Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Y LLOFFT F A C H. YN YR HON…

News
Cite
Share

Y LLOFFT F A C H. YN YR HON Y CAWN GWMNI'R PERERINION. [Gan y Parch. D. RHAQFYR JONES, Treorci.] PENOD XXV. V Llofft Fach" yn dilyn gyrfa Dr. Puw. Bachgen ardderchog oedd Ifan yn naturiol. Bachgen ag yr oedd pawb yn hoff o hono yn y pentre' lie cafodd ei fagu, yn y dre' lie cafodd ei brentisio, ac yn yr ysgol lie cafodd ei addysg feddygol. Yr oedd yn fIaf, yn gan ei gymdeith- ion lie bynag yr ai. Yn ormod o ffafryn braidd. Pe buasai ei linynau wedi syrthio mewn lie oedd yn ei daro'n well, ar ol iddo dd'od o'r ysgol, hw) rach y cawsai ei dueddiadau naturiol well chware' teg, ac y buasai'n dadblygu y'mhen blynyddoedd yn ddyngarwr adnabyddus, a'i enw ynglyn a rhyw waddoliad neu gilydd. Ond fel arall y bu. Dygodd ei feddalwch ef i drybini ragor na siwrne pan yn yr ysgol, a gwyddai beth oedd bias y bibell a'r gwin cyn gorphen ei dymor yno. Yr wyf y'meddwl imi ddweyd o'r blaen fod yr hen bobl yn drwgdybio hyny, ac fod hyny wrth wraidd eu hofnau pan y cydsyn- iodd i ddyfod yma'n ddoctor. Gwyddent hefyd nad oedd yr hanes gore' i'r lie hwn a'i ddoctor- iaid ond ni chymerasant arnynt wrth Ifan eu bod yn ei ddrwgdybio ef. Yn unig rhoisant gynghorion iddo oedd yn help i agor ei lygaid i'w berygl wedi iddo fyn'd i fyw ar ei sodlau ei hun. Ac fel y dwedais, llwyddodd i gadw ei hun am beth amser yn rhydd oddiwrth y dylan- wadau oedd wedi bod yn achlysur i ddwyn y doctoriaid fu yma o'i flaen i ddiwedd cynar a thruenus. Mae yma dri o bentrefi bychain heb fod y'mhell oddiwrth eu gilydd, ac yn eu perthynas ddaearyddol a'u gilydd, y maent fel "tair troed 'stol." Dywed y scwl sydd yma ar hyn o bryd eu bod yn debycach i driongl, a'i ochrau yn hirach na'i waelod. Ac nid wyf y'meddwl fod gwaeth pentrefi mewn ystyr foesol i'w cael yn y sir, chwaithach yn y plwy'. Clywais Sam Wmffras yn dweyd wrth y dynion oedd yn y Llofft Fach rywdro, nad oedd y gweithfeydd ddim i'w cymharu ag ambell i bentre' yn y wlad mewn pob anfoesoldeb. Ac yr oedd Sam yn siwr o fod yn awdurdod ar y pv.nc, am y gwyddai'n well na neb y ffor' hyn ragoriaethau a diffygion cymharol gwlad y glo. Ac yr oedd yn hawdd genyf ei gredu. Mae syniad y bobl mor isel rywsut am yfed a phriodi. Ac os clywant 'stori am rywun fydd yn taro yn ei erbyn yn fwy nag o'i blaid, hai ati gwisgant hi mor deidi a thaclus fel na bydd ei hawdwr yn ei had- nabod cyn pen tridiau. Mae yma bump o dyfarne yn y pentrefi hyn yr wyf yn son am danynt, a mi wn fod cyrddau eglwys wedi bod yn cael eu cynal mewn rhai o honynt. Nid yn amser yr hen bobl, pan oedd pobpeth yn