Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. MASNACH YR HAIARN. Y MAE masnach yr haiarn yn parhau i fyned yn waelach ac arafach. Y mae 100 o weithwyr haiarn perthynol i weithiau Shrubbery, Wolverhampton, allan o eisieu gwaith, ond yr ydys yn bwriadu eadw rhyw nifer o honynt mewn eysylltiad a'r lie nes bydd i'r fasnach adfywio. Y mae rhanau eang o'r gweithiau i gael eu cau ddydd Sadwrn nesaf. Dydd Llun diweddaf, ataliwyd glo- feydd Tursdal Browney Bank, ac y taflwyd allan 1,300 o lowyr. Yr oedd glo y gweithiau hyn yn cael ei ddef- nyddio yn ffwrnesi blast Mri. Bell, yn Cleveland, y rhai a enhuddir am ryw dymor.
. FFRWYDRIAD PYLOR YN MOUNTAIN…
FFRWYDRIAD PYLOR YN MOUNTAIN ASH. BORE dydd Mercher diweddaf, oddeutu haner wedi saith o'r gloch, eymerodd ffrwydriad pylor le yn nhy un William Lane, 2, Napier-street, Mountain Ash. Yr oedd gwr y ty a'r lletywr yn parotoi i fyned at eu gwaith, sef i'r lefel sydd ar dir y Dduallt. Trwy fod eu pylor wedi lleithio, dodasant ef yn y ffwrn yn ochr y tan i sychu ond ar amrant- iad, taniodd- y pylor nes chwythu y ffenestri a'r drysau yn chwilfriw. Ond y gwaethaf o'r hanes ydyw, i Lane ei hun gael ei ladd yn y man, tra y mae cryn annhebygolrwydd am wellhad y lletywr.
. YMFUDIAETH LABRTO AMAETHYDDOL…
YMFUDIAETH LABRTO AMAETHYDDOL I CANADA. MAE dau gant o labrwyr amaethyddol, o gymydogaethau Suffolk a Cambridge wedicychwyn i L'erpwl, ar eu ffordd i Canada, ddydd Mercher diweddaf, a chawn y bydd i fintai arall o 700 eu dilyn ary 14eg o'r mis nesaf. —♦
GWEITHIAU HAIARN GRANGETOWN.
GWEITHIAU HAIARN GRANGE- TOWN. MAE gweithiau haiam Grangetown wedi eu prynu gan gwmni o ddynion ymarferol, y rhai a'u gosodant mewn Hawil weithgarwch ar unwaith, ac a roddant waith i rai canoedd o ddwylaw. Y pwrcaswyr ydynt Mr. John Rowlands, 23, Rood-lane, Llundain; Mr. Charles Lafayette Hunter, Sirhowy House, Tredegar;" a Mr. James Phillips, Tre- degar. Mae Mr. Hunter yn dra ad-1 nabydnus yn y Deheudir, ac nid oes amheuaeth na fydd y gweithiau yn llwyddianus dan ei arolygiaeth.
.' Y FASNACH LO YN AMERICA.
