Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

MR. GLADSTONE, Y PAB, A THEYRNGARWCH…

News
Cite
Share

MR. GLADSTONE, Y PAB, A THEYRNGARWCH GWLADOL. DIAU fod Mr. GLADSTONE wedi gosod trigolion y wlad hon o dan rwymau mawr i'w gydnabod yn ddiolchgar am y gwasanaeth pwysig y mae wedi ei wneucl, trwy osod ger bron y byd egwyddorion y Babaeth, yn en gwrth- rlarawiadhanfodol i deyrrsgarwcb, a holl fuddiant cymdeithasol trigolion pob gwlad. Ychydig o lyfrau sydd wedi cyrhaedd y fath boblogrwydd mewn ychydig o wythnosau a thraethawd cyntaf Mr. GLADSTONE cyn diwedd y flwyddyn ddiweddaf ar y Valtican Decrees, yr hwn a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan GWEIRYDD AP RHYS. Cyrhaeddodd y traethawd, yn yr iaith Saesonaeg, mewn ychydig o wythnosau, yn ei werthiant, i dros gan' mil o gopiau. Achlysurodd hwn gynhyrfiant mawr, nid yn unig yn y wlad hoa, ond hefyd trwy holl Ewrop ac America. Syrthiodd fel taranfollt ar fyddin y Pabyddion trwy'r byd. Gwnaeth eu hysgrifenwyr a'u swyddogion blaenaf hwy bob egni i rwystro rhwygiadau, a chanlyniadau niweidiol ereill, i Eglwys Rufain, trwy effeithiau traethaw'd Mr. GLADSTONE. Cymerasant amser i'w ateb. Cyhoeddasant wahanol atebion, y rbai oeddynt yn gwrthddweyd eu gilydd yn ddirfawr. Ond gan mai y Pab ei hun yn unig, yn bersonol, a hona hawl i anffaeledigrwydd, nis gall yr esgobion, neu yr ysgrifenwyr, yn ei fyddin ef, ddysgwyl i neb ymddiried yn eu haeriadau ffaeledig hwy. Y maent, fel marwolion eraill, yn agored i ymchwiliadau beirniaid galluog a dysgedig fel IVIR. GLADSTONE. Yn Diwedd y mis diweddaf cyhoeddodd ateb i amddiffynwyr ffaeledig, lluosog, y Pab anffaeledig! Oyrhaeddodd y nifer a werthwyd o'r ail draetbawd hwn o eiddo Mr. GLADSTONE uaw mil cyn diwedd dydd cyntaf ei gyhoeddiad. Y mae ymresymiadau y ddau draeth- awd yn anwrthwynebol. Y mae yn fater o'r pwys mwyaf i weitbwyr Cymru a Lloegr, a gweith- wyr yr boll fyd, i ddeall ymresymiad Mr. GLADSTONE yn y traethodau hyn. Nid ei amcan ef yw gwrthwynebu crefydd y Pab, fel crefydd, ar wahan oddiwrth egwyddorion gwladwriaeth- ol, ond profi fod deddfau eglwysig y Pab, yn enwedig er pan y eyhoeddodd 1. efe ei hun yn anffaeledig yn y flwydd- yn 1870, yn hanfodol ddinystriol i heddwch gwlad wriaethol, i effeithiol- rwydd angenrheidiol gorsedd gwlad, i ffyddlondeb deiliaid i'r orsedd, i ym- ddiriedaeth deiliaid yn eu gilydd, ac i ryddid a holl freiutiau gwladol trig- olion unrhyw wlad. Dengys hefyd yn eglur mai canlyniad anocheladwy rhoddiant deddfau y Pab mewn gweitbrediad, fyddai erledigaeth o'r fath waethaf ar bob dyn na fyddai yn barod i aberthu ei synwyr, ei reswm, ei gydwybod bersonol, deuluol, gref- yddol, a gwladol, yn nghyd a'i boll feddianau, i'r Pab, fel caetliwas per- ffaith o dan lywodraeth yr estron Rhufeinig hwn. Anhawdd pender- fynu pa un ai impudence neu wall- gofrwydd sydd yn neillduoli honiadau y Pab fwyaf, yn y fath oes a hon. A chan fod impudence a gwallgofrwydd yn medru llwyddo i feddianu nerth mawr yn ein byd cythryblus ni, ein dyledswydd yw bod a'n llygaid yn agored i weled camrau y fath bethau i sefyllfaoedd o ddylanwad, ac i ddefn- yddio pob moddion i'w cloi allan o gymdeithas, neu dynu eu danedd, neu