Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
----YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. NIWL A CHOLLIAD BYWYDAU YN SCOTLAND. GOECHUDDIODD nÍwl tew dros dde- orllewinbarth Scotland ddydd Llun diweddaf, mewn canlyniad i'r hyn y collwyd rhaibywydau, Syrtbiodd dau ddyn, wrth neidio allan o'r gerbydres yn Bridge of Weir, Renfrew, dros y viaduct. Lladdwyd un yn y man, a niweidiwyd y Hall yn fawr. Yn Kirk- cudbright, pan yr oedd un o swydd- ogion linell y reilffordd yn croesi o'r naill ochr i'r llall, tarawyd ef i lawr ac a laddwyd. —
PAPYR DYDDIOL NEWYDD.
PAPYR DYDDIOL NEWYDD. Y MAE yn cael ei bysbysu yn rhai. o'n newyddiaduron fod papyr dyddiol newydd, o'r un natur a'r Times i gael ei gyhoeddi yn fuan. Dywedir mai Y BLANED fydd ei enw.
. GOSTYNGIAD PRIS ETO YN FOREST…
GOSTYNGIAD PRIS ETO YN FOREST OF DEAN. Y MAE yn ymddangos fod gostyngiad eto i gymeryd lie yn nghyflogau y glowyr yn Forest of Dean. Y mae rhybydd wedi ei roddi yn nglofa Cwmni y Foxes Bridge y bydd i'r holl weithwyr fod yn rbydd ar y 12fed cyfisol.
.-4-CYNADLEDD DADGYSYLLTIOL…
-4- CYNADLEDD DADGYSYLLTIOL YN BIRMINGHAM. YN nghynadledd y Rhyddfrydwyr, a gynaliwyd yn Birmingham ddydd Mawrth diweddaf, pasiwyd penderfyn- iad unfrydol fod y gynadledd yn cefn- -ogi ymgeiswyr Seneddol a fyddont yn bleidiol i ddadgysylltiad yr eglwys. +
CAU TAFARNDAI YN YR IWERDDON…
CAU TAFARNDAI YN YR IWERDDON AR Y SABBOTH. Y MATC Mr. Disraeli wedi cydsynio der- byn dirprwyaeth o aelodau Gwyddelig, ynadon, ac offeiriaid, yn Ebrill, mewn eysylltiad a chau y tafarndai yn yr Iwerddon ar y Sabboth.
—♦: EISTEDDFOD GENEDLAETHOL…
— ♦ EISTEDDFOD GENEDLAETHOL Y GOGLEDD. CYNELIR yr Eisteddfod hon eleni yn Wrexham. Oddiwrth yr addewidion, credir y bydd yn un o'r Eisteddfodau ardderchocaf a gynaliwyd erioed. Y mae y gwobrwyon eisoes yn cyrhaedd rhwng wyth a naw cant o buiiau, a chystadleuir am danynt mewn Bardd- oniaeth, Cerddoriaeth, Rhyddiaeth, Celfyddydwaith, Gwyddoniaeth, &c. Y mae boneddigion y dref a'r ardal wedi dyfod allan yn anrhydeddus mewn tanysgrifiadau er sicrhau trysorfa o £2,000 i gyfarfod a'r trenliau.- Bydd arddangosfa o bob cywreinwaith yn nglyn a'r Eisteddibd, a cliyngherddau pob hwyrddydd yn ystod yr wythnos hono.
