Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Pobl a Phethau yng Nghymru.
News
Cite
Share
Pobl a Phethau yng Nghymru. CYHOEDDIR Eisteddfod Abertawe ar y igeg o'r mis hwn. MAE tri chan pwys o gynyrchion llenyddol wedi d'od i law ysgrifenydd Eisteddfod Caer- narfon. PEDAIR awdl ar ddeg, a phob un ar destyn gwahanol. Dyna gamp fydd eu beirniadu EILIR sydd wedi ei benodi i ysgrifenu Colofn Gymraeg y Weekly Mail yn olynol i'r diweddar Idriswyn. ANWADAL iawn yw'r aelodau Cymreig ar y Mesur Addysg. Ca'r Chwip waith caled i'w gyru i gefnogi'r Weinyddiaeth ar bob adran o hono. SIBRYDIR fod llawer o Ryddfrydwyr Dwyrain Dinbych yn pleidio ymgeisiaeth rhyw Sais o'r sir fel olynydd i Mr. Sam Moss. Hawyr, a'i nid oes un Cymro teilwng yn holl sir Ddinbych ? ADDAWA Mr. Lloyd-George agor nodachfa fawr ym Mhwllheli ar ddydd Gwyl y Banc yn Awst er budd Capel yr Annibynwyr Seisnig yn y lie. SIARAD am y ddaeargryn mae pobl y Deheu- dir o hyd, ac yn ol pob hanes yr oedd yr ysgydwad yn lied bendant mewn rhai ardaloedd. YR wythnos hon aeth Ficer Aberpergwm am daith i Rwssia, a bwriada dalu ymweliad a'r Count Tolstoy cyn y del yn ol i'r wlad hon. YMYSG gwahoddedigion i'r Llys Brenhinol yr wythnos hon yr oedd Mr. a Mrs. O. M. Philipps, o Gastell Annoth, sir Benfro. Yr oedd yno gynulliad bynheddig iawn, meddir. MAE rhyw Faer o Japan wedi ysgrifenu at Arglwydd Faer Caerdydd i ofyn iddo sut y mae'n rheoli'r fath Ie. Eisieu cyfarwyddyd, debyg iawn, sydd ar y gwr o Japan, ond yn sicr, ar ol y dadleniadau a wnaed yng Nghaer- dydd beth amser yn ol, nis gellir gosod y dref hon yn esiampl i unrhyw dref arall i'w efelychu. MAE Mr. W. J. Gruffydd, B.A., athraw yn Ysgol Ganolraddol, Beaumaris, wedi ei ddewis yn ddarlithydd cynnorthwyol yn y Gymraeg yn Nghaergrawnt. Brodor o Fethel, Caernarfon, yw Mr. Gruffydd, ac addysgwyd ef yn Ysgol Sir Gaernarfon, ac yn Ngholeg yr Iesu, Rhyd- ychain. Mae wedi cyhoeddi cyfrol o farddon- oniaeth, ac ystyrir ef yn ysgrifenwr Cymraeg campus. YN ei gartref yn Llanelli, boreu Sadwrn, bu farw Mr. T. Jones-Parry, C.S., un o arweinwyr y mudiad dirwestol yn y Deheudir. Yr oedd hefyd yn aelod o Gynghor Sir Frycheiniog.
Am Gymry Llundain.
News
Cite
Share
ereill o'n gwyr goreu gellir enwi Mri. Ted Jenkins, Stanley Davies, D. Morris, E. Evans, &c., gyda Mr. Merlin Morgan yn gofalu am gyfeiliant iddynt i gyd. Ar y terfyn caed areithiau edmygol o'r cadeirydd a'r cantorion a chadwyd yr hwyl i fynd hyd yn agos i hanner nos. Y SEIRI RHYDDION.—Mae'r Urdd hon i gael noson lawen yn nhy yr Arglwydd Faer yn ystod yr wythnos sydd ar ddod. Yr oedd yr Henadur Vaughan Morgan-yn awr Syr Vaughan-yn un o gychwynwyr yr adran Gymraeg o'r Urdd, ac wedi parhau yn fynychydd cyson o'u cyfarfodydd o'r cych'wyn. I ddangos ei barch o honynt a'i wladgarwch y mae wedi eu gwahodd i'r Mansion House i dreulio noson, ac ymhen wythnos fe rydd groesawiad arall i lu o Gymry, sef aelodau Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion. TORI TANT ARALL.—Collwyd un o wyr y gan o'r cylch Cymreig yr wythnos ddiweddaf yn marwolaeth Mr. Llewelyn Edmunds, Wilton Square. Bu'n arweinydd cyson am flynyddoedd- lawer, a bu ami i barti o dan ei ddysgyblaeth yn rhoddi perfformiadau rhagorol o dro i dro. Bu'n gwaelu yn hir, a thorwyd ef i lawr pan yn nghanol ei ddyddiau. Yn ei fasnach yr oedd wedi esgyn i gryn lwyddiant, ac nid oes ond 'chydig amser er pan ei gwnaed yn gyfarwyddwr y cwmni y bu ynglyn ag ef am flynyddau. Yn Abney Park Cemetery y daearwyd yr hyn oedd farwol o hono. Hedd fo i'w lwch. BORO'.