Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
ROMFORD ROAD WELSH PRESBYTERIAN CHURCH, STRATFORD, IS 1£1£1£1£ A GRAND Bazaar & Sale of Work in aid of the Funds of the above Church, will be held at the WESLEYAN CHURCH HALL, THE GROVE, STRATFORD, On Wednesday, Thursday & Friday, June 27th, 28th & 29th, 1906. The BAZAAR will be opened by the following Ladies and Gentlemen :— Wednesday- HOWELL J. WILLIAMS, Esq., L.C.C. Thursday Mr. and Mrs. L. H. ROBERTS, Islington. Friday Mrs. BLAKE, Romford Road. K* f\> *\> fVi f\> f\* f\* f\> f\i f\i fVi fVi f\i f\* f> GOODS OF EVERY NOVEL COMPETITIONS AND AMUSEMENTS. REFRESHMENTS DESCRIPTION WILL BE £ CONCERT EACH EVENING BY WELL-KNOWN ARTISTES. AT OFFERED FOR SALE. ORCHESTRAL BAND. WELSH COSTUMES. J MODERATE CHARGES. Admission by Ticket, 6d. MMMM Season Ticket, I/O. Any further particulars may be obtained from Mr. D. RICHARDS, Hon. Sec., 31a, Maryland Park, Stratford, E. Eisteddfod Frenhinol Genedlaetliol Cymru, OAERNARFON, JlWST 2latin, 22a.in, 23ain, a'r Main, 1906. Llywydd: Y Mwyaf Urddasol ARDALYDD BUTE. Dymunir galw sylw arbennig Beirdd, Llenorion, Cerdd- orion, a Chelfwyr Cymru at Wyl Fawr y Cymry, yn yr hon y cymer prif ddynion y genedi ran swyddogol. Heb- law y cystadleuon arferol ceir Perltormiadau Godldog e Welthiau Newyddioa, yn cynwys Cantawdau a Drama Hanesyddol yn Gy mraefi. Cofied y Cystadleuwyr y rhaid i'w henwau a'u cyfan- soddiadau fod yn llaw Ysgrifenydd yr Eisteddfod erbyn y dyddiadau a ganlyn :— Coniu a Cbystadleuwyr, MehefinlSfed: Cyfanioddiadau Llenyddol a Cherddorol, Mehefin 23ain; Y Traethawd ar Lech Chwareli, Gorphenaf 31ain; Cynyrchion yn yr Adran Celfyddydol, Gorphenaf 28ain. Y Rhestr Testynau (drwy'r post 7c.) a phob manylion i'w cael gan Ysgrifenydd, Eisteddfod Genedlaethol 1906, Caernarfon. 2-Stroke Petrol r" MI Engines for all purposes. fm ] H M-Engine, as shown, complete, £25. J. S. CUNNINGTON & CO., 93, ST. MARTIN'S LANE, LONDON, W.C. Cyfeirierpob Gohebiaeth a fwriedir t'n colofnau The Editor"; pob Hysbysiad"The Adver- tising Manager"; a phob Archeb, The Manager," a'r oil i'r Swyddfa, 45, 46, 47, St. Martin's Lane, W. C. Bydd yn hyfrydwch gan y Golygvdd dderbyn gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd vsgrifau gwrthod. edig.
Nodiadau Golygyddol.