■:-+' DARGANFYDDIAD GLO YN…
-+ DARGANFYDDIAD GLO YN NGHWM RHONDDA. DIWEDD yr wythnos ddiweddaf, darfu i Mri. Thomas a Griffiths, perchenog- ion glofeydd y Gelli a'r Llwyncelyn, daraw ar wythien ragorol, sef dwy a naw modfedd, yn eu pwll newydd ar fferm Ty'n y Bedw. Er mai wrth yr enw uchod y mae'r wythien yn cael ei hadwaen fynychaf, eto y mae, yn y rban fwyaf o leoedd, yn dewach, ac yn y lie hwn yn bedair troedfedd a dwy fodfech o drwch. Deallwn hefyd fod y cwmni hwn wedi cymeryd rhyw 900 o erwau o dir, ac y bydd y glo o dan yr oilyn gyrhaeddadwy o'r pyllau hyn. Yr oedd cryn lawenydd yn cael ei arddangos yn nghymydogaeth y pyllau hyn dydd Llun yn herwydd y dargan- fyddiad.
PATAGONIA.•
PATAGONIA. YR ydym yn deall fod mudiad ar droed yn America i gael Hong eto i Gadben Rogers i deitbio o Efrog Newydd i'r Wladfa. Y mae tanysgrifiadau helaeth wedi cael eu gwneud er ys mis at yr amcan.
BRADLOFRUDDIAETH YN RHUFAIN.…
BRADLOFRUDDIAETH YN RHUFAIN. CAFODD golygydd newyddiadur pobl- ogaidd yn Rhufain, o'r enw Signor Raffaelle, ei fradlofruddio yu Rhufain ddydd Sadwrn diweddaf, a hyny, fel y mae lie i ofni, yn herwydd ei opiniyn- au politicaidd. Y mae yn ymddangos mai saer yw y llofrudd, ac yn anad- nabyddus i Raffaelle. Y mae yn dda genym ddeall ei fod wedi ei garcharu, a'r heddgeidwaid wrth y gorchwyl o geisio dyfod o hyd i gynlluniwr y weithred.
IDAMWAIN CYFFROUS YN Y .BLAENAU.
DAMWAIN CYFFROUS YN Y BLAENAU. CYMEROED damwain o natur alaethus le yn y Blaenau boreu dydd Mawrth diweddaf, trwy yr hon y collodd dyn o'r enw George Neil ei fywyd. Y mae yn ymddangos fod y trancedig, yn nglyn ag ereill, wrth y gorchwyl o packio cylinder peiriant a weithiai mewn cysylltiad ag un o'r ffwrnesi blast, ac er cyflawni y gwaith yr oedd 'yn angenrheidiol symud clawr y cylin- der, yr hwn a bwysai haner tynell, rhyw gymaint oddiar y llawr. Wedi i'r gwaith gael ei gyflawni, aethpwyd yn ngbyda rhoddi y clawr yn ei Ie. Pan yr oedd Neil wrth y gorchwyl o edrych i mewn i'r cylinder, torodd y rhaff wrth yr hon y crogai y clawr, a syrthiodd ar ei war, gan bron wahanu ei ben oddiwrth ei gorph, a'i ladd yn y man. Yr oedd y trancedig yn briod, ond heb ddim plant.
MOODY A SANKEY YN LIVERPOOL.
MOODY A SANKEY YN LIVERPOOL. DYDD Sul diweddaf, dechreuodd y ddau ddiwygiwr hyn ar eu cenadaeth yn Liverpool. Yr ydys wedi parotoi adeilad pwrpasol iddynt yno. Y cyf- arfod cyntaf a gynaliwyd oedd cyfar- fod i'r bobl hyny sydd yn gweithio gyda chrefydd, ac yr oedd yn agos i bum mil yn bresenol. Yn y prydnawn a'r hwyr, yr oedd y cyfarfodydd yn gyhoeddus, ac er fod yr adeilad yn abl cynwys 8,000 yn gysurus, eto yr oedd yn orlawn, a miloedd yn gorfod myned ymaith o eisien lie.
YR UNDEB YN FOREST OF DEAN.
