Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Cymru yn y Senedd.- Mr. William…

News
Cite
Share

Cymru yn y Senedd.- Mr. William Brace, A.S., De Morganwg. Gwlad dan gauad yn gywair, Lle nod gwych lla wn yd a gwair Llynnoedd pysg, gwinllanoedd per, A maendai lie mae mwynder." FELLY y canodd Dafydd ap Gwilym i For- ganwg rhwng pump a chwe chanrif yn ol, ond ychydig o wlad Forgan sy'n ateb i'r desgrifiad heddyw. Nid ar wyneb y tir ond yn ddwfn ynddo y mae cyfoeth a gogoniant y wlad, a chwilio yn ofer yno fydd chwilio am y gwin- llanoedd a'r llynoedd a'r mwynder." Y mae, fodd bynnag, un ran eto yn cyfateb i ddesgrifiad y prydydd awenyddol, y rhan a adnabyddir fel "Bro Morganwg." Nid oes yng O. Nghymru fro brydferthach na honno hi bery o hyd "Yn llwynaidd gan berllannav." Yn y dyddiau gynt gwelodd y Norman tra- ■chwantus ei thegwch, ac ymladdwyd llawer brwydr dost rhyngddo ef a'r Cymro ar ei thomen werddlas. Y Norman a orfu, adeilad- "°dd ei gestyll cryfion i'w gwarchod, a dygodd ei phreswylwyr dan deyrnged a threth iddo ei bun. Ni lwyddodd i'w Seisnigeiddio ychwaith, "daliodd y bobl eu gafael yn eu hiaith a'u harfer- ion cynhenid; ond y mae arwyddion fod gorlifiad Seisnig diweddarach yn parotoi i lyneud yr hyn y methodd y Normaniaid ei gyflawni. Y Fro sydd yn gwneud i fynu y rhan helaethaf o Etholaeth De Morganwg. Cynwysa yr holl wlad rhwng y mor ag afon Taf hYd derfyn gogleddol plwyf Llantrisant, ac oddi- yno cymer gyfeiriad tua'r gorllewin heibio Penybontarogwy nes cyrhaedd y mor drachefn yn agos i Borthcawl. Mae nodwedd yr ethol- aeth wedi newid yn ddirfawr er y ffurfiwyd hi yn t.884. Yr adeg honno yr oedd yn fwy atnaethyddol na gweithfaol, ond erbyn hyn yr eIfeo weithfaol sydd gryfach. Mae nifer yr ^tholwyr wedi mwy na dyblu yn ystod rhyw ^gain mlynedd, a hi yw yr etholaeth sirol lQsocaf yng Nghymru. Y cynydd aruthrol yn y Barry ac ym mhlwyf Llantrisant sy'n cyfrif am "yn yn benaf. Ei Hanes Qwleidyddol. Cynrychiolydd Cyntaf De Morganwg oedd y nyddfrydwr Mr. Arthur J. Williams, o Goedy- ^wstwr. Etholwyd ef yn 1S85 gyda mwyafrif o y na thri-chant-ar-ddeg. Ond yn yr etholiad C, y Awyddyn ddilynol, er iddo gadvv'r sedd, .lsgynodd y mwyafrif i lawr o dan bedwar cant. 0V»92 c°dodd drachefn i fwy na naw cant, nd ymhen tair blynedd pan ddaeth y don eid\vadol gref dros y wlad, collodd Mr. Williams y s^dd. Enillwyd hi gan Major Wyndham-Quinn, un o dylwyth Arglwydd Dunraven, tylwyth sy'n meddu llawer o eiddo a dylanwad yn y rhanbarth. Cadwodd Major Quinn y sedd hyd yr etholaeth diweddaf, a chredai llawer fod ganddo afael mor gref ynddi 11 11 fel nas gellid ei dwyn oddiarno. Dewis Ymgeisydd Rhyddfrydol. Deallodd y Rhyddfrydwyr nad oedd obaith iddynt adfeddianu'r sedd heb ddwyn allan ymgeisydd cryf, a buont mewn trafferth cyn penderfynu arno. Yr oedd dau wr gerbron, ac adranau gwahanol o'r etholwyr yn ffafrio y naill a'r Hall. Un ydoedd Mr. Leif Jones, yr hwn a [Photo by ]Vi)islon, Du^e.Street, Cardiff. "I, MR. WILLIAM BRACE, A.S. gefnogid gan lawer o'r amaethwyr a'r dosbarth canol, a'r Hall oedd Mr. William Brace, y gwr y teimlai y