Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

YMNEILLDUAD Y PARCH. EVAN…

News
Cite
Share

YMNEILLDUAD Y PARCH. EVAN JONES, CAERNARFON. Nid oes yng Nghymru nemawr wr mwy adnabyddus na'r Parch. Evan Jones, Caernarfon. Mae wedi blaenori nid yn y cylch crefyddol yn unig, ond y cylch cymdeithasol a'r cylch politic- aidd am ddeugain mlynedd, a chwith yw meddwl am dano yn ymneillduo. Ond y mae amlder dyddiau yn dywedyd ar ei ynni yntau er cryfed a gwydned ydyw, a gwyr llawer ei fod wedi torri ei gysylltiad a Moriah, Caernarfon, yr eglwys a wasanaethodd mor ffyddlon am dros ddeng- mlynedd-ar-hugain. Barnodd aelodau yr eglwys mai eu anrhydedd fyddai cyflwyno tysteb i Mr. Jones, a chasglwyd I07p. 6s. 6c. Cymerodd y dysteb y ffurf o flwch arian hardd, ar un ochr o ba un yr oedd darlun o'r Parch. Evan Jones a'i ddiweddar briod. Yn y gongl yr oedd y Ddraig Goch wedi ei gweithio yng nghanol llawryf o genin. Ar y cauad yr oedd yr ysgrif a ganlyn :—"Y Parch. Evan Jones, Moriah, Caernarfon, 1875-1906." Ar yr ochr yr oedd y geiriau hyn :—"Cylfwynedig gan eglwys a chynulleidfa Moriah ar ymddi- swyddiad eu gweinidog. Cyfanswm y swm a gasglwyd, I07p. 6s. 6c." Oddifewn i'r blwch y mae rhol goreuredig o wneuthuriad Mr. S. Maurice Jones, A.R.C.A., ac wedi ei harwyddo ar ran yr eglwys gan Mr. R. Norman Davies, cadeirydd y pwyllgor; Dr. Parry, trysorydd; a Mr. W. Williams-Jones, ysgrifenydd. Rhoddwyd cheque i Mr. Jones am y gweddill o'r arian. Nos Iau yr wythnos ddiweddaf cynhaliwyd cyfarfod yng Nghapel Moriah, i gyflwyno y dysteb i Mr. Jones. Daeth cynulleidfa fawr ynghyd, ac ymhlith y rhai oedd yn bresenol gwelid y rhan fwyaf o weinidogion y dref, perthynol i wahanol enwadau, ynghyda'r lleyg- wyr mwyaf amlwg ac adnabyddus. Llywydd- wyd gan Mr. Norman Davies, Cwellyn, a chyflwynwyd y dysteb gan Mr. Ellis Jones, a Mrs. Wynne Williams. Traddodwyd anerch- iadau cynnes gan amryw o'r gweinidogion ac eraill. Wrth ddiolch am y dysteb, dywedodd Mr. Jones Y peth cyntaf sydd gennyf i'w wneud yn awr ydyw cyflwyno fy niolchgarwch diffuant am y Blwch arian prydferth hwn, ynghyd a'r An- erchiad hardd y mae yn ei gynwys. Yr wyf yn dymuno diolch o galon, nid yn unig i'r cyfeill- ion anwyl sydd wedi cyflawni y swydd o'u cyflwyno i mi heno, ond hefyd i bawb sydd wedi bod wrthi yn casglu ac yn cyfranu at y pethau hyn, ac i'r rhai sydd wedi rhoddi cymaint o'u hamser a'u llafur i gael y pethau hyn oddi- amgylch. Gallaf ddweyd yn ddibetrus na ddarfu i mi erioed feddwl am beth fel hyn; ac un o'r rhai diweddaf o bawb, mi gredaf, ydwyf wedi bod i neb feddwl gwneuthur Tysteb iddo. Byddaf fi, bob amser, yn cael y pleser mwyaf yn fy ngwaith, neu yr hyn y byddaf yn ceisio ei Wneuthur, ac nid yn y disgwyliad am unrhyw gydnabyddiaeth am dano. Byddwn, gan hynny, yn bechadurus o anniolchgar pe na byddai i mi gydnabod eich hynawsedd digymhell yn y mater hwn. "Ar amgylchiad fel y presenol, dichon y caniatewch i mi daflu fy ngolwg yn ol ar y SLeng mlynedd ar-hugain sydd wedi pasio. ■Wydref 14, 1875, y cynhaliwyd cyfarfod fy sefydliad yn y lie hwn. O'r swyddogion oedd yma y pryd hwnnw nid oes yn fyw yn awr ?nd un yn unig, yr hwn y mae