Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
YR AELODAU CYMREIG A'R CHINEAID…
News
Cite
Share
YR AELODAU CYMREIG A'R CHINEAID YN AFFRICA. Dim ond saith o'r Aelodau Seneddol dros Gymru a sir Fynwy a arwyddasant y ddeiseb at y PrifWeinidog yn galw sylw at yr oediad ynglyn a rhoddi mewn grym y dadganiadau a wnaed o iwriadau y Llywodraeth yn ystod y ddadl fu yn y Ty ar yr 22ain o Chwefror. Y saith hyn ~dynt:—Meistri W. Brace (De Morganwg), ^lement Edwards (Bwrdeisdrefi Dinbych), S. .1. Evans (Canolbarth Morganwg), J. Keir Hardie (Merthyr), J. Haslam (Casnewydd), D. A. Thomas (Merthyr), a W. Llewelyn Williams (Caerfyrddin). Beth am y saith-ar-hugain eraill ? Mae Mr. Lloyd-George a Mr. Herbert Lewis yn dal swyddi yn y Llywodraeth, a phrin y gallesid disgwyl iddynt hwy arwyddo unrhyw ddeiseb. Ond yr oedd pump-ar-hugain yn rhydd i wneud fel y mynent. A ydym i gasglu eu bod yn cefnogi y sefyllfa fel y mae yn Neheubarth Affrica ? Fe sylwir nad oes mwy nag un aelod o Ogledd Cymru ymhlith y saith.
Advertising
Advertising
Cite
Share
WEAR WALTON'S I Good Clothes. II OUR INVINCIBLE "TWO YEAR" SERGE Is far and away the most economical to buy. LOUNGIUIT 50/- Made to Measure. WILL STAND Two Years' HARD wear, keep its deep rich colour, and look well all the time. Write for sample cutting or call and see the Cloth. ISAAC WALTON I, CO., LTD. 97, 99 & 101, NEWIINGTON CAUSEWAY, S.E. 1, 3, 5, 7 & 9, LUDGATE HILL, E.C. 518, 520 & 522, BRIXTON ROAD, S.W. 442. 444 & 446, HOLLOWAY ROAD, N.
BETH AM YR EGLWYSI?
News
Cite
Share
BETH AM YR EGLWYSI? Wele ddeunaw mis agos o ddylanwadau grymus a rhyfedd wedi eu teimlo, miloedd lawer wedi eu dychwelyd i'r eglwysi, ond beth am yr eglwysi ? A yw yr eglwys wedi ei phuro a'i glanhau ? A yw yr awyrgylch yn ddiogel ac yn iach ? Onid yw yr adeg wedi dod bellach pan y dylai pob gweinidog, blaenor ac aelod, fod yn llwyrymwrthodwr ? Onid yw yn bryd i'r tafarnwyr a'r rhai sydd yn dal y Grocers' License, ac eto yn aelodau eglwysig—ie, yn swyddogion eglwysig-i gael ar ddeall yn glir, bod eu tymor ar ben, a bod time-limit" iddynt bob yr un ? Ai cysson derbyn tafarnwyr yn aelodau ? ac an- rhydeddu fel swyddogion eglwysig rai sydd yn y fasnach ? Ai cysson i grefyddwyr gefn- ogi ceisiadau rhai yn apelio am drwyddedau. Beier y cyn-Brifweinidog, beier y Toriaid a'r Bar- gyfreithwyr—ond gadewch i ni wneud hyny a gwefus bur. Gadewch i ni fod yn onest-yn ddidwyll gyda hwy. Bydded un farn i chwi, bydded i'r dieithr fel i'r priodor myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw." Hyfryd oedd croesawu y dychweledigion i'r eglwysi y llynedd, ond erbyn hyn beth yw yr hanes ?