Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

Cymru yn y Senedd. Mr. Ellis…

News
Cite
Share

Cymru yn y Senedd. Mr. Ellis W. Davies, A S., Eifion. RHYFEDD y cyfnewidiadau a wna byr amser yn holl gylchoedd Cymdeithas. Ac nid yw Ty y Cyffredin yn eithriad. Er nad oes eto chwe' mis er yr Etholiad Cyffredinol, y mae cryn nifer o'r aelodau a ddychwelwyd i'r Ty y pryd hwnnw wedi eu symud oddiyno, ac aelodau newyddion wedi cymeryd eu lie. Yr Aelod leuengaf yn y Ty ar hyn o bryd yw Mr. Ellis W. Davies, yr hwn a etholwyd yn ddiwrthwynebiad yr wythnos ddiweddaf i gynrychioli Eifion. Achoswyd y gwagle yno drwy ddyrchafiad Mr. Bryn Roberts i'r Fainc Farnol yn Llys y Man Ddyledion. Bu y Barnwr yn aelod dros Eifion am fwy nag ugain mlynedd, a chwith iawn gan liaws yr etholwyr yw fod y cysylltiad wedi ei dorri, er nad bob amser yr oedd ef a llawer o honynt yn gweled lygad-yn-llygad ar bob pwnc. Ond teimlai pawb o honynt ei fod yn hollol gydwybodol yn yr oil a wnai, ac nad oedd wedi gwadu yr un o'r egwyddorion Rhyddfrydol y dadganai ymlyniad wrthynt pan yr anfonwycl ef i'r Senedd y tro cyntaf. Hanes yr Etholaeth. Yn 1884 y ffurfiwyd Eifion yn etholaeth. Hyd hynny un aelod a feddai sir Gaernarfon, a chyn i'r diweddar Syr Love Jones Parry ennill y sedcl yn etholiad bythgofiadwy 1868 edrychid ami fel treftadaeth teulu Castell y Penrhyn. Ennillodd yr Arglwydd Penrhyn presenol hi yn olyn 1874, ond yn 1880 trowyd ef allan gan y diweddar Farnwr Watkin Williams, a phan ym- neillduodd ef fe'i holynwyd gan y diweddar Mr. William Rathbone. Ar ol y rhaniad yn 1884 dewisodd Mr. Rathbone sefyll dros Arfon, a dewisodd Rhyddfrydwyr Eifion Mr. Bryn Roberts. Cafodd yn ymyl dwy fil 0 fwyafrif. Bu raid iddo ymladd drachefn yn 1886 ac yn 1892, ond yr oedd ei fwyafrif ar bob un o'r achlysuron hyn yn tynnu at dair mil. Ni aflonyddodd neb arno er 1892, yr oedd y sefyllfa yn rhy anobeithiol. Etholaeth Eang a Owasgarog iawn yw etholaeth Eifion, a chynwysa amrywiol ddosbarthiadau o bobl. Mae'n ymestyn o Ryd Ddu, yng ngodreu y Wyddfa, hyd Aberdaron, yn eithaf penrhyn Lleyn, ac o Borthdinorwig hyd Borthmadog. Yn y rhan ogleddol chwarel- Wyr yw corff yr etholwyr, ond yn y rhanau canol a de-orllewinol amaethwyr ydynt. A chyda'r ddau ddosbarth a nodwyd ceir trefwyr Porth- madog, a gwyr y mor yno ac mewn amryw bentrefi ar y glannau. Ond y chwarelwyr sydd hosocaf, a'u barn hwy a orfydd yn nydd brwydr. Nid heb gryn drafferth, a pheth arddangosiad 0 deimlad dilywodraeth y gwnaeth Rhyddfryd- t, wyr Eifion eu dewisiad o olynydd i'r diweddar aelod. Mae hanes y drafodaeth, y cyfarfodydd cynhyrfus, y gwrthdarawiad rhwng Cyngor y Gymdeithas Ganol a'r Cymdeithasau Lleol, ymneillduad un o'r ymgeiswyr a enwasid mewn sorriant, a'r prawf-falot ar un o'r dyddiau gwlypaf eleni, yn ddigwyddiadau mor ddiweddar fel na raid i ni fanylu arnynt. Yn y prawf-falot cafodd Mr. Ellis W. Davies fwyafrif o yn agos i bedwar cant ar ei gydymgeisydd, Mr. T. E. Morris, y bargyfreithiwr o Borthmadog. Yr oedd y teimladau goreu rhyngddynt hwy ill dau, a chariwyd y ffug-etholiad ymlaen yn yr ysbryd mwyaf dymunol. Cysurus yw cofio fod helynt dewis ymgeisydd yn Eifion wedi diweddu yn llawer mwy hapus nag y dechreuodd. Yr Aelod Newydd. Mae etholaeth Eifion mor dra Rhyddfrydol MR. ELLIS W. DAVIES, A.S. (EIFION). fel na fedd y