—-Bu Ysgol Sabbothol y lie uchod yn treulio diwrnod yng Nghoedwig Epping, dan arweiniad Mr. D. Tyssilian Jones, arolygwr, a Mr. D. R. Evans, trysorydd yr Ysgol. Theydon Bois oedd eu gorsaf. Ystyr y gair Bois yw coedwig. Treuliodd y dorf ddiwrnod hyfryd yn y goedwig enwog, a bu amryw o honynt mewn cerbydau ym Mynachlog Waltham a lleoedd eraill. Nos Iau wythnos i'r diweddaf rhoddodd Gobeithlu y Boro' ei gyngherdd flynyddol, dan arweiniad Miss Wood a Miss Daisy John. Rhoddodd y dorf gymmeradwyaeth uchel i'r plant am eu dadganiadau swynol tlysion a'u hadroddiadau naturiol ac effeithiol. Llywydd- wyd gan y Parch. D. C. Jones, PRIODAS.-Dydd Mercher, Mehefin 27ain, rhoddodd y Parch. D. C. Jones, yn y Boro', gwlwm priodas am Mr. Evan Richards, Clapham Park, a Miss Eleanor Edwards, 58, Abbeville Road, Clapham Park. Yr oedd y gwisgoedd priodas yn ddestlus, ac yr oedd Master Cyril Evans, Abbeville Road, yn naturiol iawn yn ei briodas gyntaf iddo. Aeth y par dedwydd i Canada i dreulio eu mis mel. Boed iddynt wenau huan dros oes faith. Cafwyd y wledd briodasol yn nhy Mr. a Mrs. D. H. Evans, 58, Abbeville Road, Clapham Park. MRS. JONES, LAWN VILLA.-Bydd cyfeillion lluosog y foneddiges Mrs. Jones, Lawn Villa, Brixton, yn falch i wybod ei bod yn gwella ychydig yn araf. Mae yn abl i fyned o'i hystafell wely yn awr. Dymuna pawb o'i chydnabod ei gwellhad buan. CYMDEITHAS GENHADOL SILVER STREET.— Dydd Mawrth, Mehefin igeg, cafodd chwiorydd y Gymdeithas uchod eu gwibdaith flynyddol i Hampstead Heath. Mae Mrs. Thomas, trwy ei charedigrwydd dihafal, yn gwahodd y chwi- orydd o'r East End ers blynyddoedd, a mawr ddisgwylir am yr adeg. Daeth nifer lliosog ynghyd, a chafwyd gwledd o bob math angen- rheidiol yn y "Vale of Health." Ar ol mwynhau y danteithion, cafwyd anerchiadau ac adroddiad a chanu. Yr oedd yr hin yn braf, a phawb yn mwynhau eu hunain. Mae caredigrwydd y boneddigesau hyn yn ganmoladwy, a'u haelioni yn fawr tuagat y genhadaeth. FALMOUTH ROAD.-Cydnabyddir fod capel y Methodistiaid yn Falmouth Road yn un o'r adeiladau harddaf sydd gan Gymry'r Brifddinas, ac, yn naturiol iawn, mae'r cyfeillion ar yr ochr ddeheuol i'r afon yn ymfalchio cryn dipyn ynddo. Ond y maent a'u gwynebau ar ber- ffeithrwydd, a deallwn fod mudiad ar droed i lanhau ac addurno yr addoldy drwyddo ac i osod organ newydd hardd ynddo. Etholwyd pwyll- gor cryf i ymgymeryd a'r gwaith yr hwn sydd bellach yn barod i'w ddechreu, a hyderir yn fawr y dibenir erbyn y cyrddau mawr" yn niwedd Medi, pryd y disgwylir y Parch. John Williams, Brynsiencyn, i wasanaethu. CYFARFOD DAU FISOL.-Daeth y sefydliad hwn yn ei dro i Falmouth Road y Sabboth diweddaf, a chafwyd cyfarfodydd llewyrchus. Yn y prydnawn holwyd y plant gan Mr. Anthony, ac yn yr hwyr holwyd yr ysgol yn gyffredinol gan y Parch. Francis Knoyle. Yn y cyfarfod diweddaf hefyd traddodwyd anerchiad gan yr hen gyfaill, Mr. Ebenezer Evans, un fu am flynyddau yn aelod o'r eglwys, a dyddorol iawn ydoedd ei gofion am yr hen gapel anwyl yn Crosby Row. Mae deucant yr hen addoldy wedi tyfu yn bum' cant, a hynny er fod dwy eglwys wedi tyfu o honynt, sef Clapham Junction a Lewisham, a deallwn fod y canghenau ysgolion yn y Raleigh College, Effra Road, Brixton, a'r Fenwick College, East Dulwich Road, Dulwich, yn mwynhau mesur da o lwyddiant. STRATFORD.