Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Y LLOFFT F A C H.

News
Cite
Share

Y LLOFFT F A C H. YN YR HON Y CAWN GWMNI'R PERERINION. l Gan y Parch. D. RHAGFYR JONES. Treorci.] PENOD XXVII. YLlojjt Fach" yn son am Hen Gym'dogion. 0 fewn ergyd careg i'r Llofft Fach mae twr o dai to gwellt yn helpu eu gilydd i sefyll ar eu traed. Pwysant yn erbyn eu gilydd, a bwriant eu penau at eu gilydd, fel pe baent yn gwybod yn reddfol taw dyna sy'n sicrhau eu diogelwch. Mae dau o honynt yn ffryntio i'r hewl, a phob un a'i ddrws a'i ffenest'. Nid yw'r ffenest' fawr fwy na'ch Ilaw; ond mae siop yn y naill a blodau yn y llall. Tair o boteli talion, 'sgwyddog, heb damed o wddf, a phen bychan fflat ar y 'sgwyddau—ychydig o losin amddifaid a diolwg yn gorwedd draws eu gilydd yn y gwaelod- dau neu dri o 'falau oedd yno er y llynedd—a dwy neu dair o gacenau wedi eu tyllu gan y cler dyna'r siop. Baptus yw'r hen widw sy'n cadw'r siop fach, ac Eglwysreg yw ei chym- doges bia ffenest' y blodau mae'n pobl ni yn byw rownd y gornel. Yn y cefn eto chwi gewch ddau dy. Maent yn fwy preifat na'r lleill, a mae'n haws tyfu blodau o gwmpas y drws. Ond y maent yn edrych yn fwy sigledig na'u cym'dog- ion yn y ffrynt, fel hen bobl wedi cael dwy stroc, ac yn disgwyl y drydedd. Mae'r gwelydd yn gamach, a'r craciau ynddynt yn amlach- mae'r gwyngalch i gyd wedi pilio bant, nes fod gwynebau'r hen dai yh gwneud i chwi feddwl am ddyn newydd wella o'r frech wen, yn llawn cramenau—mae'r to bron colli ei wallt bob tamed o hono, ac o fewn dim i fod yn benfoel. 'Dydi pethau ddim yn gwella ar ol myn'd i mewn. Mae yma fwy o d'w'llwch nag oedd yn Nhwll-y-bwbach; ac yr oedd yno beth i'w sbario. Synwyr y fawd yn unig sy' genych i'ch harwain; ac ar ol troi i'r gegin, fe gymer lawn funud i chwi dd'od i 'nabod eich daearyddiaeth. A 'dydach ch'i ddim yn siwr wed'yn. Heblaw'r ffenest' sy'n llechu yn y wal yn y fan acw, mae yna dyllau yn y to uwchben sy'n helpu i ollwng goleuni i fewn ond mae'r to yn edrych mor uchel nes peri i chwi gredu taw ser yw'r tyllau, a'i bod yn haner nos ar dywydd rhew yn lie bod yn ganol dydd hirddydd ha'. 'Does dim rhyngoch a'r to ond cwpl o ddistiau moelion yn rhedeg o'r naill ben i'r llall, a'r rhai hyny wedi duo yn y mwg nes eu bod yn edrych fel sharcol. Ar y distiau mae bachau cryfion bob hyn-a-hyn, ac ar y bachau mae darnau o gig moch yn hongian y'mhob cyflwr yn y byd, a llysiau wedi eu sychu yn barod i wneud te o honynt, megis y gawmil, a'r goesgoch, y wermod lwyd, a dant y llew—y cwbl wedi eu lapio'n ofalus a'u cylymu'n drefnus; y'nghyda 'dafedd at wneud 'sanau, peth o hono yn y gengl, a pheth o hono yn y bellen. Oblegid mae'r hen bobl sy'n byw yma yn enill cryn lawer o'u bywioliaeth