Y FASNACH LO YN AMERICA. BRITHIR conglau ein heolydd gan hys- bysleni agents ymfudol, ac mewn llyth- yrenau breision apeliant at weithwyr haiarn a glowyr Morganwg i ymfudo i'r Amerig o herwydd rhadlonrwydd y cludiad; ac ar adeg derfysglyd fel y bresenol, y mae yn brofedigaeth i ddyn- ZD ion sydd yn feddianol ar ychydig bun- oedd i gymeryd eu camarwain gan y fath hysbysiadau deniadol. Ond rhag i neb feddwl ei bod yn wynfyd yn America, fe allai na fyddai yn anmbriod- ol cyhoeddi brawddeg neu ddwy o lythyr a dderbyniwyd oddiwrth gyfaill o Kingstown, Luzerne County, Penn- < sylvania, dyddiedig Chwefror yr 8fed, 1875. Pyma fel y dywed am y fasnach hon: Mae yn amser blin ar lawer o deu- luoedd yn Hyde Park—rhai yn bump, • chwech, a saith mewn rhifedi, heb un tamaid o fara yn y ty. Nidyw gwaith Continental wedi gweithio ond wyth- nos yfiwyddyn hon.. Mae drifts Belle Vue wedi stopio for good, ac y mae ] mor farwaidd yn mhob man, fel y mae j yn anmhosibl i'r dynion gael gwaith yn un He. Mae gostyngiad cyftredmol o 10 cents y dolar wedi cymeryd lie. Mae Schulkill oil ar strike yn erbyn y gos- tyngiad. Mae holl weithiau Charlie Parish ar strike, ac y maent yn bygwth cymeryd Wilksbarre by storm cyn yr ant i weithio' ar y gostyngiad. Y maent yn gweithio ar y gostyngiad yn Pittston. Gwelais hanes am 38 oldeu- luoedd yn Morris Run wedi gorfod myned at y plwyf am gynorthwy rhag newynu. Yr ydym ni yn gweithio yn Kingstown rywbeth tna haner ein hamser ond y mae yma fygythion am strike gyfiredinol. Nis gwyddom eto pa fodd y try pethau allan." Nid rhyw green horn yn ysgrifenu cyn cael profiad o'r wlad ydyw awdwr y llythyr uchod, ond un wedi cael 12 mlynedd o brofiad o boni. Mae hefyd yn lenor galluogy ac yn_ ddyn j gellir yn hyderus roddi coel i eirwiredd ei hanesion.
STANLEY YN AFFRICA.
STANLEY YN AFFRICA. Y MAT! gohebiaeth faith a dyddorol yn ystod yr wythnos a aeth lieibio wedi ei derbyn oddiwrth Mr. Stanley, neu y Cymro J. Rowlands, yr hwn sydd ar ei daith ymchwiliadol i diriogaethau mwyaf pellenig a dyeithr Affrica. Yr olwg ddiweddaf a gawsom arno oedd yn cychwyn o Zanzibar i dywyllwch Aifftaidd y Cyfandir Affiicanaidd, heb un sicrwydd y celid bytb mwyach ei ganfod. Ond er colli golwg arno wrth gychwyn o Zanzibar, dyma un cen- adwri eto wedi ein cyrhaedd ynddyogel, ac wedi ei chario gan genad ffyddlon ar draws anialwch dilwybr,lle nathrig ond creaduriaid ysglyfaethus, a thros afonydd na enwir ar ddarlunleni y byd. Cafodd Stanley drafferth fawr gyda'i lu negroaid wrth gychwyn, y rhai, wedi derbyn rhan o'a tal, a ymroddas- ant i feddwdod a gloddest, ac a dwyll- asant nifer o gaethion menywaidd i'w canlyn. Modd bynag, cychwynwyd, a hyny heb nemawr golled. Wedi cy- chwyn, tri pheth sydd yn bwysig, sef symud yn gyflym, dyogelu iechyd y cwmni, a chynildeb gyda golwg ar angenrheidiau. Mewn cysylltiad achyf- lymdra teithio, aeth Stanley haner y ffordd i Unyamyemhe