weddol gyffredin ond yn nes atoch o ran amsei nag y buasech byth yn ei feddwl. Dynion crefyddol sydd wedi bod yn cadw'r tai hyn oddiar pan wyf fi yn cofio, ac y mae hyny yn eu gwneud yn fwy o ddylanwad er drwg o lawer iawn. Yr wyf yn dweyd calon y gwir wrth ddweyd fod y man dyfarne a geir yn y pentrefi o gwmpas wedi bod a llaw fawr y'nghwymp y doctoriaid ac Ifan PtiTo yn eu mysg. Nid oedd neb wedi breuddwydio y buasai'n gwella ar ol yr anhap tost a gafodd. Ond yn wir gwella a wnaeth. A 'doedd neb yn siwr yn falchach nag o'wn 1. Oblegid ar wahan i'r ffaith fod pawb yn ffrind iddo, yr oedd meddwl iddo wynebu ei Farnwr dan y fath atngylchiadau yn fwy nag all'swn I byth ddal. Synwn I ddim nad oedd yna ddynion a menywod, na chlywyd mo honynt erioed ar eu gliniau yn gweddio, yn gwneud peth tebyg iawn i weddio'r dyddiau hyny, pan oedd y doctor fel pe bai n chwilio am le i groesi. Yn gofyn am iddo gael siawns arall am ei fywyd. Ac fe'i cafodd. Do. Fe'i cafodd. Ond hwyrach y buasai cystal iddo beidio. Yn araf iawn y dychwelodd o gyffiniau'r byd arall. Ac nid rhyfedd wrth gofio am y ddiangfa gyfyng a gafodd. Ei asgwrn cefn oedd wedi cael ei amharu fwya'. A'i asgwrn cefn oedd y mwya' diffygiol mewn ystyr arall. Bu yn hir cyn d'od yn abl i siarad, ac yn hirach cyn d'od yn abl i eistedd i fyny i dclal 'sgwrs. Yr oedd ei dad a'i fam yn gwylio wrth ei wely o hyd, a phrill y ceicl yr hen wraig i fyn'd i lawr i fwyta pryd o fwyd. Nid wyf am i chwi feddwl fy mod yn anwybyddu ei briod yn bwrpasol. Gwnawn gam a hi wrth wneud hyny, ac wrth adael camargraff arnoch yn ei chylch. Tendiai arno mor ffyddlon ag yr oedd yr amgylchiadau yn caniatau iddi wneud ond bu agos iddi a'i fwrw'n ol unwaith neu ddwy. Brandi oedd yr achos cynta'. Yr oeddynt wedi 'stwffio hwnw iddo o'r cychwyn, cyn iddo dd'od ato'i hun. Ond pan ddaeth i wybod beth oedd, cauodd ei enau yn dyn yn ei erbyn, ac ni chymerodd ddyferyn o hono. Ar 01 ei dreio droion gyda'r un canlyniad, cafodd lonydd am dipyn. Pan ddaeth i fedru siarad a throi ei ben, dyma'r wraig fach yn d'od ato un diwrnod ac ychydig frandi mewn gwydryn yn ei llaw. Trodd ei ddau lygad mawr arni, ac ebai Ewch ag e' o'ngolwg, Given Ewch ag e' o'ngolwg "Ifan bach," ebe hithau, "fe 'naiff les i ch'i. Fe sy' wedi'ch cadw ch'i pan o'ech ch'i ddim yn sylwi ar neb Wedi 'nghadw I'n wir meddai'n gynhyrfus. Wedi 'ngholli I sy' debyca' o lawer. Wedi 'namnio I ydi'r gwir Fy ngelyn mwya' I ydi o! Faswn I ddim fel 'r ydw I oni basa fo. Ewch ag e' o'ngolwg I, Given "Twt, naiff cimint a hyn ddim drwg i ch'i. A ma' Doctor Preis wedi ordro fo." Ac es- tynodd Mrs. Puw ef iddo, gan ei osod