News
Cite
Share
Nodiadau Golygyddol. Y CYN = BUWIAID. Yr wythnos ddiweddaf galwasom sylw at anwybodaeth y Cymry o'u hiaith, a'r modd yr anafir hi gan y rhai a geisiant ei hysgrifennu. Yr ydym yn teimlo fod y pwnc yn un digon pwysig i ymhelaethu arno, neu yn hytrach i gyfeirio meddyliau ein darllenwyr at yr ymgais a wneir i ddiwygio pethau. Cyn y daw ieuenctid Cymru yn alluog i ddefnyddio yr iaith yn briodol rhaid eu hyfforddi yn yr ysgolion, ond cyn y gellir eu hyfforddi yn iawn rhaid dysgu eu hathrawon. Ysywaeth mae y gramadegau a'r gwers-lyfrau Cymraeg sydd o fewn cyrhaedd y lliaws. yn hynod ddiffygiol, ac yn waeth na diffygiol-yn gamarweiniol. Hyd yn bur ddiweddar nid oedd nemawr i Gymro wedi talu sylw i egwyddorion ieithyddiaeth gymharol, ac yn ddiweddarach fyth y dechreuwyd esbonio ac egluro yr iaith Gymraeg yngoleuni yr egwyddor- ion hynny. Erbyn hyn y mae yng Nghymru ysgol o ieithyddwyr sydd yn gweithio ar linellau gwyddonol, dosbarth nas gallwn feddwl am enw gwell i'w roddi arnynt na'r Cyn- Buwiaid." Mae y deffroad ieithyddol diweddaf yng Nghymru yn ddigon tebyg mewn llawer o bethau i'r deffroad mewn celf a fu yn Lloegr tua chanol y ganrif o'r blaen, y deffroad a alwodd y Cyn Raffeliaid (Pre Raphaelites) i fod. Ysgol 0 arlunwyr ieuainc oedd honno yn ym- wrthod a chanonau celf Raphael a'i ddisgyblion, y canonau oedd fel deddf y Mediaid a'r Persiaid yn llywodraethu pobpeth perthynol i arluniaeth. Ond teimlai yr ysgol newydd fod canonau Raphael yn caethiwo celf, ac yn ei gwneud yn annaturiol, a phenderfynasant fyned heibio iddo ef at yr hen arlunwyr ac at Natur i gael esiampl ac ysbrydiaeth. A dyna'r paham y galwent eu hunain, ac y gelwid hwy gan eraill yn "Gyn- Raffeliaid." Fe welir yn awr paham y galwn ninnau yr ysgol newydd o ieithyddwyr Cymreig yn Gyn- Buwiaid "-am eu bod yn ymwrthod a Dr. William Owen Puw fel awdurdod anffaeledig ar darddiad geiriau Cymraeg a chystrawen yr iaith. Hyd nes iddynt hwy godi, Puw oedd yr oracl, rhywfath o gawl eildwym o'i syniadau ef oedd bron yr oil o'n gramadegau, a cheir nod ei addysg ar y rhan fwyaf o lenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg. Nid oes dadl nad oedd Dr. Puw yn ddyn galluog, ac yn dwyn mawr sel dros Gymru a Chymraeg. Gwnaeth wasanaeth amhrisiadwy drwy gasglu a chyhoeddi hen lawysgrifau, a thrwy hynny gadw llawer iawn o lenyddiaeth werthfawr rhag myned i ddifancoll, yn ogystal a pheri i'r genedl gymeryd mwy o ddyddordeb ynddi. Casglodd hefyd eiriadur, ac yn hwnnw lluniodd orgraff wahanol i'r orgraff a geir mewn llenyddiaeth foreuach, ceisiodd egluro geiriau yn ol eu tardd- iad, a ffurfiodd liaws mawr o eiriau na arferid ar lafar yn unman, ac na cheid yn ysgrifeniadau neb o'i flaen. Dadl y Cyn-Buwiaid ydyw ei fod drwy hyn wedi llygru yr iaith, wedi ei hysbeilio o'i cheinder, ac wedi bod yn foddion i atal ei thyfiant a'i datblygiad naturiol yn ol ei deddfau cynhenid. Dywedant mai yn ol damcaniaethau y gwnaeth v cwbl, damcaniaethau na ddaliant brawf am foment yn llys ieitheg gymharol, ac a wrth-brofir gan ffeithiau amlwg i bob un a dalo sylw priodol i hanes yr iaith a'i llenyddiaeth. Yn Rhydychen y cafodd yr ysgol Gyn- Buwaidd ei bodolaeth, a'r Prifathraw Dr. John Rhys ydyw ei thad. Ond gwyr ieuangach nag ef yw ei phroffwydi pennaf, a gwyr Cymru erbyn heddyw mai gwyr grymus a phenderfynol dros ben ydynt. Yr un modd ag y sennid ac y gwawdid y Cyn-Raffeliad yn Lloegr, y sennid ac y gwaradwyddid y Cyn-Buwiad ryw ugain mlyneid yn ol. Bedyddiwyd ef yn Gymro Rhydychen," a "Chymraeg Rhydychen" y gelwid ei ddull o ddefnyddio'r iaith. Ond nid gwr i'w roddi i lawr felly oedd ef, ac y mae