yn gynt nag yr aeth neb erioed o'r blaen. Mewn 25 o ddyddiau teithiodd yr holl ffordd o Bagamoyo i Mpupwa, yr hon daith a gymerodd iddo 57 pan ar ei ymchwil- iad am Livingstone, a'r hon a gymerodd i Lieutenant Cameron bedwar mis i'w chyflawni. Y mae yn rhaid y bydd i bob teith- iwr Alfricanaidd gydnabod fod hwn yn ddechreu rhagorol, yn enwedig pan gofir fod y fintai yn lluosog a'r nwydd- auagludayn anarferolo helaeth. Dywed hefyd fod iechyd y dynion gwynion yn rhagorol. Yn nghylch cynildeb gyda'r angenrheidiau, nid oedd Stanley wedi talu ymaith ond tri rholyn o lian allan o'r 72 sydd ganddo i'r daitlt. Y mae Stanley yn eithaf ffyddiog fod ganddo ddigon o angenrheidiau am ddwy flynedd. Y mae yn rhaid nad allai ond penderfyniad di-ildio gyflawni y fath wrhydri teithiol, a hyny yn y fath hin- sawdd. Fel prawf o afiachusrwydd yr hinsawdd, yr ydym yn cael fod dau o gwn y cwmni wedi meirw yn her- wydd poethder gwastadeddau Kinjani. Y mae gwasanaeth rhagorol y cwch a garia Stanley wedi ei broil pan yn croesi afon Kinjani; yn hytrach na'r oediad hirfaith sydd yn arferol o gy- meryd lie wrth groesi yr afonydd, gwnaeth y ewch Lady Alice y gwaith yn fuan, ac a drosglwyddodd y fintai a'r angenrheidiau o lan i lan mewn byr amser. Yr oedd y teithiwr yn Mpwapwa ar y 14eg o Ragfyr diweddaf, yn dysgwyl ail gychwyn y diwrnod eanlynol. Yr oedd yn parotoi arfod a'r llwythau Ugogo, y rhai ydynt bob amser yn bobl anhywaith, ac yn rhywle rhwng Mvumi a Kirurwmo, fel y tybir, y byddai iddo ddechren ar y rhan beryglus o'i daith tua y Victoria Nyanza, trwy wlad anhyshys y Musai a Wakuafi. Y mae dros ddau fis er pan yr ysgrif- enwyd y llythyr hwn, gallwn, o ganlyn- iad, ddychymygu ei fod wedi myned trwy diriogaeth pobl Ugogo, y rhai nad allai ei atal na'i ysbeilio, o herwydd lluosogrwydd ei arfau amddiffynol-
CAIS I FRADLOFRUDDIO Y .BRENIN…
CAIS I FRADLOFRUDDIO Y BRENIN ALFONSO. DYWED telegram Paris lod y breiiin I., uchod wedi cael diangfa gyfyng rhag 9 z, cael ei fradlofruddio ond y mae yr adroddiad yn cael ei wadu mewn tele- gram o Madrid.
FICER OWSTON A'R GAIR " PARCH."
FICER OWSTON A'R GAIR PARCH." Y MAE ficer Owston, yr hwn a wrthod- odd ganiatau i'r gair "parehedig" gael ei dori ar gareg bedd pleutyn gweini- dog Wesleyaidd, wedi cael ei fygwth a gweithrediadau cyfreithiol, ac y mae wedi apelio at esgob Lincoln am gy- nghor. Nid ydyw yr esgob wedi newid dim yn ei farn ond y niae yn cynghori y ficer, rhag taflu ei hun i gostan, i ildio, gan wrthdystio--ac ym- foddloni yn y ffaith ei fod wedi gwneud ei ddyledswydd.
Y FYDDIN BRYDEINIG.
Y FYDDIN BRYDEINIG. YMDDENGYS. oddiwrth bapyr swyddol sydd newydd gael ei gyflwyno i'r seuedd, mai cyfanrif y fyddin ^rydeinig- ydyw 126,000 o wyr, yn erbyn 125,030 y fl. ddiweddaf; ond gan fod llai o 773 o swyddogion a dynion yn angenrheidiol eleni i ffurfio ystorfeydd brigadol, nid ydyw y ywi-r gynydd ond 287 o wyr.
Y LOCK-OUT.