YR UNDEB YN FOREST OF DEAN. CYNALIWYD cyfarfod gan gynrychiol- wyr undebol yn Coleford dydd Sadwrn diweddaf, pryd y cymerwyd dan ystyr- iaeth rai pynciau pwysig. Wrth gael ar ddeall nad oedd cynorthwy i'w ddys- gwyl o'r Undeb yn y cyfwng presenol, penderfynwyd ymadael o'r Amalga- mated Association ond nid yw yn debyg fod ysbryd undebol wedi lleihau yno, ond eu bod yn barod i ail-uno a'r undeb pan y mabwysiadwyd y gwell- iantau hyny sydd yn angenrheidiol ereu cael i ateb y dyben mewn golwg wrth gyfranu iddo.
MARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. ODDIWRTH yr adroddiadau amaethydd- ol am yr wythnos, cawn fod y rhagol- ygon am y dyfodol yn rhagorol. Er mai marwaidd oedd y gofyn am wenith, nid oedd y gostyngiad dros Is. Y farn gyffredin yw y dawcyflenwad helaeth i mewn yn fhan, ac y rhaid i ostyngiad pellach gymeryd lie, a thrwy hyny mae y prynwyr yu araf a gochelgar. Dywed yr adroddiadau fod ar eu ffordd i'r wlad hon rhyw 1753,950 ochwarteri, yr hyn sydd yn llawer mwy na'r hyn oedd ar eu ffordd yprydyma- yllynedd.
Y SENEDD. t -
Y SENEDD. AGORIAD SENEDD-DYMOR 1875. DYMA ail Senedd-dymor y Weinydd- iaeth Doriaidd wedi dechrcu er pryd- nawn dydd Gwener, yr wythnos ddiw- eddaf. Y peth cyntaf a gvflwynwn i sylw darllenwyr TARlAN Y GWEITIHWR ywyr
ARAETH O'R ORSEDD.
ARAETH O'R ORSEDD. Wedi rhoddi yr esgusawd o afiechyd mab em Grasusaf Frenines fel y rheswm am ei habsenoldeb i agor y Senedd yn bersonol, darllenodd yr Arglwydd Ganghellydd Araeth ei Mawrhydi fel y canlyn Fy Arglwyddi a Boneddigion,Gyda boddhad mawr yrwyfyn eich cyfarfod eto, gan awyddu am gyfarwyddyd a chynorthwy fy Senedd. Yr wyf yn parhau i dderbyn y sicr- wydd o gyfeillgarwch oddiwrth yr holl Alluoedd Tramor. Y mae heddwch Ewrop wedi parhau, a gobeithiaf y peru yn ddidor. Ei gadw a'i gydfwynhau fydd fy mhrif amcan bob amser. Y mae y gynadledd a gynaliwyd yn Brussels ar gyfreithiau ac arterion rhyfel wedi gorphen ei heisteddiad. Y mae fy Llywodraeth wedi ystyriod yn ofalus adroddiad ei gweithrediadau; ond wrth cadw mewn golwg. ar un Haw bwysigrwydd yr egwyddorion cynyg- edig, ac ar y llaw arall yr amrywiol opiniynau a ddatganwyd, yn nghyda'r annhebygolrwydd iddynt gael eu cyd- uno, ni thybiais yn iawn i gydolygu a'r cynygiadau a wnaed am ystyriaeth pellaeh ar y pwnc. Caiff y gohebiaeth- au a basiodd eu rhoddi o'ch blaenau. Y mae Llywodraeth yr Y sbaen; yr hon a lywyddid gan y Maeslywydd Serrano, wedi ei difodoli, a'r Tywysog o Asturias wedi ei alw i'r orsedd dan y teitl Brenin Alfonso XII. Y mae y pwnc o gydnabod yn ffurfiol, mewn un- deb a galluoedd ereill, y deyrnolaeth newydd-ffurfiedig, yn