—Da genym hysbysu i'r Bazaar gynhaliwyd yn y lie hwn droi allan yn llwydd- iant perffaith. Cafwyd yr elw sylweddol o ^"ioo oddi wrthi, yr hyn sydd yn galondid i'r cyfeillion yn y lie. Dygwyd yr ymgymeriad yma oddi- amgylch yn bennaf trwy offerynoliaeth y chwiorydd. Gweithiasant yn egniol iawn am lawer o wythnosau i barotoi ar ei chyfer, ac ni laesasant ddwylaw nes gweled eu hymdrechion diflino wedi eu coroni a llwyddiant. Yr ydym yn dra rhwymedig i rai o eglwysi Llundain am ddangos eu cydymdeimlad sylweddol ynglyn a'r symudiad dan sylw, ac yn ddyledus iawn hefyd i amryw o'r gweinidogion fu mor garedig a rhoddi eu presenoldeb yn y Bazaar i'n cynorthwyo. Agorwyd y gweithrediadau y diwrnod cyntaf gan Mr. Howell J. Williams, L.C.C., a Mrs. Williams, a chafwyd ganddo anerchiad. tra galluog, ac yn llawn o'r tan Cymreig. Dyma foneddwr sydd wedi ei fedyddio yn drwm ag ysbryd caredig, ac yn un ddylai gael ei anrhydeddu gan ei gyd-genedl. Yr ail ddydd, yn absenoldeb ein cyd-wladwr caredig, Mr. Lewis H. Roberts, yr hwn oedd dan orfod i fyned i angladd cyfaill iddo o Wilton Square, agorwyd y gweithrediadau gan Mrs. Jeffrey, priod y Parch. Alexander Jeffrey, Stratford, a chafwyd ganddi eiriau pwrpasol iawn. Y trydydd dydd, a'r dydd olaf, agorwyd y Bazaar gan Mrs. Blake, Romford Road, a gwnaeth ei rhan yn rhagorol iawn. Nid yw y gwaith ardderchog presenol ond ffurf ar yr ysbryd rhagorol a feddianodd yr eglwys hon yn ystod y don o Ddiwygiad ddaeth dros Lundain yn y misoedd diweddaf, a'n gobaith ydyw y daw ton eto yn fuan i gynyrchu mwy o yspryd gwaith yn yr eglwys hon, ac yn holl eglwysi y ddinas. A WELL-KNOWN WELSH SINGER'S SUCCESS IN LONDON. — Miss Sara Davies, A.R.C.M. (well known in Brecon as Llinos Fach "), gave on Monday, June 25th, a most successful concert at Hyde Park House, London, the beautiful mansion belonging to Lady Naylor- Leyland, who kindly lent it to Miss Davies for her recital. It was attended by a distinguished audience, who were enthusiastic in admiring the flexible and brilliant qualities of her singing. Her Royal Highness Princess Christian was present, accompanied by her daughters, Princess Victoria and Princess Louise, and at the con- clusion of the concert Her Royal Highness addressed Miss Davies, shaking her by the hand and warmly congratulating the young singer on her beautiful voice. Miss Davies was finely accompanied on the piano by the Marchioness of Tullibardine. The "Air de Clochette," from Lakme, as well as the German and Norwegian songs, were splendidly rendered. During some time past Miss Davies has been carefully trained under the Lamperti method, which has been most successful in developing her charming talent. Among the large and fashionable audience on the 25th were, besides the Princesses, Lady Naylor-Leyland and party, Marchioness of Tullibardine and party, Countess of Ancaster and daughters, Mrs. Herbert Godsal (who organised the concert), Lady Warington-Smyth and party, Lady Llan- gattock, Lady Alexander Paget, Lady Knollys (St. James's Palace), Honourable Miss Louvima Knollys, Lady O'Hagan, Lady Wernher, Lady Francis Evans and party, Lady Sutton and daughters, Lady Ida Low and party, Honourable Mrs. Ivor Guest, Mrs. Dick Conyngham, Mrs. Gwyn Jeffreys and party, Mrs. Redgeley Carter, Mrs. Cleasby, Duke D'Stacpool, and Captain Treharne