wrth ei wefusau. Nid oedd rhyw lawer o nerth yn y dyn claf eto, ond a'r tipyn nerth ag oedd ganddo, bwr- iodd y gwydryn o'i llaw, nes oedd yn deilchion yn erbyn y llawr. Bu'r ymdrech yn ormod iddo, a syrthiodd yn ol ar y gobenydd mewn llewyg. Credodd ei wraig ei fod wedi marw, a dechreuodd ysgrechain. Yn ffodus, yr oedd Dinah yn yr ystafell pan gymerodd hyn le a bu yn help i dawclu'r feistres ac i dd'od a'r doctor ato'i hun. Byddai Dinah yn cael ei galw yno weithiau i helpu pan oedd pethau yn cerdded eu cwrs arferol; ac nid oedd pris ar ei gwasanaeth pan oedd saldra yn y ty. Go brin y credaf iddi ddweyd wrth neb ond y Llofft Fach am helynt y brandi yn yr ystafell wely oblegid er fod fy hen ffrind mor ffond o 'stori a neb yn y byd, nid oedd ffondied o'i hadrodd wed'yn. Yr wyf yn siwr na ddwedodd air o'i phen wrth neb y'nby'r doctor y diwrnod hwnw. Ond nid wyf mor siwr i Mrs. Puw roi 'fyny gynyg y brandi i'w gwr, wedi iddo hybu tipyn. Y graig arall y bu agos iddi hi ac yntau fyn'd yn ddrylliau arni oedd Pa un a gawsai un o hen gyd-yfwyr y doctor ganiatad i fyn'd i'r rwm i edrych am dano. Gwr y Fedwen oedd hwnw; a 'does dim dadl nad oedd wedi bod yn un o demtwyr cryfa'r doctor. Haner gwr bonheddig oedd gwr y Fedwen, a'r haner hwnw lawer salach na'r haner arall, boed y peth y bo. Dyn oedd yn byw ar lowans o arian ei wraig, heb garitor ar ei elw, ac yn ddigon fforddus i dwyllo'r wlad i gredu ei fod yn ddyn caredig, braf. Ifan oedd yn ei gadw mewn bw) d a diod fwy na haner ei amser, ac yr oedd wedi glynu wrtho fel cynrhonyn wrth gnawd. Ond yr oedd Ifan wedi cael amser ar ei wely i'w ffieiddio fel y ffieiddiai'r brandi; ac i ffieiddio pob un oedd yn ei adgofio o'i hen ffyrdd. "Mae Mr. Martin y Fedwen am gael eich gwel'd, Ifan;" ebai Mrs. Puw wrtho ryw bryd- nawn,' beitu wythnos ar ol yr helynt arall, "Wel, 'dydw I ddim am 'i weI'd o," ebe yntau'n gynhyrfus. Nonsens," ebe hithau; byddwch yn rhesymol, Ifan. 'Doedd neb yn fwy o ffrindiau na ch'i a Mr. Martin "Gormod lawer, Gwen-gormoel lawer. 0 hyn allan, rhaid i wr y Fedwen gerdded ei ffordd ei hun, a'i gwmni gydag e'. 'Rydw I wedi cyr- aedd y groesffordd, Martinebai'n ddistaw bach, "a rhaid i ni ffarwelio." Ar ol enyd o ddistawrwydd, treiodd Mrs. Euzv wed'yn. Mae'n biti fod y dyn yn ca'l 'i gadw mewn syspens c'yd. Ga' I ofyn iddo dd'od i fyny jest am funud. Mi fydd "Am bwy 'dach chi'n son, Gwen?" "Am Mr. Martin. Mae o ——" Bron na neidiodd allan o'r gwely. Wraig ebai a llais oedd yn siwr o fod yn ddigon treidd- gar i gyraedd y gegin, lle'r eisteddai gwr y Fedwen a glasiad o ddiod o'i flaen. "Wraig! rho'wch chware' teg i f'ened tlawd