bresenol dan sylw fy Llywodraeth, ac ni ohirir ei phender- fyniad ond am ychydig amser. Fy ngobaith difrifolaf i yw y bydd i hedd- wch mewnol gael ei adferu yn fuan i'r wlad fawr ond anffodus hon. Nid yw ymdrechion fy llynges a'm consular servants yn rhoddiad i law a difodiad caethfasnachaeth Dwyrein- barth Affrica wedi llacio, ac yr wyf yn gobeithio yn hyderus y dygant oddi amgylch ddifodiant llwyr y fasnach sydd mor wrthwynebol i ddynoliaeth, ac mor niweidiol i fasnach gyfyeithlawn. Y mae yr anghydweiediad a gyfbd- odd rhwng China a Japan, yr hwn un- waith a fu yn debyg o achosi rhyfel rhwng y ddwy wlad, wedi ei ddwyn i derfyniad boddhaol: yr wyf wedi deall, gyda boddhad, fod gwasanaeth fy Ngweinidog yn Pekin wedi bod, i raddau mawr, yn offerynol i ddwyn hyn oddi amgylch. Bu y flwyddyn ddiweddaf yn un o lwyddiant cyffredinol drwy fy Amher- odraeth Drefedigaethol. Ar y Gold Coast y mae y gorchwyl o sefydlu Llywodraeth Wladol wedi dyfod yn mlaen yn raddol; y mae heddwch wedi parhau, ac yr wyf wedi cael cyd- syniad y llwythau amddiirynedig i ddi- leu caethwasanaeth. 0 hyn allan, hyderaf y bydd i ryddid fodoli yno fel yn mhob rhan arall o fy Amerodraeth Drefedigaethol. Yn Natal, cefais fy hun dan yr ang- enrheidrwydd o adolygu y ddedfryd a gyhoeddwyd ar benaeth brodorol, hefyd sefyllfa y llwythau, a'u perthynas a'r ymsefydlwyr Ewropaidd ac a fy Llywodraeth. Nid wyf yn anmheu na chaf eich cydweithrediad mewn unrhyw fesurau, ac y byddaf dan yr angenrheidrwydd o fabwysiadu er sierhau eyfundrefn ddynol a doeth o weinyddiaeth frodorol yn y rhan hono o Affrica Ddeheuol. Bydd i bapyrau gael eu gosod o'ch blaenan ar y gwahanol faterion hyn. Y mae Brenin a Phenaethiaid Fiji wedi gwneud cynygiad newydd o'u hynysoedd, ar amodau dilyietliair, a bernais yn briodol dderbyn y rhoddiad i fyny o'r diriogaeth, yr hon, yn anni- bynol ar ei hadnoddau naturiol helaeth, a hyffordda fanteision morwriaethol neiilduol i'm llynges yn y Mor TawtJ. Y mae cynauaf toreithiog wedi ad- feru llwyddiant i dalaethiau fy Amer- odraeth Ddwyreiniol, a'rrhai, y flwydd- yn ddiweddaf, yr ymwelodd y newyn. Trwy fendith Rhaglmiiaeth, bu fy Llywodraeth Indiaidd yn allaog i rag- fiaenu unrhyw golliad bywydau, yrhyn a ofnais o herwydd eangder y drygfyd. Foneddigion Ty y Cy fire din,—Yr wyf wedi cyfarwyddo ar fod i amcan- gyfrifon y flwyddyn gael eu parotoi a'u cyflwyno i chwi yn ddioedi. Fy Arglwyddi a Boneddigion,Y 11 In mae sefyllfa gylidol y deyrnas yn foddhol. Y mae masnaeh y wlad y flwyddyn ddiweddaf, ryw fodd, yu llai na'r flwyddyn flaeiiorol, ond y mae llwyddiant cyffredinol y bobl, yn cael ei gynorthwyo fely cafodd