Y LOCK-OUT. MAE helynt y strike a'r loch-out erbyn, hyn, debygid, wedi cyrhaedd ei eithaf- nod, a'r miloedd o'n cwmpas wedi ym- Iwybro yn mlaen mor belled ag y mae yn ddichonadwy iddynt. Feallai mai yn Merthyr y mae y trueni waetliaf. Mae yno yn bresenol yn agos i 2,000 o ddynion yn tori ceryg i'r plwyf, y rhai a gynrychiolant rhyw 8,000 o wyr, gwragedd, a phlant eisioes' ar y plwyf. Mae hyn yn faich rhy drwm i nurhyw blwyf ei gario yn hir, ac y mae lie i ofui y bydd y nifer yn ddwbl hyny cyn pen nemawr o amser., Y rhai hyn ydynt y gweithwyr sydd wedi cael en cloi allan gan eu meistri, ac yn barod i fyned at en gorchwylion mor gynted ag yr agorir iddynt. Mae yn debyg fod yn ein cymydogaethau rhyw 60,000 o'r dos- barth hwn, y rhai nad yw yn bosibl gwrthod cynorthwy plwyfol iddynt. JDywedai Rector Merthyr ar ei bregeth nos Sul diweddaffod canoedd a miloedd o benau tenluoedd, y rhai oeddynt am eu hoes wedi bod yn gweithio o fiaen tanau mawrion, y rhai nad allant sefyll a myned allan i benau y mynyddoedd ar y tywydd presenol i dori ceryg; mai I y rhai hyny o bawb oeddynt yn haeddu cynorthwy. Nid oedd gan y dosbarth hwn ychwaith law yn nygiad y trueni presenol arnynt eu hnnain, a phe gall- esid y dylid cadw y fath ddynion rhag gorfod ceisio am gynorrhwy plwyfol. Boreu dydd Mawrth diweddaf, darfu i oddeutu tri chant o'r dynion sydd wedi cael en cau, allan, ac a gyflogir i dori ceryg gan Warche idwaid P1 wyf'Merthyr, roddi i fyny gweithio, a daethant i lawr o'r Cefn a lleoedd ereill at y tylotdy yn Merthyr. Daethant i lawr yn orymdaith a'u morthwylion ar eu hysgwyddau. Wedi cyrhaedd y tylotdy, yr oedd pwyllgor cynorthwyol yn eis- tedd ar y pryd, dywedasant nad oedd- ynt yn derbyn digon o arian am dori J- ceryg i'w cynal. Galwyd ar chwech o honynt i mewn i osod eu hachwyniad o fiaen y pwyllgor. Yr oedd y rector ar y pryd yn y gadair, yr hwn a ymres- ymodd a hwynt, gan ddangos iddynt y gorwaith oedd gan y Gwarcheid- waid ifyned drwyddo, trwy fod cymaint yn ceisio am gynorthwy ar yr un pryd. Wedi ymddyddan cyfeiilgar, daethant i gyd-ddealltwriaeth a'u gilydd, ac aeth y torwyr ceryg oil yn ol at eu gwaith. MAE rhyw si ar led fod ymgais gan rai o genhadon adnabyddus y meistri er ceisio gan y gweithwyr i alw cyfarfod cyhoeddus, a chymeryd pleidlais tnvy g tugel, er gweled pa faint sydd dros ac yn erbyn myned at waith ar y gos- tyngiad; ond pe gelwid cyfarfod yn Aberdar, ychydig fyddent y gwyddfod- olion, a byddai yn anmhosibl dyfod i un peudertyniad ar y mater.
BLAENLLECHAU A'R STRIKE.
