Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Cymry Woolwich.

News
Cite
Share

f Cymry Woolwich. CAPEL NEWYDD YR ANNIBYNWYR. GOSOD CARREG SYLFAEN. Hanes y Lie a'r Achos. CAWN i'r Llywodraeth i agor Llongadeilfa Frenhinol yn y lie hwn rywbryd cyn 1515. Tybir gan rai mai yno yr adeiladwyd y llong "Henrye Grace de Dieu," yn yr hon y mor- dwyodd Henri VIII i faes y Cloth of Gold. Yno yr adeiladwyd y Royal George yn 17 5 I. Honno oedd prif long llynges Arglwydd Howe suddodd yn mhorthladd Portsmouth gyda ei 108 drylliau, Awst 29ain, 1782, pryd y boddodd uwchlawgoo o bersonau. Chwalwyd hi yn 1839, a chodwyd amryw o'i drylliau pres gwerthfawr. Yn Llongadeilfa Woolwich yr oedd llongle, 400 troedfedd o hyd wrth 300 o led. Cauwyd y lie Hydref iaf, 1869. Islaw i'r Llongadeilfa y mae yr Arfdy Brenhinol lie y cedwir yr ystorfa fwyaf o fwledau, tanbelenau, pylor, cryf-ffrwydrydd, drylliau, cleddyfau, picellau, bidogau, yng nghyd a phob adnoddau rhyfel i'n byddin, a'n llynges, a'n hamddiffynfeydd. Ceir llaw-weithfeydd mawr- ion yng nglyn a'r arfdy lie y gwneir cyflegr- gerbydau, drylliau, arfau, a phob darpariaeth iddynt. Ar dwyn yng nghanol y lie saif Llustau y Blifwyr Brenhinol a'r Clafdy; ac yn uwch i fyny ar y cyttir y saif y Colegdy Milwrol Brenhinol lie y dysgir cad-langciau i rengoedd y Blifwyr a'r Peirianwyr. Yr oedd Llongadeilfa Frenhinol eang yn Deptford hefyd yn y cyfamser, lie yr adeiladwyd Ilawer o longau rhyfel y Llywodraeth. Tynodd y gweithfaoedd hyn ganoedd o seiri coed, gofiaid, trawyr, a gweithwyr eraill i'r lie. Cawn fod Hawer o honynt yn Gymry. Ni fedrai y rhan fwyaf o Gymry y ddeunawfed ganrif siarad na deall Saesneg. Deallent ddigon i wybod beth a ofynid iddynt i'w wneud, ond ni ddeallent wasanaeth crefyddol. Herwydd hyny treulient y Sabbathau mewn ymweled a'u gilydd, rhodiana yn y meusydd a'r gerddi, a llawer o honynt ysgwaetheroedd yn treulio eu hamser mewn ymladdfeydd cwn, ceiliogod, a llygredigaethau eraill. Parai cyflwr isel y Cymry ofid mawr i'r rhai goreu yn eu mysg; arweiniodd hyny hwynt i gynal cyfarfodydd gweddi a phre- gethu yn eu tai ac mewn ystafelloedd gwest-dai. Gwyddom am ddau west-dy y cafodd y Cymry fenthyg ystafelloedd ynddynt yn ddi-rent am flynyddoedd i gynal cyfarfodydd. Dechreu'r Achos. Nid oes genym hanes am gyfarfodydd yma cyn 1760. Deuai pregethwyr o Gymru i fyny yn achlys- urol ac arosent am wythnosau gyda y Cymry gan bregethu iddynt ar y Sabbathau. Nid oedd y cynulleidfaoedd y pryd hyny yn enwadol o gwbl; cynulleidfaoedd cymmysg oeddynt o bob enwad. Tua 1785 i 1798 daeth enwadaeth i fewn i flino yr eglwysi anenwadol hyn, ac yr oedd gan Edward Jones, ddaethai i Wilderness Row o Dabernacl Whitefield yn 1785, law amlwg yn yr ymraniad. Yn y cyfamser aeth yr achosion yn Gravel Lane, Boro', Deptford, ac Woolwich yn Eglwysi Cynulleidfaol, ac aeth Wilderness Row yn Fethodistaidd. Daeth David Davies, Abertawy, i fyny yn 1798 gyda y bwriad o dreulio pedwar mis yng Ngholeg Hackney mewn trefn i berffeithio ei wybodaeth o'r iaith Saesonaeg. Bu ei ddyfod- iad yn gaffaeliad gwerthfawr i'r eglwysi yn y Boro', Deptford, ac Woolwich. Ordeiniodd ef ac eraill Daniel Jenkins, mab-yng-nghyfraith Daniel Rowlands, Llangeitho, i weinyddu y cymun yn yr eglwysi hyn pryd na fuasai