drwy weu 'sanau— 'sanau rib a sanau plaen, i bobl fawr yr ardal; a'r oil o gochddu'r ddafad. Yn y ty ucha' o'r ddau y mae hen wr a hen wraig yn byw y rhai, ar ol magu tyaid o blant, sydd wedi eu gadael wrthynt eu hunain i nos- wylio ore' gallont. Mae'r hen wraig yn cael ei gwneud i fyny, gan mwya', o esgyrn a gwenwyn mae yn deneu iawn ac yn gintachlyd iawn. Nid yw yn nodedig o lan chwaith, yn ei gwyneb na'i gwisg; a gallasai ei dwylo hefyd fod yn gwybod mwy am y dw'r a'r sebon. Bid siwr, mae'n anodd iawn i neb gadw'i hun yn lan, a byw mewn shwd dwll myglyd. Mae'r hen wr yn garitor adnabyddus, a swm cymedrol o ffraeth- ineb yn perthyn iddo. Coblera tipyn y mae wrth ei grefft, a'i fainc yn ymyl y drws, lie mae'r unig siawns am ole'. Ond mae'r ty allan o olwg yr hewl, a 'dydi hyny ddim yn siwtio Deio. Rhaid i'w uchelgais ef gael mwy o le i chware' na'r clos cul sydd o flaen y drws; a dyna pa'm y ceir ef yn amlach ar gornel y "sciw" yn y tafarn ucha' nag ar y ffwrwm waith yn ei dy ei hun. Hwyrach fod dau beth arall yn cyfri' am hyny, ac i Deio gael y gwir i gyd. Yr oedd yn cael ei flino gan ddolur oedd yn ei wneud yn sychedig tu hwnt, ac yn rhyfedd iawn 'doedd dim a'i torai ond peint o ddiod yn y pentre'. Yr oedd yn cael ei flino hefyd gan gintach yr hen wraig. Yr oedd Betsan yn aelod yma, ond 'doedd Deio ddim. Eto, 'doedd neb yn fwy selog yn y cwrdd, neb yn fwy dibartiol yn ei feirniadaeth ar bregethu a phregethwyr, na neb yn fwy tyn ar ei opiniwn. Yr ydych wedi sylwi fy mod wedi myn'd i siarad am danynt fel rhai sydd wedi croesi. Ac felly y maent er ys blynyddoedd. Ond. yr wyf yn dal fy hun weithiau yn son am ddynion sydd wedi hen newid eu byd fel pe baent yr ochr yma o hyd. Mae peth fel yna yn faddeuadwy i hen bobl. Eisteddai Deio dan y galeri, ar y dde i'r pregethwr. Os pregethai wrth ei fodd, edrychai o'i gwmpas, a thynai ei law dros ei farf; a'i air cymeradwyol yn wastad oedd: Peni- gamp Ond os na chydiai'r pregethwr ynddo y'mhen pum' munud ar ol cychwyn, plethai ei freichiau ar ffrynt y set, yna ei dalcen, a buan y ceid arwyddion fod dyn oddimewn Deio wedi cymeryd taith bell. Betsan aeth i'r byd mawr gynta'; ac yr oedd Deio 'n teimlo mor chwithig ar ol ei chintach nes iddo ei dilyn cyn pen fawr amser. Yn y ty isa' o'r ddau yr oedd hen ferch weddw o'r enw Lois Lewis; ac y mae genyf adgofion dymunol am dani. Trigai wrthi ei hunan, heb neb yn gydymaith iddi ond y gath. Ond welsoch ch'i erioed yr un hen ferch weddw mor foddus a hapus a Lois Lewis. Mi wn nad yw'r dosbarth yma yn gyffredin yn cael y credyd o'r rhin- weddau yr wyf yn son am danynt. Mi glywais rai yn siarad am danynt fel poteli finigar," a "'falau surion," a thermau dirmygus eraill. Ond nid wyf yn meddwl eu