BLAENLLECHAU A'R STRIKE. Y MAE yn dda genym ddeall fod ein i cyfeillion yn Blaenllechau yn ymroddi o ddifrif i wheud yr oil a allanf tnag at gynorthwyo eu rhan hwy o'r rhai sydd yn dyoddef o herwydd yr annealltw> iaeth presenol rhwng llafnr a chyfalaf. Mae amryw yn y gymydogaetli hon mewn gwir angen, ac y mae y pwyllgor. sydd yn gweithredu ar eu jhan yn eguiol yn ceisio cyfiawni y cyfryw, Os teimla rhywun ar ei galon i anfon ychydig gynorthwy i'r cyfeillion yn Blaenllechau, gerbynir y swm lleiaf yn ddiolchgar gan y Trysorydd, Mr. John Morris, 10, Poniypridd-road, Fe-nt- dale, Pontypridd. l
WYTH 0 WEITHFEYDD WEDI DECHREU…
WYTH 0 WEITHFEYDD WEDI DECHREU GWEITHIO. T Dynevor, Dyffryn §r Neath Abbey Comyany, Limited. CYNALIODD, y cwmni uchod gyfarfod dydd Sadwrn diweddaf, pryd y daeth- ant i'r penderfyniad canlynol :—"Fod i'r gweithwyr ddechreu gweithio dydd to J u J Llun ar yr un telerau ag o'r blaen. Derbyniwyd y newydd da uchod gyda liawenydd mawr tua Llansamlet ar Sciwen, ac amryw fanau ereill. Y mae y cwmni dan sylw yn berchenogion wyth o weithiau glo mawrion, ac wedi i'r holl weithiau iicliod sefyll. tailvfyd canoedd o lowyr allan o waith. Felly nid rhyfedd fod yma lawenydd mawr wrth glywed y fath newydd da. Y mae y rhan fwyaf o'r boneddwyr a wnant i fyny y cwmni uchod yn per- thyn i'r blaid Doryaidd, ond eto maent yn esampl i rai meistri sydd yn galw eu hunain yn Rhyddfrydwyr, pa rai sydd yn byw heb fod yn nihell o ardal Llansamlet. Gwnawll gyhoeddi rhai o ystranciau y ffug Ryddfrydwyr hyn os na ddiwygiant heb fod yn hir. Dy- lem wneud sylw neu ddau ar ymddyg- iadau gweithwyr yr ardaloedd hyn yn ystod y stvikc ddiweddaf. Ni fn dim allan o le yn un man, ac ni fu un turn- coat yn afionyddu arnom fel sydd wedi bod mewn llawer lie. Y mae pob un wedi ymddwyn yn deilwng o'r dyn, ac yn y diwedd yn enill buddngoliaeth anrhydeddns. Dyma wers arall eto mai nid trwy ddanfon llythyrau brynt- ion, a thrwy wneuthur triciau direidns y mae enill buddugoliaeth, ond trwy fod yn ddystaw ac ymddwyn yn weddus. ERYR CRYMLUN.
YR UNDEB A'l REOLAU NEWYDDION.
YR UNDEB A'l REOLAU NEWYDDION. FxiODYR.—Wrth ddarllen tudalenau Y DARIAN, wedi dychwelyd o. Man- chester a'r cymydogaethau n°s .r awrtti diweddaf, gwelais ynddo lith" at Un- debwyr y Deheudir," yn galw eu sylw at y cyfnewidiad presenol yn ein rhe '.j, olau, a r priodokleb o ohebu a mi ar y mater, gan fy mod wedi fy ethol yn un i dynu allan y rheolau newvddion. Yr oedd y brawd yn berffaith iawn pan ddywedodd y byddwn yn sicr o fod yn ddiolchgar am alw fy sylw at yr hyn a fernid fod yn angemheidiol fel diwygiadau effeithiol er adfer yr Undeb i'w hen safon, ac yn uweh os yn bosibl." Ond yn anffodus yr oeddwn wedi bod yn gwneud fy rhan o'r gwaith cyn fod fv svlw wedi cael ei alw at nn cyfnewidiad ac y carai neb arall ei wneud; ac felly nid oedd gen-yf ond arfer fy