweithwyr i'r meistri yn Rhagfyr diweddaf, sef eu bod i ap- pwyntio bwrdd ymgymodol, neu daflu .yr annealldwriaeth i gyflafareddiad. I hyn y cytunwyd gyda mwyafrif mawr o'r rhai ar strike a'r rhai sydd yn gweithio yn y glofeydd nad .ydynt yn perthyn i Undeb y meistri. Yr oedd Rector parchus Merthyr wedi dyfod drosodd, ac wedi ymddy- ddan a Mri. Connick, Abraham, a Williams, penderfynwyd ar fod i'r cynygiad canlynol o'i eiddo i gael ei roddi i'r cyfarfod:—" Fod y gweithwyr yn foddlawn myned i mewn ar y 10 y cant gostyngiad am dri mis, ar yr amod fod i'r meistri gymeryd o dan cu hystyriaeth ddifrifolaf y pwnc o gyflafareddiad, gyda'r amcan o'i ddwyn i weithrediad yn Neheudir Cymry a swydd Fynwy, ac felly atal strikes a loch-outs yn y dyfodol." Ni chytunodd y cyfarfod i hyn, ond diolchwyd yn wresog i'r Rector am a wnaeth yn y mater. Wedi hyny penderfynwyd ar fod i ysgrifenyddion y cyfarfod anfon y pen- derfyniadau i Mr. Dalziel; ac os byddai y meistri yn dymuno cyfarfod a. chy- nrychiolwyr oddiwrth y gweithwyr, am i Mr. Dalziel wneud hyny yn hysbys, ac y byddai i bob dosbarth apwyntio cynrychiolydd i'r cyfryw gyfarfo J. Gwrthodwyd y cynygiad fod i bwyllgor gael ei apwyntio i wylio symudiadau, ac i alw eyfarfodydd, os gwelid hyny yn angenrheidiol. Nid oes amheuaeth na theimlir cryn siomedigaeth trwy yr holl wlad at y penderfyniadau uchod o eiddo y cyf- arfod, yn gymaint a bod dysgwyliad cyfiredinol wedi cael ei godi fod rhyw- beth ar gael ei wneud a dueddai i ddwyn y pleidiau at eu gilydd. Bell- ach, y mae yn ddealladwy nad ydys i ddychwelyd at waitli ar y gostyngiad o 10 y cant, ond fel canlyniad cyflafar- eddiad, ac nad oes un eyfarfod i'w alw mwyach i ystyried y pwnc cyn y bydd i hyny gymeryd 11e. Y mae yn wybyddus fod cyfarfod i'w gynal gan y meistri ddydd Gwener nesaf, ond ni welodd y cyfarfod yn oreu i apwyntio neb i fyned i'w cyfar- fod, a thrwy hyny y mae yr anneall- dwriaeth yn edrych mor dywyll ag erioed. Nid oes amheuaeth, debygid, nad y cyfarfod hwn oedd yn y sefyllfa oreu i farnu, onide y mae yn sicr o fod" wedi penderfynu yn groes i feddyliau llaweroedd o'u cefnogwyr goreu ac nid oes genym ond gobeithio na welant eu camsyniad yn y dyfodol. Yr ydym yn ei ddweyd ar awdurdod Undebwr goleubwyll, nad oes amheu- aeth na fuasai y strike ar ben er's amser oni buasai i'r meistri gloi allan y rhan hwnw o'u gweithwyr oedd yn foddlawn myned i mewn ar y gostyng- iad ond i'r weithred hono, yr hon a fwriadwyd i ddwyn pethau i derfyniad, fod yn foddion i hwyhau y strike, ac i greu cydymdeimlad cyffredinol trwy y wlad at y rhai oedd mewn cyfyngder.

YR WYTHNOS.

MENYW WEDI EI CHICIO I FARWOLAETH.

MARWOLAETHAU TRWY SUNSTROKE.

+ TERFYNIAD Y STBIKJE YN NGLOFA…

4 - TREDEGAR, MARWOLAETH MR…

MENYW YN CAEL EI CHYHUDDO…

RYMNI, HUNAN-LADDIAD.

—4. MARCHNAD HAIARN- CLEVE-LAND.

♦-TLODION Y LOCK-OUT.

■+---DARGANFYDDIAD IIYNOD…

' HUNANLADDIAD DYCHRYNLLYD…

TYSTEB I LLAWDDEN.

AMAETHYDDIAETH, Y TYWYDD A'R…

HELYNT FFESTINIOG.

BWRDD IECHYD ABERDAR.

CYNRYOHIOLAETH SIR FRY CHEINIOG.

I COLLI BYWYDAU ivIEWN I ^AWYREN.

iCvVM IUKJNDDA.

----------,.-.------SIRBOWY…

TASG I'R BEIRDD.