gan gynauaf rhagorol, yn gystal a ehan y lleiliad mawr a wnawd yn ddhveddar yn y trethi, wedi arwain i gynyud cyson defnyddiad angenrheidiau bywyd, a'r nwyddau hyny sydd yn cyfranu i'r gyliidaeth. Y cyfreithian amrywiol o natur eithriadol neu dymorol, er cadwraeth heddwch yn yr Iwerddon, a ddygir dan eich sylw, i'r dyben o benderfynu a ellir hebgor rhai o honynt. Amryw fesurau a ohiriwyd o angen- rheidrwydd yn niwedd y Senedd-dymor diweddaf, a ddygir eto yn mInen. Yn mysg y mwyaf pwysig mae y rhai hyny er hyrwyddo Hawldrosiad Tir, a chwbl- hau adgyfansoddiad y Prawflysoedd. Hefyd, gosodir ysgrif o'ch blaen er hwylysu y gwelliantau angenrheidiol yn mhreswylfeydd y dosbeirth gweitli- gar mewn trefydd mawrion, er cyd- ystyriaeth a diwygiad deddfau iechyd, a rliwystro llygriad afonydd. Y mae mesur wedi ei barotoi er diwygio cyfreithiau Cymdeithasau Cyf- eillgar. Ei amcan fydd cynorthwyo, heb ymyraeth ddiangellrhaid a, ym- drechion canmoladwyfy neiliaid, i ddar- bod drostynt eu hunain gyferbyn a rhai o drallodion bywyd. Gosodir o'ch blaenau ysgrif er diwygio Cyfreithiau Llongwriaeth Fasnachol. Tynir eich sylw at ddeddfau er cael gwell amddiffyniad i'm deiliaid rhag creulondeb personol, ac er darbod yn fwy effeithiol ar gyfer profi troseddau drwy sefydlu y swydd o Erlynydd Oy- hoeddus. Er nad yw adroddiad y Ddirprwy- aeth a apwyntiwyd geny'f i ymholi i'r gyfraitli yn nghylch troseddau cysyllt- iedig a masnaeh, wedi cael ei wneudhyd yii hyn, "yr wyf yn gobeithio y bydd i unrhyw ddeddfau a welir yn angen- rheidiol yn y cyfeiriad hwn, i gael eu gwneud yn ystod yr eisteddiad presenol. Helyd gwahoddir chwi i ystyried mesur er diwygio cyfraith Deiliadaethan Amaethyddol. Yr wyf yn cyflvryno i'eh ystyriaeth ofalus y rhai hyn, yn nghyda mesurau ereill a ddichon gael eu dwyn i'ch sylw, ac yr wyf yn gweddio ar i'ch k-- ymgynghoriadau fod o dan fendith ddwyfol, a'r canlyniad yn ddedwyddyd a boddineb i'm deiliaid.
YSGPLLF YR YSQEIFENYDD CARTREFOL.
YSGPLLF YR YSQEIFENYDD CARTREFOL. Yn mhlith y pethau a ddygwyd' o flaen Ty y Cyflredin nos Lun diw- eddaf, y pwnc pwysicaf i'r dosbarth gweithiol oedd Ysgrifyr Ysgrifenydd Cartrefol, amcan yr hon ydyw dar- paru gwell anedd-dai i'r gweithwyr mewn trefydd mawrion. Darllenir yr Ysgrif hon yr ail waith dydd Llun nesaf, ac nid oes amheuaeth na ddaw yn ddeddfyn hir cyn terfyniad y Senedd- dymor presenol. Y mae rhai cymyd- ogaethau yn ein trefydd mawrion agy mae yn rhaid bellach eu cyfnewid er galluogi y trigolion i fyw fel creadur iaid rhesymol, ac y mae Mr. Cross yn cynyg at wneud y gwaith hwn mewn I., dull na raid i neb ofni y canlyniadau.
y STRIKE.