lifio eu cyrn, neu rwygo allan eu colynau gwenwynig, rhag i'r oesoedd tywyll, barbaraidd, ac erledigaethus ordoi ein gwlad eto. Dywed Mr. GLADSTONE iod Fab- yddiaeth yn yloeshon "wedl adloYWl, ac mewn rhwysg yn ail ddangos pob, offeryn rhydlyd yr hoff dybid" ei bod wedi ei roddi o'i llaw am byth. Dy- wed mai hynodrwydd, hyd yn nod duwinyddiaeth Pabyddiaeth, yw, ei bod yn ymwthio i lywodraeth dy- mhorol, nes y bo yn angenrheidiol gwneucl ymchwiliad gwleidyddol i'w hegwyddorion, yn anad un grefydd arall. Dywed fod crediniaeth gy- ffredinol fod y Pab yn droseddwr ar dir a berthyna i'r awdurdod qwladol; a'i fod yn honi hawl i benderfynu pynciau perthynol i'r cylch gwladol. Dengys fod j Pab yn melldithio y rhaia bleidiant ryddid y wasg, er ei fod ef a'i ganlynwyr yn defnyddio y rhyddid hwn fel offeryn i wthio eu crefydd felldigedig ar y byd. Mell- dithia efe ryddid cyclwybod, a rhyddid dynion i addoli y lie a'r modd y mynont. Gwnaeth y Pab hyn mewn cylchlythyr a gylioeddwyd Rhagfyr 8,1 1864. Melldithia y Pab y neb a' ddywed na ddylai efe arfer gorfodaeth mewn cysylltiad a'i grefydd ef Hona hawl i orfodi pawb i fod yn Babyddion. Melldithia efe bawb a ddy vvedant—o,s bydd ei gyfreithiau ef a chyfreithiau gwlad yn wrthwyneb i'w gilydd—mai cyfreithiau y wlad a ddylai drechu. Y mae llawer o Babyddion Germani, ychydig ddyddiau yn ol, wedi dadgan eu penderfyniad i gefnogi cyfreithiau eu gwlad yn erbyn cyfreithiau y Pab. Gan hyny hwy a felldithir ganddo ef. Cltaos bythol a deyrnasai yn mhob gwlad pe caffai efe ei fFordd ei hun. Melldithia efe bob dyn a ddywed nad yw y cyfamod priodasol yn ei natur yn grefyddol, neu yn sacrament Crist- ionogol, pan y mae yn eithaf eglur i bob dyn, heb fod tywyllwch yr Aipht yn ei gylchynu, fod priodas yn ordin- had deuluol er amser Adda, cyn gwawriad Crisrionogaeth- filoedd o flynyddau, a'i bod yn awr yn ordinhad rwymedig mewn canoedd lawer o wledydd paganaidd, lie nad yw Cristiongaeth wedi cyrhaedd. Yn hyn, fel mewn pethau ereill, y mae y Pab yn ymyraeth a phethau sydd yn perthyn i wlad, ac nid i grefydd. Mell- dithia efe bob dyn a ddywed y gall un- rhyw lywodraeth wladol fod yn ei lie wrth sefydlu unrhyw grefydd heblaw y grefydd Babaidd; neu y byddai yn iawn goddef i unrhyw grefydd aral I heblaw yr un Babaidd fodoli mewn unl rhyw wlad. Pe caffai y Pab ei ffordd ni byddai y Toleration Act yn hiv heb gael ei diddymu, a phob rhyddid sydd gan Ymneillduwyr, a phob Pro- testant i addoli Duw yn ol ei gyd- wybod, heb gael ei gymeryd oddiarno. Melldithia efe bob dyn a ddywed y dylai y Pab gefnogi rhyddfrydiaeth a deddfau gwareiddiad yr oes!! Dyma ddeddfau Pabyddiaeth fel y mae y Pab ei hun wedi eu cyhoeddi, ac fel y mae ei ganlynwyr wedi eu derbyn. Dengys Mr. GLADSTONE hyn mewn profion nas gellir eu troi yn ol. Er budd i ddarllenwyr TARIAN Y GwEiTHiwB^el gwleidyddion, (D.Y.), rhoddwn ragor o fieithiau a rhesymau Mr. GLADSTONE ger eu bron.

CENTRAL FUND CWM RHONDDA.

Y WLADFA GYMREIG YN PATAGONIA.

. MARCHNAD Y GWENITH.

ETHOLIAD BWRDD IECHYD ABERDAR—NO.…

;MR. MOODY A SANKEY.

CORFF DYN WEDI EI GAEL AR…

- CYFLAFAREDDIAD YN MAS-NACII…

-----. GORLIFIA"D~~GLOF A…

TWYLLO Y^CYHOEDD,

TREORGL

CWMGARW.

Advertising