—beth y mae yr adroddiadau o ami i fan yn ei ddweyd ? Beth y mae y gwrthgiliadau, llithriadau, a'r diarddeliadau, yn ei ddweyd? Gwyddom fod pechodau eraill i dd'od i'r cyfrif, ond eto i gyd dyma y drwg mawr, a'r hyn sydd yn alaethus meddwl, "y dychweledigion yn cael eu clwyfo yn nhy eu caredigion." Pan wnaed arbrawf flynyddau yn ol ar y dynamite yn rhai o graig-fynyddoedd Ysgotland —a hyny yn llwyddianus—gyda bod y report o'r chwalfa drosodd, gan dybio fod y cyfan drosodd, y mae y bobl yn rhuthro ymlaen i'r ogof, ond yr after-damp yn eu Uadd, ac yn eu gadael yn gelaneddau yno. Diangodd llawer i'r eglwysi yn ngwres y gweddiau, yn ngwres y Diwygiad y llynedd, ond ow y mae yr after- damP" yn yr eglwysi yn eu lladd hwynt. Pwy sydd gyfrifol ? Buom yn beio llawer ar yr Eglwys Sefydledig am ei goddefgarwch, ond ymha le yr ydym fel Ymneillduwyr ? Cenadwri olaf yr Efengylydd anwyl-y Parch. D. Lloyd Jones—swynodd gymaint ar gynulleidfaoedd Cymru, oedd Dinystriwch y Canaaneaid." Ie, dyna y mae Duw yn ei ddweyd ac onide, fel cynt, felly eto. Yna y bydd y rhai a weddillwch o honynt yn gethri yn eich llygaid, ac yn ddrain yn eich ystlysau, a blinant chwi yn y tir y trigwch ynddo (Num. xxxiii. 55). Tystiolaeth rhai o'r cadfridogion enwocaf yw fod ffrwyth llawn ami i fuddugoliaeth wedi ei golli am na ddarfu i'r gorchfygwyr erlyn y gelyn yn ddigon llwyr. Darfu i Dduw yn raslawn ymweled a. ni, "rhoddodd i ni faner," rhoddodd i ni fuddugoliaeth-gwnaeth i ni bethau mawr- ion ac ofnadwy-dangosodd i ni ein hiachaw- dwriaeth—ie, pan oedd y gelyn wedi dyfod i mewn fel afon, darfu i Ysbryd yr Arglwydd ei ymlid ef ymaith-ond yn lie erlyn y gelyn y mae Seion i raddau yn ymlonyddu ac yn ymdawelu—y mae y gelyn yn troi yn ol, yn blino Seion, ac y mae gwyr ieuainc Israel yn cwympo. Golygfa ofnadwy yw gweled mewn eglwysi brofodd bethau mawrion mor ddiweddar, nifer o bobl, dro ar ol tro, yn cael eu diarddel ac yn gwrthgilio. Carem drwy hyn o sylw i'r cwestiwn "gyffroi ein meddwl puraidd," am fod angen am hynny. Nid oes genym ond y teimladau tyneraf a goreu at y rhai sydd yn y fasnach fel personau, ac at y rhai sydd yn gwahaniaethu oddiwrthym, ond credwn fod gan Dduw genad- wri i ni fel eglwysi yn y cyfwng hwn i'n symud gam ymlaen, ac yn uwch. Cofiwn yr hyn a ddywed,—"Wele fi yn erbyn y proffwydi, medd yr Arglwydd, y rhai a lyfnhant eu tafodau." A gwell i'r proffwydi ac i'r eglwysi bawb i'w herbyn na Duw i'w herbyn. —O'r Goleuad.
[No title]
News
Cite
Share
HYSBYSIR fod Arglwydd Mostyn, sydd i lywyddu yn Eisteddfod Genedlaethol Caernar- fon ddiwrnod cadeirio'r bardd buddugol, wedi rhoddi yr 2op. gynygir yn wobr gyda'r gadair.