gweinidogion o Gymru yn Llundain. Yr oedd mab-yng-nghyfraith i Daniel Jenkins yn bregethwr yn y Boro' yr adeg hono. Brodor o Sir Benfro ac Annibynwr selog o'i febyd oedd Thomas Thomas. Bu Daniel Jenkins a Thomas Thomas, ei fab-yng-nghyfraith, yn bregethwyr defnyddiol i'r eglwysi yn y Boro', Lambeth, Deptford, ac Woolwich, hyd ddydd eu marwol- aeth. Yn 1805 cafodd eglwys Woolwich ddarn o dir ar brydles ar Parson's Hill, a chodwyd arno gapel cyfleus. Agorwyd ef Sulgwyn, 1806. Ordeiniwyd David Morgan, aelod o'r Mynydd- bach, yn Ebenezer, Abertawy, tua'r adeg hono i ddod yn weinidog i Woolwich a Deptford. Brodor o Ffaldybrenin oedd, wedi dod i weithio i Dreforris, ac wedi dechreu pregethu yn y Mynyddbach. Efe oedd yn dechreu cyfarfod urddiad David Simon Davies yn y Boro', Awst 8fed, J 811. Bu farw -1814. Yn 1815 daeth Arthur Jones, Bangor, yn weinidog i Woolwich a Deptford, ac yr oedd cynulleidfaoedd lluosog yn y lie yr adeg hono. Pan orphenodd y rhyfel a Ffrainc trowyd allan o Longadeilfaoedd Brenhinol Woolwich a Deptford ganoedd o grefftwyr a gweithwyr, a gwanychodd yr eglwysi yn ddirfawr. Aeth Arthur Jones yn ei ol i Fangor yn 1823, a daeth gofal eglwysi Woolwich a Deptford ar David Simon Davies, gweinidog y Boro', hyd ei farwol- aeth, Gorphenaf i8fed, 1826. Claddwyd ef yn Bunhill Fields. 0 hyny hyd 1831 gweinidogion y Boro' oeddent yn pregethu yn Deptford ac Woolwich gan ofalu am yr eglwysi. Gorphenaf i9eg, 1831, urddwyd David Davies yn y Boro', a gofalodd yn ffyddlon am eglwysi Woolwich a Deptford, gyda y Boro', hyd 1837, pan ordeiniwyd Job Thomas, Llanarth, Sir Aberteifi, yn weinidog iddynt. Bu farw ef yn 1857, ac y mae ei gorph wedi ei gladdu yn mynwent Sant Paul, Deptford. Yn 1858 urddwyd Evan Evans, Abbey Street, Bermondsey, aelod a phregethwr yn y Boro', i fod yn weinidog yn Woolwich a Deptford. Bu yn oruwchwyliwr Cymdeithas y Morwyr yn y cyfamser hefyd. Diffoddodd yr achos yn Deptford yn 1866, ac aeth yr achos yn Woolwich yn wanaidd iawn. Wedi marwolaeth Evan Evans daeth gofal Woolwich yn benaf ar weini dogion y Boro' drachefn; bu y Parchn. R. L. Thomas, Boro'; Jos. Rowlands, Radnor Street; Owen Evans, D.D., Fetter Lane; D. Charles Jones, Boro', yn garedig i'r lie am flynyddoedd. Yn y cyfnod hwn hefyd rhaid enwi y gwasanaeth cyson a ffyddlon roddwyd i Woolwich gan Mr. David Davies, i, Scawen Road, Deptford Park, S.E., a Mr. John Hughes Ellis, Westminster Bridge Road, S.E. Rhoddodd Mr. J. E. W. Jones, ysgolfeistr yn Woolwich, wasanaeth rhagorol fel ysgrifenydd i'r achos yno am flynyddoedd; hefyd, Mr. Richard Jones, ceid- wad addoldy Mile End yn awr, oedd arweinydd y gan yn y lie; ac mor foneddigaidd y gweinai Mr. Evans fel diacon i'r eglwys fechan hono. Oedfaon gwlithog gafwyd yno yr adeg hono. Ionawr 28, 1899, daeth Mr. David Harries, fuasai cyn hyny yn genhadwr yn y Genhadaeth Ddinesig, yn weinidog i Woolwich, East Ham, a Penge. Ymadawodd ef i'r Genhadaeth Ddinesig eto Ebrill 30, 1902. Hydref 13, 1902, urddwyd y Parch. Llewelyn Bowyer yn y Borough i weinidogaethu yn Woolwich ac East. Ham. Parha i lafurio yn y cylch gyda llwyddiant a pharch cynyddol. Eiddunwn iddo bob daioni. Gan fod prydles yr addoldy ar Parson's Hill wedi rhedeg allan Medi, 1905, sicrhaodd eglwys Woolwich, mewn cydymgynghoriad