bod oil yn eu haeddu. Ac nid wyf yn meddwl eu bod fel dosbarth yn eu haeddu. Bid fyno, yr wyf yn siwr nad oedd Lois Lewis yn eu haeddu. Yn lie ei bod yn deneu, yr oedd yn dew. Yn hytrach na bod heb ddant yn ei phen, yr oedd gan Lois lon'd ei phen o ddanedd gwynion fel yr ifori. Ac yn lie ei bod yn sur ac enllibus, yr oedd ei gwyneb mor siriol, ei chwerthiniad mor heintus, a'i siarad mor felus, nes ei bod yn bleser i chwi edrych a gwrando arni. Ni chlywech hi byth yn taflu bai ar neb a phan y gwyddai fod bai yn bod, gwnai ei gore' i'w smwddio i lawr, a helpu'r troseddwr i ddianc. Mae pictiwr o honi ar y wal yma, ac mi dd'wedaf wrthych yn union paham. Yr oedd fel pictiwr ei hun. Edrych- wch arni. Cap a ffril am ei phen, a bonet am hwnw—siol a betgwn a ffedog-siôl streips, betgwn blod, a ffedog fraith-pais goch oedd yn gwneud yn lie gown-a chlocs. Gwyneb crwn a llawn o liw tywyll, iach-dau lygad du fel dwy lysen-gwefusau oedd yn eich gwa'dd i'w cusanu-a thagell oedd yn siarad boddlon- rwydd drwy'r dydd. Yr oedd yn gamp i chwi wel'd Lois heb hosan yn ei llaw, ond ar ddydd Sul ac yn y cwrdd. Gweu—gweu—gweu 'dydw I ddim yn siwr nad oedd ei bysedd wedi myn'd i'r habit heb yn wybod i'w hewyllys. All'swn I ddim llai na sylwi ar y tric yr oedd ei bysedd wedi myn'd iddo wrth weu, pan oedd hi yma'n dysgu'r plant ar brydnawn Sul. Oblegid dyna oedd busnes mawr Lois Lewis yn y byd—dysgu'r plant. Yr oedd wedi enill ei phlwy' deirgwaith drosodd fel athrawes y rhai bach. Cafodd ei phenodi i'r swydd yn fuan wedi i mi gael fy nghodi ac y mae wedi rhoi sylfeini gwybodaeth i lawr i genedlaethau o blant ar ol hyny. Yr oedd ganddi ffordd gyda'r plant oedd yn eu gwneud yn ffrindiau iddi bob un, heb fyn'd yn ewn arni chwaith. Hi fyddai'n teyrnasu yn y Llofft Fach tra parai'r ysgol, a Chariad oedd y deyrnwialen. Bu Hari'r Felin yn ei helpu i ddysgu'r plant i ganu, cyn iddo droi yn fachgen drwg. Dysgai iddynt adrodd y pader gyda'u gilydd i gychwyn; yna gwnai iddynt adrodd adnod a gawsent yn dasg i'w dysgu odd'ar y Sul o'r blaen. Os byddai un heb fod wedi ei dysgu, 'doedd dim losin i hwnw ar y diwedd. Myn'd dros y llyth'renau a'r geiriau bach wed'yn am haner awr. Ac yn ben ar y cwbl, galwai hwynt yn nes ati, a d'wedai 'stori wrthynt, weithiau o'r Beibl, ac weithiau o'i chof a'i phrofiad. Pe d'wedai rhywun wrthyf ei bod yn gwneud ambell i 'stori, fe'i coeliwn yn hawdd oblegid yr oedd Lois Lewis ar y blaen i'r cyffredin mewn deall a gallu naturiol. Difyr oedd gwel'd y rhai bach yn edrych i fyny i wyneb Lois, eu llygaid a'u safnau am y lletaf, gan fyn'd i fewn i'r 'stori dros ben a chlustiau. Cawod o gwestiynau oddiar y 'stori'n dilyn, a'r hen athrawes wrth ei bodd yn ateb. Canu- pader i gwpla—rhanu'r losin-dros y star ac adre'. 