noethineb fy hun, yn ol yr hyn a farnwn y deuai i g\vrdd a sy- niudiadan fy mrodyr yn y Deheudir. Ac er nad wyf yn hollol gydweled a'r brawd Dafydd o barth i gael, dwy Central Fund— un i Gymru ac un arall i Lpegr; eto buaswn yn cario yr j'lUiaUj hi uuauivu ji-t J a. pe buaswn wedi cael yr awgrym mewn pryd. Nid wyf yn bersonol yn gweled. dim ar y ffordd i sefydlu dwy Central Fund, neu ynte mewn geiriau ereill, i arian LIoegr i gael eu cadw yn yr un tan, ac arian Cymru en cadw yn yr un man. Mor bell ag y mae hyny yn myned, nid oes un perygl; ond fod i'r ddwy gael ei llywodraethu gan bwyll- gorau cartrefol ar wahan oddiwrth eu gilydd, ian yna yr wyf yn meddwl tod perygl, a lle i amryfusedd i ddyfod i mewn. Ond dyna, nid dadleu hyn yna yw ein liamcan presenol; a pha beth bynag y mae y Pwyllgor wedi ei osod yn y rheolauj cofier y bydd y cyfan yn dyfod gerbron y cyfrinfaoedd yn mhob dosbarth. A bydd. gan bob cyfrinfa bawl i gynyg unrliyw welliant a farn- ant yu angenrlieidiol i'w dosbarth, a'r dosbarth i'r gynadledd; a mwyafrif y pleid-eisiau yn y gynadledd fydd yn penderfynu y gyfraith. Yr hyn sydd wedi ei osod i lawr gan y pwyllgor ar y mater, ac i ddyfod ger bron y coif yw a ganlyn :Fod y cyf- raniadau i gael eu chwyddo i bedair ceiniog yr wyiiincs, a gwneud i ffwrad a'r levies, oddieithr lnewn achosion neilldaol iawn, a fyddo wedi eu pender- fvnn gan y corph i gyd, ac nid gan y pwyllgor fel o'r blaen. Tair ceiniog i'r Labour Fund, a cheiniog i'r Manage- ment a'r Contingent Fund. Meddwl y o-air contingent yma yw damweinio! neu achlyrarol, niae'n debyg; (Fund yw lion sydd gan rai o'r cymaeithasati celf ereill" yma, at gynorthwy0 celfydd- ydau ereill pan fydcio gwir angen am hyny. Mae hawl gan y pwyllgorau gweithiol i roddi rhyw swm neillduol, o £1 i £25, fel y byddo teilyngdod yr achos yn gofyn, heb osod yr achos o fiaen y corff; ond ni allant roddi dros y swm neillduol heb oscd yr achos o ilaen corfr y cymdeithasau. O'r fund hon y rhoddodd Pwyllgor Cymdeithas Y Teiivvriaid y 2 5 cyntaf at achos presenol Deheudir Cymru, ond ni allent roddi i ni y cant arall heb osod yr achos o fiaen en cymdeithas. Caiff y gynadledd, bid sicr, benderfynu y pri- odoldeb neu yr anmhriodoldeb o'n cym- deithas ni i gael y fund hon mewn cy- sylltiad a hi. Golygir i'r Management, Fund i gwrdd a threuhau y gym- deithas yn llawn,—yn bwyllgor "gweith- iol vn oruehwylwyr. yn ddosbarthiadol, aeyn gyfrinfaol. Bydd yr holl arian yn eiddo cyffredinol y gymdeithas. 1\âl' ceiniog i gael cu dedi mewn Post Office Savings' Bank yn y dosbarth, a'r ceiniog arall i gael ei anfon i'r Try- sorydd drwy yr un ariandy, ac nid mewn P.O. fel o'r blaen. Bydd hyny yn arbed traul y pustage. Pob dos- barth i benderfynn eu hachosiou Ueiaf- rif, fel o'r blaen, ac i dalu yr unrhyw allan o'r dry sorfa gyffredmol. Yr eiddoch, &c., Gower Road. W.ABRAHAM.