y STRIKE. ER fod bellacb chweclv wvtbnos er pan y mae ein cyfeillion y glowyr ar strike, a'r tlodi a'r trueni yn ddyddiol gy- nyddu er hyny, eto nid oes yr un teb- ygolrwydd fod yr annealldwriaeth yn agoshau i'w derfyniad. Y mae pob math o fasnach yn ein cymydogaethau agos a sefyll. Y mae y tlodi a'r augen wedi myned mor fawr, fel y mae can- oedd o ddynion iach ac awyddus am waith yn gorfod gofyn am gynorthwy oddiwrth ein swyddogion plwyfol, ac ofnir yn ddyddiol glywed y newydd fod rhai o'n cydweithwyr, y rhai oedd- ynt yn byw yn gysurus ychydig wyth- nosau yn ol, wedi meirw o eisieu angen- rheidiau bywyd. Y mae y newyddion sydd yn ein eyrhaedd o wahanol gyf- eiriadau yn abl i doddi y galon galetaf. Y mae yr wythnos hon, fel ei rbag- flaenoriaid, wedi bod yn gyfryw fel nad oes awgrym wedi ei gael o'r naill ochr na'r llall yn nghylch dyfod a'r anneall- dwriaeth i derfyniad. Odid nad yw ein darllenwyr wedi elywed yn nghylch ymyriad tebygol George Elliott, Ysw., yn yr helynt presenol; ond y mae yn ddrwg genym orfod hysbysu ncd yw yr oil ond ym- gais at godi y gwynt ar ran newydd- iadur a fyn rywbeth i'w ddweyd pe byddai yn anwiredd noeth. Y mae y boneddwr hwn yn awr yn yr Aifft, ac nid yw yr oil a ddywedwyd am dano ef a'r ymyriad ond ffrwyth dychymyg gohebydd newyddiadurol. Bu Mr. Halliday ar ym weliad a'r cymydogaethan hyn ddiwedd yr wyth- nos ddiweddaf, ond dywedir wrthym ei fod yn awr yn y Brif-ddinas, ac mai ei neges yno ydyw gweled llywydd Undeb y Meistri er ceisio trefnu am ail ddechreu gweithio mor fuan ag y mae modd. Awgryma rhai mai yr hyn y mae Mr. Halliday ar gynyg i'r meistri ydyw, fod i'r gostyngiad cynygiedig gael ei ranu, ac i'r gweithwyr dderbyn 5 y cant o ostyngiad yn lie y 10. Nos Iau yr wythnos ddiweddaf, bu Mr. Halliday yn anerch cynulliad llu- osog yn y Drill Hall, Merthyr, Canon Jenkins yn y gadair. Siaradodd lawer ar briodoldeb a rliesymoldeb cyflatar- eddiad er penderfynu annealltwr- iaethau o fath yr un presenol. Awgrymai hefyd nad ellid dysgwyl iiawer o gynorthwy o'r Undeb yn y cyfwng presenol, ond ei fod ef yn benderfynol o wneud a allai er casglu arian er cynorthwyo y rhai oedd mewn angen. Cynghorai y gweithwyr hefyd i ymddwyn yn weddaidd, a chydym- deiralo a'u gilydd yn y caledi presenol, Y mae tanysgrifiadau wedi cael eu casglu drwy eil1 treftuag at gynorthwyo gweithwyr liaiarn Abernant, y rhai nad ydynt wedi gweithio ond 11 mis a thri diwrnod yn ystod y 26 mis diweddaf. Yrydys hefyd wedi bod yn casglu tuag at ein gweithwyr tanddaearol, a chredwn fod pawb wedi cyfranu yn ol eu gallu tuag atynt.
HAINT 0 LOCUSTIAID YN PARAQUAY.'
HAINT 0 LOCUSTIAID YN PARAQUAY. ODDIWRTH y newyddion diweddaraf sydd wedi cyrhaedd y wlad hon o Brazil, cawn fod haint o locustiaid wedi ymweled a Paraquay, ac wedi dinystrio holl lysiau y maes, a bod y wlad yn cael ei bygythio a newyn.