0 ie, dyna oedd ei busnes mawr hi yn y byd nid gweu 'sanau, ond dysgu'r plant. Pe digwyddech edrych i fewn i ffenest' siop fach y widw ar nos Sadwrn, chwi welech fod un o'r poteli losin wedi ei gwaghau. Ac yr oedd hyny'n digwydd bob nos Sadwrn. Nid wyf yn meddwl fod eisiau i mi dd'weyd b'le 'roedd y losin yn myn'd. Yr oedd yn help go lew i'r widw a'r plant i fod yn hapus nos Sul. Ac nid oedd Lois Lewis yn llai hapus, a d'weyd y lleia'. Pan ddaeth yn amser i Lois groesi, ni fu fawr o dro wrthi. Cafodd afael yn union ar ryd oedd dipyn yn fasach na'i gilydd, ac yr oedd wedi haner myn'd drwodd cyn i neb wybod ei bod yn meddwl cychwyn. Yn ol pob hanes, mi allwn dybied ei bod wedi cwpla a'r ochr hyn, pe cawsai lonydd, amser cyn i'w chym'dogion dd'od ati. Digwyddodd i wraig y Siop basio ar y pryd, a throdd i fyny i wel'd Betsan, yr hon oedd wedi bod yn cwyno mwy nag arfer. Wedi bod yn porthi'r gwasanaeth i Betsan, ebai Os gwn I ydi Lois wedi myn'd i'r cwrdd." Yr oedd hyn nos lau. 'Dydw I ddim wedi gwel'd hi heddy' drwy'r dydd," ebai Betsan. "Ma' hi'n siwr o fod wedi myn'd i ger'ed yn fore' i rywle, cyn i mi godi, ne' hi fasa wedi bod yma. Ond 'does neb y'meddwl fod taro arna' I Mi fyna wel'd 'nawr," ebe gwraig y Siop. Ac aeth at ddrws Lois. Curodd ef yn gynta' a'i llaw yna, rhoddodd ei bys drwy dwll y glicied, a cheisiodd ei chodi. Ond ni fedrodd ei symud. Edrychodd, a gwelodd yn union fod y drws wedi ei sicrhau o'r tu fewn. Aeth at y ffenest'; ond drwy fod hono lleied, a'r gegin dywylled, 'doedd hi damed callach. Aeth yn ol at Betsan, a gofynodd iddi os oedd Lois wedi bod yn cwyno'n ddiweddar. Ond 'doedd Betsan byth yn clywed neb yn cwyno ond ei hunan. Wel," ebe'r siopreg, "'dydw I ddim yn leicio pethe yt 61. Mae hi'n siwr o fod mewn ffit ne' rwbeth." Gan hyny, dyma DeÙ/n. d'od i'r clos o'i bererindod arferol; ac ar ol deall sut yr oedd pethau, mae o'n cynyg fforso'r drws yn agor. Meddyliai gwraig y Siop taw dyna fyddai ore'; ac aeth Deio i 'mofyn ei dwls. Wedi myn'd i mewn, cawsant Lois yn y gwely, a'i gwyneb. i'r pared, yn union fel yr aethai i'r gwely'r nos o'r blaen. Galwodd y siopreg ami: Lois Lois Lois Lewis Gwnaeth ei gore' i ateb, ond yr oedd yn anmhosib ei deall. Gyrwyd am y doctor, a d'wedodd hwnw ei bod wedi cael stroc. Daeth y dynion o'r cwrdd yno'n union ond er fod ei llygad yn d'weyd ei bod yn 'nabod pobun, ac yn deall y cwbl, yr oedd do ar ei genau, a'r allwedd gan frenin dychryniadau. Cyn deg o'r gloch yr oedd do ar y cwbl, a Lois wedi symud i dy newydd. O'r funud hono diflanodd yr hen gath, oedd yn arfer ei dilyn bron i bobman; ac ni welwyd hi byth. Braidd na chredai ambell un ei bod wedi dilyn ei meistres ar hyd ffordd arall.