yn llawen |awn genyf ei weled yma heno, sef Mr. Ellis Jones. "y gorchwyl pwysig cyntaf y darfu i ni y^gymeryd ag ef ar ol fy nyfodiad yma ydoedd a u dyled y capel. Y swm ydoedd £ 1,805 9s. ioc. Gwnaethom hyn oil yr un flwyddyn, sef I 876, gyda Z20 dros ben, yr hyn a dros- glwyddwyd drosodd tuagat ffurfio Llyfrgell. Am Pymtheng mlynedd nesaf buom heb ddim ad •°-n(^ gwariasom oddeutu £ 1,400 ar a §^an^au y capel. Yn niwedd 1890 penderfynwyd cael ysgoldy newydd ynghyd ag gan o'r fath oreu, yr hyn, ynghyd a lie yr hv§° y' a §ostiodd dros £ 5>°°°- Heblaw ynny prynasom hen gapel Turf Square, tai yng Nglanymor, a Siloh Bach, yr hyn a gostiodd i ni £ 1,300. Nid oedd yn aros o'r holl ddyled hon y flwyddyn ddiweddaf ond £ 1,349. Y mae y Capel a'r Ysgoldy, ynghyd a'r ystafelloedd, wedi costio o leiaf £ 14,000. Moriah ydyw y fam-eglwys yn y dref. Yn 1874 nifer yr Aelodau yn Moriah oedd 339, a nifei yr holl aelodau gyda'r Methodistiaid yn y dref oedd 1,216. Nifer yr aelodau yn niwedd 1905 oedd 609, a'u nifer yn y dref ydoedd 2,097 -cynnydd o 881. Cyfanswm y casgliadau yn 1875 oedd £ 1,824, yn 1905 £ 2,848. Heblaw yr hyn a geisiais ei wneud yn Eglwys Moriah, bu gennyf hefyd ryw law mewn llawer iawn o bethau eraill. Pan ddaethum i'r dref yr oeddwn yn olygydd y Goleuad, newyddiadur Cyfundeb y Methodistiaid, yr hwn a gyhoeddid yn Nolgellau. Yr oedd gennyf dipyn o law mewn perswadio y diweddar Mr. Lewis Lewis i adeiladu yr Institute, ac i'w galonogi yngwyneb rhwystrau di-rif, a bum yn gadeirydd y Llyfrgell Rydd am flynyddoedd. Mewn cysylltiad a'r diweddar Hugh Pugh, ynghydag ychydig eraill, bu gennyf lawer o law yng nghychwyniad y Genedl, a bum yn ysgrifenu ei erthyglau dros hir dymhor. Wedi hynny bum fy hun yn cyhoeddi Yr Amseroedd. Bu gennyf y llaw fwyaf yn ddi- amheu yn sefydliad Llyfrfa y Methodistiaid yn y dref, yr hon a ddygodd elw i'r Cyfundeb y. flwyddyn ddiweddaf o fwy na £ 1,600. Bu gennyf, fel un o cidau oruchwyliwr dros Ogledd Cymru, gryn law yng nghasgliad a gorffeniad y casgliad o £ 100,000 i hynodi diwedd y ganrif ymysg y Methodistiaid. Cefais fy newis yn Llywydd y Gymdeithasfa a'r Gymanfa Gyffred- inol, a gwnaethum fy rhan i wasanaethu y Cyfundeb a'r pwyllgorau. Heblaw y pcthau hyn, cymerais fy rhan yn helaeth mewn cysylltiad a Gwleidyddiaeth. Nid oes odid sir yng Nghymru nad wyf wedi ymweled a hi fwy nag unwaith ar faterion gwleidyddol yn ogystal a chrefyddol. Ni chefais erioed fy ngalw i gyfrif gan eglwys a chynulleidfa Moriah am yr holl bethau hyn. Ni fu erioed air croes rhyngof a'r swyddogion na'r aelodau na'r gwrandawyr. Gwahaniaethent, o bosibl, ar lawer o bethau; ond yr oeddym yn cytuno i anghytuno. Nid oedd pethau gwladol yn cael dangos eu pigau yn y capel. Darfu i bawb gyd-ymddwyn a mi dros yr holl amser. Nid oedd neb yn galw arnaf i ymddiswyddo. Yn hytrach gwnaeth llawer eu goreu i geisio gennyf beidio. Ond yn oedd arnaf eisieu gorffwys. Ond gwell gennyf i'r eglwys a'r gynulleidfa gael eu dwylaw yn rhydd i alw rhywun arall, ac i fyned o dan y cyfrifoldeb. Gwnaf finnau fy ngoreu i'w cynorthwyo."

DISTURBED CONGREGATION.

STARTLING ACCIDENT AT COLWYN…

THE DEAN OF BANGOR ON THE…