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
PREGETHWYR Y SABBOTH NESAF. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Eglwys St. Benet, Queen Victoria-street— 11.0 a 6.30, Parch. J. Crowle Ellis. Eglwys DeWi Sant, St. Mary's Terrace, Paddingtcn. • 11.0 a 6.30, Parch. W. Richards, B.A. Eglwys St. Padarn, Hornsey Road- 11.0 a 6.30, Parch. W. Davies. Eglwys St. Mary, Camberwell New Road- i i. o a 6.30, Parch. Lewis Roderick. Cenhadaeth y Dwyrain, Bridge Street, Bow- 11.0 a 6.30, Parch. Howell Watkins, B.A. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Jewin Newydd 10.45, Supply Wood Green. 6.30, Parch. T. E. Davies, M.A. Charing Cross Rd. 10.30 a 6.30, Parch. P. H. Griffiths. Wilton Square 10.30, Supply Willesden Green. 6.30, Parch. G. H. Havard, M.A. Falmouth Road 10.45, Mr. T. Huws-Davies, B.Sc. 6.30, Parch. S. E. Prytherch. Mile End Road 11.0, D. G. Evans, Merthyr. 6.30, D. Oliver. Shirland Road .10.45. R O. Williams. 6.30, J. Jones, Llandrillo. Holloway 10.30, „ J. Jones, Llandrillo. 6.30, „ R. O. Williams. Hammersmith 11.0, Supply Walthamstow. 6.30, Parch. F. Knoyle, B.A. Stratford 11.0, W. H. Davies, Pont- saeson. 6.30, J. Wilson Roberts. Clapham Junction 11.0, D. Oliver. 6.30, D. G. Evans, Merthyr. Walham Green 10.30, S. E. Prytherch. 6.30, Mr. T. Huws-Davies, B.Sc. Willesden Green 11.0, Parch. G. H. Havard, M.A. Lewisham 11.0 a 6.30, Cyfarfodydd Gweddi. Tottenham 11.0, Parch. J. Wilson Roberts. 6.30, „ W. H. Davies, Pont- saeson. Walthamstow 11.0, F. Knoyle, B.A. 6.30, Ll. Edwards, M.A. Wood Green 11.0, J. E. Davies, M.A. 6.30, Supply Jewin Newydd. YR ANNIBYNWYR. Y Tabernacl, King's Cross- 11.0 a 6.30, Parch. H. Elvet Lewis. Y Boro', Southwark Bridge Road- 11.0 a 6.30, Parch. D. C. Jones. Radnor Street, Chelsea- 11.0 a 6.00, Parch. J. Machreth Rees. Barrett's Grove, Stoke Newington- 11.0 a 6.30, Parch. E. Owen, B.A. East Ham, Sibley Grove- i i. o a 6.30. Woolwich, Parson's Hill- 11.0, 3 a 6.30, Parch. LI. Bowyer. Battersea Rise- 11.0 a 6.30, Parch. E. Owen, Eglwysbach. Y BEDYDDWYR. Castle Street, Oxford Circus- 11.0 a 6.30, Parch. R. Richard, Woodberry Down. Little Alie Street, Aldgate- 11.0a6.30, Parch. B. Arberth Evans. Tottenham- 11.0 a 6.30, Mr. D. Davies, Regent's Park College. Norman Hall, 252, Harrow Road- 3, Ysgol Sal. Y WESLEYAID. City Road- 11.0 a 6.30, Cyfarfod Pregethu Blynyddol. Gothic Hall, St. Thomas Street, W.- 11.0, Parch. H. Jones, D.D. Poplar, Duff Street- 11.0, Mr. J. H. Edwards. Dymunir am i bob hysbysrwydd ar gyfer y golofn hon gael ei anfon i'r Swyddfa erbyn Dydd Mawrth y fan bellaf.
Y DYFODOL
News
Cite
Share
Y DYFODOL [Dymunir ar i ysgrifenyddion a threfnwyr y gwahano Gyfarfodydd anfon gwybodaeth yn brydlon am unrhyw gynulliad a fwriedir gynnal, er mwyn rhoddi hysbys- rwydd amserol yn y golofn hon. ] 1906. Gorph. 1, 2. Cyfarfod Pregethu yn City Road. Gwasan- aethir gan y Parchn. Hugh Jones, D.D., Bangor a P. Jones Roberts, Towyn. Hyd. 18. Eisteddfod Ysgol Brixton yn Falmouth Road. Os am wneyd y cyfarfodydd a enwir yn y golofn hon yn llwyddiant yn mhob ystyr nis gellwch wneyd yn well na rhoddi hysbysiad o honynt yn y WELSHMAN. Telerau rhesymol a gostyngiad sylweddol am gyfres. A'r papur i bob teulu Cymreig a chedwir ef fel reference. Gweler y telerau ar tudalen 11.