Ceidwadwyr y gobaith lleiaf am ennill y sedd cyhyd ag y pery y blaid yn un. Tra yr edrychai pethau dipyn yn fygythiol siaradent am ddwyn ymgeisydd allan, ac aethant mor bell a dewis un yn barod, ond pan welwyd na byddai ymramad ymysg y Rhyddfrydwyr penderfynasant aros yn llonydd, ac felly ethol- wyd Mr. E. W. Davies yn ddidrafferth. Brodor o Fethesda yw yr aelod newydd, mab i Mr. David Davies, Tyddyn Satel. Yr oedd ei dad, ei daid, a'i hendaid yn swyddogion yn Chwarel y Penrhyn. Ganwyd ef ar y 12fed o Ebrill, 1S71, felly y mae yn awr yn 35ain oed. Der- byniodd ei addysg foreuol yn Ysgol Frytanaidd y Cefnfaes nes ei fod yn dair-ar-ddeg oed, a bu wedi hynny am tua dwy flynedd mewn ysgol breifat ac mewn coleg yn Lerpwl. Pan yn un- ar-bymtheg oed trodd allan i ddechreu ymladd brwydr bywyd mewn swyddfa yswiriol yng Ngwrecsam, a bu mewn cysylltiad a'r busnes hwnnw yn y dref honno ac yn Sheffield Yn ystod y blynyddoedd hyn parhaodd ymlaen gyda'i efrydiau, a phasiodd rai arholiadau cyfreithiol. Ond yn 1894, pan yn dair-ar-hugain oed, torodd ei iechyd i lawr yn Sheffield, a dychwelodd i Gymru. Gwellhaodd cyn hir, ac y mae yn Penderfynu Troi at y Gyfraith. Ymrwymodd mewn swyddfa cyfreithiwr am bum mlynedd, ac yn 1899 pasiodd ei arholiadau terfynol, gydag Anrhydedd y Dosbarth Cyntaf, ac ennillodd wobr y Gymdeithas Gyfreithiol. Ymsefydlodd yng Nghaernarfon, ac yno y mae wedi aros, a'i fusnes wedi myned yn fawr ac eang. Efe yw cyfreithiwr Undeb y Chwarelwyr, ac y mae yn deall eu hamgylchiadau a'u hangen- ion hwy yn drwyadl. Bu hefyd yn Ysgrifenydd Cymdeithas Ryddfrydol Eifion am flynyddau. Yn fuan wedi ymsefydlu yng Nghaernarfon ymdaflodd i waith cyhoeddus. Mae yn aelod o'r Cyngor Sir dros Fethesda..yn aelod o Bwyll- gor Addysg y sir, yn Gadeirydd Pwyllgor y Rhai Diwaith, ac yn un 0 Lywodraethwyr Coleg y Gogledd. 0 ran ei olygiadau politicaidd Radical Gwerinol ydyw, ac er mai nid fel aelod Llafur yr etholwyd ef, y mae y ffaith fod y chwarel- wyr mor selog drosto yn sicrwydd y ca Mesurau yn eu gwneud yn haws i'r werin fywyn gysurus ac yn dda ei gefnogaeth galonog. 0 ran crefydd Ymneillduwr ydyw, wedi ei fagu ar aelwyd Ymneillduol, a'i dad yn flaenor gyda'r 11ethodistiaid Calfinaidd. Mae mewn cydym- deimlad trwyadl a dyheuadau Ymneillduwyr ei etholaeth, ac nid oes yng Nghymru etholaeth lie mae Ymneillduaeth yn gryfach nag yw yn Eifion. Amser a ddengys pa fath Seneddwr a wna, ond disgwylir pethau mawrion oddiwrtho gan y rhai a'i hadwaenant oreu. Dylai y profiad a gafodd ynglyn a gwaith sirol am flynyddoedd fod yn fantais iddo er mai nid yr un doniau sydd bob amser yn cael y ffrynt yn Nhy y Cyffredin ag mewn Cyngor Sir. Mae Mr. Davies hefyd yn cychwyn ar ei yrfa Seneddol ar adeg o argyfwng yn hanes Cymru, adeg pan y mae dyfodol ei haddysg yn y glorian, adeg sydd yn rhoddi prawf nid yn unig ar wroldeb a hyawdledd ond hefyd ar ddoethineb a medr ei chyn rychiolwyr. Hyderwn y profa yn yr ystyr 012,t hon yn olynydd teilwng i'w ragflaenor, oblegid beth bynnag a ddywedir am syniadau y Barnwr Bryn Roberts ar rai pynciau Cym- reig, a'r safle a gymerodd ynglyn a'r gwrthryfel yn erbyn y Ddeddf Addysg, rhaid cyfaddef fod ei graffder a'i farn a'i benderfynolrwydd wedi ennill iddo edmygedd cyffredinol. Dy- munwn i Mr. Ellis Davies oes hir a gyrfa loew i wasanaethu ei wlad a'i genedl.