Dychrynodd Mrs. Euw, ac aeth allan o'r ystafell heb gynyg gair yn 'chwaneg. Nid dim a ddwedodd Ifan am ei enaid a. barodd iddi ddychrynu oblegid mi awn ar fy llw, pe b'ai raid, na wyddai fwy am enaid na'r Hotentot- iaid y clywais genhadwr yn son am danynt yma rywdro. Ond ei wylltineb a barodd iddi ddy- chrynu. Bid fyno, ni chafodd Mr. Martin ei wel'd y tro hwnw; ac fel math o iawn am ei siomedigaeth, cafodd ail lasiad gan y wraig fach. Os ydych yn cofio, mi osodais bwys ar y ffaith fod Mrs. Puw yn Eglwysres selog. Yr wyf wedi sylwi 'scoroedd o weithiau, yr ydych chwithau hefyd, mi wn, fod y merched a'r gwragedd lawer yn fwy selog gyda'r peth y bont na'r gwyr a'r gweision; a'u bod yn debycach o fyn'd yn eithafol i'r cyfeiriad a gymerant. Dyna Dinah yn engraff. Os cymer hi at rywun neu rywbeth, mae hi'n dan gole'; ac os cymer hi yn erbyn rhywun neu rywbeth, mae hi'n mynd yn yfflon ffor' hono wed'yn. Yr oedd Mrs. Puzv felly gyda'r Eglwys. Ni welai ddim da yn y tai cyrddau, na dim drwg yn y Llan. Sel heb wybodaeth ydoedd, a dweyd y gore' am dano. Heb lygaid yn ei ben, ac felly'n myn'd ar draws rhywun neu gilydd o hyd. Bu agos iddi a gwneud inffidel o'i gwr, drwy ei boeni'n bar- haus y'nghylch myn'd i'r Eglwys. Er mwyn ei boddio, ai gyda hi ambell i nos Sul; ond y gwir am dani oedd, nid oedd fawr o fendith i dd'od i'r doctor mewn nag eglwys na chapel. Oblegid prin y byddai wedi eistedd drwy haner y gwasanaeth nag y byddai galwad am dano at ryw glaf neu gilydd. Ond 'doedd myn'd yn awr ac yn y man ddim yn ddigon i Mrs. Puzv yr oedd yn rhaid iddo wadu ei gapel yn gwbl, a chamu drosodd gorff, ac enaid, i'r Llan. Er fod Ifan yn rhoi ffordd iddi mewn llawer o bethau i gadw heddwch yn y ty, mynodd ei ffordd ei hun ar y pwnc yma; ac er i'r fenyw fach gocsio a phwdu, pwdu a chocsio ganoedd o weithiau ar yn ail, yr oedd Ifan mor benstiff ag asyn y Felin, ac yn llawn mor brofoclyd. Yn fuan ar ol yr ail ysgarmes y soniais am dani, pan oedd Dinah yn eistedd yn gwmni iddo rywbryd yn y prydnawn, dyma'r 'ffeirad i fewn. Yr oedd wedi bod yn ei weled droion o'r blaen. Dyn diniwed ei wala oedd Mr. Llewelyn, wedi ei fagu yn yr Eglwys erioed dyna un rheswm pa'm yr oedd mor gymedrol tuag at y tai cyrddau. Encilwyr o blith yr enwadau yw'r 'ffeiradon cula' sydd wedi bod y ffor' hyn. Ar ol siarad chydig eiriau, aeth y gwr da i lawr; ac ebai Ifan wrth Dinah. 'Dydw I ddim wedi gwel'd Mr. Aaron yma siwrne. Mi f'aswn I'n disgwyl iddo fe fod yma o flaen y 'ffeirad ond mae'r 'ffeirad yma ddwy- waith neu dair bob wythnos, a 'dydi Mr. Aaron ddim wedi t'w'llu drws y rwm." Hwyrach 'i fod o wedi bod yn holi 0)11