Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Y LOCK-OUT.

News
Cite
Share

Y LOCK-OUT. Y mae yn awr naw wythnos er pan y dechreiiodd yr annealldwriaeth poenus rhwng meistri a gweithwyr yn ein cymydogaethau, ac nid yw yn hawdd dysgrifio na dirnad y truenu sydd yn .ein plith mown canlyniad. Y miloedd teuluoedd oedd yn arferol o fyw yn ddedwydd, y maent yn awr fel am ei 'bywyd yn ceisio cadw corff ac enaid wrth ei gilydd, a'r olwg isel a newynllyd sydd arnynt yn wir ofidus. Cawn fod ychydig waith wedi cael ei gario yn mlaen yn Dowlais er dechreu y lock-out, er gorphen archeb fechan oedd mewn Haw; ond yn awr, trwy -fod hono wedi ei chwblhau, dywedir fod y ffwrnesi i gael en chwythu allan. Y MAE cangen Darlaston, swydd Sta- fford, o'r Undeb, wedi penderfynu anfon £ 100 o rodd i'r rhai sydd allan yn Neheudir Cymru. Dywedir y bu- asai y rhodd yn llawer mwy pe bu- asai trysorfeydd y dosbarth yn can- iataa. Cynaliwyd cyfarfod hefyd yn Neuadd Ddirwestol Sheffield nos Fawrth diweddaf, er cymeryd dan ys- tyriaeth sefyllfa breseliol pethau yn Neheudir Cymru. Siaradodd Mr. Pickard yn hyawdl a dylanwadol ar yr Sielyntion, gan gymhara cyfoeth mawr y Crawshays a thylodi mawr rhai o'u hen weithwyr ar yr adeg bresenol. Dywedodd Mr. Bailey, Ilywydd Undeb y Teilwriaid, y byddai iddynt hwy .anfon can punt y mis i'r dyoddefwyr. Y mae un ffwrnes yn cael ei chadw i mewn yn Cyfarthfa o hyd, a nifer o ddynion wrtli ryw orchwyl neu gilydd o gwmpas y gweitliiau, eto y mae yn debyg mai yn nghyfeiriad y gweitliiau liyn y mae y trueni mwyaf. Yn y gymydogaeth hon, nid peth anghyffredin ydyw gweled teulu o dwech neu wyth mewn ty heb un dodrefnyn o'i fewn, ond y tad, y fam, .a'r plant yn ymdyru o gwmpas dyrnaid o dan, a pliob un o honynt yn edrych fel pe wedi lianer newynu. Yr oil oedd gan un o'r teuluoedd hyn ddydd Sul diweddaf oedd torth tair ceiniog rhwng wyth! a gellid yn hawdd meddwl fod yn dda ganddynt weled gwawr dydd Llun er tori gwanc eu cyllaoedd newynllyd. Cyrhaeddodd Mr Montson a'r lleill o'r cynrychiolwyr addaethant a £1000 o Ogledd Lloegt, i Ferthyr dydd Llun diweddaf. Y mae yn debyg y bydd yr arian hyn yn cael eu rbanu, nid yn unig yn mhlith yr undebwyr, ond hefyd yr anundebwyr—lie bynag y mae gwir angen. Cynaliwyd pwyllgor yn y Bute Arms, Aberdar, prydnawn dydd Merch- -er, er dyfod-o hyd i'r lie y mae yr angen fwyaf ac i gyfranu yr arian. Cyrhaeddodd Mr. Fothergill, A.S., i Gaerdydd ddydd Sadwrn diweddaf, a lehafodd ymddiddan maith a Mr. Alex. Dalziel, ysgrifenydd Undeb y Meistri. Y mae y meistri yn ymddangos yn fwy penderfynol nag erioed i barhau y lock-out nes y bydd i nifer fawr o'r dynion amlygu eu boddJonrwydd i fyned i mewn ar y gostyngiad o 10 y 'cant. Y mae nifer mawr o geffylau yn cael eu gwerthu er mwyn arbed y draul o'u cadw.

MR. MACDONALD AR Y CLOAD ALLAN.

WEDI RIIEWI I FARWOLAETH AR…

TORWR BEDDAU

———— GORLIFIADAU YN PENNSYLVANIA.

NEWYN YN ASIA LEIAF.

BODDIAD DAMWEINIOL,

MARWOLAETH DISYMWTH YN MOUNTAIN…

'MARCHNAD Y GLO YN NGHAERDYDD.

AMGYLCIIIAD HYNOD NEWN ANGLADD,

ETHOLIAD BWRDD IECHYD ABERDAR.

ABERDAR.

TREFORIS,

IJr OJN TI xRlJJJJ.

CYHUDDIAD AC AMDDIFFYNIAD.