gweithwyr yn selog drosto. Am ysbaid ni fynai y naill adran ildio dim i'r llall, a bygythid ymraniad yng ngwersyll cynydd. Cytunodd y ddwyblaid yn y diwedd i gyflwyno yr achos i gael ei benderfynu gan Mr. Herbert Gladstone, y Chwip Rhyddfrydol y prydhwnnw. Wedi gwrando yr hyn cedd gan bleidwyr y ddau ddarpar-ymgeisydd i'w ddweyd, dyfarnodd Mr. Gladstone yn ffafr Mr. Brace, y gwr gynygid gan y gweithwyr.. Boddlonodd y lleill i'r dyfarniad, er fod llawer yn anfoddlawn ar y dechreu. Ond yr oedd hyn ddwy neu dair blynedd yn ol, a chafodd pcthau amseri ym- iachau, a chyn yr etholiad ffynnai perffaith gydgordiad a chydweithrediad ymysg yr holl etholwyr Rhyddfrydol. Buddugoliaeth Fawr. Ymladdai Mr. Brace felly fel dewisddyn plaid unedig cynydd, yn union fel y gwnai Mabon yng Nghwm Rhondda, a Mr. Tom Richards yng Ngorllewin Mynwy. Credid cyn yr etholiad y gallai ennill y sedd, drwy fed yr ychwanegiad dirfawr yn rhifedi yr etholwyr wedi gwneud y Rhyddfrydwyr yn llawer cryfach. Ond credid hefyd fod gan yr hen aelcd, a gynrychiolasai y rhanbarth am ddeng-mlynedd- a-hanner, safle gadarn, ac y byddai y frwydr yn un galed. Eithr yn hollol fel arall y trodd allan. Ni chafodd Major Quinn ddim ond 6,096 o bleidleisiau, llai o wyth cant bron nag a gawsai yn 1900, a chafodd Mr. William- Brace 10,5 u, yr hyn a roddai iddo fnvyafrif o bron bedair-mil-a-hanner. Ni freuddwydiodd yr un o'r ddwyblaid y buasai canlyniad yr ethol- iad yn ddim byd cyffelyb. Un o Feibion Llafur yng rgwir ystyr y gair yw y gwr y rhoddcdd etholwyr De Morganwg y fath fuddugotiaeth iddo. Gwr genedigol o sir Fynwy ydyw, ac, yn Gymro o genedl o ochr ei fam, yr hon a lanwodd ei galon a gwladgarwch Cymreigpan oedd yn fachgenyn, nes iddo dyfu i fynu, er ei fod yn banner Sais, o ran cenedl, ac yn- Sais cyftawn o ran tafod, yn Gymro mor aidd- gar a Mr. Lloyd-George ei hun, yr hwn yw ei arwr gwleidyddol. C llcdd ei dad pin yn ieuanc, a bu raid iddo adael yr ysgol ar y dydd y cyrhaeddodd ben ei ddeuddegfed mlwydd oed, a dechrcu ennill ei fara beunydd- iol yn y lofa. Bu am dair-blynedd-ar-ddeg yn gweithio fel glowr yng nglofeydd Risca ac Abercarn. Yn ystod y blynyddoedd hynny gwnai ei oreu i ddiwyllio ei feddwl ac ychwan- egu ei wybodaeth, yn enwedig ynghylch y pynciau a berthynent i fywyd, a galwedigaeth, a chysur y glowyr. Ryw bymtheng mlynedd yn ol, pan oedd tua phump-ar-hugain oed etholwyd ef yn Oruchwyliwr Mwnwyr Dos- barth y Cymoedd Gorllewinol, ac o'r adeg honno hyd heddywy mae wedi cymeryd rhan amlwg iawn ym mrwydr Llafur. Gwnaeth lawn cymaint a neb arall i ddwyn glowyr Deheudir Cymru i mewn i Gyngrhair Mwnwyr y Deyrnas Gyfunol, ac hefyd i ddileu yr hen Lithr-raddfa a bender- fynai eu cyflogau. Ond er ei fod yn un o amddiffynwyr glewaf y gweithwyr nid oes dim a fynno a Phlaid Annibynol Llafur. Cred ef yn gryf mai drwy y blaid Ryddfrydol y ca y gweith- wyr eu hawliau, ac y mae eisoes wedi dadgan hynny yn ddifloesgni yn Nhy y Cyffredin. Mae yn un o'r bobl sy'n well ganddynt gyfanu na rhwygo, ac ystyria.fod doethineb a chymedtol- der mor hanfodol i arweinydd llwyddianus ag yw sel a gwroldeb.