a chydweith- rediad a'r eglwysi Cymraeg eraill yn y dref, ddarn o dir rhydd-ddaliadol cyfleus yn Willenhall Road, Plumstead Common Road. Dydd Iau, Mehefin 28, am hanner awr wedi pedwar, dan lywyddiaeth y Parch. Llewelyn Bowyer, cynhal- iwyd cyfarfod Gosod y Garreg Sylfaen. Canwyd Emyn Rhif. 54 o'r Caniedydd; yna darllenodd Mr. J. T. Davies, Cenhadwr, Ezra III., 8-13, a gweddiodd Parch. Edward Owen, B.A., Barrett's Grove. Rhoddodd D. C. Jones, Borough, hanes yr achos o'i gychwyniad hyd yn awr. Hefyd dywedodd mai olion arferiad baganaidd henafol yw gosod carreg sylfaen. Pan fuasai un yn codi ty, cloddiai bwll dwfn yn y ddaear i osod ynddo y post mawr oedd i fod yn brif gynhaliaeth y ty. Yn y twll hwnw gosodid bachgen neu ferch ieuaingc hardd, a gollyngid y post enfawr i ddisgyn arno, neu arni, o'r uchelder nes ei lethu i farwolaeth, gan gredu fod bywyd y cyfryw yn myned i'r post ac yn dod yn fywyd i'r ty. Cafwyd fod dyn wedi ei osod felly yn morfur Whitby, ac hefyd yn sylfaen dau eglwysdy henafol yn Lloegr. Ysbryd y Duw byw yng nghalonau pobl sanctaidd yw bywyd ty yr Arglwydd. Yna cafwyd anerchiad gan y Parch. J. Machreth Rees ar wasanaeth addoldai Cymraeg i'r Cymry ddaw i fyny o Gymru o flwyddyn i flwyddyn. Dywed- odd fod anianawd y Cymro yn gyfryw mai mewn addoliad Cymraeg y dadblygir ei natur ysbrydol yn llawn. Dymunodd i'r eglwys yn Woolwich bob llwydd yn ei haddoldy newydd i achub a dyrchafu Cymry Woolwich. Dilynwyd ef gan Mr. John Richards, 20, Redburn Street, Chelsea, yn rhoi hanes gwaith Pwyllgor y Myn- ediad ymlaen yng nglyn a'r lie. Yna deuwyd at brif seremoni y prydnawn. Traddododd Mrs. Rees, 3, Carthusian Street, E.C., anerchiad byr yn datgan ei dymuniad i Dduw fod yn amlws yn Ei eglwys yn y lie, a gobeithiai na syflid y maen sylfaen byth nes y treuliai allan gan amser. Yna gosododd y garreg sylfaen yn ei lie gyda llwyar arian a gordd bren yn nodedig o ddeheuig, a chyda y dwysder a'r gweddeidd-dra gweddus i'r amgylch- iad. Unodd y dorf i ganu Gosod Babell yng Ngwlad Gosen," &c., ar y don Hyfrydol," dan arweiniad Mr. R. J. Evans, ysgrifenydd yr eglwys. Wedi hyny gosodwyd Meini Coffadwriaethol gan Mr. W. R. Evans, Brixton; Mr", a Mrs. W. Bailey Mrs. Llewelyn Bowyer; Mr. a Mrs. R. J. Evans, Woolwich; Mri. Leslie, Glyn-Wyn, a Brynmor Evans; Mrs. W. H. Lewis; Mr. L. Davies Lewis; Mr. a Mrs. Rhys Prothero, Islington; Miss Rose Pryce; Mri. Leslie, Donald, a Vincent Thomas; Mr. a Mrs. J. Williams; a Mrs. H. a Miss C. Williams. Cyflawnodd pob un ei waith gyda deheurwydd mawr. Yna gweddiodd y Parch. E. Owen, Battersea Rise. Eisteddodd torf i de ddarperid yn Ysgoldy y Wesleyaid, Plumstead Common Road. Gweinyddodd y boneddigesau yn garedig wrth y byrddau. Yn yr hwyr am 8, dan lywyddiaeth Mr. W. H. Lewis, London and Provincial Bank, Woolwich, yr hwn hefyd yw trysorydd Eglwys Woolwich, cafwyd cyngherdd nodedig o hapus a llwyddianus. Adlewyrchai y trefniadau glod i fedr a gweithgarwch y Parch. Llewelyn Bowyer a'r cyfeillion yn Woolwich. Mae gan- ddynt galon i weithio. Ceir addoldy cyfleus yn Willenhall Road erbyn y gauaf nesaf. Ei gynllunydd yw Mr. J. M. Peate, 43, King's Cross Road, W.C., ac y mae wedi gwneud cynllun adeilad ardderchog. Yr adeiladydd yw Mr. Sandford, Woolwich.

DAMWAIN MEWN GLOFA.